<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:59</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:59</urn><passage>Iago , gwasanaethwr Duw a’r Arglwydd Iesu Grist , at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar , annerch . Cyfrifwch yn bob llawenydd , fy mrodyr , pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau ; Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd . Ond caffed amynedd ei pherffaith waith ; fel y byddoch berffaith a chyfan , heb ddiffygio mewn dim . O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb , gofynned gan Dduw , yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb , ac heb ddannod ; a hi roddir iddo ef . Eithr gofynned mewn ffydd , heb amau dim : canys yr hwn sydd yn amau , sydd gyffelyb i don y môr , a chwelir ac a deflir gan y gwynt . Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd . Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd . Y brawd o radd isel , llawenyched yn ei oruchafiaeth : A’r cyfoethog , yn ei ddarostyngiad : canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe . Canys cyfododd yr haul gyda gwres , a gwywodd y glaswelltyn , a’i flodeuyn a gwympodd , a thegwch ei bryd ef a gollodd : felly hefyd y diflanna’r cyfoethog yn ei ffyrdd . Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth : canys pan fyddo profedig , efe a dderbyn goron y bywyd , yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant ef . Na ddyweded neb , pan demtier ef , Gan Dduw y’m temtir : canys Duw nis gellir ei demtio â drygau , ac nid yw efe yn temtio neb . Canys yna y temtir pob un , pan ei tynner ef , ac y llithier , gan ei chwant ei hun . Yna chwant , wedi ymddŵyn , a esgor ar bechod : pechod hefyd , pan orffenner , a esgor ar farwolaeth . Fy mrodyr annwyl , na chyfeiliornwch . Pob rhoddiad daionus , a phob rhodd berffaith , oddi uchod y mae , yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni , gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad , na chysgod tröedigaeth . O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd , fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef . O achos hyn , fy mrodyr annwyl , bydded pob dyn esgud i wrando , diog i lefaru , diog i ddigofaint : Canys digofaint gŵr nid yw’n cyflawni cyfiawnder Duw . Oherwydd paham rhoddwch heibio bob budreddi , a helaethrwydd malais ; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air , yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau . A byddwch wneuthurwyr y gair , ac nid gwrandawyr yn unig , gan eich twyllo eich hunain . Oblegid os yw neb yn wrandawr y gair , ac heb fod yn wneuthurwr , y mae hwn yn debyg i ŵr yn edrych ei wynepryd naturiol mewn drych : Canys efe a’i hedrychodd ei hun , ac a aeth ymaith , ac yn y man efe a anghofiodd pa fath ydoedd . Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhyddid , ac a barhao ynddi , hwn , heb fod yn wrandawr anghofus , ond gwneuthurwr y weithred , efe a fydd dedwydd yn ei weithred . Os yw neb yn eich mysg yn cymryd arno fod yn grefyddol , heb atal ei dafod , ond twyllo’i galon ei hun , ofer yw crefydd hwn . Crefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a’r Tad , yw hyn ; Ymweled â’r amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd , a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd . Fy mrodyr , na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist , sef Arglwydd y gogoniant , gyda derbyn wyneb . Oblegid os daw i mewn i’ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur , mewn dillad gwychion , a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael ; Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo’r dillad gwychion , a dywedyd wrtho , Eistedd di yma mewn lle da ; a dywedyd wrth y tlawd , Saf di yna , neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i : Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain ? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg ? Gwrandewch , fy mrodyr annwyl ; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd , ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef ? Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd . Onid yw’r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi , ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd ? Onid ydynt hwy’n cablu’r enw rhagorol , yr hwn a elwir arnoch chwi ? Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur , Câr dy gymydog fel ti dy hun ; da yr ydych yn gwneuthur : Eithr os derbyn wyneb yr ydych , yr ydych yn gwneuthur pechod , ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr . Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll , ac a ballo mewn un pwnc , y mae efe yn euog o’r cwbl . Canys y neb a ddywedodd , Na odineba , a ddywedodd hefyd , Na ladd . Ac os ti ni odinebi , eto a leddi , yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith . Felly dywedwch , ac felly gwnewch , megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid . Canys barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd ; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn . Pa fudd yw , fy mrodyr , o dywed neb fod ganddo ffydd , ac heb fod ganddo weithredoedd ? a ddichon ffydd ei gadw ef ? Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth , ac mewn eisiau beunyddiol ymborth , A dywedyd o un ohonoch wrthynt , Ewch mewn heddwch , ymdwymnwch , ac ymddigonwch ; eto heb roddi iddynt angenrheidiau’r corff ; pa les fydd ? Felly ffydd hefyd , oni bydd ganddi weithredoedd , marw ydyw , a hi yn unig . Eithr rhyw un a ddywed , Tydi ffydd sydd gennyt , minnau gweithredoedd sydd gennyf : dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd , a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau . Credu yr wyt ti mai un Duw sydd ; da yr wyt ti yn gwneuthur : y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu , ac yn crynu . Eithr a fynni di wybod , O ddyn ofer , am ffydd heb weithredoedd , mai marw yw ? Abraham ein tad ni , onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef , pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor ? Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef , a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio . A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd , Credodd Abraham i Dduw , a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder : a Chyfaill Duw y galwyd ef . Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn , ac nid o ffydd yn unig . Yr un ffunud hefyd , Rahab y butain , onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi , pan dderbyniodd hi’r cenhadau , a’u danfon ymaith ffordd arall ? Canys megis y mae’r corff heb yr ysbryd yn farw , felly hefyd ffydd heb weithredoedd , marw yw . Na fyddwch feistriaid lawer , fy mrodyr : gan wybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy . Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro . Od oes neb heb lithro ar air , gŵr perffaith yw hwnnw , yn gallu ffrwyno’r holl gorff hefyd . Wele , yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym mhennau’r meirch , i’w gwneuthur yn ufudd i ni ; ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddi amgylch . Wele , y llongau hefyd , er eu maint , ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon , a droir oddi amgylch â llyw bychan , lle y mynno’r llywydd . Felly hefyd y tafod , aelod bychan yw , ac yn ffrostio pethau mawrion . Wele , faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn ! A’r tafod , tân ydyw , byd o anghyfiawnder . Felly y mae’r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni , fel y mae yn halogi’r holl gorff , ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam ; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern . Canys holl natur gwylltfilod , ac adar , ac ymlusgiaid , a’r pethau yn y môr , a ddofir ac a ddofwyd gan natur ddynol : Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi ; drwg anllywodraethus ydyw , yn llawn gwenwyn marwol . Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a’r Tad ; ag ef hefyd yr ydym yn melltithio dynion , a wnaethpwyd ar lun Duw . O’r un genau y mae’n dyfod allan fendith a melltith . Fy mrodyr , ni ddylai’r pethau hyn fod felly . A ydyw ffynnon o’r un llygad yn rhoi dwfr melys a chwerw ? A ddichon y pren ffigys , fy mrodyr , ddwyn olifaid ? neu winwydden , ffigys ? felly ni ddichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroyw . Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith ? dangosed , trwy ymarweddiad da , ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb . Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon , na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd . Nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod ; ond daearol , anianol , cythreulig yw . Canys lle mae cenfigen ac ymryson , yno y mae terfysg , a phob gweithred ddrwg . Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod , yn gyntaf pur ydyw , wedi hynny heddychlon , boneddigaidd , hawdd ei thrin , llawn trugaredd a ffrwythau da , diduedd , a diragrith . A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch . O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi ? onid oddi wrth hyn , sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau ? Chwenychu yr ydych , ac nid ydych yn cael : cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu , ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd : ymladd a rhyfela yr ydych , ond nid ydych yn cael , am nad ydych yn gofyn . Gofyn yr ydych , ac nid ydych yn derbyn , oherwydd eich bod yn gofyn ar gam , fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau . Chwi odinebwyr a godinebwragedd , oni wyddoch chwi fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw ? