<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:61</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:61</urn><passage>Simon Pedr , gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist , at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau , trwy gyfiawnder ein Duw ni , a’n Hachubwr Iesu Grist : Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer , trwy adnabod Duw , a Iesu ein Harglwydd ni , Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb , trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd : Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr ; fel trwy’r rhai hyn y byddech gyfranogion o’r duwiol anian , wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant . A hyn yma hefyd , gan roddi cwbl ddiwydrwydd , chwanegwch at eich ffydd , rinwedd ; ac at rinwedd , wybodaeth ; Ac at wybodaeth , gymedrolder ; ac at gymedrolder , amynedd ; ac at amynedd , dduwioldeb ; Ac at dduwioldeb , garedigrwydd brawdol ; ac at garedigrwydd brawdol , gariad . Canys os yw’r pethau hyn gennych , ac yn aml hwynt , y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist . Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo , dall ydyw , heb weled ymhell , wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt . Oherwydd paham yn hytrach , frodyr , byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr : canys , tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn , ni lithrwch chwi ddim byth : Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist . Oherwydd paham nid esgeulusaf eich coffau bob amser am y pethau hyn , er eich bod yn eu gwybod , ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol . Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn , tra fyddwyf yn y tabernacl hwn , eich cyffroi chwi , trwy ddwyn ar gof i chwi ; Gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio , megis ag yr hysbysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi . Ac mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser , ar ôl fy ymadawiad i , wneuthur coffa am y pethau hyn . Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys , yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist , eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid . Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant , pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant , Hwn yw fy annwyl Fab i , yn yr hwn y’m bodlonwyd . A’r llef yma , yr hon a ddaeth o’r nef , a glywsom ni , pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd . Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi ; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno , megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll , hyd oni wawrio’r dydd , ac oni chodo’r seren ddydd yn eich calonnau chwi : Gan wybod hyn yn gyntaf , nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod . Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth ; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân . Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhlith y bobl , megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau ; y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol , a chan wadu’r Arglwydd yr hwn a’u prynodd hwynt , ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan . A llawer a ganlynant eu distryw hwynt , oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd . Ac mewn cybydd-dod , trwy chwedlau gwneuthur , y gwnânt farsiandïaeth ohonoch : barnedigaeth y rhai er ys talm nid yw segur , a’u colledigaeth hwy nid yw yn hepian . Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent , eithr eu taflu hwynt i uffern , a’u rhoddi i gadwynau tywyllwch , i’w cadw i farnedigaeth ; Ac onid arbedodd efe yr hen fyd , eithr Noe , pregethwr cyfiawnder , a gadwodd efe ar ei wythfed , pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir ; A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw , a’u damniodd hwy â dymchweliad , gan eu gosod yn esampl i’r rhai a fyddent yn annuwiol ; Ac a waredodd Lot gyfiawn , yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid : ( Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt , yn gweled ac yn clywed , ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt : ) Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth , a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i’w poeni : Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid , ac yn diystyru llywodraeth . Rhyfygus ydynt , cyndyn ; nid ydynt yn arswydo cablu urddas : Lle nid yw’r angylion , y rhai sydd fwy mewn gallu a nerth , yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn hwynt gerbron yr Arglwydd . Eithr y rhai hyn , megis anifeiliaid anrhesymol anianol , y rhai a wnaed i’w dal ac i’w difetha , a gablant y pethau