<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:58</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:58</urn><passage>Duw , wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy’r proffwydi , yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab ; Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth , trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd : Yr hwn , ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef , ac yn wir lun ei berson ef , ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth , wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun , a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd ; Wedi ei wneuthur o hynny yn well na’r angylion , o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy . Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd efe un amser , Fy mab ydwyt ti ; myfi heddiw a’th genhedlais di ? A thrachefn , Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad , ac efe a fydd i mi yn Fab ? A thrachefn , pan yw yn dwyn y Cyntaf‐anedig i’r byd , y mae yn dywedyd , Ac addoled holl angylion Duw ef . Ac am yr angylion y mae yn dywedyd , Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion , a’i weinidogion yn fflam dân . Ond wrth y Mab , Dy orseddfainc di , O Dduw , sydd yn oes oesoedd : teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di . Ti a geraist gyfiawnder , ac a gaseaist anwiredd : am hynny y’th eneiniodd Duw , sef dy Dduw di , ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion . Ac , Tydi yn y dechreuad , Arglwydd , a sylfaenaist y ddaear ; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd : Hwynt‐hwy a ddarfyddant ; ond tydi sydd yn parhau ; a hwynt‐hwy oll fel dilledyn a heneiddiant ; Ac megis gwisg y plygi di hwynt , a hwy a newidir : ond tydi yr un ydwyt , a’th flynyddoedd ni phallant . Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser , Eistedd ar fy neheulaw , hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed ? Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll , wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth ? Am hynny y mae’n rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glywsom , rhag un amser i ni eu gollwng hwy i golli . Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy angylion , ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd‐dod gyfiawn daledigaeth ; Pa fodd y dihangwn ni , os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint , yr hon , wedi dechrau ei thraethu trwy’r Arglwydd , a sicrhawyd i ni gan y rhai a’i clywsant ef : A Duw hefyd yn cyd‐dystiolaethu , trwy arwyddion a rhyfeddodau , ac amryw nerthoedd , a doniau yr Ysbryd Glân , yn ôl ei ewyllys ei hun ? Canys nid i’r angylion y darostyngodd efe y byd a ddaw , am yr hwn yr ydym yn llefaru . Eithr un mewn rhyw fan a dystiolaethodd , gan ddywedyd , Pa beth yw dyn , i ti i feddwl amdano ? neu fab dyn , i ti i ymweled ag ef ? Ti a’i gwnaethost ef ychydig is na’r angylion : â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ti ef , ac a’i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo : Ti a ddarostyngaist bob peth dan ei draed ef . Canys wrth ddarostwng pob peth iddo , ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo . Ond yr awron nid ydym ni eto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo . Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu , yr hwn a wnaed ychydig yn is na’r angylion , oherwydd dioddef marwolaeth , wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd ; fel trwy ras Duw y profai efe farwolaeth dros bob dyn . Canys gweddus oedd iddo ef , oherwydd yr hwn y mae pob peth , a thrwy yr hwn y mae pob peth , wedi iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant , berffeithio Tywysog eu hiachawdwriaeth hwy trwy ddioddefiadau . Canys yr hwn sydd yn sancteiddio , a’r rhai a sancteiddir , o’r un y maent oll . Am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr ; Gan ddywedyd , Myfi a fynegaf dy enw di i’m brodyr ; yng nghanol yr eglwys y’th folaf di . A thrachefn , Myfi a fyddaf yn ymddiried ynddo . A thrachefn , Wele fi a’r plant a roddes Duw i mi . Oblegid hynny , gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed , yntau hefyd yr un modd a fu gyfrannog o’r un pethau ; fel trwy farwolaeth y dinistriai efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo , hynny yw , diafol ; Ac y gwaredai hwynt , y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt dros eu holl fywyd dan gaethiwed . Canys ni chymerodd efe naturiaeth angylion ; eithr had Abraham a gymerodd efe . Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i’w frodyr ; fel y byddai drugarog ac Archoffeiriad ffyddlon , mewn pethau yn perthyn i Dduw , i wneuthur cymod dros bechodau y bobl . Canys yn gymaint â dioddef ohono ef , gan gael ei demtio , efe a ddichon gynorthwyo’r rhai a demtir . Oherwydd paham , frodyr sanctaidd , cyfranogion o’r galwedigaeth nefol , ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni , Crist Iesu ; Yr hwn sydd ffyddlon i’r hwn a’i hordeiniodd ef , megis ag y bu Moses yn ei holl dŷ ef . Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant na Moses , o gymaint ag y mae yr hwn a adeiladodd y tŷ yn cael mwy o barch na’r tŷ . Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw un ; ond yr hwn a adeiladodd bob peth yw Duw . A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ megis gwas , er tystiolaeth i’r pethau oedd i’w llefaru ; Eithr Crist , megis Mab ar ei dŷ ei hun : tŷ yr hwn ydym ni , os nyni a geidw ein hyder a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd . Am hynny , megis y mae’r Ysbryd Glân yn dywedyd , Heddiw , os gwrandewch ar ei leferydd ef , Na chaledwch eich calonnau , megis yn y cyffroad , yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch : Lle y temtiodd eich tadau fyfi , y profasant fi , ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd . Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno , ac y dywedais , Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau ; ac nid adnabuant fy ffyrdd i : Fel y tyngais yn fy llid , na chaent ddyfod i mewn i’m gorffwysfa . Edrychwch , frodyr , na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth , gan ymado oddi wrth Dduw byw . Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw ; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod . Canys fe a’n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist , os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd ; Tra dywedir , Heddiw , os gwrandewch ar ei leferydd ef , na chaledwch eich calonnau , megis yn y cyffroad . Canys rhai , wedi gwrando , a’i digiasant ef : ond nid pawb a’r a ddaethant o’r Aifft trwy Moses . Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd ? onid wrth y rhai a bechasent , y rhai y syrthiodd eu cyrff yn y diffeithwch ? Ac wrth bwy y tyngodd efe , na chaent hwy fyned i mewn i’w orffwysfa ef ? onid wrth y rhai ni chredasant ? Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth . Ofnwn gan hynny , gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i’w orffwysfa ef , rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl . Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl , megis ag iddynt hwythau : eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy , am nad oedd wedi ei gyd‐dymheru â ffydd yn y rhai a’i clywsant . Canys yr ydym ni , y rhai a gredasom , yn myned i mewn i’r orffwysfa , megis y dywedodd efe , Fel y tyngais yn fy llid , Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i : er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd . Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn ; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd . Ac yma drachefn , Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i . Gan hynny , gan fod hyn wedi ei adael , fod rhai yn myned i mewn iddi , ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn , oherwydd anghrediniaeth ; Trachefn , y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod , gan ddywedyd yn Dafydd , Heddiw , ar ôl cymaint o amser ; megis y dywedir , Heddiw , os gwrandewch ar ei leferydd ef , na chaledwch eich calonnau . Canys pe dygasai Jesus hwynt i orffwysfa , ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall . Y mae gan hynny orffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw . Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orffwysfa ef , hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun , megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau . Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i’r orffwysfa honno , fel na syrthio neb yn ôl yr un siampl o anghrediniaeth . Canys bywiol yw gair Duw , a nerthol , a llymach nag un cleddyf daufiniog , ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd , a’r cymalau a’r mêr ; ac yn barnu meddyliau a bwriadau’r galon . Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef : eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn . Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr , yr hwn a aeth i’r nefoedd , Iesu Mab Duw , glynwn yn ein proffes . Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd‐ddioddef gyda’n gwendid ni ; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau , eto heb bechod . Am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras , fel y derbyniom drugaredd , ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol . Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion , a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw , fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau : Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd ; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid . Ac o achos hyn y dylai , megis dros y bobl , felly hefyd drosto ei hun , offrymu dros bechodau . Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun , ond yr hwn a alwyd gan Dduw , megis Aaron . Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad ; ond yr hwn a ddywedodd wrtho , Tydi yw fy Mab ; myfi heddiw a’th genhedlais di . Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall , Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec . Yr hwn yn nyddiau ei gnawd , gwedi iddo , trwy lefain cryf a dagrau , offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i’w achub ef oddi wrth farwolaeth , a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd ; Er ei fod yn Fab , a ddysgodd ufudd‐dod trwy’r pethau a ddioddefodd : Ac wedi ei berffeithio , efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i’r rhai oll a ufuddhant iddo ; Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec . Am yr hwn y mae i ni lawer i’w dywedyd , ac anodd eu traethu , o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau . Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser , y mae arnoch drachefn eisiau dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw : ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth , ac nid bwyd cryf . Canys pob un a’r sydd yn ymarfer â llaeth , sydd anghynefin â gair cyfiawnder ; canys maban yw . Eithr bwyd cryf a berthyn i’r rhai perffaith , y rhai oherwydd cynefindra y mae ganddynt synnwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da . Am hynny , gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechrau rhai yng Nghrist , awn rhagom at berffeithrwydd ; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon , ac i ffydd tuag at Dduw , I athrawiaeth bedyddiadau , ac arddodiad dwylo , ac atgyfodiad y meirw , a’r farn dragwyddol . A hyn a wnawn , os caniatâ Duw . Canys amhosibl yw i’r rhai a oleuwyd unwaith , ac a brofasant y rhodd nefol , ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o’r Ysbryd Glân , Ac a brofasant ddaionus air Duw , a nerthoedd y byd a ddaw , Ac a syrthiant ymaith , ymadnewyddu drachefn i edifeirwch ; gan eu bod yn ailgroeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw , ac yn ei osod yn watwar . Canys y ddaear , yr hon sydd yn yfed y glaw sydd yn mynych ddyfod arni , ac yn dwyn llysiau cymwys i’r rhai y llafurir hi ganddynt , sydd yn derbyn bendith gan Dduw : Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri , sydd anghymeradwy , ac agos i felltith ; diwedd yr hon yw , ei llosgi . Eithr yr ydym ni yn coelio amdanoch chwi , anwylyd , bethau gwell , a phethau ynglŷn wrth iachawdwriaeth , er ein bod yn dywedyd fel hyn . Canys nid yw Duw yn anghyfiawn , fel yr anghofio eich gwaith , a’r llafurus gariad , yr hwn a ddangosasoch tuag at ei enw ef , y rhai a weiniasoch i’r saint , ac ydych yn gweini . Ac yr ydym yn chwennych fod i bob un ohonoch ddangos yr un diwydrwydd , er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd : Fel na byddoch fusgrell , eithr yn ddilynwyr i’r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu’r addewidion . Canys Duw , wrth wneuthur addewid i Abraham , oblegid na allai dyngu i neb oedd fwy , a dyngodd iddo ei hun , Gan ddywedyd , Yn ddiau gan fendithio y’th fendithiaf , a chan amlhau y’th amlhaf . Ac felly , wedi iddo hirymaros , efe a gafodd yr addewid . Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy : a llw er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson . Yn yr hyn Duw , yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor , a gyfryngodd trwy lw : Fel trwy ddau beth dianwadal , yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog , y gallem ni gael cysur cryf , y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen ; Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid , yn ddiogel ac yn sicr , ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen ; I’r man yr aeth y rhagflaenor drosom ni , sef Iesu , yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl urdd Melchisedec . Canys y Melchisedec hwn , brenin Salem , offeiriad y Duw Goruchaf , yr hwn a gyfarfu ag Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd , ac a’i bendithiodd ef ; I’r hwn hefyd y cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth : yr hwn yn gyntaf , o’i gyfieithu , yw Brenin cyfiawnder , ac wedi hynny hefyd , Brenin Salem , yr hyn yw , Brenin heddwch ; Heb dad , heb fam , heb achau , heb fod iddo na dechrau dyddiau , na diwedd einioes ; eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw , sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd . Edrychwch faint oedd hwn , i’r hwn hefyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o’r anrhaith . A’r rhai yn wir sydd o feibion Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth , y mae ganddynt orchymyn i gymryd degwm gan y bobl yn ôl y gyfraith , sef gan eu brodyr , er eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham : Eithr yr hwn nid oedd ei achau ohonynt hwy , a gymerodd ddegwm gan Abraham , ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo . Ac yn ddi‐ddadl , yr hwn sydd leiaf a fendithir gan ei well . Ac yma y mae dynion y rhai sydd yn meirw yn cymryd degymau : eithr yno , yr hwn y tystiolaethwyd amdano ei fod ef yn fyw . Ac , fel y dywedwyf felly , yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm , yr hwn oedd yn cymryd degymau . Oblegid yr ydoedd efe eto yn lwynau ei dad , pan gyfarfu Melchisedec ag ef . Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi , ( oblegid dan honno y rhoddwyd y gyfraith i’r bobl , ) pa raid oedd mwyach godi Offeiriad arall yn ôl urdd Melchisedec , ac nas gelwid ef yn ôl urdd Aaron ? Canys wedi newidio’r offeiriadaeth , anghenraid yw bod cyfnewid ar y gyfraith hefyd . Oblegid am yr hwn y dywedir y pethau hyn , efe a berthyn i lwyth arall , o’r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu’r allor . Canys hysbys yw , mai o Jwda y cododd ein Harglwydd ni ; am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tuag at offeiriadaeth . Ac y mae’n eglurach o lawer eto ; od oes yn ôl cyffelybrwydd Melchisedec Offeiriad arall yn codi , Yr hwn a wnaed , nid yn ôl cyfraith gorchymyn cnawdol , eithr yn ôl nerth bywyd annherfynol . Canys tystiolaethu y mae , Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec . Canys yn ddiau y mae dirymiad i’r gorchymyn sydd yn myned o’r blaen , oherwydd ei lesgedd a’i afles . Oblegid ni pherffeithiodd y gyfraith ddim , namyn dwyn gobaith gwell i mewn a berffeithiodd ; trwy yr hwn yr ydym yn nesáu at Dduw . Ac yn gymaint nad heb lw y gwnaethpwyd ef yn Offeiriad : ( Canys y rhai hynny yn wir ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw : ond hwn trwy lw , gan yr hwn a ddywedodd wrtho , Tyngodd yr Arglwydd , ac ni bydd edifar ganddo , Ti sydd Offeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec : ) Ar destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn Fachnïydd . A’r rhai hynny yn wir , llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid , oherwydd lluddio iddynt gan farwolaeth barhau : Ond hwn , am ei fod ef yn aros yn dragywydd , sydd ag offeiriadaeth dragwyddol ganddo . Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iacháu’r rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw , gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy . Canys y cyfryw Archoffeiriad sanctaidd , diddrwg , dihalog , didoledig oddi wrth bechaduriaid , ac wedi ei wneuthur yn uwch na’r nefoedd , oedd weddus i ni ; Yr hwn nid yw raid iddo beunydd , megis i’r offeiriaid hynny , offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun , ac yna dros yr eiddo’r bobl : canys hynny a wnaeth efe unwaith , pan offrymodd efe ef ei hun . Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt , yn archoffeiriaid ; eithr gair y llw , yr hwn a fu wedi’r gyfraith , sydd yn gwneuthur y Mab , yr hwn a berffeithiwyd yn dragywydd . A phen ar y pethau a ddywedwyd yw hyn : Y mae gennym y fath Archoffeiriad , yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc y Mawredd yn y nefoedd ; Yn Weinidog y gysegrfa , a’r gwir dabernacl , yr hwn a osododd yr Arglwydd , ac nid dyn . Canys pob archoffeiriad a osodir i offrymu rhoddion ac aberthau : oherwydd paham rhaid oedd bod gan hwn hefyd yr hyn a offrymai . Canys yn wir pe bai efe ar y ddaear , ni byddai yn offeiriad chwaith ; gan fod offeiriaid y rhai sydd yn offrymu rhoddion yn ôl y ddeddf : Y rhai sydd yn gwasanaethu i siampl a chysgod y pethau nefol , megis y rhybuddiwyd Moses gan Dduw , pan oedd efe ar fedr gorffen y babell : canys , Gwêl , medd efe , ar wneuthur ohonot bob peth yn ôl y portreiad a ddangoswyd i ti yn y mynydd . Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol , o gymaint ag y mae yn Gyfryngwr cyfamod gwell , yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell . Oblegid yn wir pe buasai’r cyntaf hwnnw yn ddifeius , ni cheisiasid lle i’r ail . Canys yn beio arnynt hwy y dywed efe , Wele , y mae’r dyddiau yn dyfod , medd yr Arglwydd , ac mi a wnaf â thŷ Israel ac â thŷ Jwda gyfamod newydd : Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u tadau hwynt , yn y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn hwy o dir yr Aifft : oblegid ni thrigasant hwy yn fy nghyfamod i , minnau a’u hesgeulusais hwythau , medd yr Arglwydd . Oblegid hwn yw’r cyfamod a amodaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny , medd yr Arglwydd ; Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl , ac yn eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt : a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw , a hwythau a fyddant i minnau yn bobl : Ac ni ddysgant bob un ei gymydog , a phob un ei frawd , gan ddywedyd , Adnebydd yr Arglwydd : oblegid hwynt‐hwy oll a’m hadnabyddant i , o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt . Canys trugarog fyddaf wrth eu hanghyfiawnderau , a’u pechodau hwynt a’u hanwireddau ni chofiaf ddim ohonynt mwyach . Wrth ddywedyd , Cyfamod newydd , efe a farnodd y cyntaf yn hen . Eithr yr hwn a aeth yn hen ac yn oedrannus , sydd agos i ddiflannu . Am hynny yn wir yr ydoedd hefyd i’r tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw , a chysegr bydol . Canys yr oedd tabernacl wedi ei wneuthur ; y cyntaf , yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren , a’r bwrdd , a’r bara gosod ; yr hwn dabernacl a elwid , Y cysegr . Ac yn ôl yr ail len , yr oedd y babell , yr hon a elwid , Y cysegr sancteiddiolaf ; Yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo , ac arch y cyfamod wedi ei goreuro o amgylch ; yn yr hon yr oedd y crochan aur a’r manna ynddo , a gwialen Aaron yr hon a flagurasai , a llechau’r cyfamod : Ac uwch ei phen ceriwbiaid y gogoniant yn cysgodi’r drugareddfa : am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan . A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly , i’r tabernacl cyntaf yn ddiau yr âi bob amser yr offeiriaid , y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw : Ac i’r ail , unwaith bob blwyddyn yr âi’r archoffeiriad yn unig ; nid heb waed , yr hwn a offrymai efe drosto’i hun , a thros