<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:56</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:56</urn><passage>Paul , gwas Duw , ac apostol Iesu Grist , yn ôl ffydd etholedigion Duw , ac adnabyddiaeth y gwirionedd , yr hon sydd yn ôl duwioldeb ; I obaith bywyd tragwyddol , yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau’r byd ; Eithr mewn amseroedd priodol efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu , am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi , yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr ; At Titus , fy mab naturiol yn ôl y ffydd gyffredinol : Gras , trugaredd , a thangnefedd , oddi wrth Dduw Dad , a’r Arglwydd Iesu Grist ein Hiachawdwr ni . Er mwyn hyn y’th adewais yn Creta , fel yr iawn drefnit y pethau sydd yn ôl , ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas , megis yr ordeiniais i ti : Os yw neb yn ddiargyhoedd , yn ŵr un wraig , a chanddo blant ffyddlon , heb gael y gair o fod yn afradlon , neu yn anufudd : Canys rhaid i esgob fod yn ddiargyhoedd , fel goruchwyliwr Duw ; nid yn gyndyn , nid yn ddicllon , nid yn wingar , nid yn drawydd , nid yn budrelwa ; Eithr yn lletygar , yn caru daioni , yn sobr , yn gyfiawn , yn sanctaidd , yn dymherus ; Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysg , fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus , ac argyhoeddi’r rhai sydd yn gwrthddywedyd . Canys y mae llawer yn anufudd , yn ofer‐siaradus , ac yn dwyllwyr meddyliau , yn enwedig y rhai o’r enwaediad : Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau , y rhai sydd yn dymchwelyd tai cyfain , gan athrawiaethu’r pethau ni ddylid , er mwyn budrelw . Un ohonynt hwy eu hunain , un o’u proffwydi hwy eu hunain , a ddywedodd , Y Cretiaid sydd bob amser yn gelwyddog , drwg fwystfilod , boliau gorddïog . Y dystiolaeth hon sydd wir . Am ba achos argyhoedda hwy yn llym , fel y byddont iach yn y ffydd ; Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd , a gorchmynion dynion , yn troi oddi wrth y gwirionedd . Pur yn ddiau yw pob peth i’r rhai pur : eithr i’r rhai halogedig a’r di‐ffydd , nid pur dim ; eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a’u cydwybod hwy . Y maent yn proffesu yr adwaenant Dduw ; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent , gan fod yn ffiaidd , ac yn anufudd , ac at bob gweithred dda yn anghymeradwy . Eithr llefara di’r pethau a weddo i athrawiaeth iachus : Bod o’r hynafgwyr yn sobr , yn onest , yn gymesur , yn iach yn y ffydd , yng nghariad , mewn amynedd : Bod o’r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd ; nid yn enllibaidd , nid wedi ymroi i win lawer , yn rhoi athrawiaeth o ddaioni : Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog , i garu eu gwŷr , i garu eu plant , Yn sobr , yn bur , yn gwarchod gartref , yn dda , yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod , fel na chabler gair Duw . Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr : Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da : a dangos , mewn athrawiaeth , anllygredigaeth , gweddeidd‐dra , purdeb , Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno ; fel y byddo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio , heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi . Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun , ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth ; nid yn gwrthddywedyd ; Nid yn darnguddio , ond yn dangos pob ffyddlondeb da ; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth . Canys ymddangosodd gras Duw , yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn ; Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol , a byw yn sobr , ac yn gyfiawn , ac yn dduwiol , yn y byd sydd yr awron ; Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig , ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr , a’n Hiachawdwr Iesu Grist ; Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom , i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd , ac i’n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol , awyddus i weithredoedd da . Y pethau hyn llefara a chynghora , ac argyhoedda gyda phob awdurdod . Na ddiystyred neb di . Dwg ar gof iddynt fod yn ddarostyngedig i’r tywysogaethau a’r awdurdodau , fod yn ufudd , fod yn barod i bob gweithred dda , Bod heb gablu neb , yn anymladdgar , yn dirion , gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn . Canys yr oeddem ninnau hefyd gynt yn annoethion , yn anufudd , yn cyfeiliorni , yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd , gan fyw mewn drygioni a chenfigen , yn ddigasog , yn casáu ein gilydd . Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Hachubwr tuag at ddyn , Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni , eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni , trwy olchiad yr adenedigaeth , ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân ; Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth , trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr : Fel , gwedi ein cyfiawnhau trwy ei ras ef , y’n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol . Gwir yw’r gair , ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer , fel y byddo i’r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da . Y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddynion . Eithr gochel gwestiynau ffôl , ac achau , a chynhennau , ac ymrysonau ynghylch y ddeddf : canys anfuddiol ydynt ac ofer . Gochel y dyn a fyddo heretic , wedi un ac ail rybudd : Gan wybod fod y cyfryw un wedi ei ŵyrdroi , ac yn pechu , gan fod yn ei ddamnio ei hunan . Pan ddanfonwyf Artemas atat , neu Tychicus , bydd ddyfal i ddyfod ataf i Nicopolis : canys yno yr arfaethais aeafu . Hebrwng Senas y cyfreithiwr , ac Apolos yn ddiwyd ; fel na byddo arnynt eisiau dim . A dysged yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau , fel na byddont yn ddiffrwyth . Y mae’r holl rai sydd gyda mi yn dy annerch . Annerch y rhai sydd yn ein caru ni yn y ffydd . Gras fyddo gyda chwi oll . Amen . </passage></reply></GetPassage>