<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:64</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:64</urn><passage>Yr henuriad at yr annwyl Gaius , yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd . Yr anwylyd , yr ydwyf yn bennaf dim yn dymuno dy fod yn llwyddo ac yn iach , fel y mae dy enaid yn llwyddo . Canys mi a lawenychais yn fawr , pan ddaeth y brodyr , a thystiolaethu am dy wirionedd di , megis ag yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd . Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf , sef cael clywed bod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd . Yr anwylyd , yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tuag at y brodyr , a thuag at ddieithriaid ; Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di gerbron yr eglwys : y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw , da y gwnei . Canys er mwyn ei enw yr aethant allan , heb gymryd dim gan y Cenhedloedd . Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai , fel y byddom gyd-gynorthwywyr i’r gwirionedd . Mi a ysgrifennais at yr eglwys : eithr Diotreffes , yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy , ni dderbyn ddim ohonom . Oherwydd hyn , os deuaf , mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur , gan wag siarad i’n herbyn â geiriau drygionus : ac heb fod yn fodlon ar hynny , nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr ; a’r rhai sydd yn ewyllysio , y mae yn eu gwahardd , ac yn eu bwrw allan o’r eglwys . Anwylyd , na ddilyn yr hyn sydd ddrwg , ond yr hyn sydd dda . Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni , o Dduw y mae : ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni , ni welodd Dduw . Y mae i Demetrius air da gan bawb , a chan y gwirionedd ei hun : a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu ; a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir . Yr oedd gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu , ond nid wyf yn chwennych ysgrifennu ag inc a phin atat ti : Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder , ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb . Tangnefedd i ti . Y mae’r cyfeillion i’th annerch . Annerch y cyfeillion wrth eu henwau . </passage></reply></GetPassage>