anwybodaeth y bobl . A’r Ysbryd Glân yn hysbysu hyn , nad oedd y ffordd i’r cysegr sancteiddiolaf yn agored eto , tra fyddai’r tabernacl cyntaf yn sefyll : Yr hwn ydoedd gyffelybiaeth dros yr amser presennol , yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau , y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio’r addolydd ; Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd , a diodydd , ac amryw olchiadau , a defodau cnawdol , wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad . Eithr Crist , wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent , trwy dabernacl mwy a pherffeithiach , nid o waith llaw , hynny yw , nid o’r adeiladaeth yma ; Nid chwaith trwy waed geifr a lloi , eithr trwy ei waed ei hun , a aeth unwaith i mewn i’r cysegr , gan gael i ni dragwyddol ryddhad . Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr , a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd , yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd ; Pa faint mwy y bydd i waed Crist , yr hwn trwy’r Ysbryd tragwyddol a’i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw , buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon , i wasanaethu’r Duw byw ? Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y cyfamod newydd , megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf , y câi’r rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol . Oblegid lle byddo testament , rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr . Canys wedi marw dynion y mae testament mewn grym : oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo’r testamentwr yn fyw . O ba achos ni chysegrwyd y cyntaf heb waed . Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl , efe a gymerodd waed lloi a geifr , gyda dwfr , a gwlân porffor , ac isop , ac a’i taenellodd ar y llyfr a’r bobl oll , Gan ddywedyd , Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi . Y tabernacl hefyd a holl lestri’r gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd . A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith ; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant . Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau’r pethau sydd yn y nefoedd gael eu puro â’r pethau hyn ; a’r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na’r rhai hyn . Canys nid i’r cysegr o waith llaw , portreiad y gwir gysegr , yr aeth Crist i mewn ; ond i’r nef ei hun , i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni : Nac fel yr offrymai efe ei hun yn fynych , megis y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn , â gwaed arall : ( Oblegid yna rhaid fuasai iddo’n fynych ddioddef er dechreuad y byd ; ) eithr yr awron unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe , i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun . Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith , ac wedi hynny bod barn : Felly Crist hefyd , wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer , a ymddengys yr ail waith , heb bechod , i’r rhai sydd yn ei ddisgwyl , er iachawdwriaeth . Oblegid y gyfraith , yr hon sydd ganddi gysgod daionus bethau i ddyfod , ac nid gwir ddelw y pethau , nis gall trwy’r aberthau hynny , y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymu yn wastadol , byth berffeithio’r rhai a ddêl ati . Oblegid yna hwy a beidiasent â’u hoffrymu , am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent , wedi eu glanhau unwaith . Eithr yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn . Canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau . Oherwydd paham y mae efe , wrth ddyfod i’r byd , yn dywedyd , Aberth ac offrwm nis mynnaist , eithr corff a gymhwysaist i mi : Offrymau poeth , a thros bechod , ni buost fodlon iddynt . Yna y dywedais , Wele fi yn dyfod , ( y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf , ) i wneuthur dy ewyllys di , O Dduw . Wedi iddo ddywedyd uchod , Aberth ac offrwm , ac offrymau poeth , a thros bechod , nis mynnaist , ac nid ymfodlonaist ynddynt ; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir ; Yna y dywedodd , Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di , O Dduw . Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf , fel y gosodai yr ail . Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio , trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith . Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu , ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau , y rhai ni allant fyth ddileu pechodau : Eithr hwn , wedi offrymu un aberth dros bechodau , yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw ; O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef . Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio . Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni : canys wedi iddo ddywedyd o’r blaen , Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny , medd yr Arglwydd ; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau , ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau ; A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach . A lle y mae maddeuant am y rhai hyn , nid oes mwyach offrwm dros bechod . Am hynny , frodyr , gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu , Ar hyd ffordd newydd a bywiol , yr hon a gysegrodd efe i ni , trwy’r llen , sef ei gnawd ef ; A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw : Nesawn â chalon gywir , mewn llawn hyder ffydd , wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg , a golchi ein corff â dwfr glân . Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi‐sigl ; ( canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd ; ) A chydystyriwn bawb ein gilydd , i ymannog i gariad a gweithredoedd da : Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain , megis y mae arfer rhai ; ond annog bawb ein gilydd : a hynny yn fwy , o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu . Canys os o’n gwirfodd y pechwn , ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd , nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach ; Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth , ac angerdd tân , yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr . Yr un a ddirmygai gyfraith Moses , a fyddai farw heb drugaredd , dan ddau neu dri o dystion : Pa faint mwy cosbedigaeth , dybygwch chwi , y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw , ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod , trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef , ac a ddifenwodd Ysbryd y gras ? Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd , Myfi biau dial , myfi a dalaf , medd yr Arglwydd . A thrachefn , Yr Arglwydd a farna ei bobl . Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw . Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen , yn y rhai , wedi eich goleuo , y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon : Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd , trwy waradwyddiadau a chystuddiau ; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly . Canys chwi a gyd‐ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd , ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen ; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd , ac un parhaus . Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder , yr hwn sydd iddo fawr wobr . Canys rhaid i chwi wrth amynedd ; fel , wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw , y derbynioch yr addewid . Oblegid ychydig bachigyn eto , a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw , ac nid oeda . A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd : eithr o thyn neb yn ôl , nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo . Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth ; namyn o ffydd , i gadwedigaeth yr enaid . Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio , a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled . Oblegid trwyddi hi y cafodd yr henuriaid air da . Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw , yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir . Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain ; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn , gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i’w roddion ef : a thrwyddi hi y mae efe , wedi marw , yn llefaru eto . Trwy ffydd y symudwyd Enoch , fel na welai farwolaeth ; ac ni chaed ef , am ddarfod i Dduw ei symud ef : canys cyn ei symud , efe a gawsai dystiolaeth , ddarfod iddo ryngu bodd Duw . Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef : oblegid rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw , gredu ei fod ef , a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef . Trwy ffydd , Noe , wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto , gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ : trwy’r hon y condemniodd efe y byd , ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd . Trwy ffydd , Abraham , pan ei galwyd , a ufuddhaodd , gan fyned i’r man yr oedd efe i’w dderbyn yn etifeddiaeth ; ac a aeth allan , heb wybod i ba le yr oedd yn myned . Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid , megis mewn tir dieithr , gan drigo mewn lluestai gydag Isaac a Jacob , cyd‐etifeddion o’r un addewid : Canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ag iddi sylfeini , saer ac adeiladydd yr hon yw Duw . Trwy ffydd Sara hithau yn amhlantadwy , a dderbyniodd nerth i ymddŵyn had ; ac wedi amser oedran , a esgorodd ; oblegid ffyddlon y barnodd hi yr hwn a addawsai . Oherwydd paham hefyd y cenhedlwyd o un , a hwnnw yn gystal â marw , cynifer â sêr y nef mewn lliaws , ac megis y tywod ar lan y môr , y sydd yn aneirif . Mewn ffydd y bu farw’r rhai hyn oll , heb dderbyn yr addewidion , eithr o bell eu gweled hwynt , a chredu , a chyfarch , a chyfaddef mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaear . Canys y mae’r rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau , yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio gwlad . Ac yn wir , pe buasent yn meddwl am y wlad honno , o’r hon y daethent allan , hwy a allasent gael amser i ddychwelyd : Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych , hynny ydyw , un nefol : o achos paham nid cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy : oblegid efe a baratôdd ddinas iddynt . Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac , pan ei profwyd : a’i unig‐anedig fab a offrymodd efe , yr hwn a dderbyniasai’r addewidion : Wrth yr hwn y dywedasid , Yn Isaac y gelwir i ti had : Gan gyfrif bod Duw yn abl i’w gyfodi ef o feirw ; o ba le y cawsai efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth . Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau am bethau a fyddent . Trwy ffydd , Jacob , wrth farw , a fendithiodd bob un o feibion Joseff ; ac a addolodd â’i bwys ar ben ei ffon . Trwy ffydd , Joseff , wrth farw , a goffaodd am ymadawiad plant Israel ; ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn . Trwy ffydd , Moses , pan anwyd , a guddiwyd dri mis gan ei rieni , o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws : ac nid ofnasant orchymyn y brenin . Trwy ffydd , Moses , wedi myned yn fawr , a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo ; Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw , na chael mwyniant pechod dros amser ; Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau’r Aifft : canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy . Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft , heb ofni llid y brenin : canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig . Trwy ffydd y gwnaeth efe y pasg , a gollyngiad y gwaed , rhag i’r hwn ydoedd yn dinistrio’r rhai cyntaf‐anedig gyffwrdd â hwynt . Trwy ffydd yr aethant trwy’r môr coch , megis ar hyd tir sych : yr hyn pan brofodd yr Eifftiaid , boddi a wnaethant . Trwy ffydd y syrthiodd caerau Jericho , wedi eu hamgylchu dros saith niwrnod . Trwy ffydd ni ddifethwyd Rahab y butain gyda’r rhai ni chredent , pan dderbyniodd hi’r ysbïwyr yn heddychol . A pheth mwy a ddywedaf ? canys yr amser a ballai i mi i fynegi am Gedeon , am Barac , ac am Samson , ac am Jefftha , am Dafydd hefyd , a Samuel , a’r proffwydi ; Y rhai trwy ffydd a oresgynasant deyrnasoedd , a wnaethant gyfiawnder , a gawsant addewidion , a gaeasant safnau llewod , A ddiffoddasant angerdd y tân , a ddianghasant rhag min y cleddyf , a nerthwyd o wendid , a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel , a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio . Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy atgyfodiad : ac eraill a ddirdynnwyd , heb dderbyn ymwared ; fel y gallent hwy gael atgyfodiad gwell . Ac eraill a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau , ie , trwy rwymau hefyd a charchar : Hwynt‐hwy a labyddiwyd , a dorrwyd â llif , a demtiwyd , a laddwyd yn feirw â’r cleddyf ; a grwydrasant mewn crwyn defaid , a chrwyn geifr ; yn ddiddim , yn gystuddiol , yn ddrwg eu cyflwr ; ( Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt , ) yn crwydro mewn anialwch , a mynyddoedd , a thyllau ac ogofeydd y ddaear . A’r rhai hyn oll , wedi cael tystiolaeth trwy ffydd , ni dderbyniasant yr addewid : Gan fod Duw yn rhagweled rhyw beth gwell amdanom ni , fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau . Oblegid hynny ninnau hefyd , gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch , gan roi heibio bob pwys , a’r pechod sydd barod i’n hamgylchu , trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o’n blaen ni ; Gan edrych ar Iesu , Pen‐tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni ; yr hwn , yn lle’r llawenydd a osodwyd iddo , a ddioddefodd y groes , gan ddiystyru gwaradwydd , ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw . Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid ; fel na flinoch , ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau . Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed , gan ymdrech yn erbyn pechod . A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor , yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant , Fy mab , na ddirmyga gerydd yr Arglwydd , ac nac ymollwng pan y’th argyhoedder ganddo : Canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu , y mae’n ei geryddu ; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio . Os goddefwch gerydd , y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion : canys pa fab sydd , yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu ? Eithr os heb gerydd yr ydych , o’r hwn y mae pawb yn gyfrannog ; yna bastardiaid ydych , ac nid meibion . Heblaw hynny , ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu , ac a’u parchasom hwy : onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd , a byw ? Canys hwynt‐hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a’n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda ; eithr hwn er llesâd i ni , fel y byddem gyfranogion o’i sancteiddrwydd ef . Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd , eithr yn anhyfryd : ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef . Oherwydd paham cyfodwch i fyny’r dwylo a laesasant , a’r gliniau a ymollyngasant . A gwnewch lwybrau union i’ch traed ; fel na throer y cloff allan o’r ffordd , ond yr iachaer efe yn hytrach . Dilynwch heddwch â phawb , a sancteiddrwydd , heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd : Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth ras Duw ; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny , ac yn peri blinder , a thrwy hwnnw llygru llawer ; Na bo un puteiniwr , neu halogedig , megis Esau , yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth‐fraint . Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef , pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu’r fendith : oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch , er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi . Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân , a chwmwl , a thywyllwch , a thymestl , A sain utgorn , a llef geiriau ; yr hon pwy bynnag a’i clywsant , a ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt : ( Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid ; Ac os bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd , efe a labyddir , neu a wenir â phicell . Ac mor ofnadwy oedd y golwg , ag y dywedodd Moses , Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu . ) Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion , ac i ddinas y Duw byw , y Jerwsalem nefol , ac at fyrddiwn o angylion , I gymanfa a chynulleidfa’r rhai cyntaf‐anedig , y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd , ac at Dduw , Barnwr pawb , ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd , Ac at Iesu , Cyfryngwr y testament newydd , a gwaed y taenelliad , yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na’r eiddo Abel . Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru . Oblegid oni ddihangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear , mwy o lawer ni ddihangwn ni , y rhai ydym yn troi ymaith oddi wrth yr hwn sydd yn llefaru o’r nef : Llef yr hwn y pryd hwnnw a ysgydwodd y ddaear : ac yn awr a addawodd , gan ddywedyd , Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn unig y ddaear , ond y nef hefyd . A’r Eto unwaith hynny , sydd yn hysbysu symudiad y pethau a ysgydwir , megis pethau wedi eu gwneuthur , fel yr arhoso’r pethau nid ysgydwir . Oherwydd paham , gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddi‐sigl , bydded gennym ras , trwy’r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd , gyda gwylder a pharchedig ofn : Oblegid ein Duw ni sydd dân ysol . Parhaed brawdgarwch . Nac anghofiwch letygarwch : canys wrth hynny y lletyodd rhai angylion yn ddiarwybod . Cofiwch y rhai sydd yn rhwym , fel petech yn rhwym gyda hwynt ; y rhai cystuddiol , megis yn bod eich hunain hefyd yn y corff . Anrhydeddus yw priodas ym mhawb , a’r gwely dihalogedig : eithr puteinwyr a godinebwyr a farna Duw . Bydded eich ymarweddiad yn ddiariangar ; gan fod yn fodlon i’r hyn sydd gennych : canys efe a ddywedodd , Ni’th roddaf di i fyny , ac ni’th lwyr adawaf chwaith : Fel y gallom ddywedyd yn hy , Yr Arglwydd sydd gymorth i mi , ac nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi . Meddyliwch am eich blaenoriaid , y rhai a draethasant i chwi air Duw : ffydd y rhai dilynwch , gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt . Iesu Grist , ddoe a heddiw yr un , ac yn dragywydd . Na’ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau amryw a dieithr : canys da yw bod y galon wedi ei chryfhau â gras , nid â bwydydd , yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt fudd . Y mae gennym ni allor , o’r hon nid oes awdurdod i’r rhai sydd yn gwasanaethu’r tabernacl i fwyta . Canys cyrff yr anifeiliaid hynny , y rhai y dygir eu gwaed gan yr archoffeiriad i’r cysegr dros bechod , a losgir y tu allan i’r gwersyll . Oherwydd paham Iesu hefyd , fel y sancteiddiai’r bobl trwy ei waed ei hun , a ddioddefodd y tu allan i’r porth . Am hynny awn ato ef o’r tu allan i’r gwersyll , gan ddwyn ei waradwydd ef . Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus , eithr un i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwyl . Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw , yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i’w enw ef . Ond gwneuthur daioni , a chyfrannu , nac anghofiwch : canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw . Ufuddhewch i’ch blaenoriaid , ac ymddarostyngwch : oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi , megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif ; fel y gallont wneuthur hynny yn llawen , ac nid yn drist : canys di‐fudd i chwi yw hynny . Gweddïwch drosom ni : canys yr ydym yn credu fod gennym gydwybod dda , gan ewyllysio byw yn onest ym mhob peth . Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno gwneuthur ohonoch hyn , i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt . A Duw’r heddwch , yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu , Bugail mawr y defaid , trwy waed y cyfamod tragwyddol , A’ch perffeithio ym mhob gweithred dda , i wneuthur ei ewyllys ef ; gan weithio ynoch yr hyn sydd gymeradwy yn ei olwg ef , trwy Iesu Grist : i’r hwn y byddo’r gogoniant yn oes oesoedd . Amen . Ac yr ydwyf yn atolwg i chwi , frodyr , goddefwch air y cyngor : oblegid ar fyr eiriau yr ysgrifennais atoch . Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd ; gyda’r hwn , os daw efe ar fyrder , yr ymwelaf â chwi . Anerchwch eich holl flaenoriaid , a’r holl saint . Y mae’r rhai o’r Ital yn eich annerch . Gras fyddo gyda chwi oll . Amen . </passage></reply></GetPassage>