<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:63</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:63</urn><passage>Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a’i phlant , y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd ; ac nid myfi yn unig , ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd ; Er mwyn y gwirionedd , yr hwn sydd yn aros ynom ni , ac a fydd gyda ni yn dragywydd . Bydded gyda chwi ras , trugaredd , a thangnefedd , oddi wrth Dduw Dad , ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist , Mab y Tad , mewn gwirionedd a chariad . Bu lawen iawn gennyf i mi gael o’th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd , fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad . Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti , arglwyddes , nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti , eithr yr hwn oedd gennym o’r dechreuad , garu ohonom ein gilydd . A hyn yw’r cariad : bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef . Hwn yw’r gorchymyn ; Megis y clywsoch o’r dechreuad , fod i chwi rodio ynddo . Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i’r byd , y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd . Hwn yw’r twyllwr a’r anghrist . Edrychwch arnoch eich hunain , fel na chollom y pethau a wnaethom , ond bod i ni dderbyn llawn wobr . Pob un a’r sydd yn troseddu , ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist , nid yw Duw ganddo ef . Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist , hwnnw y mae’r Tad a’r Mab ganddo . Od oes neb yn dyfod atoch , a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon , na dderbyniwch ef i dŷ , ac na ddywedwch , Duw yn rhwydd , wrtho : Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho , Duw yn rhwydd , sydd gyfrannog o’i weithredoedd drwg ef . Er bod gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu atoch , nid oeddwn yn ewyllysio ysgrifennu â phapur ac inc : eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch , a llefaru wyneb yn wyneb , fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn . Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch . Amen . </passage></reply></GetPassage>