<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:60</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:60</urn><passage>Pedr , apostol Iesu Grist , at y dieithriaid sydd ar wasgar ar hyd Pontus , Galatia , Capadocia , Asia , a Bithynia , Etholedigion yn ôl rhagwybodaeth Duw Dad , trwy sancteiddiad yr Ysbryd , i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist : Gras i chwi a heddwch a amlhaer . Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist , yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a’n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol , trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw , I etifeddiaeth anllygredig , a dihalogedig , a diddiflanedig , ac yng nghadw yn y nefoedd i chwi . Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd i iachawdwriaeth , parod i’w datguddio yn yr amser diwethaf . Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau , er eich bod ychydig yr awron , os rhaid yw , mewn tristwch , trwy amryw brofedigaethau : Fel y caffer profiad eich ffydd chwi , yr hwn sydd werthfawrusach na’r aur colladwy , cyd profer ef trwy dân , er mawl , ac anrhydedd , a gogoniant , yn ymddangosiad Iesu Grist : Yr hwn , er nas gwelsoch , yr ydych yn ei garu ; yn yr hwn , heb fod yr awron yn ei weled , ond yn credu , yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd anhraethadwy a gogoneddus : Gan dderbyn diwedd eich ffydd , sef iachawdwriaeth eich eneidiau . Am yr hon iachawdwriaeth yr ymofynnodd , ac y manwl chwiliodd y proffwydi , y rhai a broffwydasant am y gras a ddeuai i chwi : Gan chwilio pa bryd , neu pa ryw amser , yr oedd Ysbryd Crist , yr hwn oedd ynddynt , yn ei hysbysu , pan oedd efe yn rhagdystiolaethu dioddefaint Crist , a’r gogoniant ar ôl hynny . I’r rhai y datguddiwyd , nad iddynt hwy eu hunain , ond i ni , yr oeddynt yn gweini yn y pethau a fynegwyd yn awr i chwi , gan y rhai a efengylasant i chwi trwy’r Ysbryd Glân , yr hwn a ddanfonwyd o’r nef ; ar yr hyn bethau y mae’r angylion yn chwenychu edrych . Oherwydd paham , gan wregysu lwynau eich meddwl , a bod yn sobr , gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist ; Fel plant ufudd-dod , heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth : Eithr megis y mae’r neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd , byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad . Oblegid y mae yn ysgrifenedig , Byddwch sanctaidd ; canys sanctaidd ydwyf fi . Ac os ydych yn galw ar y Tad , yr hwn sydd heb dderbyn wyneb yn barnu yn ôl gweithred pob un , ymddygwch mewn ofn dros amser eich ymdeithiad : Gan wybod nad â phethau llygredig , megis arian neu aur , y’ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad , yr hwn a gawsoch trwy draddodiad y tadau ; Eithr â gwerthfawr waed Crist , megis oen difeius a difrycheulyd : Yr hwn yn wir a ragordeiniwyd cyn sylfaenu’r byd , eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diwethaf er eich mwyn chwi , Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw , yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw , ac a roddodd iddo ef ogoniant , fel y byddai eich ffydd chwi a’ch gobaith yn Nuw . Gwedi puro eich eneidiau , gan ufuddhau i’r gwirionedd trwy’r Ysbryd , i frawdgarwch diragrith , cerwch eich gilydd o galon bur yn helaeth : Wedi eich aileni , nid o had llygredig , eithr anllygredig , trwy air Duw , yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd . Canys pob cnawd fel glaswelltyn yw , a holl ogoniant dyn fel blodeuyn y glaswelltyn . Gwywodd y glaswelltyn , a’i flodeuyn a syrthiodd : Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd . A hwn yw’r gair a bregethwyd i chwi . Wedi rhoi heibio gan hynny bob drygioni , a phob twyll , a rhagrith , a chenfigen , a phob gogan-air , Fel rhai bychain newydd-eni , chwenychwch ddidwyll laeth y gair , fel y cynyddoch trwyddo ef : Os profasoch fod yr Arglwydd yn dirion . At yr hwn yr ydych yn dyfod , megis at faen bywiol , a wrthodwyd gan ddynion , eithr etholedig gan Dduw , a gwerthfawr . A chwithau , megis meini bywiol , ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysbrydol , yn offeiriadaeth sanctaidd , i offrymu aberthau ysbrydol , cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist . Oherwydd paham y cynhwysir yn yr ysgrythur , Wele , yr wyf yn gosod yn Seion benconglfaen , etholedig , a gwerthfawr : a’r hwn a gred ynddo , nis gwaradwyddir . I chwi gan hynny , y rhai ydych yn credu , y mae yn urddas : eithr i’r anufuddion , y maen a wrthododd yr adeiladwyr , hwnnw a wnaed yn ben y gongl , Ac yn faen tramgwydd , ac yn graig rhwystr , i’r rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair , gan fod yn anufudd ; i’r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd . Eithr chwychwi ydych rywogaeth etholedig , brenhinol offeiriadaeth , cenedl sanctaidd , pobl briodol i Dduw ; fel y mynegoch rinweddau’r hwn a’ch galwodd allan o dywyllwch i’w ryfeddol oleuni ef : Y rhai gynt nid oeddech bobl , ond yn awr ydych bobl i Dduw : y rhai