<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:62</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:62</urn><passage>Yr hyn oedd o’r dechreuad , yr hyn a glywsom , yr hyn a welsom â’n llygaid , yr hyn a edrychasom arno , ac a deimlodd ein dwylo am Air y bywyd ; ( Canys y bywyd a eglurhawyd , ac ni a welsom , ac ydym yn tystiolaethu , ac yn mynegi i chwi’r bywyd tragwyddol , yr hwn oedd gyda’r Tad , ac a eglurhawyd i ni ; ) Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi , fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni : a’n cymdeithas ni yn wir sydd gyda’r Tad , a chyda’i Fab ef Iesu Grist . A’r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch , fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn . A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo ef , ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi ; Mai goleuni yw Duw , ac nad oes ynddo ddim tywyllwch . Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef , a rhodio yn y tywyllwch , celwyddog ydym , ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd : Eithr os rhodiwn yn y goleuni , megis y mae efe yn y goleuni , y mae i ni gymdeithas â’n gilydd , a gwaed Iesu Grist ei Fab ef , sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod . Os dywedwn nad oes ynom bechod , yr ydym yn ein twyllo ein hunain , a’r gwirionedd nid yw ynom . Os cyfaddefwn ein pechodau , ffyddlon yw efe a chyfiawn , fel y maddeuo i ni ein pechodau , ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder . Os dywedwn na phechasom , yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog , a’i air ef nid yw ynom . Fy mhlant bychain , y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch , fel na phechoch . Ac o phecha neb , y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad , Iesu Grist y Cyfiawn : Ac efe yw’r iawn dros ein pechodau ni : ac nid dros yr eiddom ni yn unig , eithr dros bechodau yr holl fyd . Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef , os cadwn ni ei orchmynion ef . Yr hwn sydd yn dywedyd , Mi a’i hadwaen ef , ac heb gadw ei orchmynion ef , celwyddog yw , a’r gwirionedd nid yw ynddo . Eithr yr hwn a gadwo ei air ef , yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith : wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef . Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef , a ddylai yntau felly rodio , megis ag y rhodiodd ef . Y brodyr , nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch , eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o’r dechreuad . Yr hen orchymyn yw’r gair a glywsoch o’r dechreuad . Trachefn , gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch , yr hyn sydd wir ynddo ef , ac ynoch chwithau : oblegid y tywyllwch a aeth heibio , a’r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu . Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni , ac a gasao ei frawd , yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn . Yr hwn sydd yn caru ei frawd , sydd yn aros yn y goleuni , ac nid oes rhwystr ynddo . Eithr yr hwn sydd yn casáu ei frawd , yn y tywyllwch y mae , ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio ; ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned , oblegid y mae’r tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef . Ysgrifennu yr wyf atoch chwi , blant bychain , oblegid maddau i chwi eich pechodau er mwyn ei enw ef . Ysgrifennu yr wyf atoch chwi , dadau , am adnabod ohonoch yr hwn sydd o’r dechreuad . Ysgrifennu yr wyf atoch chwi , wŷr ieuainc , am orchfygu ohonoch yr un drwg . Ysgrifennu yr wyf atoch chwi , rai bychain , am i chwi adnabod y Tad . Ysgrifennais atoch chwi , dadau , am adnabod ohonoch yr hwn sydd o’r dechreuad . Ysgrifennais atoch chwi , wŷr ieuainc , am eich bod yn gryfion , a bod gair Duw yn aros ynoch , a gorchfygu ohonoch yr un drwg . Na cherwch y byd , na’r pethau sydd yn y byd . O châr neb y byd , nid yw cariad y Tad ynddo ef . Canys pob peth a’r sydd yn y byd , megis chwant y cnawd , a chwant y llygaid , a balchder y bywyd , nid yw o’r Tad , eithr o’r byd y mae . A’r byd sydd yn myned heibio , a’i chwant hefyd : ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw , sydd yn aros yn dragywydd . O blant bychain , yr awr ddiwethaf ydyw : ac megis y clywsoch y daw anghrist , yr awron hefyd y mae anghristiau lawer ; wrth yr hyn y gwyddom mai’r awr ddiwethaf ydyw . Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan , eithr nid oeddynt ohonom ni : canys pe buasent ohonom ni , hwy a arosasent gyda ni : eithr hyn a fu , fel yr eglurid nad ydynt hwy oll ohonom ni . Eithr y mae gennych chwi eneiniad oddi wrth y Sanctaidd hwnnw , a chwi a wyddoch bob peth . Nid ysgrifennais atoch oblegid na wyddech y gwirionedd , eithr oblegid eich bod yn ei wybod , ac nad oes un celwydd o’r gwirionedd . Pwy yw’r celwyddog , ond yr hwn sydd yn gwadu nad Iesu yw’r Crist ? Efe yw’r anghrist , yr hwn sydd yn gwadu’r Tad a’r Mab . Pob un a’r sydd yn gwadu’r Mab , nid oes ganddo’r Tad chwaith : [ ond ] yr hwn sydd yn cyffesu’r Mab , y mae’r Tad ganddo hefyd . Arhosed gan hynny ynoch chwi yr hyn a glywsoch o’r dechreuad . Od erys ynoch yr hyn a glywsoch o’r dechreuad chwithau hefyd a gewch aros yn y Mab ac yn y Tad . A hon yw’r addewid a addawodd efe i ni , sef bywyd tragwyddol . Y pethau hyn a ysgrifennais atoch ynghylch y rhai sydd yn eich hudo . Ond y mae’r eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef , yn aros ynoch chwi , ac nid oes arnoch eisiau dysgu o neb chwi ; eithr fel y mae’r un eneiniad yn eich dysgu chwi am bob peth , a gwir yw , ac nid yw gelwydd ; ac megis y’ch dysgodd chwi , yr arhoswch ynddo . Ac yr awron , blant bychain , arhoswch ynddo ; fel , pan ymddangoso efe , y byddo hyder gennym , ac na chywilyddiom ger ei fron ef yn ei ddyfodiad . Os gwyddoch ei fod ef yn gyfiawn , chwi a wyddoch fod pob un a’r sydd yn gwneuthur cyfiawnder , wedi ei eni ohono ef . Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad arnom , fel y’n gelwid yn feibion i Dduw : oblegid hyn nid edwyn y byd chwi , oblegid nad adnabu efe ef . Anwylyd , yr awr hon meibion i Dduw ydym , ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn : eithr ni a wyddom , pan ymddangoso efe , y byddwn gyffelyb iddo : oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae . Ac y mae pob un sydd ganddo’r gobaith hwn ynddo ef , yn ei buro’i hun , megis y mae yntau yn bur . Pob un a’r sydd yn gwneuthur pechod , sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith : oblegid anghyfraith yw pechod . A chwi a wyddoch ymddangos ohono ef , fel y dileai ein pechodau ni : ac ynddo ef nid oes pechod . Pob un a’r sydd yn aros ynddo ef , nid yw yn pechu : pob un a’r sydd yn pechu , nis gwelodd ef , ac nis adnabu ef . O blant bychain , na thwylled neb chwi : yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder , sydd gyfiawn , megis y mae yntau yn gyfiawn . Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod , o ddiafol y mae ; canys y mae diafol yn pechu o’r dechreuad . I hyn yr ymddangosodd Mab Duw , fel y datodai weithredoedd diafol . Pob un a aned o Dduw , nid yw yn gwneuthur pechod ; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef : ac ni all efe bechu , am ei eni ef o Dduw . Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw , a phlant diafol : Pob un a’r sydd heb wneuthur cyfiawnder , nid yw o Dduw , na’r hwn nid yw yn caru ei frawd . Oblegid hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad ; bod i ni garu ein gilydd . Nid fel Cain , yr hwn oedd o’r drwg , ac a laddodd ei frawd . A phaham y lladdodd ef ? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg , a’r eiddo ei frawd yn dda . Na ryfeddwch , fy mrodyr , os yw’r byd yn eich casáu chwi . Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd , oblegid ein bod yn caru’r brodyr . Yr hwn nid yw yn caru ei frawd , y mae yn aros ym marwolaeth . Pob un a’r sydd yn casáu ei frawd , lleiddiad dyn yw : a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo . Yn hyn yr adnabuom gariad Duw , oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni : a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr . Eithr yr hwn sydd ganddo dda’r byd hwn , ac a welo ei frawd mewn eisiau , ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho , pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef ? Fy mhlant bychain , na charwn ar air nac ar dafod yn unig , eithr mewn gweithred a gwirionedd . Ac wrth hyn y gwyddom ein bod o’r gwirionedd , ac y sicrhawn ein calonnau ger ei fron ef . Oblegid os ein calon a’n condemnia , mwy yw Duw na’n calon , ac efe a ŵyr bob peth . Anwylyd , os ein calon ni’n condemnia , y mae gennym hyder ar Dduw . A pha beth bynnag a ofynnom , yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef ; oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef , ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef . A hwn yw ei orchymyn ef ; Gredu ohonom yn enw ei Fab ef Iesu Grist , a charu ein gilydd , megis y rhoes efe orchymyn i ni . A’r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef , sydd yn trigo ynddo ef , ac yntau ynddo yntau . Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom , sef o’r Ysbryd a roddes efe i ni . Anwylyd , na chredwch bob ysbryd , eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent : oblegid y mae gau broffwydi lawer wedi myned allan i’r byd . Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw : Pob ysbryd a’r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd , o Dduw y mae . A phob ysbryd a’r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd , nid yw o Dduw : eithr hwn yw ysbryd anghrist , yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod , a’r awron y mae efe yn y byd eisoes . Chwychwi ydych o Dduw , blant bychain , ac a’u gorchfygasoch hwy : oblegid mwy yw’r hwn sydd ynoch chwi na’r hwn sydd yn y byd . Hwynt-hwy , o’r byd y maent : am hynny y llefarant am y byd , a’r byd a wrendy arnynt . Nyni , o Dduw yr ydym . Yr hwn sydd yn adnabod Duw , sydd yn ein gwrando ni : yr hwn nid yw o Dduw , nid yw yn ein gwrando ni . Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd , ac ysbryd y cyfeiliorni . Anwylyd , carwn ein gilydd : oblegid cariad , o Dduw y mae ; a phob un a’r sydd yn caru , o Dduw y ganwyd ef , ac y mae efe yn adnabod Duw . Yr hwn nid yw yn caru , nid adnabu Dduw : oblegid Duw , cariad yw . Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni , oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i’r byd , fel y byddem fyw trwyddo ef . Yn hyn y mae cariad ; nid am i ni garu Duw , ond am iddo ef ein caru ni , ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau . Anwylyd , os felly y carodd Duw ni , ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd . Ni welodd neb Dduw erioed . Os carwn ni ein gilydd , y mae Duw yn trigo ynom , ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom . Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef , ac yntau ynom ninnau , am ddarfod iddo roddi i ni o’i Ysbryd . A ninnau a welsom , ac ydym yn tystiolaethu , ddarfod i’r Tad ddanfon y Mab i fod yn Iachawdwr i’r byd . Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw , y mae Duw yn aros ynddo ef , ac yntau yn Nuw . A nyni a adnabuom ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tuag atom ni . Duw , cariad yw : a’r hwn sydd yn aros mewn cariad , sydd yn aros yn Nuw , a Duw ynddo yntau . Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni , fel y caffom hyder ddydd y farn : oblegid megis ag y mae efe , yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn . Nid oes ofn mewn cariad ; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn : oblegid y mae i ofn boenedigaeth . A’r hwn sydd yn ofni , ni pherffeithiwyd mewn cariad . Yr ydym ni yn ei garu ef , am iddo ef yn gyntaf ein caru ni . Os dywed neb , Yr wyf yn caru Duw , ac efe yn casáu ei frawd , celwyddog yw : canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd , pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd ? A’r gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef : Bod i’r hwn sydd yn caru Duw , garu ei frawd hefyd . Pob un a’r sydd yn credu mai Iesu yw’r Crist , o Dduw y ganed ef : a phob un a’r sydd yn caru’r hwn a genhedlodd , sydd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd ohono . Yn hyn y gwyddom ein bod yn caru plant Duw , pan fyddom yn caru Duw , ac yn cadw ei orchmynion ef . Canys hyn yw cariad Duw ; bod i ni gadw ei orchmynion : a’i orchmynion ef nid ydynt drymion . Oblegid beth bynnag a aned o Dduw , y mae yn gorchfygu’r byd : a hon yw’r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu’r byd , sef ein ffydd ni . Pwy yw’r hwn sydd yn gorchfygu’r byd , ond yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mab Duw ? Dyma’r hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed , sef Iesu Grist ; nid trwy ddwfr yn unig , ond trwy ddwfr a gwaed . A’r Ysbryd yw’r hwn sydd yn tystiolaethu , oblegid yr Ysbryd sydd wirionedd . Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef ; y Tad , y Gair , a’r Ysbryd Glân : a’r tri hyn un ydynt . Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaear ; yr ysbryd , y dwfr , a’r gwaed : a’r tri hyn , yn un y maent yn cytuno . Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei derbyn , y mae tystiolaeth Duw yn fwy : canys hyn yw tystiolaeth Duw , yr hon a dystiolaethodd efe am ei Fab . Yr hwn sydd yn credu ym Mab Duw , sydd ganddo’r dystiolaeth ynddo ei hun : yr hwn nid yw yn credu yn Nuw , a’i gwnaeth ef yn gelwyddog , oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fab . A hon yw’r dystiolaeth ; roddi o Dduw i ni fywyd tragwyddol : a’r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef . Yr hwn y mae’r Mab ganddo , y mae’r bywyd ganddo ; a’r hwn nid yw ganddo Fab Duw , nid oes ganddo fywyd . Y pethau hyn a ysgrifennais atoch chwi , y rhai ydych yn credu yn enw Mab Duw ; fel y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol , ac fel y credoch yn enw Mab Duw . A hyn yw’r hyfder sydd gennym tuag ato ef ; ei fod ef yn ein gwrando ni , os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef . Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni , pa beth bynnag a ddeisyfom , ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo . Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth , efe a ddeisyf , ac efe a rydd iddo fywyd , i’r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth . Y mae pechod i farwolaeth : nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono . Pob anghyfiawnder , pechod yw : ac y mae pechod nid yw i farwolaeth . Ni a wyddom nad yw’r neb a aned o Dduw , yn pechu ; eithr y mae’r hwn a aned o Dduw , yn ei gadw ei hun , a’r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef . Ni a wyddom ein bod o Dduw , ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni . Ac a wyddom ddyfod Mab Duw , ac efe a roes i ni feddwl , fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir ; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw , sef yn ei Fab ef Iesu Grist . Hwn yw’r gwir Dduw , a’r bywyd tragwyddol . Y plant bychain , ymgedwch oddi wrth eilunod . Amen . </passage></reply></GetPassage>