<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:54</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:54</urn><passage>Paul , apostol Iesu Grist , yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr , a’r Arglwydd Iesu Grist , ein gobaith : At Timotheus , fy mab naturiol yn y ffydd : Gras , trugaredd , a thangnefedd , oddi wrth Dduw ein Tad , a Crist Iesu ein Harglwydd . Megis y deisyfais arnat aros yn Effesus , pan euthum i Facedonia , fel y gellit rybuddio rhai na ddysgont ddim amgen , Ac na ddaliont ar chwedlau , ac achau anorffen , y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol , yr hon sydd trwy ffydd ; gwna felly . Eithr diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur , a chydwybod dda , a ffydd ddiragrith : Oddi wrth yr hyn bethau y gŵyrodd rhai , ac y troesant heibio at ofer siarad ; Gan ewyllysio bod yn athrawon o’r ddeddf , heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd , nac am ba bethau y maent yn taeru . Eithr nyni a wyddom mai da yw’r gyfraith , os arfer dyn hi yn gyfreithlon ; Gan wybod hyn , nad i’r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith , eithr i’r rhai digyfraith ac anufudd , i’r rhai annuwiol a phechaduriaid , i’r rhai disanctaidd a halogedig , i dad‐leiddiaid a mam‐leiddiaid , i leiddiaid dynion , I buteinwyr , i wryw‐gydwyr , i ladron dynion , i gelwyddwyr , i anudonwyr , ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus ; Yn ôl efengyl gogoniant y bendigedig Dduw , am yr hon yr ymddiriedwyd i mi . Ac yr ydwyf yn diolch i’r hwn a’m nerthodd i , sef Crist Iesu ein Harglwydd , am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon , gan fy ngosod yn y weinidogaeth ; Yr hwn oeddwn o’r blaen yn gablwr , ac yn erlidiwr , ac yn drahaus : eithr mi a gefais drugaredd , am i mi yn ddiarwybod ei wneuthur trwy anghrediniaeth . A gras ein Harglwydd ni a dra-amlhaodd gyda ffydd a chariad , yr hwn sydd yng Nghrist Iesu . Gwir yw’r gair , ac yn haeddu pob derbyniad , ddyfod Crist Iesu i’r byd i gadw pechaduriaid ; o ba rai , pennaf ydwyf i . Eithr o achos hyn y cefais drugaredd , fel y dangosai Iesu Grist ynof fi yn gyntaf bob hiroddef , er siampl i’r rhai a gredant rhag llaw ynddo ef i fywyd tragwyddol . Ac i’r Brenin tragwyddol , anfarwol , anweledig , i’r Duw unig ddoeth , y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd . Amen . Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti , fy mab Timotheus , yn ôl y proffwydoliaethau a gerddasant o’r blaen amdanat , ar filwrio ohonot ynddynt filwriaeth dda ; Gan fod gennyt ffydd , a chydwybod dda ; yr hon a wrthododd rhai , ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd : O ba rai y mae Hymeneus ac Alexander ; y rhai a roddais i Satan , fel y dysgent na chablent . Cynghori yr ydwyf am hynny , ymlaen pob peth , fod ymbiliau , gweddïau , deisyfiadau , a thalu diolch , dros bob dyn ; Dros frenhinoedd , a phawb sydd mewn goruchafiaeth ; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd . Canys hyn sydd dda a chymeradwy gerbron Duw ein Ceidwad ; Yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig , a’u dyfod i wybodaeth y gwirionedd . Canys un Duw sydd , ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion , y dyn Crist Iesu ; Yr hwn a’i rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb , i’w dystiolaethu yn yr amseroedd priod . I’r hyn y’m gosodwyd i yn bregethwr , ac yn apostol , ( y gwir yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist , nid wyf yn dywedyd celwydd ; ) yn athro’r Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd . Am hynny yr wyf yn ewyllysio i’r gwŷr weddïo ym mhob man , gan ddyrchafu dwylo sanctaidd , heb na dicter na dadl . Yr un modd hefyd , bod i’r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn dillad gweddus , gyda gwylder a sobrwydd ; nid â gwallt plethedig , neu aur , neu emau , neu ddillad gwerthfawr ; Ond , ( yr hyn sydd yn gweddu i wragedd a fo yn proffesu duwioldeb , ) â gweithredoedd da . Dysged gwraig mewn distawrwydd gyda phob gostyngeiddrwydd . Ond nid wyf yn cenhadu i wraig athrawiaethu , nac ymawdurdodi ar y gŵr , eithr bod mewn distawrwydd . Canys Adda a luniwyd yn gyntaf , yna Efa . Ac nid Adda a dwyllwyd ; eithr y wraig , wedi ei thwyllo , oedd yn y camwedd . Eto cadwedig fydd wrth ddwyn plant , os arhosant hwy mewn ffydd , a chariad , a sancteiddrwydd , ynghyd â sobrwydd . Gwir yw’r gair , Od yw neb yn chwennych swydd esgob , gwaith da y mae yn ei chwennych . Rhaid gan hynny i esgob fod yn ddiargyhoedd , yn ŵr un wraig , yn wyliadwrus , yn sobr , yn weddaidd , yn lletygar , yn athrawaidd ; Nid yn wingar , nid yn drawydd , nid yn budrelwa ; eithr yn dirion , yn anymladdgar , yn ddiariangar ; Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda , yn dal ei blant mewn ufudd‐dod ynghyd â phob onestrwydd ; ( Oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun , pa fodd y cymer efe ofal dros eglwys Dduw ? ) Nid yn newyddian yn y ffydd , rhag iddo ymchwyddo , a syrthio i ddamnedigaeth diafol . Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan ; rhag iddo syrthio i waradwydd , ac i fagl diafol . Rhaid i’r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest ; nid yn ddaueiriog , nid yn ymroi i win lawer , nid yn budrelwa ; Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur . A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf ; yna gwasanaethant swydd diaconiaid , os byddant ddiargyhoedd . Y mae’n rhaid i’w gwragedd yr un modd fod yn onest , nid yn enllibaidd , yn sobr , yn ffyddlon ym mhob peth . Bydded y diaconiaid yn wŷr un wraig , yn llywodraethu eu plant a’u tai eu hunain yn dda . Canys y rhai a wasanaethant swydd diaconiaid yn dda , ydynt yn ennill iddynt eu hunain radd dda , a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu . Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu atat , gan obeithio dyfod atat ar fyrder : Ond os tariaf yn hir , fel y gwypech pa fodd y mae’n rhaid iti ymddwyn yn nhŷ Dduw , yr hwn yw eglwys y Duw byw , colofn a sylfaen y gwirionedd . Ac yn ddi‐ddadl , mawr yw dirgelwch duwioldeb ; Duw a ymddangosodd yn y cnawd , a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd , a welwyd gan angylion , a bregethwyd i’r Cenhedloedd , a gredwyd iddo yn y byd , a gymerwyd i fyny mewn gogoniant . Ac y mae’r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd , gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus , ac i athrawiaethau cythreuliaid ; Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith , a’u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haearn poeth ; Yn gwahardd priodi , ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd , y rhai a greodd Duw i’w derbyn , trwy roddi diolch , gan y ffyddloniaid a’r rhai a adwaenant y gwirionedd . Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda , ac nid oes dim i’w wrthod , os cymerir trwy dalu diolch . Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi . Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr , ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist , wedi dy fagu yng ngeiriau’r ffydd ac athrawiaeth dda , yr hon a ddilynaist . Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau , ac ymarfer dy hun i dduwioldeb . Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol : eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth , a chanddi addewid o’r bywyd y sydd yr awron , ac o’r hwn a fydd . Gwir yw’r gair , ac yn haeddu pob derbyniad . Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni , ac yn cael ein gwaradwyddo , oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw , yr hwn yw Achubydd pob dyn , yn enwedig y ffyddloniaid . Y pethau hyn gorchymyn a dysg . Na ddiystyred neb dy ieuenctid di ; eithr bydd yn siampl i’r ffyddloniaid , mewn gair , mewn ymarweddiad , mewn cariad , mewn ysbryd , mewn ffydd , mewn purdeb . Hyd oni ddelwyf , glŷn wrth ddarllen , wrth gynghori , wrth athrawiaethu . Nac esgeulusa’r dawn sydd ynot , yr hwn a rodded i ti trwy broffwydoliaeth , gydag arddodiad dwylo’r henuriaeth . Myfyria ar y pethau hyn , ac yn y pethau hyn aros ; fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb . Gwylia arnat dy hun , ac ar yr athrawiaeth ; aros ynddynt : canys os gwnei hyn , ti a’th gedwi dy hun a’r rhai a wrandawant arnat . Na cherydda hynafgwr , eithr cynghora ef megis tad ; a’r rhai ieuainc , megis brodyr ; Yr hen wragedd , megis mamau ; y rhai ieuainc , megis chwiorydd , gyda phob purdeb . Anrhydedda’r gwragedd gweddwon , y rhai sydd wir weddwon . Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu ŵyrion , dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref , a thalu’r pwyth i’w rhieni : canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw . Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig , sydd yn gobeithio yn Nuw , ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd . Ond yr hon sydd drythyll , a fu farw , er ei bod yn fyw . A gorchymyn y pethau hyn , fel y byddont ddiargyhoedd . Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo , ac yn enwedig ei deulu , efe a wadodd y ffydd , a gwaeth yw na’r di‐ffydd . Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed , yr hon fu wraig i un gŵr , Yn dda ei gair am weithredoedd da ; os dygodd hi blant i fyny , os bu letygar , o golchodd hi draed y saint , o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol , o dilynodd hi bob gorchwyl da . Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc : canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist , priodi a fynnant ; Gan gael barnedigaeth , am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf . A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur , gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ ; ac nid yn segur yn unig , ond hefyd yn wag-siaradus , ac yn rhodresgar , gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys . Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i’r rhai ieuainc briodi , planta , gwarchod y tŷ , heb roi dim achlysur i’r gwrthwynebwr i ddifenwi . Canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ôl Satan . Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon , cynorthwyant hwynt , ac na phwyser ar yr eglwys ; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon . Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda , yn deilwng o barch dauddyblyg ; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a’r athrawiaeth . Canys y mae’r ysgrythur yn dywedyd , Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu’r ŷd : ac , Y mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog . Yn erbyn henuriaid na dderbyn achwyn , oddieithr dan ddau neu dri o dystion . Y rhai sydd yn pechu , cerydda yng ngŵydd pawb , fel y byddo ofn ar y lleill . Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw , a’r Arglwydd Iesu Grist , a’r etholedig angylion , gadw ohonot y pethau hyn heb ragfarn , heb wneuthur dim o gydbartïaeth . Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb , ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill : cadw dy hun yn bur . Nac yf ddwfr yn hwy ; eithr arfer ychydig win , er mwyn dy gylla a’th fynych wendid . Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o’r blaen , yn rhagflaenu i farn ; eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd . Yr un ffunud hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o’r blaen ; a’r rhai sydd amgenach , nis gellir eu cuddio . Cynifer ag sydd wasanaethwyr dan yr iau , tybiant eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd ; fel na chabler enw Duw , a’i athrawiaeth ef . A’r rhai sydd â meistriaid ganddynt yn credu , na ddiystyrant hwynt , oherwydd eu bod yn frodyr ; eithr yn hytrach gwasanaethant hwynt , am eu bod yn credu , ac yn annwyl , yn gyfranogion o’r llesâd . Y pethau hyn dysg a chynghora . Od oes neb yn dysgu yn amgenach , ac heb gytuno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist , ac â’r athrawiaeth sydd yn ôl duwioldeb ; Chwyddo y mae , heb wybod dim , eithr amhwyllo ynghylch cwestiynau , ac ymryson ynghylch geiriau ; o’r rhai y mae cenfigen , ymryson , cableddau , drwg dybiau , yn dyfod , Cyndyn ddadlau dynion llygredig eu meddwl , heb fod y gwirionedd ganddynt , yn tybied mai elw yw duwioldeb : cilia oddi wrth y cyfryw . Ond elw mawr yw duwioldeb gyda bodlonrwydd . Canys ni ddygasom ni ddim i’r byd , ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith . Ac o bydd gennym ymborth a dillad , ymfodlonwn ar hynny . Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi , sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl , a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol , y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth . Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch : yr hon , a rhai yn chwannog iddi , hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd , ac a’u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau . Eithr tydi , gŵr Duw , gochel y pethau hyn ; a dilyn gyfiawnder , duwioldeb , ffydd , cariad , amynedd , addfwyndra . Ymdrecha hardd‐deg ymdrech y ffydd ; cymer afael ar y bywyd tragwyddol ; i’r hwn hefyd y’th alwyd , ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion . Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw , yr hwn sydd yn bywhau pob peth , a cherbron Crist Iesu , yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd broffes dda ; Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius , yn ddiargyhoedd , hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist : Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a’r unig Bennaeth , Brenin y brenhinoedd , ac Arglwydd yr arglwyddi ; Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb , sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato , yr hwn nis gwelodd un dyn , ac ni ddichon ei weled : i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol . Amen . Gorchymyn i’r rhai sydd oludog yn y byd yma , na byddont uchel feddwl , ac na obeithiont mewn golud anwadal , ond yn y Duw byw , yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth i’w mwynhau : Ar iddynt wneuthur daioni , ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da , fod yn hawdd ganddynt roddi a chyfrannu ; Yn trysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod , fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol . O Timotheus , cadw’r hyn a roddwyd i’w gadw atat , gan droi oddi wrth halogedig ofer‐sain , a gwrthwyneb gwybodaeth , a gamenwir felly : Yr hon tra yw rhai yn ei phroffesu , hwy a gyfeiliornasant o ran y ffydd . Gras fyddo gyda thi . Amen . </passage></reply></GetPassage>