<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:55</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:55</urn><passage>Paul , apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw , yn ôl addewid y bywyd , yr hwn sydd yng Nghrist Iesu , At Timotheus , fy mab annwyl : Gras , trugaredd , a thangnefedd , oddi wrth Dduw Dad , a Crist Iesu ein Harglwydd . Y mae gennyf ddiolch i Dduw , yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o’m rhieni â chydwybod bur , mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd ; Gan fawr ewyllysio dy weled , gan gofio dy ddagrau , fel y’m llanwer o lawenydd ; Gan alw i’m cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti , yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois , ac yn dy fam Eunice ; a diamau gennyf ei bod ynot tithau hefyd . Oherwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffáu i ailennyn dawn Duw , yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i . Canys ni roddes Duw i ni ysbryd ofn ; ond ysbryd nerth , a chariad , a phwyll . Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd , nac ohonof finnau ei garcharor ef : eithr cydoddef di gystudd â’r efengyl , yn ôl nerth Duw ; Yr hwn a’n hachubodd ni , ac a’n galwodd â galwedigaeth sanctaidd , nid yn ôl ein gweithredoedd ni , ond yn ôl ei arfaeth ei hun a’i ras , yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu , cyn dechrau’r byd , Eithr a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist , yr hwn a ddiddymodd angau , ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy’r efengyl : I’r hon y’m gosodwyd i yn bregethwr , ac yn apostol , ac yn athro’r Cenhedloedd . Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn : ond nid oes arnaf gywilydd : canys mi a wn i bwy y credais ; ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw’r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw . Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus , y rhai a glywaist gennyf fi , yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu . Y peth da a rodded i’w gadw atat , cadw trwy’r Ysbryd Glân , yr hwn sydd yn preswylio ynom . Ti a wyddost hyn , ddarfod i’r rhai oll sydd yn Asia droi oddi wrthyf fi ; o’r sawl y mae Phygelus a Hermogenes . Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesifforus ; canys efe a’m llonnodd i yn fynych , ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i : Eithr pan oedd yn Rhufain , efe a’m ceisiodd yn ddiwyd iawn , ac a’m cafodd . Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw : a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Effesus , gorau y gwyddost ti . Tydi gan hynny , fy mab , ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu . A’r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion , traddoda’r rhai hynny i ddynion ffyddlon , y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd . Tydi gan hynny goddef gystudd , megis milwr da i Iesu Grist . Nid yw neb a’r sydd yn milwrio , yn ymrwystro â negeseuau’r bywyd hwn ; fel y rhyngo fodd i’r hwn a’i dewisodd yn filwr . Ac od ymdrech neb hefyd , ni choronir ef , onid ymdrech yn gyfreithlon . Y llafurwr sydd yn llafurio , sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau . Ystyria’r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd ; a’r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth . Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd , o feirw , yn ôl fy efengyl i : Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau , fel drwgweithredwr ; eithr gair Duw nis rhwymir . Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion , fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu , gyda gogoniant tragwyddol . Gwir yw’r gair : Canys os buom feirw gydag ef , byw fyddwn hefyd gydag ef : Os dioddefwn , ni a deyrnaswn gydag ef : os gwadwn ef , yntau hefyd a’n gwad ninnau : Os ŷm ni heb gredu , eto y mae efe yn aros yn ffyddlon : nis gall efe ei wadu ei hun . Dwg y pethau hyn ar gof , gan orchymyn gerbron yr Arglwydd , na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau , yr hyn nid yw fuddiol i ddim , ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr . Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw , yn weithiwr di-fefl , yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd . Ond halogedig ofer-sain , gochel , canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb . A’u hymadrodd hwy a ysa fel cancr : ac o’r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus ; Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant , gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes ; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai . Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll , a chanddo’r sêl hon : Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef : a , Pob un sydd yn enwi enw Crist , ymadawed oddi wrth anghyfiawnder . Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian , ond hefyd o bren ac o bridd ; a rhai i barch , a rhai i amarch . Pwy bynnag gan hynny a’i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn , efe a fydd yn llestr i barch , wedi ei sancteiddio , ac yn gymwys i’r Arglwydd , wedi ei ddarparu i bob gweithred dda . Ond chwantau ieuenctid , ffo oddi wrthynt : a dilyn gyfiawnder , ffydd , cariad , tangnefedd , gyda’r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur . Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau , gan wybod eu bod yn magu ymrysonau . Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson : ond bod yn dirion wrth bawb , yn athrawus , yn ddioddefgar , Mewn addfwynder yn dysgu’r rhai gwrthwynebus ; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd ; A bod iddynt ddyfod i’r iawn allan o fagl diafol , y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef . Gwybydd hyn hefyd , y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diwethaf . Canys bydd dynion â’u serch arnynt eu hunain , yn ariangar , yn ymffrostwyr , yn feilchion , yn gablwyr , yn anufuddion i rieni , yn anniolchgar , yn annuwiol , Yn angharedig , yn torri cyfamod , yn enllibaidd , yn anghymesur , yn anfwyn , yn ddiserch i’r rhai da , Yn fradwyr , yn waedwyllt , yn chwyddedig , yn caru melyschwant yn fwy nag yn caru Duw ; A chanddynt rith duwioldeb , eithr wedi gwadu ei grym hi : a’r rhai hyn gochel di . Canys o’r rhai hyn y mae’r rhai sydd yn ymlusgo i deiau , ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau , wedi eu harwain gan amryw chwantau , Yn dysgu bob amser , ac heb allu dyfod un amser i wybodaeth y gwirionedd . Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses , felly y mae’r rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd , dynion o feddwl llygredig , yn anghymeradwy o ran y ffydd . Eithr nid ânt rhagddynt ymhellach : canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb , megis y bu yr eiddynt hwythau . Eithr ti a lwyr adwaenost fy nysgeidiaeth , fy muchedd , fy arfaeth , ffydd , hirymaros , cariad , amynedd , Yr erlidiau , y dioddefiadau , y rhai a ddigwyddasant i mi yn Antiochia , yn Iconium , yn Lystra ; pa erlidiau a ddioddefais : eithr oddi wrthynt oll y’m gwaredodd yr Arglwydd . Ie , a phawb a’r sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu , a erlidir . Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth , gan dwyllo , a chael eu twyllo . Eithr aros di yn y pethau a ddysgaist , ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt , gan wybod gan bwy y dysgaist ; Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân , yr hon sydd abl i’th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu . Yr holl ysgrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw , ac sydd fuddiol i athrawiaethu , i argyhoeddi , i geryddu , i hyfforddi mewn cyfiawnder : Fel y byddo dyn Duw yn berffaith , wedi ei berffeithio i bob gweithred dda . Yr ydwyf fi gan hynny yn gorchymyn gerbron Duw , a’r Arglwydd Iesu Grist , yr hwn a farna’r byw a’r meirw yn ei ymddangosiad a’i deyrnas ; Pregetha’r gair ; bydd daer mewn amser , allan o amser ; argyhoedda , cerydda , annog gyda phob hirymaros ac athrawiaeth . Canys daw’r amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus ; eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon , gan fod eu clustiau yn merwino ; Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau , ac at chwedlau y troant . Eithr gwylia di ym mhob peth , dioddef adfyd , gwna waith efengylwr , cyflawna dy weinidogaeth . Canys myfi yr awron a aberthir , ac amser fy ymddatodiad i a nesaodd . Mi a ymdrechais ymdrech deg , mi a orffennais fy ngyrfa , mi a gedwais y ffydd . O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i’w chadw i mi , yr hon a rydd yr Arglwydd , y Barnwr cyfiawn , i mi yn y dydd hwnnw : ac nid yn unig i mi , ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad ef . Bydd ddyfal i ddyfod ataf yn ebrwydd : Canys Demas a’m gadawodd , gan garu’r byd presennol , ac a aeth ymaith i Thesalonica ; Crescens i Galatia , Titus i Dalmatia . Luc yn unig sydd gyda mi . Cymer Marc , a dwg gyda thi : canys buddiol yw efe i mi i’r weinidogaeth . Tychicus hefyd a ddanfonais i Effesus . Y cochl a adewais i yn Nhroas gyda Carpus , pan ddelych , dwg gyda thi , a’r llyfrau , yn enwedig y memrwn . Alexander y gof copr a wnaeth i mi ddrygau lawer : taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd : Yr hwn hefyd gochel dithau ; canys efe a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni . Yn fy ateb cyntaf ni safodd neb gyda mi , eithr pawb a’m gadawsant : mi a archaf ar Dduw nas cyfrifer iddynt . Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi , ac a’m nerthodd ; fel trwof fi y byddai’r pregethiad yn llawn hysbys , ac y clywai’r holl Genhedloedd : ac mi a waredwyd o enau y llew . A’r Arglwydd a’m gwared i rhag pob gweithred ddrwg , ac a’m ceidw i’w deyrnas nefol : i’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd . Amen . Annerch Prisca ac Acwila , a theulu Onesifforus . Erastus a arhosodd yng Nghorinth : ond Troffimus a adewais ym Miletus yn glaf . Bydd ddyfal i ddyfod cyn y gaeaf . Y mae Eubulus yn dy annerch , a Phudens , a Linus , a Chlaudia , a’r brodyr oll . Yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda’th ysbryd di . Gras fyddo gyda chwi . Amen . </passage></reply></GetPassage>