ni wyddant oddi wrthynt , ac a ddifethir yn eu llygredigaeth eu hunain ; Ac a dderbyniant gyflog anghyfiawnder , a hwy yn cyfrif moethau beunydd yn hyfrydwch . Brychau a meflau ydynt , yn ymddigrifo yn eu twyll eu hunain , gan wledda gyda chwi ; A llygaid ganddynt yn llawn godineb , ac heb fedru peidio â phechod ; yn llithio eneidiau anwadal : a chanddynt galon wedi ymgynefino â chybydd-dra ; plant y felltith : Wedi gadael y ffordd union , hwy a aethant ar gyfeiliorn , gan ganlyn ffordd Balaam mab Bosor , yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder ; Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd : asen fud arferol â’r iau , gan ddywedyd â llef ddynol , a waharddodd ynfydrwydd y proffwyd . Y rhai hyn ydynt ffynhonnau di-ddwfr , cymylau a yrrid gan dymestl ; i’r rhai y mae niwl tywyllwch yng nghadw yn dragywydd . Canys gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd , y maent hwy , trwy chwantau’r cnawd , a thrythyllwch , yn llithio’r rhai a ddianghasai yn gwbl oddi wrth y rhai sydd yn byw ar gyfeiliorn . Gan addo rhyddid iddynt , a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr llygredigaeth : canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb , i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth . Canys os , wedi iddynt ddianc oddi wrth halogedigaeth y byd , trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist , y rhwystrir hwy drachefn â’r pethau hyn , a’u gorchfygu ; aeth diwedd y rhai hynny yn waeth na’u dechreuad . Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder , nag , wedi ei hadnabod , troi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd yr hwn a draddodwyd iddynt . Eithr digwyddodd iddynt yn ôl y wir ddihareb , Y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun ; a’r hwch wedi ei golchi , i’w hymdreiglfa yn y dom . Yr ail epistol hwn , anwylyd , yr ydwyf yn awr yn ei ysgrifennu atoch ; yn yr hwn yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd , trwy ddwyn ar gof i chwi : Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd , a’n gorchymyn ninnau , apostolion yr Arglwydd a’r Iachawdwr : Gan wybod hyn yn gyntaf , y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr , yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain . Ac yn dywedyd , Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef ? canys er pan hunodd y tadau , y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth . Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o’u gwirfodd , mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm , a’r ddaear yn cydsefyll o’r dwfr a thrwy’r dwfr . Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw , wedi ei orchuddio â dwfr , a ddifethwyd . Eithr y nefoedd a’r ddaear sydd yr awr hon , ydynt trwy’r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân , erbyn dydd y farn , a distryw yr anwir ddynion . Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi , anwylyd , fod un dydd gyda’r Arglwydd megis mil o flynyddoedd , a mil o flynyddoedd megis un dydd . Nid ydyw’r Arglwydd yn oedi ei addewid , fel y mae rhai yn cyfrif oed ; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni , heb ewyllysio bod neb yn golledig , ond dyfod o bawb i edifeirwch . Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos ; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf , a’r defnyddiau gan wir wres a doddant , a’r ddaear a’r gwaith a fyddo ynddi a losgir . A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng , pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb , Yn disgwyl ac yn brysio at ddyfodiad dydd Duw , yn yr hwn y nefoedd gan losgi a ymollyngant , a’r defnyddiau gan wir wres a doddant ? Eithr nefoedd newydd , a daear newydd , yr ydym ni , yn ôl ei addewid ef , yn eu disgwyl , yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu . Oherwydd paham , anwylyd , gan eich bod yn disgwyl y pethau hyn , gwnewch eich gorau ar eich cael ganddo ef mewn tangnefedd , yn ddifrycheulyd , ac yn ddiargyhoedd . A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth ; megis ag yr ysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi , yn ôl y doethineb a rodded iddo ef ; Megis yn ei holl epistolau hefyd , yn llefaru ynddynt am y pethau hyn : yn y rhai y mae rhyw bethau anodd eu deall , y rhai y mae’r annysgedig a’r anwastad yn eu gŵyrdroi , megis yr ysgrythurau eraill , i’w dinistr eu hunain . Chwychwi gan hynny , anwylyd , a chwi yn gwybod y pethau hyn o’r blaen , ymgedwch rhag eich arwain ymaith trwy amryfusedd yr annuwiol , a chwympo ohonoch oddi wrth eich sicrwydd eich hun . Eithr cynyddwch mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist . Iddo ef y byddo gogoniant yr awr hon ac yn dragwyddol . Amen . </passage></reply></GetPassage>