<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:6</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:6</urn><passage>Ac wedi marwolaeth Moses , gwas yr Arglwydd , y llefarodd yr Arglwydd wrth Josua mab Nun , gweinidog Moses , gan ddywedyd , Moses fy ngwas a fu farw : gan hynny cyfod yn awr , dos dros yr Iorddonen hon , ti , a’r holl bobl hyn , i’r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy , meibion Israel . Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno , a roddais i chwi ; fel y lleferais wrth Moses . O’r anialwch , a’r Libanus yma , hyd yr afon fawr , afon Ewffrates , holl wlad yr Hethiaid , hyd y môr mawr , tua machludiad yr haul , fydd eich terfyn chwi . Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes : megis y bûm gyda Moses , y byddaf gyda thithau : ni’th adawaf , ac ni’th wrthodaf . Ymgryfha , ac ymwrola : canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu’r wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt . Yn unig ymgryfha , ac ymwrola yn lew , i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti : na ogwydda oddi wrthi , ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy ; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych . Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau , eithr myfyria ynddo ddydd a nos ; fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo : canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd , ac yna y ffynni . Oni orchmynnais i ti ? Ymgryfha , ac ymwrola ; nac arswyda , ac nac ofna : canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi , i ba le bynnag yr elych . Yna Josua a orchmynnodd i lywodraethwyr y bobl , gan ddywedyd , Tramwywch trwy ganol y llu , a gorchmynnwch i’r bobl , gan ddywedyd , Paratowch i chwi luniaeth : canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon , i ddyfod i feddiannu’r wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi i chwi i’w meddiannu . Wrth y Reubeniaid hefyd , ac wrth y Gadiaid , ac wrth hanner llwyth Manasse , y llefarodd Josua , gan ddywedyd , Cofiwch y gair a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi , gan ddywedyd , Yr Arglwydd eich Duw a esmwythaodd arnoch , ac a roddodd i chwi y wlad hon . Eich gwragedd , eich plant , a’ch anifeiliaid , a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o’r tu yma i’r Iorddonen : ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr , y sawl ydych gedyrn o nerth , a chynorthwywch hwynt ; Nes rhoddi o’r Arglwydd lonyddwch i’ch brodyr , fel i chwithau , a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt : yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth , a meddiennwch hi , yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi , o’r tu yma i’r Iorddonen , tua chodiad yr haul . Hwythau a atebasant Josua , gan ddywedyd , Ni a wnawn yr hyn oll a orchmynnaist i ni ; awn hefyd i ba le bynnag yr anfonych ni . Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth , felly y gwrandawn arnat tithau : yn unig bydded yr Arglwydd dy Dduw gyda thi , megis y bu gyda Moses . Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn , ac ni wrandawo ar dy ymadroddion , yn yr hyn oll a orchmynnych iddo , rhodder ef i farwolaeth : yn unig ymgryfha , ac ymwrola . A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau ŵr , i chwilio yn ddirgel , gan ddywedyd , Ewch , edrychwch y wlad , a Jericho . A hwy a aethant , ac a ddaethant i dŷ puteinwraig a’i henw Rahab , ac a letyasant yno . A mynegwyd i frenin Jericho , gan ddywedyd , Wele , gwŷr a ddaethant yma heno , o feibion Israel , i chwilio’r wlad . A brenin Jericho a anfonodd at Rahab , gan ddywedyd , Dwg allan y gwŷr a ddaeth atat , y rhai a ddaeth i’th dŷ di ; canys i chwilio yr holl wlad y daethant . Ond y wraig a gymerasai y ddau ŵr , ac a’u cuddiasai hwynt , ac a ddywedodd fel hyn ; Gwŷr a ddaeth ataf fi , ond ni wyddwn i o ba le y daethent hwy . A phan gaewyd y porth yn y tywyllwch , y gwŷr a aeth allan ; ni wn i ba le yr aeth y gwŷr : canlynwch yn fuan ar eu hôl hwynt ; canys chwi a’u goddiweddwch hwynt . Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ , ac a’u cuddiasai hwynt mewn bollteidiau llin , y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ . A’r gwŷr a ganlynasant ar eu hôl hwynt , tua’r Iorddonen , hyd y rhydau : a’r porth a gaewyd , cyn gynted ag yr aeth y rhai oedd yn erlid ar eu hôl hwynt allan . A chyn iddynt hwy gysgu , hi a aeth i fyny atynt hwy ar nen y tŷ : A hi a ddywedodd wrth y gwŷr , Mi a wn roddi o’r Arglwydd i chwi y wlad ; oherwydd eich arswyd chwi a syrthiodd arnom ni , a holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag eich ofn . Canys ni a glywsom fel y sychodd yr Arglwydd ddyfroedd y môr coch o’ch blaen chwi , pan ddaethoch allan o’r Aifft ; a’r hyn a wnaethoch i ddau frenin yr Amoriaid , y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen , sef i Sehon ac i Og , y rhai a ddifrodasoch chwi . A phan glywsom , yna y’n digalonnwyd , fel na safodd mwyach gysur yn neb , rhag eich ofn : canys yr Arglwydd eich Duw , efe sydd Dduw yn y nefoedd uchod , ac ar y ddaear isod . Yn awr gan hynny , tyngwch , atolwg , wrthyf , myn yr Arglwydd , oherwydd i mi wneuthur trugaredd â chwi , y gwnewch chwithau hefyd drugaredd â thŷ fy nhad innau ; ac y rhoddwch i mi arwydd gwir : Ac y cedwch yn fyw fy nhad , a’m mam , a’m brodyr , a’m chwiorydd , a’r hyn oll sydd ganddynt , ac y gwaredwch ein heinioes rhag angau . A’r gwŷr a ddywedasant wrthi , Ein heinioes a roddwn i farw drosoch , ( os chwi ni fynegwch ein neges hyn , ) pan roddo yr Arglwydd i ni y wlad hon , oni wnawn â chwi drugaredd a gwirionedd . Yna hi a’u gollyngodd hwynt i waered wrth raff trwy’r ffenestr : canys ei thŷ hi oedd ar fur y ddinas , ac ar y mur yr oedd hi yn trigo . A hi a ddywedodd wrthynt , Ewch i’r mynydd , rhag i’r erlidwyr gyfarfod â chwi : ac ymguddiwch yno dridiau , nes dychwelyd yr erlidwyr ; ac wedi hynny ewch i’ch ffordd . A’r gwŷr a ddywedasant wrthi , Dieuog fyddwn ni oddi wrth dy lw yma â’r hwn y’n tyngaist . Wele , pan ddelom ni i’r wlad , rhwym y llinyn yma o edau goch yn y ffenestr y gollyngaist ni i lawr trwyddi : casgl hefyd dy dad , a’th fam , a’th frodyr , a holl dylwyth dy dad , atat i’r tŷ yma . A phwy bynnag a êl o ddrysau dy dŷ di allan i’r heol , ei waed ef fydd ar ei ben ei hun , a ninnau a fyddwn ddieuog : a phwy bynnag fyddo gyda thi yn tŷ , bydded ei waed ef ar ein pennau ni , o bydd llaw arno ef . Ac os mynegi di ein neges hyn , yna y byddwn ddieuog oddi wrth dy lw â’r hwn y’n tyngaist . A hi a ddywedodd , Yn ôl eich geiriau , felly y byddo hynny . Yna hi a’u gollyngodd hwynt ; a hwy a aethant ymaith . A hi a rwymodd y llinyn coch yn y ffenestr . A hwy a aethant , ac a ddaethant i’r mynydd ; ac a arosasant yno dridiau , nes i’r erlidwyr ddychwelyd . A’r erlidwyr a’u ceisiasant ar hyd yr holl ffordd ; ond nis cawsant . Felly y ddau ŵr a ddychwelasant , ac a ddisgynasant o’r mynydd , ac a aethant drosodd , a daethant at Josua mab Nun ; a mynegasant iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddynt : A dywedasant wrth Josua , Yn ddiau yr Arglwydd a roddodd yr holl wlad yn ein dwylo ni ; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni . A Josua a gyfododd yn fore , a chychwynasant o Sittim , a daethant hyd yr Iorddonen , efe a holl feibion Israel : lletyasant yno , cyn iddynt fyned drosodd . Ac ymhen y tridiau , y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu ; Ac a orchmynasant i’r bobl , gan ddywedyd , Pan weloch chwi arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw , a’r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi ; yna cychwynnwch chwi o’ch lle , ac ewch ar ei hôl hi . Eto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau , ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur : na nesewch ati , fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi : canys ni thramwyasoch y ffordd hon o’r blaen . A Josua a ddywedodd wrth y bobl , Ymsancteiddiwch : canys yfory y gwna’r Arglwydd ryfeddodau yn eich mysg chwi . Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid , gan ddywedyd , Codwch arch y cyfamod , ac ewch drosodd o flaen y bobl . A hwy a godasant arch y cyfamod , ac a aethant o flaen y bobl . A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua , Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel : fel y gwypont , mai megis y bûm gyda Moses , y byddaf gyda thithau . Am hynny gorchymyn di i’r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfamod , gan ddywedyd , Pan ddeloch hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen , sefwch yn yr Iorddonen . A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel , Nesewch yma , a gwrandewch eiriau yr Arglwydd eich Duw . Josua hefyd a ddywedodd , Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi ; a chan yrru y gyr efe allan y Canaaneaid , a’r Hethiaid , a’r Hefiaid , a’r Pheresiaid , a’r Girgasiaid , yr Amoriaid hefyd , a’r Jebusiaid , o’ch blaen chwi . Wele arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o’ch blaen chwi i’r Iorddonen . Gan hynny cymerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel , un gŵr o bob llwyth . A phan orffwyso gwadnau traed yr offeiriaid , sydd yn dwyn arch Arglwydd IOR yr holl fyd , yn nyfroedd yr Iorddonen , yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod : hwy a safant yn bentwr . A phan gychwynnodd y bobl o’u pebyll , i fyned dros yr Iorddonen , a’r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfamod o flaen y bobl ; A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen , a gwlychu o draed yr offeiriaid , oedd yn dwyn yr arch , yng nghwr y dyfroedd , ( a’r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhaeaf , ) Yna y dyfroedd , y rhai oedd yn disgyn oddi uchod , a safasant ; cyfodasant yn bentwr ymhell iawn oddi wrth y ddinas Adam , yr hon sydd o ystlys Saretan : a’r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos , sef i’r môr heli , a ddarfuant ac a dorrwyd ymaith . Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho . A’r offeiriaid , y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd , a safasant ar dir sych , yng nghanol yr Iorddonen , yn daclus : a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych , nes darfod i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen . A Phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy’r Iorddonen , yr Arglwydd a lefarodd wrth Josua , gan ddywedyd , Cymerwch i chwi ddeuddengwr o’r bobl , un gŵr o bob llwyth ; A gorchmynnwch iddynt , gan ddywedyd , Cymerwch i chwi oddi yma , o ganol yr Iorddonen , o’r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus , ddeuddeg o gerrig ; a dygwch hwynt drosodd gyda chwi , a gosodwch hwynt yn y llety y lletyoch ynddo heno . Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a baratoesai efe o feibion Israel , un gŵr o bob llwyth : A dywedodd Josua wrthynt , Ewch trosodd o flaen arch yr Arglwydd eich Duw , trwy ganol yr Iorddonen ; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd , yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel : Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi , pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn , gan ddywedyd , Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddocau i chwi ? Yna y dywedwch wrthynt , Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr Arglwydd ; pan oedd hi yn myned trwy ’r Iorddonen , dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith . Y mae’r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth . A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua ; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen , fel y llefarasai yr Arglwydd wrth Josua , yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel , ac a’u dygasant drosodd gyda hwynt i’r llety ac a’u cyfleasant yno . A Josua a osododd i fyny ddeuddeg carreg yng nghanol yr Iorddonen , yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid , oedd yn dwyn arch y cyfamod , yn sefyll : ac y maent yno hyd y dydd hwn . A’r offeiriaid , y rhai oedd yn dwyn yr arch , a safasant yng nghanol yr Iorddonen , nes gorffen pob peth a orchmynasai yr Arglwydd i Josua ei lefaru wrth y bobl , yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses wrth Josua : a’r bobl a frysiasant , ac a aethant drosodd . A phan ddarfu i’r holl bobl fyned drosodd , yna arch yr Arglwydd a aeth drosodd , a’r offeiriaid , yng ngŵydd y bobl . Meibion Reuben hefyd , a meibion Gad , a hanner llwyth Manasse , a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel , fel y llefarasai Moses wrthynt : Ynghylch deugain mil , yn arfogion i ryfel , a aethant drosodd o flaen yr Arglwydd i ryfel , i rosydd Jericho . Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel ; a hwy a’i hofnasant ef , fel yr ofnasant Moses , holl ddyddiau ei einioes . A’r Arglwydd a lefarodd wrth Josua , gan ddywedyd , Gorchymyn i’r offeiriaid , sydd yn dwyn arch y dystiolaeth , ddyfod ohonynt i fyny allan o’r Iorddonen . Am hynny Josua a orchmynnodd i’r offeiriaid , gan ddywedyd , Deuwch i fyny allan o’r Iorddonen . A phan ddaeth yr offeiriaid , oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd , i fyny o ganol yr Iorddonen , a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir ; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i’w lle , ac a aethant , megis cynt , dros ei holl geulennydd . A’r bobl a ddaethant i fyny o’r Iorddonen y degfed dydd o’r mis cyntaf ; ac a wersyllasant yn Gilgal , yn eithaf tu dwyrain Jericho . A’r deuddeg carreg hynny , y rhai a ddygasent o’r Iorddonen , a sefydlodd Josua yn Gilgal . Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i’w tadau , gan ddywedyd , Beth yw y cerrig hyn ? Yna yr hysbyswch i’ch meibion , gan ddywedyd , Israel a ddaeth trwy’r Iorddonen hon ar dir sych . Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi , nes i chwi fyned drwodd ; megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r môr coch , yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni , nes i ni fyned drwodd : Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr Arglwydd , mai nerthol yw ; fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw bob amser . Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid , y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin , a holl frenhinoedd y Canaaneaid , y rhai oedd wrth y môr , sychu o’r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel , nes eu myned hwy drwodd ; yna y digalonnwyd hwynt , fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt , rhag ofn meibion Israel . Y pryd hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrth Josua , Gwna i ti gyllyll llymion , ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith . A Josua a wnaeth iddo gyllyll llymion , ac a enwaedodd ar feibion Israel , ym mryn y blaengrwyn . A dyma’r achos a wnaeth i Josua enwaedu : Yr holl bobl , sef y gwrywiaid y rhai a ddaethent o’r Aifft , yr holl ryfelwyr , a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd , wedi eu dyfod allan o’r Aifft . Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan , oedd enwaededig ; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch , ar y ffordd , wedi eu dyfod hwy allan o’r Aifft , nid enwaedasent arnynt . Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch , nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aifft , y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd : y rhai y tyngasai yr Arglwydd wrthynt , na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr Arglwydd wrth eu tadau y rhoddai efe i ni ; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl . A Josua a enwaedodd ar eu meibion hwy , y rhai a gododd yn eu lle hwynt : canys dienwaededig oeddynt hwy , am nad enwaedasid arnynt ar y ffordd . A phan ddarfu enwaedu ar yr holl bobl ; yna yr arosasant yn eu hunlle , yn y gwersyll , nes eu hiacháu . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Heddiw y treiglais ymaith waradwydd yr Aifft oddi arnoch : am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal , hyd y dydd heddiw . A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal : a hwy a gynaliasant y Pasg , ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis , brynhawn , yn rhosydd Jericho . A hwy a fwytasant o hen ŷd y wlad , drannoeth wedi’r Pasg , fara croyw , a chras ŷd , o fewn corff y dydd hwnnw . A’r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlad ; a manna ni chafodd meibion Israel mwyach , eithr bwytasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno . A phan oedd Josua wrth Jericho , yna efe a ddyrchafodd ei lygaid , ac a edrychodd ; ac wele ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef , â’i gleddyf noeth yn ei law . A Josua a aeth ato ef , ac a ddywedodd wrtho , Ai gyda ni yr ydwyt ti , ai gyda’n gwrthwynebwyr ? Dywedodd yntau , Nage ; eithr yn dywysog llu yr Arglwydd yn awr y deuthum . A Josua a syrthiodd i lawr ar ei wyneb , ac a addolodd ; ac a ddywedodd wrtho ef , Beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei was ? A thywysog llu yr Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Datod dy esgidiau oddi am dy draed : canys y lle yr wyt ti yn sefyll arno , sydd sanctaidd . A Josua a wnaeth felly . A Jericho oedd gaeëdig a gwarchaeëdig , oherwydd meibion Israel : nid oedd neb yn myned allan , nac yn dyfod i mewn . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Gwêl , rhoddais yn dy law di Jericho a’i brenin , gwŷr grymus o nerth . A chwi a amgylchwch y ddinas , chwi ryfelwyr oll , gan fyned o amgylch y ddinas un waith : gwnewch felly chwe diwrnod . A dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch : a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith ; a lleisied yr offeiriaid â’r utgyrn . A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd , a phan glywoch sain yr utgorn , bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel : a syrth mur y ddinas dani hi , ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer . A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid , ac a ddywedodd wrthynt , Codwch arch y cyfamod , a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd . Ac efe a ddywedodd wrth y bobl , Cerddwch , ac amgylchwch y ddinas ; a’r hwn sydd arfog , eled o flaen arch yr Arglwydd . A phan ddywedodd Josua wrth y bobl , yna y saith offeiriad , y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod , a gerddasant o flaen yr Arglwydd , ac a leisiasant â’r utgyrn : ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hôl hwynt . A’r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â’r utgyrn ; a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch , a’r offeiriaid yn myned rhagddynt , ac yn lleisio â’r utgyrn . A Josua a orchmynasai i’r bobl , gan ddywedyd , Na floeddiwch , ac na edwch glywed eich llais , ac nac eled gair allan o’ch genau , hyd y dydd y dywedwyf wrthych , Bloeddiwch ; yna y bloeddiwch . Felly arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas , gan fyned o’i hamgylch un waith : a daethant i’r gwersyll , a lletyasant yn y gwersyll . A Josua a gyfododd yn fore ; a’r offeiriaid a ddygasant arch yr Arglwydd . A’r saith offeiriad , yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd , oeddynt yn myned dan gerdded , ac yn lleisio â’r utgyrn : a’r rhai arfog oedd yn myned o’u blaen hwynt : a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr Arglwydd , a’r offeiriaid yn myned rhagddynt , ac yn lleisio â’r utgyrn . Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd ; a dychwelasant i’r gwersyll : fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod . Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr , ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw , saith waith : yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith . A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith , yna Josua a ddywedodd wrth y bobl , Bloeddiwch ; canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi . A’r ddinas fydd yn ddiofryd‐beth , hi , a’r hyn oll sydd ynddi , i’r Arglwydd : yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw , hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni . Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y diofryd‐beth , rhag eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd‐beth , os cymerwch o’r diofryd‐beth ; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddiofryd‐beth , ac y trallodech hi . Ond yr holl arian a’r aur , a’r llestri pres a haearn , fyddant gysegredig i’r Arglwydd : deled y rhai hynny i mewn i drysor yr Arglwydd . A bloeddiodd y bobl , pan leisiasant â’r utgyrn . A phan glybu y bobl lais yr utgyrn , yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel ; a’r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd . Felly y bobl a aethant i fyny i’r ddinas , pob un ar ei gyfer , ac a enillasant y ddinas . A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas , yn ŵr ac yn wraig , yn fachgen ac yn hynafgwr , yn eidion , ac yn ddafad , ac yn asyn , â min y cleddyf . A Josua a ddywedodd wrth y ddau ŵr a fuasai yn edrych ansawdd y wlad , Ewch i dŷ y buteinwraig , a dygwch allan oddi yno y wraig , a’r hyn oll sydd iddi , fel y tyngasoch wrthi . Felly y llanciau a fuasai yn edrych ansawdd y wlad , a aethant i mewn , ac a ddygasant allan Rahab , a’i thad , a’i mam , a’i brodyr , a chwbl a’r a feddai hi : dygasant allan hefyd ei holl dylwyth hi , a gosodasant hwynt o’r tu allan i wersyll Israel . A llosgasant y ddinas â thân , a’r hyn oll oedd ynddi : yn unig yr arian a’r aur , a’r llestri pres a haearn , a roddasant hwy yn nhrysor yr Arglwydd . A Josua a gadwodd yn fyw Rahab y buteinwraig , a thylwyth ei thad , a’r hyn oll oedd ganddi ; a hi a drigodd ymysg Israel hyd y dydd hwn : am iddi guddio’r cenhadau a anfonasai Josua i chwilio Jericho . A Josua a’u tynghedodd hwy y pryd hwnnw , gan ddywedyd , Melltigedig gerbron yr Arglwydd fyddo y gŵr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon Jericho : yn ei gyntaf‐anedig y seilia efe hi , ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi . Felly yr Arglwydd oedd gyda Josua ; ac aeth ei glod ef trwy’r holl wlad . Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y diofryd‐beth : canys Achan mab Carmi , mab Sabdi , mab Sera , o lwyth Jwda , a gymerodd o’r diofryd‐beth : ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn meibion Israel . A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai , yr hon sydd wrth Bethafen , o du’r dwyrain i Bethel , ac a lefarodd wrthynt , gan ddywedyd , Ewch i fyny , ac edrychwch y wlad . A’r gwŷr a aethant i fyny , ac a edrychasant ansawdd Ai . A hwy a ddychwelasant at Josua , ac a ddywedasant wrtho . Nac eled yr holl bobl i fyny ; ond ynghylch dwy fil o wŷr , neu dair mil o wŷr , a ânt i fyny , ac a drawant Ai : na phoenwch yr holl bobl yno ; canys ychydig ydynt hwy . Felly fe a aeth o’r bobl i fyny yno ynghylch tair mil o wŷr : a hwy a ffoesant o flaen gwŷr Ai . A gwŷr Ai a drawsant ynghylch un gŵr ar bymtheg ar hugain ohonynt ; ac a’u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim , a thrawsant hwynt yn y goriwaered : am hynny y toddodd calonnau y bobl , ac yr aethant fel dwfr . A Josua a rwygodd ei ddillad , ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr Arglwydd , hyd yr hwyr , efe a henuriaid Israel , ac a ddodasant lwch ar eu pennau . A dywedodd Josua , Ah , ah , O Arglwydd IOR , i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen , i’n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid , i’n difetha ? O na buasem fodlon , ac na thrigasem tu hwnt i’r Iorddonen ! O Arglwydd , beth a ddywedaf , pan dry Israel ei war o flaen ei elynion ! Canys y Canaaneaid , a holl drigolion y wlad , a glywant , ac a’n hamgylchynant , ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear : a pha beth a wnei i’th enw mawr ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Cyfod ; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb ? Israel a bechodd , a throseddasant fy nghyfamod a orchmynnais iddynt : cymerasant hefyd o’r diofryd‐beth , lladratasant , a gwadasant ; gosodasant hefyd hynny ymysg eu dodrefn eu hun . Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion , eithr troant eu gwar o flaen eu gelynion ; am eu bod yn ysgymunbeth : ni byddaf mwyach gyda chwi , oni ddifethwch yr ysgymunbeth o’ch mysg . Cyfod , sancteiddia y bobl , a dywed , Ymsancteiddiwch erbyn yfory : canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel ; Diofryd‐beth sydd yn dy blith di , O Israel : ni elli sefyll yn wyneb dy elynion , nes tynnu ymaith y diofryd‐beth o’ch mysg . Am hynny nesewch y bore wrth eich llwythau : a’r llwyth a ddalio yr Arglwydd , nesaed bob yn deulu ; a’r teulu a ddalio yr Arglwydd , nesaed bob yn dŷ ; a’r tŷ a ddalio yr Arglwydd , nesaed bob yn ŵr . A’r hwn a ddelir a’r diofryd‐beth ganddo , a losgir â thân , efe ac oll sydd ganddo : oherwydd iddo droseddu cyfamod yr Arglwydd , ac oherwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel . Felly Josua a gyfododd yn fore , ac a ddug Israel wrth eu llwythau : a llwyth Jwda a ddaliwyd . Ac efe a ddynesodd deulu Jwda ; a daliwyd teulu y Sarhiaid : ac efe a ddynesodd deulu y Sarhiaid bob yn ŵr ; a daliwyd Sabdi : Ac efe a ddynesodd ei dyaid ef bob yn ŵr ; a daliwyd Achan mab Carmi , mab Sabdi , mab Sera , o lwyth Jwda . A Josua a ddywedodd wrth Achan , Fy mab , atolwg , dyro ogoniant i Arglwydd Dduw Israel , a chyffesa iddo ; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost : na chela oddi wrthyf . Ac Achan a atebodd Josua , ac a ddywedodd , Yn wir myfi a bechais yn erbyn Arglwydd Dduw Israel ; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum . Pan welais ymysg yr ysbail fantell Fabilonig deg , a dau can sicl o arian , ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys ; yna y chwenychais hwynt , ac a’u cymerais : ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear yng nghanol fy mhabell , a’r arian danynt . Yna Josua a anfonodd genhadau ; a hwy a redasant i’r babell : ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef , a’r arian danynt . Am hynny hwy a’u cymerasant o ganol y babell , ac a’u dygasant at Josua , ac at holl feibion Israel ; ac a’u gosodasant hwy o flaen yr Arglwydd . A Josua a gymerth Achan mab Sera , a’r arian , a’r fantell , a’r llafn aur , ei feibion hefyd , a’i ferched , a’i wartheg , a’i asynnod , ei ddefaid hefyd , a’i babell , a’r hyn oll a feddai efe : a holl Israel gydag ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor . A Josua a ddywedodd , Am i ti ein blino ni , yr Arglwydd a’th flina dithau y dydd hwn . A holl Israel a’i llabyddiasant ef â meini , ac a’u llosgasant hwy â thân , wedi eu llabyddio â meini . A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn . Felly y dychwelodd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint . Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor , hyd y dydd hwn . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Nac ofna , ac nac arswyda : cymer gyda thi yr holl bobl o ryfel , a chyfod , dos i fyny i Ai : gwêl , mi a roddais yn dy law di frenin Ai , a’i bobl , ei ddinas hefyd , a’i wlad . A thi a wnei i Ai a’i brenin , megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenin : eto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain : gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas , o’r tu cefn iddi . Yna Josua a gyfododd , a’r holl bobl o ryfel , i fyned i fyny i Ai : a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol , ac a’u hanfonodd ymaith liw nos : Ac efe a orchmynnodd iddynt , gan ddywedyd , Gwelwch , chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas , o’r tu cefn i’r ddinas : nac ewch ymhell iawn oddi wrth y ddinas , ond byddwch bawb oll yn barod . Minnau hefyd , a’r holl bobl sydd gyda mi , a nesawn at y ddinas : a phan ddelont allan i’n cyfarfod ni , megis y waith gyntaf , yna ni a ffown o’u blaen hwynt , ( Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni , ) nes i ni eu tynnu hwynt allan o’r ddinas ; oblegid hwy a ddywedant , Ffoi y maent o’n blaen ni , fel y waith gyntaf : felly y ffown o’u blaen hwynt . Yna chwi a godwch o’r cynllwyn , ac a oresgynnwch y ddinas : canys yr Arglwydd eich Duw a’i dyry hi yn eich llaw chwi . A phan enilloch y ddinas , llosgwch y ddinas â thân : gwnewch yn ôl gair yr Arglwydd . Gwelwch , mi a orchmynnais i chwi . Felly Josua a’u hanfonodd ; a hwy a aethant i gynllwyn , ac a arosasant rhwng Bethel ac Ai , o du’r gorllewin i Ai : a Josua a letyodd y noson honno ymysg y bobl . A Josua a gyfododd yn fore , ac a gyfrifodd y bobl ; ac a aeth i fyny , efe a henuriaid Israel , o flaen y bobl , tuag at Ai . A’r holl bobl o ryfel , y rhai oedd gydag ef , a aethant i fyny , ac a nesasant ; daethant hefyd gyferbyn â’r ddinas , a gwersyllasant o du’r gogledd i Ai : a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai . Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr , ac a’u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai , o du’r gorllewin i’r ddinas . A’r bobl a osodasant yr holl wersyllau , y rhai oedd o du’r gogledd i’r ddinas , a’r cynllwynwyr o du’r gorllewin i’r ddinas : a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn . A phan welodd brenin Ai hynny , yna gwŷr y ddinas a frysiasant , ac a foregodasant , ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel , efe a’i holl bobl , ar amser nodedig , ar hyd wyneb y gwastadedd : canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo , o’r tu cefn i’r ddinas . A Josua a holl Israel , fel pe trawsid hwy o’u blaen hwynt , a ffoesant ar hyd yr anialwch . A’r holl bobl , y rhai oedd yn y ddinas , a alwyd ynghyd , i erlid ar eu hôl hwynt : a hwy a erlidiasant ar ôl Josua , ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas . Ac ni adawyd gŵr yn Ai , nac yn Bethel , a’r nad aethant allan ar ôl Israel : a gadawsant y ddinas yn agored , ac erlidiasant ar ôl Israel . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai : canys yn dy law di y rhoddaf hi . A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua’r ddinas . A’r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o’u lle , ac a redasant , pan estynnodd efe ei law : daethant hefyd i’r ddinas , ac enillasant hi ; ac a frysiasant , ac a losgasant y ddinas â thân . A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl , ac a edrychasant ; ac wele , mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd ; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac acw : canys y bobl y rhai a ffoesent i’r anialwch , a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid . A phan welodd Josua a holl Israel i’r cynllwynwyr ennill y ddinas , a dyrchafu o fwg y ddinas , yna hwy a ddychwelasant , ac a drawsant wŷr Ai . A’r lleill a aethant allan o’r ddinas i’w cyfarfod ; felly yr oeddynt yng nghanol Israel , y rhai hyn o’r tu yma , a’r lleill o’r tu acw : a thrawsant hwynt , fel na adawyd un yng ngweddill nac yn ddihangol ohonynt . A brenin Ai a ddaliasant hwy yn fyw ; a dygasant ef at Josua . Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes , yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt , a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf , nes eu darfod ; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai , a thrawsant hi â min y cleddyf . A chwbl a’r a syrthiasant y dwthwn hwnnw , yn wŷr ac yn wragedd , oeddynt ddeuddeng mil ; sef holl wŷr Ai . Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hôl , yr hon a estynasai efe gyda’r waywffon , nes difetha holl drigolion Ai . Yn unig yr anifeiliaid , ac anrhaith y ddinas , a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun ; yn ôl gair yr Arglwydd , yr hwn a orchmynasai efe i Josua . A Josua a losgodd Ai , ac a’i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd , ac yn ddiffeithwch hyd y dydd hwn . Ac efe a grogodd frenin Ai ar bren hyd yr hwyr : ac wedi machlud haul , y gorchmynnodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren , a’i bwrw i ddrws porth y ddinas ; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn . Yna Josua a adeiladodd allor i Arglwydd Dduw Israel ym mynydd Ebal , Megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd i feibion Israel , fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses , allor o gerrig cyfain , y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt : a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i’r Arglwydd , ac a aberthasant ebyrth hedd . Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses , yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel . A holl Israel , a’u henuriaid , eu swyddogion hefyd , a’u barnwyr , oedd yn sefyll oddeutu yr arch , gerbron yr offeiriaid y Lefiaid , y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd , yn gystal yr estron a’r priodor : eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim , a’u hanner ar gyfer mynydd Ebal ; fel y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd o’r blaen fendithio pobl Israel . Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith , y fendith a’r felltith , yn ôl y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith . Nid oedd air o’r hyn oll a orchmynasai Moses , a’r nas darllenodd Josua gerbron holl gynulleidfa Israel , a’r gwragedd , a’r plant , a’r dieithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt . Wedi clywed hyn o’r holl frenhinoedd , y rhai oedd o’r tu yma i’r Iorddonen , yn y mynydd , ac yn y gwastadedd , ac yn holl lannau y môr mawr , ar gyfer Libanus ; sef yr Hethiaid , a’r Amoriaid , a’r Canaaneaid , a’r Pheresiaid , a’r Hefiaid , a’r Jebusiaid ; Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua , ac yn erbyn Israel , o unfryd . A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai . A hwy a wnaethant yn gyfrwys , ac a aethant , ac a ymddangosasant fel cenhadon : cymerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynnod , a hen gostrelau gwin , wedi eu hollti hefyd , ac wedi eu rhwymo , A hen esgidiau baglog am eu traed , a hen ddillad amdanynt ; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd : Ac a aethant at Josua i’r gwersyll i Gilgal ; a dywedasant wrtho ef , ac wrth wŷr Israel , O wlad bell y daethom : ac yn awr gwnewch gyfamod â ni . A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid , Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo ; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfamod â thi ? A hwy a ddywedasant wrth Josua , Dy weision di ydym ni . A Josua a ddywedodd wrthynt , Pwy ydych ? ac o ba le y daethoch ? A hwy a ddywedasant wrtho , Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn , oherwydd enw yr Arglwydd dy Dduw : canys ni a glywsom ei glod ef , a’r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aifft ; A’r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenin yr Amoriaid , y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen ; i Sehon brenin Hesbon , ac i Og brenin Basan , yr hwn oedd yn Astaroth . Am hynny ein henuriaid ni , a holl breswylwyr ein gwlad , a lefarasant wrthym ni , gan ddywedyd , Cymerwch luniaeth gyda chwi i’r daith , ac ewch i’w cyfarfod hwynt ; a dywedwch wrthynt , Eich gweision ydym : yn awr gan hynny gwnewch gyfamod â ni . Dyma ein bara ni : yn frwd y cymerasom ef yn lluniaeth o’n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod atoch ; ac yn awr , wele , sych a brithlwyd yw . Dyma hefyd y costrelau gwin a lanwasom yn newyddion ; ac wele hwynt wedi hollti : ein dillad hyn hefyd a’n hesgidiau a heneiddiasant , rhag meithed y daith . A’r gwŷr a gymerasant o’u hymborth hwynt , ac nid ymgyngorasant â genau yr Arglwydd . Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt , ac a wnaeth gyfamod â hwynt , ar eu cadw hwynt yn fyw : tywysogion y gynulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt . Ond ymhen y tridiau wedi iddynt wneuthur cyfamod â hwynt , hwy a glywsant mai cymdogion iddynt oeddynt hwy , ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros . A meibion Israel a gychwynasant , ac a ddaethant i’w dinasoedd hwynt y trydydd dydd : a’u dinasoedd hwynt oedd Gibeon , a Cheffira , Beeroth hefyd , a Chiriathjearim . Ond ni thrawodd meibion Israel mohonynt hwy ; oblegid tywysogion y gynulleidfa a dyngasai wrthynt myn Arglwydd Dduw Israel : a’r holl gynulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion . A’r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynulleidfa , Ni a dyngasom wrthynt i Arglwydd Dduw Israel : am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt . Hyn a wnawn ni iddynt hwy : Cadwn hwynt yn fyw , fel na byddo digofaint arnom ni ; oherwydd y llw a dyngasom wrthynt . A’r tywysogion a ddywedasant wrthynt , Byddant fyw , ( ond byddant yn torri cynnud , ac yn tynnu dwfr i’r holl gynulleidfa , ) fel y dywedasai’r tywysogion wrthynt . Yna Josua a alwodd arnynt ; ac a lefarodd wrthynt , gan ddywedyd , Paham y twyllasoch ni , gan ddywedyd , Pell iawn ydym ni oddi wrthych ; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni ? Yn awr gan hynny melltigedig ydych : ac ni ddianc un ohonoch rhag bod yn gaethweision , ac yn torri cynnud , ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw . A hwy a atebasant Josua , ac a ddywedasant , Yn ddiau gan fynegi y mynegwyd i’th weision , ddarfod i’r Arglwydd dy Dduw orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon , a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi ; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes , ac y gwnaethom y peth hyn . Ac yn awr , wele ni yn dy law di : fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni , gwna . Ac felly y gwnaeth efe iddynt ; ac a’u gwaredodd hwynt o law meibion Israel , fel na laddasant hwynt . A Josua a’u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymynwyr coed , ac yn wehynwyr dwfr , i’r gynulleidfa , ac i allor yr Arglwydd , hyd y dydd hwn , yn y lle a ddewisai efe . A Phan glybu Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai , a’i difrodi hi , ( fel y gwnaethai efe i Jericho ac i’w brenin , felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenin , ) a heddychu o drigolion Gibeon ag Israel , a’u bod yn eu mysg hwynt : Yna yr ofnasant yn ddirfawr ; oblegid dinas fawr oedd Gibeon , fel un o’r dinasoedd brenhinol ; ac oherwydd ei bod yn fwy nag Ai ; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn . Am hynny Adonisedec brenin Jerwsalem a anfonodd at Hoham brenin Hebron , ac at Piram brenin Jarmuth , ac at Jaffia brenin Lachis , ac at Debir brenin Eglon , gan ddywedyd . Deuwch i fyny ataf fi , a chynorthwywch fi , fel y trawom ni Gibeon : canys hi a heddychodd â Josua , ac â meibion Israel . Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ymgynullasant , ac a ddaethant i fyny , sef brenin Jerwsalem , brenin Hebron , brenin Jarmuth , brenin Lachis , a brenin Eglon , hwynt‐hwy a’u holl fyddinoedd , ac a wersyllasant wrth Gibeon , ac a ryfelasant yn ei herbyn hi . A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal , gan ddywedyd , Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision : tyred i fyny yn fuan atom ni , achub ni hefyd , a chynorthwya ni : canys holl frenhinoedd yr Amoriaid , y rhai sydd yn trigo yn y mynydd‐dir , a ymgynullasant i’n herbyn ni . Felly Josua a esgynnodd o Gilgal , efe a’r holl bobl o ryfel gydag ef , a’r holl gedyrn nerthol . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua , Nac ofna rhagddynt : canys yn dy law di y rhoddais hwynt ; ni saif neb ohonynt yn dy wyneb di . Josua gan hynny a ddaeth yn ddiatreg atynt hwy : canys ar hyd y nos yr aeth efe i fyny o Gilgal . A’r Arglwydd a’u drylliodd hwynt o flaen Israel , ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon , ac a’u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fyny i Beth‐horon , ac a’u trawodd hwynt hyd Aseca , ac hyd Macceda . A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel , a hwy yng ngoriwaered Beth‐horon , yr Arglwydd a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o’r nefoedd hyd Aseca ; a buant feirw : amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg , na’r rhai a laddodd meibion Israel â’r cleddyf . Llefarodd Josua wrth yr Arglwydd y dydd y rhoddodd yr Arglwydd yr Amoriaid o flaen meibion Israel : ac efe a ddywedodd yng ngolwg Israel , O haul , aros yn Gibeon ; a thithau , leuad , yn nyffryn Ajalon . A’r haul a arhosodd , a’r lleuad a safodd , nes i’r genedl ddial ar eu gelynion . Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn ? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd , ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan . Ac ni bu y fath ddiwrnod â hwnnw o’i flaen ef , nac ar ei ôl ef , fel y gwrandawai yr Arglwydd ar lef dyn : canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel . A Josua a ddychwelodd , a holl Israel gydag ef , i’r gwersyll i Gilgal . Ond y pum brenin hynny a ffoesant , ac a ymguddiasant mewn ogof ym Macceda . A mynegwyd i Josua , gan ddywedyd , Y pum brenin a gafwyd ynghudd mewn ogof ym Macceda . A dywedodd Josua , Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof , a gosodwch wrthi wŷr i’w cadw hwynt : Ac na sefwch chwi ; erlidiwch ar ôl eich gelynion , a threwch y rhai olaf ohonynt ; na adewch iddynt fyned i’w dinasoedd : canys yr Arglwydd eich Duw a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi . A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn , nes eu difa ; yna y gweddillion a adawsid ohonynt a aethant i’r dinasoedd caerog . A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch , heb symud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel . A Josua a ddywedodd , Agorwch enau yr ogof , a dygwch allan y pum brenin hynny ataf fi o’r ogof . A hwy a wnaethant felly , ac a ddygasant allan y pum brenin ato ef o’r ogof ; sef brenin Jerwsalem , brenin Hebron , brenin Jarmuth , brenin Lachis , a brenin Eglon . A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua , yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel , ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr , y rhai a aethai gydag ef , Nesewch , gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn . A hwy a nesasant , ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt . A Josua a ddywedodd wrthynt , Nac ofnwch , ac nac arswydwch ; eithr ymwrolwch , ac ymegnïwch : canys fel hyn y gwna yr Arglwydd i’ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i’w herbyn . Ac wedi hyn Josua a’u trawodd hwynt , ac a’u rhoddodd i farwolaeth , ac a’u crogodd hwynt ar bum pren : a buant ynghrog ar y prennau hyd yr hwyr . Ac ym mhryd machludo haul , y gorchmynnodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau , a’u bwrw hwynt i’r ogof yr ymguddiasant ynddi ; a bwriasant gerrig mawrion yng ngenau yr ogof , y rhai sydd yno hyd gorff y dydd hwn . Josua hefyd a enillodd Macceda y dwthwn hwnnw , ac a’i trawodd hi â min y cleddyf , ac a ddifrododd ei brenin hi , hwynt‐hwy , a phob enaid ag oedd ynddi ; ni adawodd efe un gweddill : canys efe a wnaeth i frenin Macceda , fel y gwnaethai i frenin Jericho . Yna yr aeth Josua a holl Israel gydag ef o Macceda i Libna , ac a ymladdodd yn erbyn Libna . A’r Arglwydd a’i rhoddodd hithau , a’i brenin , yn llaw Israel ; ac yntau a’i trawodd hi â min y cleddyf , a phob enaid a’r oedd ynddi ; ni adawodd ynddi un yng ngweddill : canys efe a wnaeth i’w brenin hi fel y gwnaethai i frenin Jericho . A Josua a dramwyodd , a holl Israel gydag ef , o Libna i Lachis ; ac a wersyllodd wrthi , ac a ymladdodd i’w herbyn . A’r Arglwydd a roddodd Lachis yn llaw Israel ; yr hwn a’i henillodd hi yr ail ddydd , ac a’i trawodd hi â min y cleddyf , a phob enaid ag oedd ynddi , yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Libna . Yna Horam brenin Geser a ddaeth i fyny i gynorthwyo Lachis : a Josua a’i trawodd ef a’i bobl , fel na adawyd iddo ef un yng ngweddill . A Josua a dramwyodd , a holl Israel gydag ef , o Lachis i Eglon : a hwy a wersyllasant wrthi , ac a ymladdasant i’w herbyn . A hwy a’i henillasant hi y diwrnod hwnnw , ac a’i trawsant hi â min y cleddyf ; ac efe a ddifrododd bob enaid a’r oedd ynddi y dwthwn hwnnw , yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis . A Josua a esgynnodd , a holl Israel gydag ef , o Eglon i Hebron ; a hwy a ryfelasant i’w herbyn . A hwy a’i henillasant hi , ac a’i trawsant hi â min y cleddyf , a’i brenin , a’i holl ddinasoedd , a phob enaid ag oedd ynddi ; ni adawodd efe un yng ngweddill , yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon : canys efe a’i difrododd hi , a phob enaid ag oedd ynddi . A Josua a ddychwelodd , a holl Israel gydag ef , i Debir ; ac a ymladdodd i’w herbyn . Ac efe a’i henillodd hi , ei brenin , a’i holl ddinasoedd ; a hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf , ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi ; ni adawodd efe un yng ngweddill : fel y gwnaethai efe i Hebron , felly y gwnaeth efe i Debir , ac i’w brenin ; megis y gwnaethai efe i Libna , ac i’w brenin . Felly y trawodd Josua yr holl fynydd‐dir , a’r deau , y gwastadedd hefyd , a’r bronnydd , a’u holl frenhinoedd : ni adawodd efe un yng ngweddill ; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl , fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel . A Josua a’u trawodd hwynt o Cades‐Barnea , hyd Gasa , a holl wlad Gosen , hyd Gibeon . Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a’u gwledydd a enillodd Josua ar unwaith : canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd dros Israel . Yna y dychwelodd Josua , a holl Israel gydag ef , i’r gwersyll yn Gilgal . A Phan glybu Jabin brenin Hasor y pethau hynny , efe a anfonodd at Jobab brenin Madon , ac at frenin Simron , ac at frenin Achsaff , Ac at y brenhinoedd oedd o du y gogledd yn y mynydd‐dir , ac yn y rhostir tua’r deau i Cinneroth , ac yn y dyffryn , ac yn ardaloedd Dor tua’r gorllewin ; At y Canaaneaid o’r dwyrain a’r gorllewin , ac at yr Amoriaid , a’r Hethiaid , a’r Pheresiaid , a’r Jebusiaid , yn y mynydd‐dir , ac at yr Hefiaid dan Hermon , yng ngwlad Mispe . A hwy a aethant allan , a’u holl fyddinoedd gyda hwynt , pobl lawer , fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra ; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn . A’r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant ; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom , i ymladd yn erbyn Israel . A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua , Nac ofna rhagddynt hwy : canys yfory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel : llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri , a’u cerbydau a losgi di â thân . Felly Josua a ddaeth a’r holl bobl o ryfel gydag ef , yn ddisymwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Meron ; a hwy a ruthrasant arnynt . A’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel ; a hwy a’u trawsant hwynt , ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr , ac hyd Misreffoth‐maim , ac hyd glyn Mispe o du y dwyrain ; a hwy a’u trawsant hwynt , fel na adawodd efe ohonynt un yng ngweddill . A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr Arglwydd iddo : llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe , a’u cerbydau a losgodd â thân . A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd , ac a enillodd Hasor , ac a drawodd ei brenin hi â’r cleddyf : canys Hasor o’r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny . Trawsant hefyd bob enaid a’r oedd ynddi â min y cleddyf , gan eu difrodi hwynt : ni adawyd un perchen anadl : ac efe a losgodd Hasor â thân . A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny , a’u holl frenhinoedd hwynt , a enillodd Josua , ac a’u trawodd â min y cleddyf , gan eu difrodi hwynt : megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd . Ond ni losgodd Israel yr un o’r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid ; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua . A holl anrhaith y dinasoedd hynny , a’r anifeiliaid , a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun : yn unig pob dyn a drawsant hwy â min y cleddyf , nes iddynt eu difetha ; ni adawsant berchen anadl . Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses ei was , felly y gorchmynnodd Moses i Josua , ac felly y gwnaeth Josua ; ni adawodd efe ddim o’r hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd i Moses . Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw , y mynyddoedd , a’r holl ddeau , a holl wlad Gosen , a’r dyffryn , a’r gwastadedd , a mynydd Israel , a’i ddyffryn ; O fynydd Halac , yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir , hyd Baal‐Gad , yng nglyn Libanus , dan fynydd Hermon : a’u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe ; trawodd hwynt hefyd , ac a’u rhoddodd i farwolaeth . Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer . Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel , heblaw yr Hefiaid preswylwyr Gibeon ; yr holl rai eraill a enillasant hwy trwy ryfel . Canys o’r Arglwydd yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel , fel y difrodai efe hwynt , ac na fyddai iddynt drugaredd ; ond fel y difethai efe hwynt , fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses . A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd‐dir , o Hebron , o Debir , o Anab , ac o holl fynyddoedd Jwda , ac o holl fynyddoedd Israel : Josua a’u difrododd hwynt a’u dinasoedd . Ni adawyd un o’r Anaciaid yng ngwlad meibion Israel : yn unig yn Gasa , yn Gath , ac yn Asdod , y gadawyd hwynt . Felly Josua a enillodd yr holl wlad , yn ôl yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses ; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel , yn ôl eu rhannau hwynt , trwy eu llwythau . A’r wlad a orffwysodd heb ryfel . Dyma frenhinoedd y wlad , y rhai a drawodd meibion Israel , ac a feddianasant eu gwlad hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua chodiad yr haul ; o afon Arnon hyd fynydd Hermon , a’r holl wastadedd tua’r dwyrain : Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon , ac yn arglwyddiaethu o Aroer , yr hon sydd ar fin yr afon Arnon , ac o ganol yr afon , ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc , ym mro meibion Ammon ; Ac o’r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain , ac hyd fôr y gwastadedd , sef y môr heli , o du y dwyrain , tua Beth‐jesimoth ; ac o du y deau , dan Asdoth‐Pisga : A goror Og brenin Basan , yr hwn oedd o weddill y cewri , ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei ; Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon , ac yn Salcha , ac yn holl Basan , hyd derfyn y Gesuriaid , a’r Maachathiaid , a hanner Gilead , terfyn Sehon brenin Hesbon . Moses gwas yr Arglwydd a meibion Israel a’u trawsant hwy : a Moses gwas yr Arglwydd a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid , ac i’r Gadiaid , ac i hanner llwyth Manasse . Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin , o Baal‐Gad , yng nglyn Libanus , hyd fynydd Halac , yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir ; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau ; Yn y mynydd , ac yn y dyffryn , ac yn y gwastadedd , ac yn y bronnydd , ac yn yr anialwch , ac yn y deau ; yr Hethiaid , yr Amoriaid , a’r Canaaneaid , y Pheresiaid , yr Hefiaid , a’r Jebusiaid : Brenin Jericho , yn un ; brenin Ai , yr hwn oedd o ystlys Bethel , yn un ; Brenin Jerwsalem , yn un ; brenin Hebron , yn un ; Brenin Jarmuth , yn un ; brenin Lachis , yn un ; Brenin Eglon , yn un ; brenin Geser , yn un ; Brenin Debir , yn un ; brenin Geder , yn un ; Brenin Horma , yn un ; brenin Arad , yn un ; Brenin Libna , yn un ; brenin Adulam , yn un ; Brenin Macceda , yn un ; brenin Bethel , yn un ; Brenin Tappua , yn un ; brenin Heffer , yn un ; Brenin Affec , yn un ; brenin Lasaron , yn un ; Brenin Madon , yn un ; brenin Hasor , yn un ; Brenin Simron‐Meron , yn un ; brenin Achsaff , yn un ; Brenin Taanach , yn un ; brenin Megido , yn un ; Brenin Cades , yn un ; brenin Jocneam o Carmel , yn un ; Brenin Dor yn ardal Dor , yn un ; brenin y cenhedloedd o Gilgal , yn un ; Brenin Tirsa , yn un : yr holl frenhinoedd oedd un ar ddeg ar hugain . A Phan heneiddiodd Josua , a phwyso ohono mewn oedran , dywedodd yr Arglwydd wrtho ef , Tydi a heneiddiaist , daethost i ddyddiau oedrannus , a thir lawer iawn sydd eto i’w feddiannu . Dyma y wlad sydd eto yn ôl : holl derfynau y Philistiaid , a holl Gesuri , O Sihor , yr hon sydd o flaen yr Aifft , hyd derfyn Ecron tua’r gogledd , yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid : pum tywysog y Philistiaid : y Gasathiaid , a’r Asdodiaid , yr Escaloniaid , y Githiaid , yr Ecroniaid ; yr Afiaid : O’r deau , holl wlad y Canaaneaid , a’r ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid , hyd Affec , hyd derfyn yr Amoriaid : A gwlad y Gibliaid , a holl Libanus , tua chyfodiad haul , o Baal‐Gad dan fynydd Hermon , nes dyfod i Hamath . Holl breswylwyr y mynydd‐dir o Libanus hyd Misreffoth‐maim , a’r holl Sidoniaid , y rhai hynny a yrraf ymaith o flaen meibion Israel : yn unig rhan di hi wrth goelbren i Israel yn etifeddiaeth , fel y gorchmynnais i ti . Ac yn awr rhan di y wlad hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth , ac i hanner llwyth Manasse . Gyda’r rhai y derbyniodd y Reubeniaid a’r Gadiaid eu hetifeddiaeth , yr hon a roddodd Moses iddynt hwy , o’r tu hwnt i’r Iorddonen , tua’r dwyrain , fel y rhoddes Moses gwas yr Arglwydd iddynt ; O Aroer , yr hon sydd ar fin afon Arnon , a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn , a holl wastadedd Medeba , hyd Dibon : A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon , hyd ardal meibion Ammon ; Gilead hefyd , a therfyn y Gesuriaid , y Maachathiaid hefyd , a holl fynydd Hermon , a holl Basan hyd Salcha ; Holl frenhiniaeth Og yn Basan , yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth , ac yn Edrei ; efe a adawyd o weddill y cewri : canys Moses a’u trawsai hwynt , ac a’u gyrasai ymaith . Ond meibion Israel ni yrasant allan y Gesuriaid na’r Maachathiaid ; eithr trigodd y Gesuriaid a’r Maachathiaid ymhlith Israel hyd y dydd hwn . Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth ; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef , fel y llefarasai efe wrtho . A Moses a roddasai i lwyth meibion Reuben etifeddiaeth trwy eu teuluoedd : A’u terfyn hwynt oedd o Aroer , yr hon sydd ar fin afon Arnon , a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn , a’r holl wastadedd wrth Medeba ; Hesbon a’i holl ddinasoedd , y rhai sydd yn y gwastadedd ; Dibon , a Bamoth-Baal , a Beth‐Baalmeon ; Jahasa hefyd , a Cedemoth , a Meffaath ; Ciriathaim hefyd , a Sibma , a Sarethsahar , ym mynydd‐dir y glyn ; Beth‐peor hefyd , ac Asdoth‐Pisga , a Beth‐Jesimoth , A holl ddinasoedd y gwastadedd , a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid , yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon , yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro , gyda thywysogion Midian , Efi , a Recem , a Sur , a Hur , a Reba , dugiaid Sehon , y rhai oedd yn preswylio yn y wlad . Balaam hefyd mab Beor , y dewin , a laddodd meibion Israel â’r cleddyf , ymhlith eu lladdedigion hwynt . A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’i goror . Dyma etifeddiaeth meibion Reuben , yn ôl eu teuluoedd , y dinasoedd , a’u trefi . Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad , sef i feibion Gad , trwy eu teuluoedd ; A Jaser oedd derfyn iddynt hwy , a holl ddinasoedd Gilead , a hanner gwlad meibion Ammon , hyd Aroer , yr hon sydd o flaen Rabba ; Ac o Hesbon hyd Ramath‐Mispe , a Betonim ; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir ; Ac yn y dyffryn , Beth‐Aram , a Beth‐Nimra , a Succoth , a Saffon , gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon , yr Iorddonen a’i therfyn , hyd gwr môr Cinneroth , o’r tu hwnt i’r Iorddonen , o du y dwyrain . Dyma etifeddiaeth meibion Gad , yn ôl eu teuluoedd , y dinasoedd , a’u trefydd . Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse : a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse , yn ôl eu teuluoedd : A’u terfyn hwynt oedd o Mahanaim , holl Basan , holl frenhiniaeth Og brenin Basan , a holl drefi Jair , y rhai sydd yn Basan , trigain dinas ; A hanner Gilead , ac Astaroth , ac Edrei , dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan , a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse , sef i hanner meibion Machir , yn ôl eu teuluoedd . Dyma y gwledydd a roddodd Moses i’w hetifeddu , yn rhosydd Moab , am yr Iorddonen â Jericho , o du y dwyrain . Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth : Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt , fel y llefarodd efe wrthynt . Dyma hefyd y gwledydd a etifeddodd meibion Israel yng ngwlad Canaan , y rhai a rannodd Eleasar yr offeiriad , a Josua mab Nun , a phennau‐cenedl llwythau meibion Israel , iddynt hwy i’w hetifeddu . Wrth goelbren yr oedd eu hetifeddiaeth hwynt ; fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses eu rhoddi i’r naw llwyth , ac i’r hanner llwyth . Canys Moses a roddasai etifeddiaeth i ddau lwyth , ac i hanner llwyth , o’r tu hwnt i’r Iorddonen ; ond i’r Lefiaid ni roddasai efe etifeddiaeth yn eu mysg hwynt ; Canys meibion Joseff oedd ddau lwyth , Manasse ac Effraim : am hynny ni roddasant ran i’r Lefiaid yn y tir , ond dinasoedd i drigo , a’u meysydd pentrefol i’w hanifeiliaid , ac i’w golud . Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses , felly y gwnaeth meibion Israel , a hwy a ranasant y wlad . Yna meibion Jwda a ddaethant at Josua yn Gilgal : a Chaleb mab Jeffunne y Cenesiad a ddywedodd wrtho ef , Tydi a wyddost y gair a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses gŵr Duw o’m plegid i , ac o’th blegid dithau , yn Cades‐Barnea . Mab deugain mlwydd oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr Arglwydd fi o Cades‐Barnea , i edrych ansawdd y wlad ; a mi a ddygais air iddo ef drachefn , fel yr oedd yn fy nghalon . Ond fy mrodyr , y rhai a aethant i fyny gyda mi , a ddigalonasant y bobl : eto myfi a gyflawnais fyned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw . A Moses a dyngodd y diwrnod hwnnw , gan ddywedyd , Diau y bydd y wlad y sathrodd dy droed arni , yn etifeddiaeth i ti , ac i’th feibion hyd byth ; am i ti gyflawni myned ar ôl yr Arglwydd fy Nuw . Ac yn awr , wele yr Arglwydd a’m cadwodd yn fyw , fel y llefarodd efe , y pum mlynedd a deugain hyn , er pan lefarodd yr Arglwydd y gair hwn wrth Moses , tra y rhodiodd Israel yn yr anialwch : ac yn awr , wele fi heddiw yn fab pum mlwydd a phedwar ugain . Yr ydwyf eto mor gryf heddiw â’r dydd yr anfonodd Moses fi : fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw , felly y mae fy nerth i yn awr , i ryfela , ac i fyned allan , ac i ddyfod i mewn . Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma , am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw , ( canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno , a dinasoedd mawrion caerog ; ) ond odid yr Arglwydd fydd gyda mi , fel y gyrrwyf hwynt allan , megis y llefarodd yr Arglwydd . A Josua a’i bendithiodd ef , ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jeffunne yn etifeddiaeth . Am hynny mae Hebron yn etifeddiaeth i Caleb mab Jeffunne y Cenesiad hyd y dydd hwn : oherwydd iddo ef gwblhau myned ar ôl Arglwydd Dduw Israel . Ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer‐Arba : yr Arba hwnnw oedd ŵr mawr ymysg yr Anaciaid . A’r wlad a orffwysodd heb ryfel . A rhandir llwyth meibion Jwda , yn ôl eu teuluoedd , ydoedd tua therfyn Edom : anialwch Sin , tua’r deau , oedd eithaf y terfyn deau . A therfyn y deau oedd iddynt hwy o gwr y môr heli , o’r graig sydd yn wynebu tua’r deau . Ac yr oedd yn myned allan o’r deau hyd riw Acrabbim , ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin , ac yn myned i fyny o du y deau i Cades‐Barnea ; ac yn myned hefyd i Hesron , ac yn esgyn i Adar , ac yn amgylchynu i Carcaa . Ac yr oedd yn myned tuag Asmon , ac yn myned allan i afon yr Aifft ; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr : hyn fydd i chwi yn derfyn deau . A’r terfyn tua’r dwyrain yw y môr heli , hyd eithaf yr Iorddonen : a’r terfyn o du y gogledd , sydd o graig y môr , yn eithaf yr Iorddonen . A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth‐Hogla , ac yn myned o’r gogledd hyd Beth‐Araba ; a’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben . A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Debir o ddyffryn Achor , a thua’r gogledd yn edrych tua Gilgal , o flaen rhiw Adummim , yr hon sydd o du y deau i’r afon : y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En‐semes , a’i gwr eithaf sydd wrth En‐rogel . A’r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom , gan ystlys y Jebusiaid o du y deau , honno yw Jerwsalem : y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom , tua’r gorllewin , yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri , tua’r gogledd . A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa , ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron : y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala , honno yw Ciriath‐jearim . A’r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua’r gorllewin , i fynydd Seir , ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim , o du y gogledd , honno yw Chesalon , ac y mae yn disgyn i Beth‐semes , ac yn myned i Timna . A’r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron , tua’r gogledd : a’r terfyn sydd yn tueddu i Sicron , ac yn myned rhagddo i fynydd Baala , ac yn cyrhaeddyd i Jabneel ; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr . A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a’i derfyn . Dyma derfyn meibion Jwda o amgylch , wrth eu teuluoedd . Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda , yn ôl gair yr Arglwydd wrth Josua ; sef Caer‐Arba , tad yr Anaciaid , honno yw Hebron . A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac , Sesai , ac Ahiman , a Thalmai , meibion Anac . Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir ; ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath‐Seffer . A dywedodd Caleb , Pwy bynnag a drawo Ciriath‐Seffer , ac a’i henillo hi ; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig . Ac Othniel mab Cenas , brawd Caleb , a’i henillodd hi . Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig . A phan ddaeth hi i mewn ato ef , yna hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes : ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn . A dywedodd Caleb wrthi , Beth a fynni di ? A hi a ddywedodd , Dyro i mi rodd ; canys gwlad y deau a roddaist i mi : dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd . Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf , a’r ffynhonnau isaf . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Jwda , wrth eu teuluoedd . A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Jwda , tua therfyn Edom , ar du y deau , oeddynt Cabseel , ac Eder , a Jagur , Cina hefyd , a Dimona , ac Adada , Cedes hefyd , a Hasor , ac Ithnan , A Siff , a Thelem , a Bealoth , A Hasor , Hadatta , a Cirioth , a Hesron , honno yw Hasor , Ac Amam , a Sema , a Molada , A Hasar‐Gada , a Hesmon , a Beth‐palet , A Hasar‐sual , a Beer‐seba , a Bisiothia , Baala , ac Iim , ac Asem , Ac Eltolad , a Chesil , a Horma , A Siclag , a Madmanna , a Sansanna , A Lebaoth , a Silhim , ac Ain , a Rimmon : yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain , a’u pentrefydd . Ac yn y dyffryn , Esthaol , a Sorea , ac Asna , A Sanoa , ac En‐gannim , Tappua , ac Enam , Jarmuth , ac Adulam , Socho , ac Aseca , A Saraim , ac Adithaim , a Gedera , a Gederothaim ; pedair ar ddeg o ddinasoedd , a’u pentrefydd . Senan , a Hadasa , a Migdal‐Gad , A Dilean , a Mispe , a Joctheel , Lachis , a Boscath , ac Eglon , Chabbon hefyd , a Lahmam , a Chithlis , A Gederoth , Beth‐Dagon , a Naama , a Macceda ; un ddinas ar bymtheg , a’u pentrefydd . Libna , ac Ether , ac Asan , A Jiffta , ac Asna , a Nesib , Ceila hefyd , ac Achsib , a Maresa ; naw o ddinasoedd , a’u pentrefi . Ecron , a’i threfi , a’i phentrefydd : O Ecron hyd y môr , yr hyn oll oedd gerllaw Asdod , a’u pentrefydd : Asdod , a’i threfydd , a’i phentrefydd ; Gasa , a’i threfydd , a’i phentrefydd , hyd afon yr Aifft ; a’r môr mawr , a’i derfyn . Ac yn y mynydd‐dir ; Samir , a Jattir , a Socho , A Danna , a Ciriath‐sannath , honno yw Debir , Ac Anab , ac Astemo , ac Anim , A Gosen , a Holon , a Gilo ; un ddinas ar ddeg , a’u pentrefydd . Arab , a Duma , ac Esean , A Janum , a Beth‐tappua , ac Affeca , A Humta , a Chaer‐Arba , honno yw Hebron , a Sïor ; naw dinas , a’u trefydd . Maon , Carmel , a Siff , a Jutta , A Jesreel , a Jocdeam , a Sanoa , Cain , Gibea , a Thimna ; deg o ddinasoedd , a’u pentrefydd . Halhul , Beth‐sur , a Gedor , A Maarath , a Beth‐anoth , ac Eltecon ; chwech o ddinasoedd , a’u pentrefydd . Ciriath‐baal , honno yw Ciriath‐jearim , a Rabba ; dwy ddinas , a’u pentrefydd . Yn yr anialwch ; Beth‐araba , Midin , a Sechacha , A Nibsan , a dinas yr halen , ac En‐gedi ; chwech o ddinasoedd , a’u pentrefydd . Ond ni allodd meibion Jwda yrru allan y Jebusiaid , trigolion Jerwsalem : am hynny y trig y Jebusiaid gyda meibion Jwda yn Jerwsalem hyd y dydd hwn . A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o’r Iorddonen wrth Jericho , i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain , i’r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel ; Ac yn myned o Bethel i Lus , ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth ; Ac yn disgyn tua’r gorllewin i ardal Jaffleti , hyd derfyn Beth‐horon isaf , ac hyd Geser : a’i gyrrau eithaf sydd hyd y môr . Felly meibion Joseff , Manasse ac Effraim , a gymerasant eu hetifeddiaeth . A therfyn meibion Effraim oedd yn ôl eu teuluoedd ; a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du y dwyrain , oedd Ataroth‐adar , hyd Beth‐horon uchaf . A’r terfyn sydd yn myned tua’r môr , i Michmethath o du y gogledd ; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath‐Seilo , ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janoha : Ac yn myned i waered o Janoha , i Ataroth , a Naarath ; ac yn cyrhaeddyd i Jericho , ac yn myned allan i’r Iorddonen . O Tappua y mae y terfyn yn myned tua’r gorllewin i afon Cana ; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Effraim , yn ôl eu teuluoedd . A dinasoedd neilltuedig meibion Effraim oedd ymysg etifeddiaeth meibion Manasse ; yr holl ddinasoedd , a’u pentrefydd . Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid , y rhai oedd yn trigo yn Geser : am hynny y trigodd y Canaaneaid ymhlith yr Effraimiaid hyd y dydd hwn , ac y maent yn gwasanaethu dan dreth . Ac yr oedd rhandir llwyth Manasse , ( canys efe oedd gyntaf‐anedig Joseff , ) i Machir , cyntaf‐anedig Manasse , tad Gilead : oherwydd ei fod efe yn rhyfelwr , yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef . Ac yr oedd rhandir i’r rhan arall o feibion Manasse , yn ôl eu teuluoedd ; sef i feibion Abieser , ac i feibion Helec , ac i feibion Asriel , ac i feibion Sichem , ac i feibion Heffer , ac i feibion Semida : dyma feibion Manasse mab Joseff , sef y gwrywiaid , yn ôl eu teuluoedd . Ond Salffaad mab Heffer , mab Gilead , mab Machir , mab Manasse , nid oedd iddo feibion , ond merched : a dyma enwau ei ferched ef ; Mala , a Noa , Hogla , Milca , a Thirsa : Y rhai a ddaethant o flaen Eleasar yr offeiriad , ac o flaen Josua mab Nun , ac o flaen y tywysogion , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a orchmynnodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ymysg ein brodyr : am hynny efe a roddodd iddynt etifeddiaeth , yn ôl gair yr Arglwydd , ymysg brodyr eu tad . A deg rhandir a syrthiodd i Manasse , heblaw gwlad Gilead a Basan , y rhai sydd tu hwnt i’r Iorddonen ; Canys merched Manasse a etifeddasant etifeddiaeth ymysg ei feibion ef : a gwlad Gilead oedd i’r rhan arall o feibion Manasse . A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath , yr hon sydd gyferbyn â Sichem ; a’r terfyn oedd yn myned ar y llaw ddeau , hyd breswylwyr Entappua . Gwlad Tappua oedd eiddo Manasse : ond Tappua , yr hon oedd ar derfyn Manasse , oedd eiddo meibion Effraim . A’r terfyn sydd yn myned i waered i afon Cana , o du deau yr afon . Y dinasoedd hyn , eiddo Effraim , oedd ymhlith dinasoedd Manasse : a therfyn Manasse sydd o du y gogledd i’r afon , a’i ddiwedd oedd y môr . Y deau oedd eiddo Effraim , a’r gogledd eiddo Manasse ; a’r môr oedd ei derfyn ef : ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod , o’r gogledd ; ac yn Issachar , o’r dwyrain . Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasse , Beth‐sean a’i threfydd , ac Ibleam a’i threfydd , a thrigolion Dor a’i threfydd , a thrigolion En‐dor a’i threfydd , a phreswylwyr Taanach a’i threfydd , a thrigolion Megido a’i threfydd ; tair talaith . Ond ni allodd meibion Manasse yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny ; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno . Eto pan gryfhaodd meibion Israel , hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth : ni yrasant hwynt ymaith yn llwyr . A meibion Joseff a lefarasant wrth Josua , gan ddywedyd , Paham y rhoddaist i mi , yn etifeddiaeth , un afael ac un rhan , a minnau yn bobl aml , wedi i’r Arglwydd hyd yn hyn fy mendithio ? A Josua a ddywedodd wrthynt , Os pobl aml ydwyt , dos i fyny i’r coed , a thor goed i ti yno yng ngwlad y Pheresiaid , a’r cewri , od yw mynydd Effraim yn gyfyng i ti . A meibion Joseff a ddywedasant , Ni bydd y mynydd ddigon i ni : hefyd y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir , gan y rhai sydd yn Beth‐sean a’i threfi , a chan y rhai sydd yng nglyn Jesreel . A Josua a ddywedodd wrth dŷ Joseff , wrth Effraim ac wrth Manasse , gan ddywedyd , Pobl aml ydwyt , a nerth mawr sydd gennyt : ni fydd i ti un rhan yn unig : Eithr bydd y mynydd eiddot ti : canys coediog yw , arloesa ef ; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti : canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid , er bod cerbydau heyrn ganddynt , ac er eu bod yn gryfion . A Holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo , ac a osodasant yno babell y cyfarfod : a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt . A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel , i’r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto . A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel , Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes Arglwydd Dduw eich tadau i chwi ? Moeswch ohonoch driwyr o bob llwyth ; fel yr anfonwyf hwynt , ac y cyfodont , ac y rhodiont y wlad , ac y dosbarthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt ; ac y delont ataf drachefn . A hwy a’i rhannant hi yn saith ran . Jwda a saif ar ei derfyn o du’r deau , a thŷ Joseff a safant ar eu terfyn o du’r gogledd . A chwi a ddosberthwch y wlad yn saith ran , a dygwch y dosbarthiadau ataf fi yma ; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma , o flaen yr Arglwydd ein Duw . Ond ni bydd rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi ; oherwydd offeiriadaeth yr Arglwydd fydd eu hetifeddiaeth hwynt . Gad hefyd , a Reuben , a hanner llwyth Manasse , a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen , o du’r dwyrain , yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd iddynt . A’r gwŷr a gyfodasant , ac a aethant : a Josua a orchmynnodd i’r rhai oedd yn myned i rannu’r wlad , gan ddywedyd , Ewch , a rhodiwch trwy’r wlad , a dosberthwch hi , a dychwelwch ataf fi ; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr Arglwydd yn Seilo . A’r gwŷr a aethant ymaith , ac a gerddasant trwy’r wlad , ac a’i dosbarthasant hi bob yn ddinas , yn saith ran , mewn llyfr ; a daethant at Josua i’r gwersyll yn Seilo . A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy gerbron yr Arglwydd yn Seilo : a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ôl eu rhannau . A choelbren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fyny yn ôl eu teuluoedd : a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Jwda a meibion Joseff . A’r terfyn oedd iddynt hwy tua’r gogledd o’r Iorddonen : y terfyn hefyd oedd yn myned i fyny gan ystlys Jericho , o du’r gogledd , ac yn myned i fyny trwy’r mynydd tua’r gorllewin : a’i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Bethafen . Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Lus , gan ystlys Lus , honno yw Bethel , tua’r deau ; a’r terfyn sydd yn disgyn i Ataroth‐adar , i’r mynydd sydd o du’r deau i Beth‐horon isaf . A’r terfyn sydd yn tueddu , ac yn amgylchu cilfach y môr tua’r deau , o’r mynydd sydd ar gyfer Beth‐horon tua’r deau ; a’i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath‐baal , honno yw Ciriath‐jearim , dinas meibion Jwda . Dyma du y gorllewin . A thu y deau sydd o gwr Ciriath‐jearim ; a’r terfyn sydd yn myned tua’r gorllewin , ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa . Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tua chwr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom , yr hwn sydd yn nyffryn y cewri tua’r gogledd ; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom , gan ystlys y Jebusiaid tua’r deau , ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel . Ac y mae yn tueddu o’r gogledd , ac yn myned i En‐semes , ac yn cyrhaeddyd tua Geliloth , yr hon sydd gyferbyn â rhiw Adummim , ac yn disgyn at faen Bohan mab Reuben : Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Araba tua’r gogledd , ac yn disgyn i Araba . Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth‐hogla tua’r gogledd : a chwr eithaf y terfyn oedd wrth lan y môr heli tua’r gogledd , hyd gwr yr Iorddonen tua’r deau . Dyma derfyn y deau . Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain . Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin , trwy eu terfynau o amgylch , yn ôl eu teuluoedd . A dinasoedd llwyth meibion Benjamin , yn ôl eu teuluoedd , oedd , Jericho , a Beth‐hogla , a glyn Cesis , A Beth‐araba , a Semaraim , a Bethel , Ac Afim , a Phara , ac Offra , A Cheffar‐haammonai , ac Offni , a Gaba ; deuddeg o ddinasoedd , a’u pentrefydd : Gibeon , a Rama , a Beeroth , A Mispe , a Cheffira , a Mosa , A Recem , ac Irpeel , a Tharala , A Sela , Eleff , a Jebusi , ( honno yw Jerwsalem , ) Gibeath , a Chiriath ; pedair ar ddeg o ddinasoedd , a’u pentrefydd . Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin , yn ôl eu teuluoedd . A’r ail goelbren a aeth allan i Simeon , dros lwyth meibion Simeon , yn ôl eu teuluoedd : a’u hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion Jwda . Ac yr oedd ganddynt hwy , yn eu hetifeddiaeth , Beer‐seba , a Seba , a Molada , A Hasar‐sual , a Bala , ac Asem , Ac Eltolad , a Bethul , a Horma , A Siclag , a Beth‐marcaboth , a Hasar‐susa , A Beth‐lebaoth , a Saruhen ; tair dinas ar ddeg , a’u pentrefydd : Ain , Rimmon , ac Ether , ac Asan ; pedair o ddinasoedd , a’u pentrefydd : A’r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn , hyd Baalath‐beer , Ramath o’r deau . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon , yn ôl eu teuluoedd . O randir meibion Jwda yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon : canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt ; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt . A’r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon , yn ôl eu teuluoedd : a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid . A’u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua’r môr , a Marala , ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth ; ac yn cyrhaeddyd i’r afon sydd ar gyfer Jocneam ; Ac yn troi o Sarid , o du y dwyrain tua chyfodiad haul , hyd derfyn Cisloth‐Tabor ; ac yn myned i Daberath , ac yn esgyn i Jaffia ; Ac yn myned oddi yno ymlaen tua’r dwyrain , i Gittah‐Heffer , i Ittah‐Casin ; ac yn myned allan i Rimmon‐Methoar , i Nea . A’r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon ; a’i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel . Cattath hefyd , a Nahalal , a Simron , ac Idala , a Bethlehem : deuddeg o ddinasoedd , a’u pentrefydd . Dyma etifeddiaeth meibion Sabulon , yn ôl eu teuluoedd ; y dinasoedd yma , a’u pentrefydd . Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar ; dros feibion Issachar , yn ôl eu teuluoedd . A’u terfyn hwynt oedd tua Jesreel , a Chesuloth , a Sunem . A Haffraim , a Sihon , ac Anaharath . A Rabbith , a Cision , ac Abes , A Remeth , ac En‐gannim , ac Enhada , a Beth‐passes . A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor , a Sahasima , a Beth‐semes ; a’u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen : un ddinas ar bymtheg , a’u pentrefydd . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar , yn ôl eu teuluoedd ; y dinasoedd , a’u pentrefydd . A’r pumed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser , yn ôl eu teuluoedd . A’u terfyn hwynt oedd , Helcath , a Hali , a Beten , ac Achsaff , Ac Alammelech , ac Amad , a Misal ; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua’r gorllewin , ac i Sihor‐Libnath : Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth‐dagon , ac yn cyrhaeddyd i Sabulon , ac i ddyffryn Jifftahel , tua’r gogledd i Beth‐Emec , ac i Neiel , ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul ; A Hebron , a Rehob , a Hammon , a Cana , hyd Sidon fawr . A’r terfyn sydd yn troi i Rama , ac hyd Sor , y ddinas gadarn : a’r terfyn sydd yn troi i Hosa ; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr , o randir Achsib . Umma hefyd , ac Affec , a Rehob : dwy ddinas ar hugain , a’u pentrefydd . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser , yn ôl eu teuluoedd ; y dinasoedd hyn a’u pentrefydd . Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Nafftali , dros feibion Nafftali , yn ôl eu teuluoedd . A’u terfyn hwy oedd o Heleff , o Alon i Saanannim , ac Adami , Neceb , a Jabneel hyd Lacum : a’i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen . A’r terfyn sydd yn troi tua’r gorllewin i Asnoth‐Tabor , ac yn myned oddi yno i Huccoc ; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau , ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin , ac i Jwda a’r Iorddonen tua chyfodiad haul . A’r dinasoedd caerog , Sidim , Ser , a Hammath , Raccath , a Chinnereth , Ac Adama , a Rama , a Hasor , A Cedes , ac Edrei , ac En‐hasor , Ac Iron , a Migdal‐el , Horem , a Beth‐anath , a Beth‐semes : pedair dinas ar bymtheg , a’u pentrefydd . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Nafftali , yn ôl eu teuluoedd ; y dinasoedd , a’u pentrefydd . Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan , yn ôl eu teuluoedd . A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sora , ac Estaol , ac Ir‐Semes , A Saalabbin , ac Ajalon , ac Ithla , Ac Elon , a Thimnatha , ac Ecron , Ac Eltece , a Gibbethon , a Baalath , A Jehud , a Bene‐berac , a Gath‐rimmon , A Meiarcon , a Raccon , gyda’r terfyn ar gyfer Jaffo . A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt : am hynny meibion Dan a aethant i fyny i ymladd yn erbyn Lesem , ac a’i henillasant hi ; trawsant hefyd hi â min y cleddyf , a meddianasant hi , a thrigasant ynddi : a galwasant Lesem yn Dan , yn ôl enw Dan eu tad . Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan , yn ôl eu teuluoedd ; y dinasoedd hyn , a’u pentrefydd . Pan orffenasant rannu’r wlad yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau , meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg : Wrth orchymyn yr Arglwydd y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe ; sef Timnath‐Sera , ym mynydd Effraim : ac efe a adeiladodd y ddinas , ac a drigodd ynddi . Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad , a Josua mab Nun , a phennau tadau llwythau meibion Israel , yn etifeddiaeth , wrth goelbren , yn Seilo , o flaen yr Arglwydd , wrth ddrws pabell y cyfarfod . Felly y gorffenasant rannu’r wlad . A Llefarodd yr Arglwydd wrth Josua , gan ddywedyd , Llefara wrth feibion Israel , gan ddywedyd , Moeswch i chwi ddinasoedd nodded , am y rhai y lleferais wrthych trwy law Moses : Fel y ffo yno y llofrudd a laddo neb mewn amryfusedd , neu mewn anwybod : a byddant i chwi yn noddfa rhag dialydd y gwaed . A phan ffo efe i un o’r dinasoedd hynny , a sefyll wrth ddrws porth y ddinas , a mynegi ei achosion lle y clywo henuriaid y ddinas honno ; cymerant ef atynt i’r ddinas , a rhoddant le iddo , fel y trigo gyda hwynt . Ac os dialydd y gwaed a erlid ar ei ôl ef , na roddant y lleiddiad yn ei law ef : canys mewn anwybod y trawodd efe ei gymydog , ac nid oedd gas ganddo ef o’r blaen . Ac efe a drig yn y ddinas honno , nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa i farn , ac nes marw yr archoffeiriad fyddo yn y dyddiau hynny : yna dychweled y llofrudd , a deued i’w ddinas ac i’w dŷ ei hun ; sef y ddinas yr hon y ffoesai efe ohoni . Am hynny y cysegrasant Cedes yn Galilea , ym mynydd Nafftali , a Sichem ym mynydd Effraim , a Chaer‐Arba , hon yw Hebron , ym mynydd Jwda . Ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen , o du y dwyrain i Jericho , y rhoddasant Beser yn yr anialwch ar y gwastadedd , o lwyth Reuben , a Ramoth yn Gilead o lwyth Gad , a Golan yn Basan o lwyth Manasse . Y rhai hyn oedd ddinasoedd gosodedig i holl feibion Israel , ac i’r dieithr a ymdeithiai yn eu mysg hwynt ; fel y ffoai pawb iddynt a’r a laddai neb mewn amryfusedd ; ac na byddai marw trwy law dialydd y gwaed , nes iddo sefyll o flaen y gynulleidfa . Yna pennau tadau y Lefiaid a nesasant at Eleasar yr offeiriad , ac at Josua mab Nun , ac at bennau tadau llwythau meibion Israel ; Ac a lefarasant wrthynt yn Seilo , o fewn gwlad Canaan , gan ddywedyd , Yr Arglwydd a orchmynnodd , trwy law Moses , roddi i ni ddinasoedd i drigo , a’u meysydd pentrefol i’n hanifeiliaid . A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid o’u hetifeddiaeth , wrth orchymyn yr Arglwydd , y dinasoedd hyn a’u meysydd pentrefol . A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid : ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad , y rhai oedd o’r Lefiaid , allan o lwyth Jwda , ac o lwyth Simeon , ac o lwyth Benjamin , dair dinas ar ddeg , wrth goelbren . Ac i’r rhan arall o feibion Cohath yr oedd , o deuluoedd llwyth Effraim , ac o lwyth Dan , ac o hanner llwyth Manasse , ddeg dinas , wrth goelbren . Ac i feibion Gerson yr oedd , o deuluoedd llwyth Issachar , ac o lwyth Aser , ac o lwyth Nafftali , ac o hanner llwyth Manasse yn Basan , dair dinas ar ddeg , wrth goelbren . I feibion Merari , wrth eu teuluoedd , yr oedd , o lwyth Reuben , ac o lwyth Gad , ac o lwyth Sabulon , ddeuddeg o ddinasoedd . A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd hyn , a’u meysydd pentrefol , fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses , wrth goelbren . A hwy a roddasant , o lwyth meibion Jwda , ac o lwyth meibion Simeon , y dinasoedd hyn a enwir erbyn eu henwau ; Fel y byddent i feibion Aaron , o deuluoedd y Cohathiaid , o feibion Lefi : canys iddynt hwy yr oedd y coelbren cyntaf . A rhoddasant iddynt Gaer‐Arba , tad Anac , honno yw Hebron , ym mynydd‐dir Jwda , a’i meysydd pentrefol oddi amgylch . Ond maes y ddinas , a’i phentrefydd , a roddasant i Caleb mab Jeffunne , yn etifeddiaeth iddo ef . Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a’i meysydd pentrefol , yn ddinas nodded i’r llofrudd ; a Libna a’i meysydd pentrefol , A Jattir a’i meysydd pentrefol , ac Estemoa a’i meysydd pentrefol , A Holon a’i meysydd pentrefol , a Debir a’i meysydd pentrefol , Ac Ain a’i meysydd pentrefol , a Jwtta a’i meysydd pentrefol , a Beth‐semes a’i meysydd pentrefol : naw dinas o’r ddau lwyth hynny . Ac o lwyth Benjamin , Gibeon a’i meysydd pentrefol , a Geba a’i meysydd pentrefol , Anathoth a’i meysydd pentrefol , ac Almon a’i meysydd pentrefol : pedair dinas . Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offeiriaid , oedd dair dinas ar ddeg , a’u meysydd pentrefol . A chan deuluoedd meibion Cohath , y Lefiaid , y rhan arall o feibion Cohath , yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Effraim . A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad , Sichem a’i meysydd pentrefol , ym mynydd Effraim , a Geser a’i meysydd pentrefol , A Cibsaim a’i meysydd pentrefol , a Beth‐horon a’i meysydd pentrefol : pedair o ddinasoedd . Ac o lwyth Dan , Eltece a’i meysydd pentrefol , Gibbethon a’i meysydd pentrefol . Ajalon a’i meysydd pentrefol , Gath‐Rimmon a’i meysydd pentrefol : pedair o ddinasoedd . Ac o hanner llwyth Manasse , Tanac a’i meysydd pentrefol , a Gath‐Rimmon a’i meysydd pentrefol : dwy ddinas . Yr holl ddinasoedd , y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath , oedd ddeg , a’u meysydd pentrefol . Ac i feibion Gerson , o deuluoedd y Lefiaid , y rhoddasid , o hanner arall llwyth Manasse , yn ddinas nodded y llofrudd , Golan yn Basan a’i meysydd pentrefol , a Beestera a’i meysydd pentrefol : dwy ddinas . Ac o lwyth Issachar , Cison a’i meysydd pentrefol , Dabareth a’i meysydd pentrefol , Jarmuth a’i meysydd pentrefol , En‐gannim a’i meysydd pentrefol : pedair dinas . Ac o lwyth Aser , Misal a’i meysydd pentrefol , Abdon a’i meysydd pentrefol , Helcath a’i meysydd pentrefol , a Rehob a’i meysydd pentrefol : pedair dinas . Ac o lwyth Nafftali , yn ddinas nodded y lleiddiad , Cedes yn Galilea a’i meysydd pentrefol , a Hammoth‐dor a’i meysydd pentrefol : tair dinas . Holl ddinasoedd y Gersoniaid , yn ôl eu teuluoedd , oedd dair dinas ar ddeg , a’u meysydd pentrefol . Ac i deuluoedd meibion Merari , y rhan arall o’r Lefiaid , y rhoddasid , o lwyth Sabulon , Jocnean a’i meysydd pentrefol , a Carta a’i meysydd pentrefol , Dimna a’i meysydd pentrefol , Nahalal a’i meysydd pentrefol : pedair dinas . Ac o lwyth Reuben , Beser a’i meysydd pentrefol , a Jahasa a’i meysydd pentrefol , Cedemoth a’i meysydd pentrefol , Meffaath a’i meysydd pentrefol : pedair dinas . Ac o lwyth Gad , yn ddinas noddfa y llofrudd , Ramoth yn Gilead a’i meysydd pentrefol , a Mahanaim a’i meysydd pentrefol , Hesbon a’i meysydd pentrefol , Jaser a’i meysydd pentrefol ; pedair dinas o gwbl . Holl ddinasoedd meibion Merari , yn ôl eu teuluoedd , sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid , oedd , wrth eu coelbren , ddeuddeng ninas . Holl ddinasoedd y Lefiaid , ym meddiant meibion Israel , oedd wyth ddinas a deugain , a’u meysydd pentrefol . Y dinasoedd hyn oedd bob un â’u meysydd pentrefol o’u hamgylch . Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn . A’r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt : a hwy a’i meddianasant hi , ac a wladychasant ynddi . Yr Arglwydd hefyd a roddodd lonyddwch iddynt hwy o amgylch , yn ôl yr hyn oll a dyngasai efe wrth eu tadau hwynt ; ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o’u holl elynion ; eu holl elynion a roddodd yr Arglwydd yn eu dwylo hwynt . Ni phallodd dim o’r holl bethau da a lefarasai yr Arglwydd wrth dŷ Israel : daeth y cwbl i ben . Yna Josua a alwodd y Reubeniaid a’r Gadiaid , a hanner llwyth Manasse , Ac a ddywedodd wrthynt , Chwi a gadwasoch yr hyn oll a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi , ac a wrandawsoch ar fy llais yn yr hyn oll a orchmynnais i chwi . Ni adawsoch eich brodyr , er ys llawer o ddyddiau bellach , hyd y dydd hwn ; ond cadwasoch reol gorchymyn yr Arglwydd eich Duw . Ac yn awr yr Arglwydd eich Duw a roddes esmwythdra i’ch brodyr , fel y llefarodd wrthynt : yn awr gan hynny trowch , ac ewch rhagoch i’ch pebyll , i wlad eich meddiant , yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi , o’r tu hwnt i’r Iorddonen . Yn unig cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a’r gyfraith a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi ; sef caru yr Arglwydd eich Duw , a rhodio yn ei holl ffyrdd ef , a chadw ei orchmynion ef , a glynu wrtho ef , a’i wasanaethu ef â’ch holl galon , ac â’ch holl enaid . A Josua a’u bendithiodd hwynt , ac a’u gollyngodd ymaith . A hwy a aethant i’w pebyll . Ac i hanner llwyth Manasse y rhoddasai Moses etifeddiaeth yn Basan ; ac i’r hanner arall y rhoddodd Josua , gyda’u brodyr , tu yma i’r Iorddonen tua’r gorllewin . Hefyd pan ollyngodd Josua hwynt i’w pebyll , yna efe a’u bendithiodd hwynt ; Ac efe a lefarodd wrthynt , gan ddywedyd , Dychwelwch â chyfoeth mawr i’ch pebyll , ag anifeiliaid lawer iawn , ag arian , ac ag aur , â phres hefyd , ac â haearn , ac â gwisgoedd lawer iawn : rhennwch â’ch brodyr anrhaith eich gelynion . A meibion Reuben , a meibion Gad , a hanner llwyth Manasse , a ddychwelasant , ac a aethant ymaith oddi wrth feibion Israel , o Seilo , yr hon sydd yng ngwlad Canaan , i fyned i wlad Gilead , i wlad eu meddiant hwy , yr hon a feddianasant , wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses . A phan ddaethant i gyffiniau yr Iorddonen , y rhai sydd yng ngwlad Canaan , meibion Reuben , a meibion Gad , a hanner llwyth Manasse , a adeiladasant yno allor wrth yr Iorddonen , allor fawr mewn golwg . A chlybu meibion Israel ddywedyd , Wele , meibion Reuben , a meibion Gad , a hanner llwyth Manasse , a adeiladasant allor ar gyfer gwlad Canaan , wrth derfynau yr Iorddonen , gan ystlys meibion Israel . A phan glybu meibion Israel hynny , yna holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo , i ddyfod i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel . A meibion Israel a anfonasant at feibion Reuben , ac at feibion Gad , ac at hanner llwyth Manasse , i wlad Gilead , Phinees mab Eleasar yr offeiriad , A deg o dywysogion gydag ef , un tywysog o bob tŷ , pennaf trwy holl lwythau Israel ; a phob un oedd ben yn nhŷ eu tadau , ymysg miloedd Israel . A hwy a ddaethant at feibion Reuben , ac at feibion Gad , ac at hanner llwyth Manasse , i wlad Gilead ; ac a ymddiddanasant â hwynt , gan ddywedyd , Fel hyn y dywed holl gynulleidfa yr Arglwydd , Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn Duw Israel , gan ddychwelyd heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd , pan adeiladasoch i chwi allor , i wrthryfela heddiw yn erbyn yr Arglwydd ? Ai bychan gennym ni anwiredd Peor , yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho eto hyd y dydd hwn , er bod pla ymysg cynulleidfa yr Arglwydd , Ond bod i chwi droi ymaith heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd ? Ac am i chwi wrthryfela heddiw yn erbyn yr Arglwydd , efe a lidia yfory yn erbyn holl gynulleidfa Israel . Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan , deuwch drosodd i wlad meddiant yr Arglwydd , yr hon y mae tabernacl yr Arglwydd yn aros ynddi , a chymerwch feddiant yn ein mysg ni : ond na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd , ac na childynnwch i’n herbyn ninnau , trwy adeiladu ohonoch i chwi eich hun allor , heblaw allor yr Arglwydd ein Duw . Oni wnaeth Achan mab Sera gamwedd , oherwydd y diofryd‐beth , fel y bu digofaint yn erbyn holl gynulleidfa Israel ? ac efe oedd un gŵr ; eto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd . Yna meibion Reuben , a meibion Gad , a hanner llwyth Manasse , a atebasant , ac a lefarasant wrth benaethiaid miloedd Israel ; Arglwydd Dduw y duwiau , Arglwydd Dduw y duwiau , efe sydd yn gwybod , ac Israel yntau a gaiff wybod , os mewn gwrthryfel , neu mewn camwedd yn erbyn yr Arglwydd y bu hyn , ( na wareder ni y dydd hwn , ) Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ôl yr Arglwydd , neu os offrymasom arni boethoffrwm , neu fwyd‐offrwm , neu os aberthasom arni ebyrth hedd ; yr Arglwydd ei hun a’i gofynno : Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn ; gan ddywedyd , Ar ôl hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau , gan ddywedyd , Beth sydd i chwi a wneloch ag Arglwydd Dduw Israel ? Canys yr Arglwydd a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi : meibion Reuben , a meibion Gad , nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd . Felly y gwnâi eich meibion chwi i’n meibion ni beidio ag ofni yr Arglwydd . Am hynny y dywedasom , Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor : nid i boethoffrwm , nac i aberth ; Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi , a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl , i gael ohonom wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd ger ei fron ef , â’n poethoffrymau , ac â’n hebyrth , ac â’n hoffrymau hedd ; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ôl hyn wrth ein meibion ni , Nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd . Am hynny y dywedasom , Pan ddywedont hwy felly wrthym ni , neu wrth ein hepil ar ôl hyn ; yna y dywedwn ninnau , Gwelwch lun allor yr Arglwydd , yr hon a wnaeth ein tadau ni , nid i boethoffrwm , nac i aberth ; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi . Na ato Duw i ni wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd a dychwelyd heddiw oddi ar ôl yr Arglwydd ; gan adeiladu allor i boethoffrwm , i fwyd‐offrwm , neu i aberth , heblaw allor yr Arglwydd ein Duw yr hon sydd gerbron ei dabernacl ef . A phan glybu Phinees yr offeiriad , a thywysogion y gynulleidfa , a phenaethiaid miloedd Israel y rhai oedd gydag ef , y geiriau a lefarasai meibion Reuben , a meibion Gad , a meibion Manasse , da oedd y peth yn eu golwg hwynt . Phinees mab Eleasar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Reuben , ac wrth feibion Gad , ac wrth feibion Manasse , Heddiw y gwybuom fod yr Arglwydd yn ein plith ; oherwydd na wnaethoch y camwedd hwn yn erbyn yr Arglwydd : yn awr gwaredasoch feibion Israel o law yr Arglwydd . Am hynny y dychwelodd Phinees mab Eleasar yr offeiriad , a’r tywysogion , oddi wrth feibion Reuben , ac oddi wrth feibion Gad , o wlad Gilead , i wlad Canaan , at feibion Israel , ac a ddygasant drachefn air iddynt . A da oedd y peth yng ngolwg meibion Israel ; a meibion Israel a fendithiasant Dduw , ac ni soniasant am fyned i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel , i ddifetha y wlad yr oedd meibion Reuben a meibion Gad yn preswylio ynddi . A meibion Reuben a meibion Gad a alwasant yr allor Ed : canys tyst fydd hi rhyngom ni , mai yr Arglwydd sydd Dduw . A Darfu , ar ôl dyddiau lawer , wedi i’r Arglwydd roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch , i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau . A Josua a alwodd am holl Israel , am eu henuriaid , ac am eu penaethiaid , ac am eu barnwyr , ac am eu swyddogion ; ac a ddywedodd wrthynt , Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus : Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r holl genhedloedd hyn , er eich mwyn chwi : canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch . Gwelwch , rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd , yn etifeddiaeth i’ch llwythau chwi , o’r Iorddonen , a’r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith , hyd y môr mawr tua’r gorllewin . A’r Arglwydd eich Duw a’u hymlid hwynt o’ch blaen chwi , ac a’u gyr hwynt ymaith allan o’ch gŵydd chwi ; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt , megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych . Am hynny ymwrolwch yn lew , i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses ; fel na chilioch oddi wrthynt , tua’r llaw ddeau na thua’r llaw aswy ; Ac na chydymgyfeilloch â’r cenhedloedd yma , y rhai a adawyd gyda chwi ; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt , ac na thyngoch iddynt , na wasanaethoch hwynt chwaith , ac nac ymgrymoch iddynt : Ond glynu wrth yr Arglwydd eich Duw , fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn . Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol : ac amdanoch chwi , ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn . Un gŵr ohonoch a erlid fil : canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch , fel y llefarodd wrthych . Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau , ar i chwi garu yr Arglwydd eich Duw . Canys , os gan ddychwelyd y dychwelwch , ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma , y rhai a adawyd gyda chwi ; os ymgyfathrechwch â hwynt , ac os ewch i mewn atynt hwy , a hwythau atoch chwithau : Gan wybod gwybyddwch , na yrr yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi ; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd , ac yn ffrewyll yn eich ystlysau , ac yn ddrain yn eich llygaid , nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi . Ac wele fi yn myned heddiw i ffordd yr holl ddaear : a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau , ac yn eich holl eneidiau , na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr Arglwydd eich Duw amdanoch chwi ; hwy a ddaethant oll i chwi , ac ni phallodd dim ohonynt . Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych ; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus , nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi . Pan droseddoch gyfamod yr Arglwydd eich Duw , a orchmynnodd efe i chwi , a myned a gwasanaethu duwiau dieithr , ac ymgrymu iddynt ; yna y llidia digofaint yr Arglwydd yn eich erbyn chwi , ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi . A Josua a gynullodd holl lwythau Israel i Sichem ; ac a alwodd am henuriaid Israel , ac am eu penaethiaid , ac am eu barnwyr , ac am eu swyddogion : a hwy a safasant gerbron Duw . A dywedodd Josua wrth yr holl bobl , Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel ; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt , sef Tera tad Abraham , a thad Nachor : a hwy a wasanaethasant dduwiau dieithr . Ac mi a gymerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon , ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan , ac a amlheais hefyd ei had ef , ac a roddais iddo Isaac . Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau : ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i’w etifeddu ; ond Jacob a’i feibion a aethant i waered i’r Aifft . A mi a anfonais Moses ac Aaron , ac a drewais yr Eifftiaid , yn ôl yr hyn a wneuthum yn eu mysg : ac wedi hynny y dygais chwi allan , Ac a ddygais eich tadau chwi allan o’r Aifft : a chwi a ddaethoch at y môr ; a’r Eifftiaid a erlidiodd ar ôl eich tadau â cherbydau , ac â gwŷr meirch , hyd y môr coch . A phan waeddasant ar yr Arglwydd , efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Eifftiaid , ac a ddug y môr arnynt hwy , ac a’u gorchuddiodd : eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aifft : trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer . A mi a’ch dygais i wlad yr Amoriaid , y rhai oedd yn trigo o’r tu hwnt i’r Iorddonen ; a hwy a ymladdasant i’ch erbyn : a myfi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi , fel y meddianasoch eu gwlad hwynt ; a minnau a’u difethais hwynt o’ch blaen chwi . Yna Balac mab Sippor brenin Moab , a gyfododd , ac a ryfelodd yn erbyn Israel ; ac a anfonodd , ac a alwodd am Balaam mab Beor , i’ch melltigo chwi . Ond ni fynnwn i wrando ar Balaam ; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi : felly y gwaredais chwi o’i law ef . A chwi a aethoch dros yr Iorddonen , ac a ddaethoch i Jericho : a gwŷr Jericho a ymladdodd i’ch erbyn , yr Amoriaid , a’r Pheresiaid , a’r Canaaneaid , a’r Hethiaid , a’r Girgasiaid , yr Hefiaid , a’r Jebusiaid ; a mi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi . A mi a anfonais gacwn o’ch blaen chwi , a’r rhai hynny a’u gyrrodd hwynt allan o’ch blaen chwi ; sef dau frenin yr Amoriaid : nid â’th gleddyf di , ac nid â’th fwa . A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch amdani , a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch , ac yr ydych yn trigo ynddynt : o’r gwinllannoedd a’r olewlannoedd ni phlanasoch , yr ydych yn bwyta ohonynt . Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd , a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd , a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon , ac yn yr Aifft ; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd . Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr Arglwydd , dewiswch i chwi heddiw pa un a wasanaethoch , ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau , y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon , ai ynteu duwiau yr Amoriaid , y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad : ond myfi , mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd . Yna yr atebodd y bobl , ac y dywedodd , Na ato Duw i ni adael yr Arglwydd , i wasanaethu duwiau dieithr ; Canys yr Arglwydd ein Duw yw yr hwn a’n dug ni i fyny a’n tadau o wlad yr Aifft , o dŷ y caethiwed ; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni , ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi , ac ymysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith : A’r Arglwydd a yrrodd allan yr holl bobloedd , a’r Amoriaid , preswylwyr y wlad , o’n blaen ni : am hynny ninnau a wasanaethwn yr Arglwydd ; canys efe yw ein Duw ni . A Josua a ddywedodd wrth y bobl , Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd ; canys Duw sancteiddiol yw efe : Duw eiddigus yw ; ni ddioddef efe eich anwiredd , na’ch pechodau . O gwrthodwch yr Arglwydd , a gwasanaethu duwiau dieithr ; yna efe a dry , ac a’ch dryga chwi , ac efe a’ch difa chwi , wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni . A’r bobl a ddywedodd wrth Josua , Nage ; eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd . A dywedodd Josua wrth y bobl , Tystion ydych yn eich erbyn eich hun , ddewis ohonoch i chwi yr Arglwydd i’w wasanaethu . Dywedasant hwythau , Tystion ydym . Am hynny yn awr ( eb efe ) bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg , a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel . A’r bobl a ddywedasant wrth Josua , Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn , ac ar ei lais ef y gwrandawn . Felly Josua a wnaeth gyfamod â’r bobl y dwthwn hwnnw , ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau yn Sichem . A Josua a ysgrifennodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Dduw , ac a gymerth faen mawr , ac a’i gosododd i fyny yno dan dderwen oedd yn agos i gysegr yr Arglwydd . A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl , Wele , y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni ; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd , y rhai a lefarodd efe wrthym : am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi , rhag i chwi wadu eich Duw . Felly Josua a ollyngodd y bobl , bob un i’w etifeddiaeth . Ac wedi’r pethau hyn , y bu farw Josua mab Nun , gwas yr Arglwydd , yn fab dengmlwydd a chant . A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth , o fewn Timnath‐sera ; yr hon sydd ym mynydd Effraim , o du y gogledd i fynydd Gaas . Ac Israel a wasanaethodd yr Arglwydd holl ddyddiau Josua , a holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ôl Josua , ac a wybuasent holl waith yr Arglwydd a wnaethai efe er Israel . Ac esgyrn Joseff , y rhai a ddygasai meibion Israel i fyny o’r Aifft , a gladdasant hwy yn Sichem , mewn rhan o’r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem , er can darn o arian ; a bu i feibion Joseff yn etifeddiaeth . Ac Eleasar mab Aaron a fu farw : a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab , yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Effraim . </passage></reply></GetPassage>