ni chawsech drugaredd , ond yr awron a gawsoch drugaredd . Anwylyd , yr wyf yn atolwg i chwi , megis dieithriaid a phererinion , ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol , y rhai sydd yn rhyfela yn erbyn yr enaid ; Gan fod â’ch ymarweddiad yn onest ymysg y Cenhedloedd : fel , lle maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr , y gallont , oherwydd eich gweithredoedd da a welant , ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad . Ymddarostyngwch oblegid hyn i bob dynol ordinhad , oherwydd yr Arglwydd : pa un bynnag ai i’r brenin , megis goruchaf ; Ai i’r llywiawdwyr , megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwgweithredwyr , a mawl i’r gweithredwyr da . Canys felly y mae ewyllys Duw , fod i chwi trwy wneuthur daioni ostegu anwybodaeth dynion ffolion : Megis yn rhyddion , ac nid â rhyddid gennych megis cochl malais , eithr fel gwasanaethwyr Duw . Perchwch bawb . Cerwch y brawdoliaeth . Ofnwch Dduw . Anrhydeddwch y brenin . Y gweision , byddwch ddarostyngedig gyda phob ofn i’ch meistriaid ; nid yn unig i’r rhai da a chyweithas , eithr i’r rhai anghyweithas hefyd . Canys hyn sydd rasol , os yw neb oherwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch , gan ddioddef ar gam . Oblegid pa glod yw , os , pan bechoch , a chael eich cernodio , y byddwch dda eich amynedd ? eithr os , a chwi’n gwneuthur yn dda , ac yn dioddef , y byddwch dda eich amynedd , hyn sydd rasol gerbron Duw . Canys i hyn y’ch galwyd hefyd : oblegid Crist yntau a ddioddefodd drosom ni , gan adael i ni esampl , fel y canlynech ei ôl ef : Yr hwn ni wnaeth bechod , ac ni chaed twyll yn ei enau : Yr hwn , pan ddifenwyd , ni ddifenwodd drachefn ; pan ddioddefodd , ni fygythiodd ; eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn : Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren ; fel , gwedi ein marw i bechodau , y byddem byw i gyfiawnder : trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi . Canys yr oeddech megis defaid yn myned ar gyfeiliorn ; eithr yn awr chwi a ddychwelwyd at Fugail ac Esgob eich eneidiau . Yr un ffunud , bydded y gwragedd ostyngedig i’w gwŷr priod ; fel , od oes rhai heb gredu i’r gair , y galler trwy ymarweddiad y gwragedd , eu hennill hwy heb y gair , Wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghyd ag ofn . Trwsiad y rhai bydded nid yr un oddi allan , o blethiad gwallt , ac amgylch-osodiad aur , neu wisgad dillad ; Eithr bydded cuddiedig ddyn y galon , mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a llonydd , yr hwn sydd gerbron Duw yn werthfawr . Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd , y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw , yn ymdrwsio , gan fod yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod ; Megis yr ufuddhaodd Sara i Abraham , gan ei alw ef yn arglwydd : merched yr hon ydych chwi , tra fyddoch yn gwneuthur yn dda , ac heb ofni dim dychryn . Y gwŷr , yr un ffunud , cydgyfanheddwch â hwynt yn ôl gwybodaeth , gan roddi parch i’r wraig megis i’r llestr gwannaf , fel rhai sydd gyd-etifeddion gras y bywyd ; rhag rhwystro eich gweddïau . Am ben hyn , byddwch oll yn unfryd , yn cydoddef â’ch gilydd , yn caru fel brodyr , yn drugarogion , yn fwynaidd : Nid yn talu drwg am ddrwg , neu sen am sen : eithr , yng ngwrthwyneb , yn bendithio ; gan wybod mai i hyn y’ch galwyd , fel yr etifeddoch fendith . Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd , a gweled dyddiau da , atalied ei dafod oddi wrth ddrwg , a’i wefusau rhag adrodd twyll : Gocheled y drwg , a gwnaed y da ; ceisied heddwch , a dilyned ef . Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn , a’i glustiau ef tuag at eu gweddi hwynt : eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sydd yn gwneuthur drwg . A phwy a’ch dryga chwi , os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda ? Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef oherwydd cyfiawnder , dedwydd ydych : ond nac ofnwch rhag eu hofn hwynt , ac na’ch cynhyrfer ; Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau : a byddwch barod bob amser i ateb i bob un a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch , gydag addfwynder ac ofn : A chennych gydwybod dda ; fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr , y cywilyddio’r rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yng Nghrist . Canys gwell ydyw , os ewyllys Duw a’i myn , i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni , nag yn gwneuthur drygioni . Oblegid Crist hefyd unwaith a ddioddefodd dros bechodau , y Cyfiawn dros yr anghyfiawn , fel y dygai ni at Dduw , wedi ei farwolaethu yn y cnawd , eithr ei fywhau yn yr Ysbryd : Trwy’r hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i’r ysbrydion yng ngharchar ; Y rhai a fu gynt anufudd , pan unwaith yr oedd hir amynedd Duw yn aros yn nyddiau Noe , tra darperid yr arch , yn yr hon ychydig , sef wyth enaid , a achubwyd trwy ddwfr . Cyffelybiaeth cyfatebol i’r hwn sydd yr awron yn ein hachub ninnau , sef bedydd , ( nid bwrw ymaith fudreddi’r cnawd , eithr ymateb cydwybod dda tuag at Dduw ; ) trwy atgyfodiad Iesu Grist : Yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw , wedi myned i’r nef ; a’r angylion , a’r awdurdodau , a’r galluoedd , wedi eu darostwng iddo . Am hynny gan ddioddef o Grist drosom ni yn y cnawd , chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â’r un meddwl : oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd , a beidiodd â phechod ; Fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion , ond i ewyllys Duw , dros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd . Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o’r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd , gan rodio mewn trythyllwch , trachwantau , meddwdod , cyfeddach , diota , a ffiaidd eilun-addoliad : Yn yr hyn y maent yn ddieithr yn eich cablu chwi , am nad ydych yn cydredeg gyda hwynt i’r unrhyw ormod rhysedd : Y rhai a roddant gyfrif i’r hwn sydd barod i farnu’r byw a’r meirw . Canys er mwyn hynny yr efengylwyd i’r meirw hefyd ; fel y bernid hwy yn ôl dynion yn y cnawd , ac y byddent fyw yn ôl Duw yn yr ysbryd . Eithr diwedd pob peth a nesaodd : am hynny byddwch sobr , a gwyliadwrus i weddïau . Eithr o flaen pob peth , bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd : canys cariad a guddia liaws o bechodau . Byddwch letygar y naill i’r llall , heb rwgnach . Pob un , megis y derbyniodd rodd , cyfrennwch â’ch gilydd , fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw . Os llefaru a wna neb , llefared megis geiriau Duw ; os gweini y mae neb , gwnaed megis o’r gallu y mae Duw yn ei roddi : fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist ; i’r hwn y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd . Amen . Anwylyd , na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch , yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi , fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi : Eithr llawenhewch , yn gymaint â’ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist ; fel , pan ddatguddier ei ogoniant ef , y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu . Os difenwir chwi er mwyn enw Crist , gwyn eich byd ; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant , ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch : ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir , ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir . Eithr na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd , neu leidr , neu ddrwgweithredwr , neu fel un yn ymyrraeth â materion rhai eraill : Eithr os fel Cristion , na fydded gywilydd ganddo ; ond gogonedded Dduw yn hyn o ran . Canys daeth yr amser i ddechrau o’r farn o dŷ Dduw : ac os dechrau hi yn gyntaf arnom ni , beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw ? Ac os braidd y mae’r cyfiawn yn gadwedig , pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur ? Am hynny y rhai hefyd sydd yn dioddef yn ôl ewyllys Duw , gorchmynnant eu heneidiau iddo ef , megis i Greawdwr ffyddlon , gan wneuthur yn dda . Yr henuriaid sydd yn eich plith , atolwg iddynt yr ydwyf fi , yr hwn wyf gyd-henuriad , a thyst o ddioddefiadau Crist , yr hwn hefyd wyf gyfrannog o’r gogoniant a ddatguddir : Porthwch braidd Duw , yr hwn sydd yn eich plith , gan fwrw golwg arnynt ; nid trwy gymell , eithr yn ewyllysgar ; nid er mwyn budrelw , eithr o barodrwydd meddwl ; Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw , ond gan fod yn esamplau i’r praidd . A phan ymddangoso’r Pen-bugail , chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant . Yr un ffunud yr ieuainc , byddwch ostyngedig i’r henuriaid . A byddwch bawb yn ostyngedig i’ch gilydd , ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd : oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion , ac yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig . Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw , fel y’ch dyrchafo mewn amser cyfaddas : Gan fwrw eich holl ofal arno ef ; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi . Byddwch sobr , gwyliwch : oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol , megis llew rhuadwy , yn rhodio oddi amgylch , gan geisio’r neb a allo ei lyncu . Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd ; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd . A Duw pob gras , yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu , wedi i chwi ddioddef ychydig , a’ch perffeithio chwi , a’ch cadarnhao , a’ch cryfhao , a’ch sefydlo . Iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd . Amen . Gyda Silfanus , brawd ffyddlon i chwi , fel yr wyf yn tybied , yr ysgrifennais ar ychydig eiriau , gan gynghori , a thystiolaethu mai gwir ras Duw yw’r hwn yr ydych yn sefyll ynddo . Y mae’r eglwys sydd ym Mabilon , yn gydetholedig â chwi , yn eich annerch ; a Marc , fy mab i . Anerchwch eich gilydd â chusan cariad . Tangnefedd i chwi oll y rhai ydych yng Nghrist Iesu . Amen . </passage></reply></GetPassage>