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fod yn gyfaill i’r byd , y mae’n elyn i Dduw . A ydych chwi yn tybied fod yr ysgrythur yn dywedyd yn ofer , At genfigen y mae chwant yr ysbryd a gartrefa ynom ni ? Eithr rhoddi gras mwy y mae : oherwydd paham y mae yn dywedyd , Y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion , ond yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig . Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw . Gwrthwynebwch ddiafol , ac efe a ffy oddi wrthych . Nesewch at Dduw , ac efe a nesâ atoch chwi . Glanhewch eich dwylo , chwi bechaduriaid ; a phurwch eich calonnau , chwi â’r meddwl dauddyblyg . Ymofidiwch , a galerwch , ac wylwch : troer eich chwerthin chwi yn alar , a’ch llawenydd yn dristwch . Ymddarostyngwch gerbron yr Arglwydd , ac efe a’ch dyrchafa chwi . Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd , frodyr . Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd , ac yn barnu ei frawd , y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith , ac yn barnu’r gyfraith : ac od wyt ti yn barnu’r gyfraith , nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith , eithr barnwr . Un gosodwr cyfraith sydd , yr hwn a ddichon gadw a cholli . Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall ? Iddo yn awr , y rhai ydych yn dywedyd , Heddiw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas , ac a arhoswn yno flwyddyn , ac a farchnatawn , ac a enillwn : Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory . Canys beth ydyw eich einioes chwi ? Canys tarth ydyw , yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos , ac wedi hynny yn diflannu . Lle y dylech ddywedyd , Os yr Arglwydd a’i myn , ac os byddwn byw , ni a wnawn hyn , neu hynny . Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost : pob cyfryw orfoledd , drwg ydyw . Am hynny i’r neb a fedr wneuthur daioni , ac nid yw yn ei wneuthur , pechod ydyw iddo . Iddo yn awr , chwi gyfoethogion , wylwch ac udwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch . Eich cyfoeth a bydrodd , a’ch gwisgoedd a fwytawyd gan bryfed . Eich aur a’ch arian a rydodd ; a’u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi , ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân . Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf . Wele , y mae cyflog y gweithwyr , a fedasant eich meysydd chwi , yr hwn a gamataliwyd gennych , yn llefain : a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd . Moethus fuoch ar y ddaear , a thrythyll ; meithrin eich calonnau a wnaethoch , megis mewn dydd lladdedigaeth . Condemniasoch a lladdasoch y cyfiawn : ac yntau heb sefyll i’ch erbyn . Byddwch gan hynny yn ymarhous , frodyr , hyd ddyfodiad yr Arglwydd . Wele , y mae’r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear , yn dda ei amynedd amdano , nes iddo dderbyn y glaw cynnar a diweddar . Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd ; cadarnhewch eich calonnau : oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd . Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd , frodyr , fel na’ch condemnier : wele , y mae’r Barnwr yn sefyll wrth y drws . Cymerwch , fy mrodyr , y proffwydi , y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd , yn siampl o ddioddef blinder , ac o hirymaros . Wele , dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddioddefus . Chwi a glywsoch am amynedd Job , ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd : oblegid tosturiol iawn yw’r Arglwydd , a thrugarog . Eithr o flaen pob peth , fy mrodyr , na thyngwch , nac i’r nef , nac i’r ddaear , nac un llw arall : eithr bydded eich ie chwi yn ie , a’ch nage yn nage ; fel na syrthioch i farnedigaeth . A oes neb yn eich plith mewn adfyd ? gweddïed . A oes neb yn esmwyth arno ? caned salmau . A oes neb yn eich plith yn glaf ? galwed ato henuriaid yr eglwys ; a gweddïant hwy drosto , gan ei eneinio ef ag olew yn enw’r Arglwydd : A gweddi’r ffydd a iachâ’r claf , a’r Arglwydd a’i cyfyd ef i fyny ; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau , hwy a faddeuir iddo . Cyffeswch eich camweddau bawb i’ch gilydd , a gweddïwch dros eich gilydd , fel y’ch iachaer . Llawer a ddichon taer weddi’r cyfiawn . Eleias oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef fel ninnau , ac mewn gweddi efe a weddïodd na byddai law : ac ni bu glaw ar y ddaear dair blynedd a chwe mis . Ac efe a weddïodd drachefn ; a’r nef a roddes law , a’r ddaear a ddug ei ffrwyth . Fy mrodyr , od aeth neb ohonoch ar gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd , a throi o ryw un ef ; Gwybydded , y bydd i’r hwn a drodd bechadur oddi wrth gyfeiliorni ei ffordd , gadw enaid rhag angau , a chuddio lliaws o bechodau . </passage></reply></GetPassage>