<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:65</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:65</urn><passage>Jwdas , gwasanaethwr Iesu Grist , a brawd Iago , at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Dad , ac a gadwyd yn Iesu Grist , ac a alwyd : Trugaredd i chwi , a thangnefedd , a chariad , a luosoger . Anwylyd , pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol , anghenraid oedd i mi ysgrifennu atoch gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd , yr hon a rodded unwaith i’r saint . Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn , y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i’r farnedigaeth hon ; annuwiolion , yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch , ac yn gwadu’r unig Arglwydd Dduw , a’n Harglwydd Iesu Grist . Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffáu chwi , gan eich bod unwaith yn gwybod hyn ; i’r Arglwydd , wedi iddo waredu’r bobl o dir yr Aifft , ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant . Yr angylion hefyd , y rhai ni chadwasant eu dechreuad , eithr a adawsant eu trigfa eu hun , a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch , i farn y dydd mawr . Megis y mae Sodom a Gomorra , a’r dinasoedd o’u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt , wedi puteinio , a myned ar ôl cnawd arall , wedi eu gosod yn esampl , gan ddioddef dialedd tân tragwyddol . Yr un ffunud hefyd y mae’r breuddwydwyr hyn yn halogi’r cnawd , yn diystyru llywodraeth , ac yn cablu’r rhai sydd mewn awdurdod . Eithr Michael yr archangel , pan oedd efe , wrth ymddadlau â diafol , yn ymresymu ynghylch corff Moses , ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno , eithr efe a ddywedodd , Cerydded yr Arglwydd dydi . Eithr y rhai hyn sydd yn cablu’r pethau nis gwyddant : a pha bethau bynnag y maent yn anianol , fel anifeiliaid direswm , yn eu gwybod , yn y rhai hynny ymlygru y maent . Gwae hwynt-hwy ! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain , ac a’u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam , ac a’u difethwyd yng ngwrthddywediad Core . Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi , yn cydwledda â chwi , yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain : cymylau di-ddwfr ydynt , a gylcharweinir gan wyntoedd ; prennau diflanedig heb ffrwyth , dwywaith yn feirw , wedi eu diwreiddio ; Tonnau cynddeiriog y môr , yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain ; sêr gwibiog , i’r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd . Ac Enoch hefyd , y seithfed o Adda , a broffwydodd am y rhai hyn , gan ddywedyd , Wele , y mae’r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o’i saint , I wneuthur barn yn erbyn pawb , ac i lwyr argyhoeddi’r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb , y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol , ac am yr holl eiriau caledion , y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef . Y rhai hyn sydd rwgnachwyr , tuchanwyr , yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain ; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig , yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd . Eithr chwi , O rai annwyl , cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist ; Ddywedyd ohonynt i chwi , y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr , yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain . Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eu didoli eu hunain , yn anianol , heb fod yr Ysbryd ganddynt . Eithr chwychwi , anwylyd , gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd , a gweddïo yn yr Ysbryd Glân , Ymgedwch yng nghariad Duw , gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol . A thrugarhewch wrth rai , gan wneuthur rhagor : Eithr rhai cedwch trwy ofn , gan eu cipio hwy allan o’r tân ; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd . Eithr i’r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp , a’ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd , I’r unig ddoeth Dduw , ein Hiachawdwr ni , y byddo gogoniant a mawredd , gallu ac awdurdod , yr awr hon ac yn dragywydd . Amen . </passage></reply></GetPassage>