<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:66</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:66</urn><passage>Datguddiad Iesu Grist , yr hwn a roddes Duw iddo ef , i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid eu dyfod i ben ar fyrder ; a chan ddanfon trwy ei angel , efe a’i hysbysodd i’w wasanaethwr Ioan : Yr hwn a dystiolaethodd air Duw , a thystiolaeth Iesu Grist , a’r holl bethau a welodd . Dedwydd yw’r hwn sydd yn darllen , a’r rhai sydd yn gwrando geiriau’r broffwydoliaeth hon , ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi : canys y mae’r amser yn agos . Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia : Gras fyddo i chwi , a thangnefedd , oddi wrth yr hwn sydd , a’r hwn a fu , a’r hwn sydd ar ddyfod ; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef ; Ac oddi wrth Iesu Grist , yr hwn yw y Tyst ffyddlon , y Cyntaf-anedig o’r meirw , a Thywysog brenhinoedd y ddaear . Iddo ef yr hwn a’n carodd ni , ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun , Ac a’n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef ; iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd . Amen . Wele , y mae efe yn dyfod gyda’r cymylau ; a phob llygad a’i gwêl ef , ie , y rhai a’i gwanasant ef : a holl lwythau’r ddaear a alarant o’i blegid ef . Felly , Amen . Mi yw Alffa ac Omega , y dechrau a’r diwedd , medd yr Arglwydd , yr hwn sydd , a’r hwn oedd , a’r hwn sydd i ddyfod , yr Hollalluog . Myfi Ioan , yr hwn wyf hefyd eich brawd , a’ch cydymaith mewn cystudd , ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist , oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos , am air Duw , ac am dystiolaeth Iesu Grist . Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd ; ac a glywais o’r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn , Yn dywedyd , Mi yw Alffa ac Omega , y cyntaf a’r diwethaf : a’r hyn yr wyt yn ei weled , ysgrifenna mewn llyfr , a danfon i’r saith eglwys y rhai sydd yn Asia ; i Effesus , ac i Smyrna , ac i Pergamus , ac i Thyatira , ac i Sardis , a Philadelffia , a Laodicea . Ac mi a droais i weled y llef a lefarai wrthyf . Ac wedi i mi droi , mi a welais saith ganhwyllbren aur ; Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren , un tebyg i Fab y dyn , wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed , ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur . Ei ben ef a’i wallt oedd wynion fel gwlân , cyn wynned â’r eira ; a’i lygaid fel fflam dân ; A’i draed yn debyg i bres coeth , megis yn llosgi mewn ffwrn ; a’i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd . Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren : ac o’i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan : a’i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth . A phan welais ef , mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw . Ac efe a osododd ei law ddeau arnaf fi , gan ddywedyd wrthyf , Nac ofna ; myfi yw’r cyntaf a’r diwethaf : A’r hwn wyf fyw , ac a fûm farw ; ac wele , byw ydwyf yn oes oesoedd , Amen ; ac y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth . Ysgrifenna’r pethau a welaist , a’r pethau sydd , a’r pethau a fydd ar ôl hyn ; Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau , a’r saith ganhwyllbren aur . Y saith seren , angylion y saith eglwys ydynt : a’r saith ganhwyllbren a welaist , y saith eglwys ydynt . At angel yr eglwys sydd yn Effesus , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddeau , yr hwn sydd yn rhodio yng nghanol y saith ganhwyllbren aur , yn eu dywedyd ; Mi a adwaen dy weithredoedd di , a’th lafur , a’th amynedd , ac na elli oddef y rhai drwg : a phrofi ohonot y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn apostolion , ac nid ydynt ; a chael ohonot hwynt yn gelwyddog : A thi a oddefaist , ac y mae amynedd gennyt , ac a gymeraist boen er mwyn fy enw i , ac ni ddiffygiaist . Eithr y mae gennyf beth yn dy erbyn , am i ti ymadael â’th gariad cyntaf . Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist , ac edifarha , a gwna’r gweithredoedd cyntaf : ac onid e , yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys , ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o’i le , onid edifarhei di . Ond hyn sydd gennyt ti , dy fod di yn casáu gweithredoedd y Nicolaiaid , y rhai yr wyf fi hefyd yn eu casáu . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed pa beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi ; I’r hwn sydd yn gorchfygu , y rhoddaf iddo fwyta o bren y bywyd , yr hwn sydd yng nghanol paradwys Duw . Ac at angel yr eglwys sydd yn Smyrna , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae’r cyntaf a’r diwethaf , yr hwn a fu farw , ac sydd fyw , yn eu dywedyd ; Mi a adwaen dy weithredoedd di , a’th gystudd , a’th dlodi , ( eithr cyfoethog wyt , ) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon , ac nid ydynt ond synagog Satan . Nac ofna ddim o’r pethau yr ydwyt i’w dioddef . Wele , y cythraul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar , fel y’ch profer ; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod . Bydd ffyddlon hyd angau , ac mi a roddaf i ti goron y bywyd . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi ; Yr hwn sydd yn gorchfygu , ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth . Ac at angel yr eglwys sydd yn Pergamus , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd ganddo’r cleddyf llym daufiniog , yn eu dywedyd ; Mi a adwaen dy weithredoedd di , a pha le yr wyt yn trigo ; sef lle mae gorseddfainc Satan : ac yr wyt yn dal fy enw i , ac ni wedaist fy ffydd i , ie , yn y dyddiau y bu Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi , yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi , lle y mae Satan yn trigo . Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn di , oblegid bod gennyt yno rai yn dal athrawiaeth Balaam , yr hwn a ddysgodd i Balac fwrw rhwystr gerbron meibion Israel , i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod , ac i odinebu . Felly y mae gennyt tithau hefyd rai yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid , yr hyn beth yr wyf fi yn ei gasáu . Edifarha ; ac os amgen , yr wyf fi yn dyfod atat ar frys , ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi ; I’r hwn sydd yn gorchfygu , y rhoddaf iddo fwyta o’r manna cuddiedig , ac a roddaf iddo garreg wen , ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu , yr hwn nid edwyn neb , ond yr hwn sydd yn ei dderbyn . Ac at angel yr eglwys sydd yn Thyatira , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd , yr hwn sydd â’i lygaid fel fflam dân , a’i draed yn debyg i bres coeth ; Mi a adwaen dy weithredoedd di , a’th gariad , a’th wasanaeth , a’th ffydd , a’th amynedd di , a’th weithredoedd ; a bod y rhai diwethaf yn fwy na’r rhai cyntaf . Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn , oblegid dy fod yn gadael i’r wraig honno Jesebel , yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes , ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu , ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod . Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb ; ac nid edifarhaodd hi . Wele , yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely , a’r rhai sydd yn godinebu gyda hi , i gystudd mawr , onid edifarhânt am eu gweithredoedd . A’i phlant hi a laddaf â marwolaeth : a’r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw’r hwn sydd yn chwilio’r arennau a’r calonnau : ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd . Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd , ac wrth y lleill yn Thyatira , y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon , a’r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan , fel y dywedant ; Ni fwriaf arnoch faich arall . Eithr yr hyn sydd gennych , deliwch hyd oni ddelwyf . A’r hwn sydd yn gorchfygu , ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd , mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd : Ac efe a’u bugeilia hwy â gwialen haearn ; fel llestri pridd y dryllir hwynt : fel y derbyniais innau gan fy Nhad . Ac mi a roddaf iddo’r seren fore . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi . Ac at angel yr eglwys sydd yn Sardis , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae’r hwn sydd â saith Ysbryd Duw a’r saith seren ganddo , yn eu dywedyd ; Mi a adwaen dy weithredoedd di , oblegid y mae gennyt enw dy fod yn fyw , a marw ydwyt . Bydd wyliadwrus , a sicrha’r pethau sydd yn ôl , y rhai sydd barod i farw : canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn gerbron Duw . Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist , a chadw , ac edifarha . Os tydi gan hynny ni wyli , mi a ddeuaf arnat ti fel lleidr , ac ni chei di wybod pa awr y deuaf atat . Eithr y mae gennyt ychydig enwau , ie , yn Sardis , y rhai ni halogasant eu dillad ; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion : oblegid teilwng ydynt . Yr hwn sydd yn gorchfygu , hwnnw a wisgir mewn dillad gwynion ; ac ni ddileaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd , ond mi a gyffesaf ei enw ef gerbron fy Nhad , a cherbron ei angylion ef . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi . Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelffia , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae y Sanctaidd , y Cywir , yn eu dywedyd , yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd , yr hwn sydd yn agoryd , ac nid yw neb yn cau ; ac yn cau , ac nid yw neb yn agoryd ; Mi a adwaen dy weithredoedd : wele , rhoddais ger dy fron ddrws agored , ac ni ddichon neb ei gau : canys y mae gennyt ychydig nerth , a thi a gedwaist fy ngair , ac ni wedaist fy enw . Wele , mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan , y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon , ac nid ydynt , ond dywedyd celwydd y maent ; wele , meddaf , gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed , a gwybod fy mod i yn dy garu di . O achos cadw ohonot air fy amynedd i , minnau a’th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth , yr hon a ddaw ar yr holl fyd , i brofi’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear . Wele , yr wyf yn dyfod ar frys : dal yr hyn sydd gennyt , fel na ddygo neb dy goron di . Yr hwn sydd yn gorchfygu , mi a’i gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw i , ac allan nid â efe mwyach : ac mi a ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i , ac enw dinas fy Nuw i , yr hon ydyw Jerwsalem newydd , yr hon sydd yn disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw i : ac mi a ysgrifennaf arno ef fy enw newydd i . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi . Ac at angel eglwys y Laodiceaid , ysgrifenna ; Y pethau hyn y mae Amen yn eu dywedyd , y Tyst ffyddlon a chywir , dechreuad creadigaeth Duw ; Mi a adwaen dy weithredoedd di , nad ydwyt nac oer na brwd : mi a fynnwn pe bait oer neu frwd . Felly , am dy fod yn glaear , ac nid yn oer nac yn frwd , mi a’th chwydaf di allan o’m genau : Oblegid dy fod yn dywedyd , Goludog wyf , ac mi a gyfoethogais , ac nid oes arnaf eisiau dim ; ac ni wyddost dy fod yn druan , ac yn resynol , ac yn dlawd , ac yn ddall , ac yn noeth . Yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur wedi ei buro trwy dân , fel y’th gyfoethoger ; a dillad gwynion , fel y’th wisger , ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di ; ira hefyd dy lygaid ag eli llygaid , fel y gwelech . Yr wyf fi yn argyhoeddi , ac yn ceryddu’r sawl yr wyf yn eu caru : am hynny bydded gennyt sêl , ac edifarha . Wele , yr wyf yn sefyll wrth y drws , ac yn curo : os clyw neb fy llais i , ac agoryd y drws , mi a ddeuaf i mewn ato ef , ac a swperaf gydag ef , ac yntau gyda minnau . Yr hwn sydd yn gorchfygu , rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc , megis y gorchfygais innau , ac yr eisteddais gyda’m Tad ar ei orseddfainc ef . Yr hwn sydd ganddo glust , gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi . Ar ôl y pethau hyn yr edrychais ; ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef : a’r llais cyntaf a glywais oedd fel llais utgorn yn ymddiddan â mi , gan ddywedyd , Dring i fyny yma , a mi a ddangosaf i ti’r pethau sydd raid eu bod ar ôl hyn . Ac yn y man yr oeddwn yn yr ysbryd : ac wele , yr oedd gorseddfainc wedi ei gosod yn y nef , ac un yn eistedd ar yr orseddfainc . A’r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iasbis a sardin : ac yr oedd enfys o amgylch yr orseddfainc , yn debyg yr olwg arno i smaragdus . Ac ynghylch yr orseddfainc yr oedd pedair gorseddfainc ar hugain : ac ar y gorseddfeinciau y gwelais bedwar henuriad ar hugain yn eistedd , wedi eu gwisgo mewn dillad gwynion ; ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur . Ac yr oedd yn dyfod allan o’r orseddfainc fellt , a tharanau , a lleisiau : ac yr oedd saith o lampau tân yn llosgi gerbron yr orseddfainc , y rhai yw saith Ysbryd Duw . Ac o flaen yr orseddfainc yr ydoedd môr o wydr , yn debyg i grisial : ac yng nghanol yr orseddfainc , ac ynghylch yr orseddfainc , yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o’r tu blaen ac o’r tu ôl . A’r anifail cyntaf oedd debyg i lew , a’r ail anifail yn debyg i lo , a’r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dyn , a’r pedwerydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg . A’r pedwar anifail oedd ganddynt , bob un ohonynt , chwech o adenydd o’u hamgylch ; ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid : ac nid oeddynt yn gorffwys ddydd a nos , gan ddywedyd , Sanct , Sanct , Sanct , Arglwydd Dduw Hollalluog , yr hwn oedd , a’r hwn sydd , a’r hwn sydd i ddyfod . A phan fyddo’r anifeiliaid yn rhoddi gogoniant , ac anrhydedd , a diolch , i’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc , yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd , Y mae’r pedwar henuriad ar hugain yn syrthio gerbron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc , ac yn addoli’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd , ac yn bwrw eu coronau gerbron yr orseddfainc , gan ddywedyd , Teilwng wyt , O Arglwydd , i dderbyn gogoniant , ac anrhydedd , a gallu : canys ti a greaist bob peth , ac oherwydd dy ewyllys di y maent , ac y crewyd hwynt . Ac mi a welais yn neheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc , lyfr wedi ei ysgrifennu oddi fewn ac oddi allan wedi ei selio â saith sêl . Ac mi a welais angel cryf yn cyhoeddi â llef uchel , Pwy sydd deilwng i agoryd y llyfr , ac i ddatod ei seliau ef ? Ac nid oedd neb yn y nef , nac yn y ddaear , na than y ddaear , yn gallu agoryd y llyfr , nac edrych arno . Ac mi a wylais lawer , o achos na chaed neb yn deilwng i agoryd ac i ddarllen y llyfr , nac i edrych arno . Ac un o’r henuriaid a ddywedodd wrthyf , Nac wyla : wele , y Llew yr hwn sydd o lwyth Jwda , Gwreiddyn Dafydd , a orchfygodd i agoryd y llyfr , ac i ddatod ei saith sêl ef . Ac mi a edrychais ; ac wele , yng nghanol yr orseddfainc a’r pedwar anifail , ac yng nghanol yr henuriaid , yr oedd Oen yn sefyll megis wedi ei ladd , a chanddo saith gorn , a saith lygad , y rhai ydyw saith Ysbryd Duw , wedi eu danfon allan i’r holl ddaear . Ac efe a ddaeth , ac a gymerth y llyfr o ddeheulaw’r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc . A phan gymerth efe’r llyfr , y pedwar anifail a’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant gerbron yr Oen ; a chan bob un ohonynt yr oedd telynau , a ffiolau aur yn llawn o arogl-darth , y rhai ydyw gweddïau’r saint . A hwy a ganasant ganiad newydd , gan ddywedyd , Teilwng wyt ti i gymryd y llyfr , ac i agoryd ei seliau ef : oblegid ti a laddwyd , ac a’n prynaist ni i Dduw trwy dy waed , allan o bob llwyth , ac iaith , a phobl , a chenedl ; Ac a’n gwnaethost ni i’n Duw ni , yn frenhinoedd , ac yn offeiriaid : ac ni a deyrnaswn ar y ddaear . Ac mi a edrychais , ac a glywais lais angylion lawer ynghylch yr orseddfainc , a’r anifeiliaid , a’r henuriaid : a’u rhifedi hwynt oedd fyrddiynau o fyrddiynau , a miloedd o filoedd ; Yn dywedyd â llef uchel , Teilwng yw’r Oen , yr hwn a laddwyd , i dderbyn gallu , a chyfoeth , a doethineb , a chadernid , ac anrhydedd , a gogoniant , a bendith . A phob creadur a’r sydd yn y nef , ac ar y ddaear , a than y ddaear , a’r pethau sydd yn y môr , ac oll a’r sydd ynddynt , a glywais i yn dywedyd , I’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc , ac i’r Oen , y byddo’r fendith , a’r anrhydedd , a’r gogoniant , a’r gallu , yn oes oesoedd . A’r pedwar anifail a ddywedasant , Amen . A’r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant i lawr , ac a addolasant yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd . Ac mi a welais pan agorodd yr Oen un o’r seliau , ac mi a glywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd , fel trwst taran , Tyred , a gwêl . Ac mi a welais ; ac wele farch gwyn : a’r hwn oedd yn eistedd arno , a bwa ganddo ; a rhoddwyd iddo goron : ac efe a aeth allan yn gorchfygu , ac i orchfygu . A phan agorodd efe yr ail sêl , mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd , Tyred , a gwêl . Ac fe aeth allan farch arall , un coch : a’r hwn oedd yn eistedd arno , y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear , fel y lladdent ei gilydd : a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr . A phan agorodd efe y drydedd sêl , mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd , Tyred , a gwêl . Ac mi a welais ; ac wele farch du : a’r hwn oedd yn eistedd arno , a chlorian ganddo yn ei law . Ac mi a glywais lais yng nghanol y pedwar anifail , yn dywedyd , Mesur o wenith er ceiniog , a thri mesur o haidd er ceiniog ; a’r olew a’r gwin , na wna niwed iddynt . A phan agorodd efe y bedwaredd sêl , mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd , Tyred , a gwêl . Ac mi a edrychais : ac wele farch gwelw-las : ac enw’r hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth ; ac yr oedd Uffern yn canlyn gydag ef . A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear , i ladd â chleddyf , ac â newyn , ac â marwolaeth , ac â bwystfilod y ddaear . A phan agorodd efe y bumed sêl , mi a welais dan yr allor eneidiau’r rhai a laddesid am air Duw , ac am y dystiolaeth oedd ganddynt . A hwy a lefasant â llef uchel , gan ddywedyd , Pa hyd , Arglwydd , sanctaidd a chywir , nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear ? A gynau gwynion a roed i bob un ohonynt ; a dywedwyd wrthynt , ar iddynt orffwys eto ychydig amser , hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a’u brodyr , y rhai oedd i gael eu lladd , megis ag y cawsent hwythau . Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl ; ac wele , bu daeargryn mawr ; a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew , a’r lleuad a aeth fel gwaed ; A sêr y nef a syrthiasant ar y ddaear , fel y mae’r ffigysbren yn bwrw ei ffigys gleision , pan ei hysgydwer gan wynt mawr . A’r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd ; a phob mynydd ac ynys a symudwyd allan o’u lleoedd . A brenhinoedd y ddaear , a’r gwŷr mawr , a’r cyfoethogion , a’r pen-capteiniaid , a’r gwŷr cedyrn , a phob gŵr caeth , a phob gŵr rhydd , a ymguddiasant yn yr ogofeydd , ac yng nghreigiau’r mynyddoedd ; Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau , Syrthiwch arnom ni , a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc , ac oddi wrth lid yr Oen : Canys daeth dydd mawr ei ddicter ef ; a phwy a ddichon sefyll ? Ac ar ôl y pethau hyn , mi a welais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear , yn dal pedwar gwynt y ddaear , fel na chwythai’r gwynt ar y ddaear , nac ar y môr , nac ar un pren . Ac mi a welais angel arall yn dyfod i fyny oddi wrth godiad haul , a sêl y Duw byw ganddo . Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel , i’r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu’r ddaear a’r môr , Gan ddywedyd , Na ddrygwch y ddaear , na’r môr , na’r prennau , nes darfod i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau . Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd : yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd o holl lwythau meibion Israel . O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Reuben yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Gad yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Aser yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Neffthali yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Manasses yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Simeon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Lefi yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Issachar yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Sabulon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Joseff yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . O lwyth Benjamin yr oedd deuddeng mil wedi eu selio . Wedi hyn mi a edrychais ; ac wele dyrfa fawr , yr hon ni allai neb ei rhifo , o bob cenedl , a llwythau , a phobloedd , ac ieithoedd , yn sefyll gerbron yr orseddfainc , a cherbron yr Oen , wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion , a phalmwydd yn eu dwylo ; Ac yn llefain â llef uchel , gan ddywedyd , Iachawdwriaeth i’n Duw ni , yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc , ac i’r Oen . A’r holl angylion a safasant o amgylch yr orseddfainc , a’r henuriaid , a’r pedwar anifail , ac a syrthiasant gerbron yr orseddfainc ar eu hwynebau , ac a addolasant Dduw , Gan ddywedyd , Amen : Y fendith , a’r gogoniant , a’r doethineb , a’r diolch , a’r anrhydedd , a’r gallu , a’r nerth , a fyddo i’n Duw ni yn oes oesoedd . Amen . Ac un o’r henuriaid a atebodd , gan ddywedyd wrthyf , Pwy ydyw’r rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion ? ac o ba le y daethant ? Ac mi a ddywedais wrtho ef , Arglwydd , ti a wyddost . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Y rhai hyn yw’r rhai a ddaethant allan o’r cystudd mawr , ac a olchasant eu gynau , ac a’u canasant hwy yng ngwaed yr Oen . Oherwydd hynny y maent gerbron gorseddfainc Duw , ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml : a’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc a drig yn eu plith hwynt . Ni fydd arnynt na newyn mwyach , na syched mwyach ; ac ni ddisgyn arnynt na’r haul , na dim gwres . Oblegid yr Oen , yr hwn sydd yng nghanol yr orseddfainc , a’u bugeilia hwynt , ac a’u harwain hwynt at ffynhonnau bywiol o ddyfroedd : a Duw a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt . Aphan agorodd efe y seithfed sêl , yr ydoedd gosteg yn y nef megis dros hanner awr . Ac mi a welais y saith angel y rhai oedd yn sefyll gerbron Duw : a rhoddwyd iddynt saith o utgyrn . Ac angel arall a ddaeth , ac a safodd gerbron yr allor , a thuser aur ganddo : a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer , fel yr offrymai ef gyda gweddïau’r holl saint ar yr allor aur , yr hon oedd gerbron yr orseddfainc . Ac fe aeth mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint , o law yr angel i fyny gerbron Duw . A’r angel a gymerth y thuser , ac a’i llanwodd hi o dân yr allor , ac a’i bwriodd i’r ddaear : a bu lleisiau , a tharanau , a mellt , a daeargryn . A’r saith angel , y rhai oedd â’r saith utgorn ganddynt , a ymbaratoesant i utganu . A’r angel cyntaf a utganodd ; a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed , a hwy a fwriwyd i’r ddaear : a thraean y prennau a losgwyd , a’r holl laswellt a losgwyd . A’r ail angel a utganodd ; a megis mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i’r môr : a thraean y môr a aeth yn waed ; A bu farw traean y creaduriaid y rhai oedd yn y môr , ac â byw ynddynt ; a thraean y llongau a ddinistriwyd . A’r trydydd angel a utganodd ; a syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel lamp , a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd , ac ar ffynhonnau’r dyfroedd ; Ac enw’r seren a elwir Wermod : ac aeth traean y dyfroedd yn wermod ; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd , oblegid eu myned yn chwerwon . A’r pedwerydd angel a utganodd ; a thrawyd traean yr haul , a thraean y lleuad , a thraean y sêr ; fel y tywyllwyd eu traean hwynt , ac ni lewyrchodd y dydd ei draean , a’r nos yr un ffunud . Ac mi a edrychais , ac a glywais angel yn ehedeg yng nghanol y nef , gan ddywedyd â llef uchel , Gwae , gwae , gwae , i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear , rhag lleisiau eraill utgorn y tri angel , y rhai sydd eto i utganu ! A’r pumed angel a utganodd ; ac mi a welais seren yn syrthio o’r nef i’r ddaear : a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod . Ac efe a agorodd y pydew heb waelod ; a chododd mwg o’r pydew , fel mwg ffwrn fawr : a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pydew . Ac o’r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear ; a rhoddwyd awdurdod iddynt , fel y mae gan ysgorpionau’r ddaear awdurdod . A dywedwyd wrthynt , na wnaent niwed i laswellt y ddaear , nac i ddim gwyrddlas , nac i un pren ; ond yn unig i’r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau . A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt , ond bod iddynt eu blino hwy bum mis : ac y byddai eu gofid hwy fel gofid oddi wrth ysgorpion , pan ddarfyddai iddi frathu dyn . Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth , ac nis cânt ; ac a chwenychant farw , a marwolaeth a gilia oddi wrthynt . A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel ; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur , a’u hwynebau fel wynebau dynion . A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd , a’u dannedd oedd fel dannedd llewod . Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn ; a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel . Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau , ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy : a’u gallu oedd i ddrygu dynion bum mis . Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt , sef angel y pydew diwaelod : a’i enw ef yn Hebraeg ydyw Abadon , ac yn Roeg y mae iddo enw Apolyon . Un wae a aeth heibio ; wele , y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ôl hyn . A’r chweched angel a utganodd ; ac mi a glywais lef allan o bedwar corn yr allor aur , yr hon sydd gerbron Duw . Yn dywedyd wrth y chweched angel , yr hwn oedd â’r utgorn ganddo , Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Ewffrates . A gollyngwyd y pedwar angel , y rhai oedd wedi eu paratoi erbyn awr , a diwrnod , a mis , a blwyddyn , fel y lladdent y traean o’r dynion . A rhifedi’r llu o wŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynau : ac mi a glywais eu rhifedi hwynt . Ac fel hyn y gwelais i’r meirch yn y weledigaeth , a’r rhai oedd yn eistedd arnynt , a chanddynt lurigau tanllyd , ac o liw hyacinth a brwmstan : a phennau’r meirch oedd fel pennau llewod ; ac yr oedd yn myned allan o’u safnau , dân , a mwg , a brwmstan . Gan y tri hyn y llas traean y dynion , gan y tân , a chan y mwg , a chan y brwmstan , oedd yn dyfod allan o’u safnau hwynt . Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn , ac yn eu cynffonnau : canys y cynffonnau oedd debyg i seirff , a phennau ganddynt ; ac â’r rhai hynny y maent yn drygu . A’r dynion eraill , y rhai ni laddwyd gan y plâu hyn , nid edifarhasant oddi wrth weithredoedd eu dwylo eu hun , fel nad addolent gythreuliaid , a delwau aur , ac arian , a phres , a main , a phrennau , y rhai ni allant na gweled , na chlywed , na rhodio : Ac nid edifarhasant oddi wrth eu llofruddiaeth , nac oddi wrth eu cyfareddion , nac oddi wrth eu godineb , nac oddi wrth eu lladrad . Ac mi a welais angel cryf arall yn disgyn o’r nef , wedi ei wisgo â chwmwl : ac enfys oedd ar ei ben , a’i wyneb ydoedd fel yr haul , a’i draed fel colofnau o dân : Ac yr oedd ganddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd . Ac efe a osododd ei droed deau ar y môr , a’i aswy ar y tir ; Ac a lefodd â llef uchel , fel y rhua llew : ac wedi iddo lefain , y saith daran a lefarasant eu llefau hwythau . Ac wedi darfod i’r saith daran lefaru eu llefau , yr oeddwn ar fedr ysgrifennu : ac mi a glywais lef o’r nef yn dywedyd wrthyf , Selia’r pethau a lefarodd y saith daran , ac nac ysgrifenna hwynt . A’r angel yr hwn a welais yn sefyll ar y môr , ac ar y tir , a gododd ei law i’r nef , Ac a dyngodd i’r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd , yr hwn a greodd y nef a’r pethau sydd ynddi , a’r ddaear a’r pethau sydd ynddi , a’r môr a’r pethau sydd ynddo , na byddai amser mwyach : Ond yn nyddiau llef y seithfed angel , pan ddechreuo efe utganu , gorffennir dirgelwch Duw , fel y mynegodd efe i’w wasanaethwyr y proffwydi . A’r llef a glywais o’r nef , a lefarodd drachefn wrthyf , ac a ddywedodd , Dos , cymer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw’r angel yr hwn sydd yn sefyll ar y môr , ac ar y tir . Ac mi a euthum at yr angel , gan ddywedyd wrtho , Moes i mi’r llyfr bychan . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Cymer , a bwyta ef yn llwyr : ac efe a chwerwa dy fol di , eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl . Ac mi a gymerais y llyfr bychan o law’r angel , ac a’i bwyteais ef ; ac yr oedd efe yn fy ngenau megis mêl yn felys : ac wedi imi ei fwyta ef , fy mol a aeth yn chwerw . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Rhaid i ti drachefn broffwydo i bobloedd , a chenhedloedd , ac ieithoedd , a brenhinoedd lawer . A rhoddwyd imi gorsen debyg i wialen . A’r angel a safodd , gan ddywedyd , Cyfod , a mesura deml Dduw , a’r allor , a’r rhai sydd yn addoli ynddi . Ond y cyntedd sydd o’r tu allan i’r deml , bwrw allan , ac na fesura ef ; oblegid efe a roddwyd i’r Cenhedloedd : a’r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain . Ac mi a roddaf allu i’m dau dyst , a hwy a broffwydant fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo â sachliain . Y rhai hyn yw’r ddwy olewydden , a’r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw’r ddaear . Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt , y mae tân yn myned allan o’u genau hwy , ac yn difetha eu gelynion : ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt , fel hyn y mae’n rhaid ei ladd ef . Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau’r nef , fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt : ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd , i’w troi hwynt yn waed , ac i daro’r ddaear â phob pla , cyn fynyched ag y mynnont . A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth , y bwystfil , yr hwn sydd yn dyfod allan o’r pwll diwaelod , a ryfela â hwynt , ac a’u gorchfyga hwynt , ac a’u lladd hwynt . A’u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr , yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a’r Aifft ; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni . A’r rhai o’r bobloedd , a’r llwythau , a’r ieithoedd , a’r cenhedloedd , a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner , ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau . A’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o’u plegid , ac a ymhyfrydant , ac a anfonant roddion i’w gilydd ; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni’r rhai oedd yn trigo ar y ddaear . Ac ar ôl tridiau a hanner , Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy , a hwy a safasant ar eu traed ; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a’u gwelodd hwynt . A hwy a glywsant lef uchel o’r nef yn dywedyd wrthynt , Deuwch i fyny yma . A hwy a aethant i fyny i’r nef mewn cwmwl ; a’u gelynion a edrychasant arnynt . Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr , a degfed ran y ddinas a syrthiodd ; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o wŷr : a’r lleill a ddychrynasant , ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef . Yr ail wae a aeth heibio ; wele , y mae’r drydedd wae yn dyfod ar frys . A’r seithfed angel a utganodd ; a bu llefau uchel yn y nef , yn dywedyd , Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni , a’i Grist ef ; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd . A’r pedwar henuriad ar hugain , y rhai oedd gerbron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeinciau , a syrthiasant ar eu hwynebau , ac a addolasant Dduw , Gan ddywedyd , Yr ydym yn diolch i ti , O Arglwydd Dduw Hollalluog , yr hwn wyt , a’r hwn oeddit , a’r hwn wyt yn dyfod ; oblegid ti a gymeraist dy allu mawr , ac a deyrnesaist . A’r cenhedloedd a ddigiasant ; a daeth dy ddig di , a’r amser i farnu’r meirw , ac i roi gwobr i’th wasanaethwyr y proffwydi , ac i’r saint , ac i’r rhai sydd yn ofni dy enw , fychain a mawrion ; ac i ddifetha’r rhai sydd yn difetha’r ddaear . Ac agorwyd teml Dduw yn y nef ; a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef : a bu mellt , a llefau , a tharanau , a daeargryn , a chenllysg mawr . Arhyfeddod mawr a welwyd yn y nef ; gwraig wedi ei gwisgo â’r haul , a’r lleuad dan ei thraed , ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren : A hi’n feichiog , a lefodd , gan fod mewn gwewyr , a gofid i esgor . A gwelwyd rhyfeddod arall yn y nef ; ac wele ddraig goch fawr , a saith ben iddi , a deg corn ; ac ar ei phennau saith goron . A’i chynffon hi a dynnodd draean sêr y nef , ac a’u bwriodd hwynt i’r ddaear . A’r ddraig a safodd gerbron y wraig yr hon ydoedd yn barod i esgor , i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno . A hi a esgorodd ar fab gwryw , yr hwn oedd i fugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haearn : a’i phlentyn hi a gymerwyd i fyny at Dduw , ac at ei orseddfainc ef . A’r wraig a ffodd i’r diffeithwch , lle mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw , fel y porthent hi yno fil a deucant a thri ugain o ddyddiau . A bu rhyfel yn y nef : Michael a’i angylion a ryfelasant yn erbyn y ddraig , a’r ddraig a ryfelodd a’i hangylion hithau , Ac ni orfuant ; a’u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef . A bwriwyd allan y ddraig fawr , yr hen sarff , yr hon a elwir Diafol a Satan , yr hwn sydd yn twyllo’r holl fyd : efe a fwriwyd allan i’r ddaear , a’i angylion a fwriwyd allan gydag ef . Ac mi a glywais lef uchel yn dywedyd yn y nef , Yr awron y daeth iachawdwriaeth , a nerth , a theyrnas ein Duw ni , a gallu ei Grist ef : canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i’r llawr , yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy gerbron ein Duw ni ddydd a nos . A hwy a’i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen , a thrwy air eu tystiolaeth hwynt ; ac ni charasant eu heinioes hyd angau . Oherwydd hyn llawenhewch , y nefoedd , a’r rhai ydych yn trigo ynddynt . Gwae’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear , a’r môr ! canys y diafol a ddisgynnodd atoch chwi , a chanddo lid mawr , oherwydd ei fod yn gwybod nad oes iddo ond ychydig amser . A phan welodd y ddraig ei bwrw i’r ddaear , hi a erlidiodd y wraig a esgorasai ar y mab . A rhoddwyd i’r wraig ddwy o adenydd eryr mawr , fel yr ehedai hi i’r diffeithwch , i’w lle ei hun ; lle yr ydys yn ei maethu hi yno dros amser , ac amseroedd , a hanner amser , oddi wrth wyneb y sarff . A’r sarff a fwriodd allan o’i safn , ar ôl y wraig , ddwfr megis afon , fel y gwnâi ei dwyn hi ymaith gyda’r afon . A’r ddaear a gynorthwyodd y wraig ; a’r ddaear a agorodd ei genau , ac a lyncodd yr afon , yr hon a fwriodd y ddraig allan o’i safn . A llidiodd y ddraig wrth y wraig , ac a aeth i wneuthur rhyfel â’r lleill o’i had hi , y rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw , ac sydd â thystiolaeth Iesu Grist ganddynt . Ac mi a sefais ar dywod y môr ; ac a welais fwystfil yn codi o’r môr , a chanddo saith ben , a deg corn ; ac ar ei gyrn ddeg coron , ac ar ei bennau enw cabledd . A’r bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard , a’i draed fel traed arth , a’i safn fel safn llew : a’r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu , a’i gorseddfainc , ac awdurdod mawr . Ac mi a welais un o’i bennau ef megis wedi ei ladd yn farw ; a’i friw marwol ef a iachawyd : a’r holl ddaear a ryfeddodd ar ôl y bwystfil . A hwy a addolasant y ddraig , yr hon a roes allu i’r bwystfil : ac a addolasant y bwystfil , gan ddywedyd , Pwy sydd debyg i’r bwystfil ? pwy a ddichon ryfela ag ef ? A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion , a chabledd ; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fis a deugain . Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw , i gablu ei enw ef , a’i dabernacl , a’r rhai sydd yn trigo yn y nef . A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â’r saint , a’u gorchfygu hwynt : a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth ac iaith , a chenedl . A holl drigolion y ddaear a’i haddolant ef , y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd . Od oes gan neb glust , gwrandawed . Os yw neb yn tywys i gaethiwed , efe a â i gaethiwed : os yw neb yn lladd â chleddyf , rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf . Dyma amynedd a ffydd y saint . Ac mi a welais fwystfil arall yn codi o’r ddaear ; ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen , a llefaru yr oedd fel draig . A holl allu’r bwystfil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef , ac yn peri i’r ddaear ac i’r rhai sydd yn trigo ynddi addoli’r bwystfil cyntaf , yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol . Ac y mae efe yn gwneuthur rhyfeddodau mawrion , hyd onid yw yn peri i dân ddisgyn o’r nef i’r ddaear , yng ngolwg dynion ; Ac y mae efe yn twyllo’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear , trwy’r rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur gerbron y bwystfil ; gan ddywedyd wrth drigolion y ddaear , am iddynt wneuthur delw i’r bwystfil yr hwn a gafodd friw gan gleddyf , ac a fu fyw . A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw’r bwystfil , fel y llefarai delw’r bwystfil hefyd , ac y parai gael o’r sawl nid addolent ddelw’r bwystfil , eu lladd . Ac y mae yn peri i bawb , fychain a mawrion , cyfoethogion a thlodion , rhyddion a chaethion , dderbyn nod ar eu llaw ddeau , neu ar eu talcennau : Ac na allai neb na phrynu na gwerthu , ond yr hwn a fyddai ganddo nod , neu enw’r bwystfil , neu rifedi ei enw ef . Yma y mae doethineb . Yr hwn sydd ganddo ddeall , bwried rifedi’r bwystfil : canys rhifedi dyn ydyw : a’i rifedi ef yw , Chwe chant a thrigain a chwech . Ac mi a edrychais , ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Seion , a chydag ef bedair mil a saith ugeinmil , a chanddynt enw ei Dad ef yn ysgrifenedig yn eu talcennau . Ac mi a glywais lef o’r nef , fel llef dyfroedd lawer , ac fel llef taran fawr : ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau : A hwy a ganasant megis caniad newydd gerbron yr orseddfainc , a cherbron y pedwar anifail , a’r henuriaid : ac ni allodd neb ddysgu’r gân , ond y pedair mil a’r saith ugeinmil , y rhai a brynwyd oddi ar y ddaear . Y rhai hyn yw’r rhai ni halogwyd â gwragedd ; canys gwyryfon ydynt . Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn dilyn yr Oen pa le bynnag yr elo . Y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion , yn flaenffrwyth i Dduw ac i’r Oen . Ac yn eu genau ni chaed twyll : canys difai ydynt gerbron gorseddfainc Duw . Ac mi a welais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef , a’r efengyl dragwyddol ganddo , i efengylu i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear , ac i bob cenedl , a llwyth , ac iaith , a phobl : Gan ddywedyd â llef uchel , Ofnwch Dduw , a rhoddwch iddo ogoniant ; oblegid daeth awr ei farn ef : ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef , a’r ddaear , a’r môr , a’r ffynhonnau dyfroedd . Ac angel arall a ddilynodd , gan ddywedyd , Syrthiodd , syrthiodd Babilon , y ddinas fawr honno , oblegid hi a ddiododd yr holl genhedloedd â gwin llid ei godineb . A’r trydydd angel a’u dilynodd hwynt , gan ddywedyd â llef uchel , Os addola neb y bwystfil a’i ddelw ef , a derbyn ei nod ef yn ei dalcen , neu yn ei law , Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw , yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef ; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd , ac yng ngolwg yr Oen : A mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd : ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos , y rhai sydd yn addoli’r bwystfil a’i ddelw ef , ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef . Yma y mae amynedd y saint : yma y mae’r rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw , a ffydd Iesu . Ac mi a glywais lef o’r nef , yn dywedyd wrthyf , Ysgrifenna , Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd , o hyn allan , medd yr Ysbryd , fel y gorffwysont oddi wrth eu llafur ; a’u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt . Ac mi a edrychais ac wele gwmwl gwyn , ac ar y cwmwl un yn eistedd tebyg i Fab y dyn , a chanddo ar ei ben goron o aur , ac yn ei law gryman llym . Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml , gan lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl , Bwrw dy gryman i mewn , a meda : canys daeth yr amser i ti i fedi ; oblegid aeddfedodd cynhaeaf y ddaear . A’r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl a fwriodd ei gryman ar y ddaear ; a’r ddaear a fedwyd . Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml sydd yn y nef , a chanddo yntau hefyd gryman llym . Ac angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr allor , yr hwn oedd â gallu ganddo ar y tân ; ac a lefodd â bloedd uchel ar yr hwn oedd â’r cryman llym ganddo , gan ddywedyd , Bwrw i mewn dy gryman llym , a chasgl ganghennau gwinwydden y ddaear : oblegid aeddfedodd ei grawn hi . A’r angel a fwriodd ei gryman ar y ddaear , ac a gasglodd winwydden y ddaear , ac a’i bwriodd i gerwyn fawr digofaint Duw . A’r gerwyn a sathrwyd o’r tu allan i’r ddinas ; a gwaed a ddaeth allan o’r gerwyn , hyd at ffrwynau’r meirch , ar hyd mil a chwe chant o ystadau . Ac mi a welais arwydd arall yn y nef , mawr , a rhyfeddol ; saith angel a chanddynt y saith bla diwethaf : oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw . Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymysgu â thân ; a’r rhai oedd yn cael y maes ar y bwystfil , ac ar ei ddelw ef , ac ar ei nod ef , ac ar rifedi ei enw ef , yn sefyll ar y môr gwydr , a thelynau Duw ganddynt . A chanu y maent gân Moses gwasanaethwr Duw , a chân yr Oen ; gan ddywedyd , Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd , O Arglwydd Dduw Hollalluog ; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di , Brenin y saint . Pwy ni’th ofna di , O Arglwydd , ac ni ogonedda dy enw ? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd : oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di ; oblegid dy farnau di a eglurwyd . Ac ar ôl hyn mi a edrychais , ac wele , yr ydoedd teml pabell y dystiolaeth yn y nef yn agored : A daeth y saith angel , y rhai yr oedd y saith bla ganddynt , allan o’r deml , wedi eu gwisgo mewn lliain pur a disglair , a gwregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur . Ac un o’r pedwar anifail a roddodd i’r saith angel saith ffiol aur , yn llawn o ddigofaint Duw , yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd . A llanwyd y deml o fwg oddi wrth ogoniant Duw , ac oddi wrth ei nerth ef : ac ni allai neb fyned i mewn i’r deml , nes darfod cyflawni saith bla’r saith angel . Ac mi a glywais lef uchel allan o’r deml , yn dywedyd wrth y saith angel , Ewch ymaith , a thywelltwch ffiolau digofaint Duw ar y ddaear . A’r cyntaf a aeth , ac a dywalltodd ei ffiol ar y ddaear ; a bu cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt , a’r rhai a addolasent ei ddelw ef . A’r ail angel a dywalltodd ei ffiol ar y môr ; ac efe a aeth fel gwaed dyn marw : a phob enaid byw a fu farw yn y môr . A’r trydydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afonydd ac ar y ffynhonnau dyfroedd ; a hwy a aethant yn waed . Ac mi a glywais angel y dyfroedd yn dywedyd , Cyfiawn , O Arglwydd , ydwyt ti , yr hwn wyt , a’r hwn oeddit , a’r hwn a fyddi ; oblegid barnu ohonot y pethau hyn . Oblegid gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy , a gwaed a roddaist iddynt i’w yfed ; canys y maent yn ei haeddu . Ac mi a glywais un arall allan o’r allor yn dywedyd , Ie , Arglwydd Dduw Hollalluog , cywir a chyfiawn yw dy farnau di . A’r pedwerydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr haul ; a gallu a roed iddo i boethi dynion â thân . A phoethwyd y dynion â gwres mawr ; a hwy a gablasant enw Duw , yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn : ac nid edifarhasant , i roi gogoniant iddo ef . A’r pumed angel a dywalltodd ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil ; a’i deyrnas ef a aeth yn dywyll : a hwy a gnoesant eu tafodau gan ofid , Ac a gablasant Dduw’r nef , oherwydd eu poenau , ac oherwydd eu cornwydydd ; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd . A’r chweched angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afon fawr Ewffrates ; a sychodd ei dwfr hi , fel y paratoid ffordd brenhinoedd y dwyrain . Ac mi a welais dri ysbryd aflan tebyg i lyffaint yn dyfod allan o safn y ddraig , ac allan o safn y bwystfil , ac allan o enau’r gau broffwyd . Canys ysbrydion cythreuliaid , yn gwneuthur gwyrthiau , ydynt , y rhai sydd yn myned allan at frenhinoedd y ddaear , a’r holl fyd , i’w casglu hwy i ryfel y dydd hwnnw , dydd mawr Duw Hollalluog . Wele , yr wyf fi yn dyfod fel lleidr . Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio , ac yn cadw ei ddillad , fel na rodio yn noeth , ac iddynt weled ei anharddwch ef . Ac efe a’u casglodd hwynt ynghyd i le a elwir yn Hebraeg , Armagedon . A’r seithfed angel a dywalltodd ei ffiol i’r awyr ; a daeth llef uchel allan o deml y nef , oddi wrth yr orseddfainc , yn dywedyd , Darfu . Ac yr oedd lleisiau a tharanau , a mellt ; ac yr oedd daeargryn mawr , y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaear , cymaint daeargryn , ac mor fawr . A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan , a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant : a Babilon fawr a ddaeth mewn cof gerbron Duw , i roddi iddi gwpan gwin digofaint ei lid ef . A phob ynys a ffodd ymaith , ac ni chafwyd y mynyddoedd . A chenllysg mawr , fel talentau , a syrthiasant o’r nef ar ddynion : a dynion a gablasant Dduw am bla’r cenllysg : oblegid mawr iawn ydoedd eu pla hwynt . A daeth un o’r saith angel oedd â’r saith ffiol ganddynt , ac a ymddiddanodd â mi , gan ddywedyd wrthyf , Tyred , mi a ddangosaf i ti farnedigaeth y butain fawr sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer ; Gyda’r hon y puteiniodd brenhinoedd y ddaear , ac y meddwyd y rhai sydd yn trigo ar y ddaear gan win ei phuteindra hi . Ac efe a’m dygodd i i’r diffeithwch yn yr ysbryd : ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw ysgarlad , yn llawn o enwau cabledd , a saith ben iddo , a deg corn . A’r wraig oedd wedi ei dilladu â phorffor ac ysgarlad , ac wedi ei gwychu ag aur , ac â main gwerthfawr , a pherlau , a chanddi gwpan aur yn ei llaw , yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra . Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu , DIRGELWCH , BABILON FAWR , MAM PUTEINIAID A FFIEIDD-DRA’R DDAEAR . Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y saint , a chan waed merthyron Iesu : a phan ei gwelais , mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr . A’r angel a ddywedodd wrthyf , Paham y rhyfeddaist ? myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y wraig a’r bwystfil sydd yn ei dwyn hi , yr hwn sydd â’r saith ben ganddo , a’r deg corn . Y bwystfil a welaist , a fu , ac nid yw ; a bydd iddo ddyfod i fyny o’r pydew heb waelod , a myned i ddistryw : a rhyfeddu a wna’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear , y rhai nid ysgrifennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seiliad y byd , pan welont y bwystfil , yr hwn a fu , ac nid yw , er ei fod . Dyma’r meddwl sydd â doethineb ganddo . Y saith ben , saith fynydd ydynt , lle mae’r wraig yn eistedd arnynt . Ac y mae saith frenin : pump a gwympasant , ac un sydd , a’r llall ni ddaeth eto ; a phan ddêl , rhaid iddo aros ychydig . A’r bwystfil , yr hwn oedd , ac nid ydyw , yntau yw’r wythfed , ac o’r saith y mae , ac i ddistryw y mae’n myned . A’r deg corn a welaist , deg brenin ydynt , y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth eto ; eithr awdurdod fel brenhinoedd , un awr , y maent yn ei dderbyn gyda’r bwystfil . Yr un meddwl sydd i’r rhai hyn , a hwy a roddant eu nerth a’u hawdurdod i’r bwystfil . Y rhai hyn a ryfelant â’r Oen , a’r Oen a’u gorchfyga hwynt : oblegid Arglwydd arglwyddi ydyw , a Brenin brenhinoedd ; a’r rhai sydd gydag ef , sydd alwedig , ac etholedig , a ffyddlon . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Y dyfroedd a welaist , lle mae’r butain yn eistedd , pobloedd a thorfeydd ydynt , a chenhedloedd ac ieithoedd . A’r deg corn a welaist ar y bwystfil , y rhai hyn a gasânt y butain , ac a’i gwnânt hi yn unig ac yn noeth , a’i chnawd hi a fwytânt hwy , ac a’i llosgant hi â thân . Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei ewyllys ef , a gwneuthur yr un ewyllys , a rhoddi eu teyrnas i’r bwystfil , hyd oni chyflawner geiriau Duw . A’r wraig a welaist , yw’r ddinas fawr , sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaear . Ac ar ôl y pethau hyn mi a welais angel arall yn dyfod i waered o’r nef , ac awdurdod mawr ganddo ; a’r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant ef . Ac efe a lefodd yn groch â llef uchel , gan ddywedyd , Syrthiodd , syrthiodd Babilon fawr honno , ac aeth yn drigfa cythreuliaid , ac yn gadwraeth pob ysbryd aflan , ac yn gadwraeth pob aderyn aflan ac atgas . Oblegid yr holl genhedloedd a yfasant o win digofaint ei godineb hi , a brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi , a marchnatawyr y ddaear a gyfoethogwyd gan amlder ei moethau hi . Ac mi a glywais lef arall o’r nef yn dywedyd , Deuwch allan ohoni hi , fy mhobl i , fel na byddoch gyd-gyfranogion o’i phechodau hi , ac na dderbynioch o’i phlâu hi . Oblegid ei phechodau hi a gyraeddasant hyd y nef , a Duw a gofiodd ei hanwireddau hi . Telwch iddi fel y talodd hithau i chwi , a dyblwch iddi’r dau cymaint yn ôl ei gweithredoedd : yn y cwpan a lanwodd hi , llenwch iddi yn ddauddyblyg . Cymaint ag yr ymogoneddodd hi , ac y bu mewn moethau , y cymaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar : oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon , Yr wyf yn eistedd yn frenhines , a gweddw nid ydwyf , a galar nis gwelaf ddim . Am hynny yn un dydd y daw ei phlâu hi , sef marwolaeth , a galar , a newyn ; a hi a lwyr losgir â thân : oblegid cryf yw’r Arglwydd Dduw , yr hwn sydd yn ei barnu hi . Ac wylo amdani , a galaru drosti , a wna brenhinoedd y ddaear , y rhai a buteiniasant ac a fuant fyw yn foethus gyda hi , pan welont fwg ei llosgiad hi , Gan sefyll o hirbell , gan ofn ei gofid hi , a dywedyd , Gwae , gwae , y ddinas fawr honno , Babilon , y ddinas gadarn ! oblegid mewn un awr y daeth dy farn di . A marchnatawyr y ddaear a wylant ac a alarant drosti ; oblegid nid oes neb mwyach yn prynu eu marsiandïaeth hwynt : Marsiandïaeth o aur , ac arian , a meini gwerthfawr , a pherlau , a lliain main , a phorffor , a sidan , ac ysgarlad , a phob coed thynon , a phob llestr o ifori , a phob llestr o goed gwerthfawr iawn , ac o bres , ac o haearn , ac o faen marmor , A sinamon , a pheraroglau , ac ennaint , a thus , a gwin , ac olew , a pheilliaid , a gwenith , ac ysgrubliaid , a defaid , a meirch , a cherbydau , a chaethweision , ac eneidiau dynion . A’r aeron a chwenychodd dy enaid a aethant ymaith oddi wrthyt , a phob peth danteithiol a gwych a aethant ymaith oddi wrthyt ; ac ni chei hwynt ddim mwyach . Marchnatawyr y pethau hyn , y rhai a gyfoethogwyd ganddi , a safant o hirbell oddi wrthi , gan ofn ei gofid hi , gan wylo a galaru . A dywedyd , Gwae , gwae , y ddinas fawr honno , yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main , a phorffor , ac ysgarlad , ac wedi ei gwychu ag aur , a meini gwerthfawr , a pherlau ! Oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd cymaint cyfoeth . A phob llong-lywydd , a phob cwmpeini mewn llongau , a llongwyr , a chynifer ag y sydd â’u gwaith ar y môr , a safasant o hirbell , Ac a lefasant , pan welsant fwg ei llosgiad hi , gan ddywedyd , Pa ddinas debyg i’r ddinas fawr honno ! A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau , ac a lefasant , gan wylo a galaru , a dywedyd , Gwae , gwae , y ddinas fawr honno , yn yr hon y cyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau ar y môr , trwy ei chost hi ! oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd hi . Llawenha o’i phlegid hi , y nef , a chwi , apostolion sanctaidd a phroffwydi ; oblegid dialodd Duw arni drosoch chwi . Ac angel cadarn a gododd faen megis maen melin mawr , ac a’i bwriodd i’r môr , gan ddywedyd , Fel hyn gyda rhuthr y teflir Babilon , y ddinas fawr , ac ni cheir hi mwyach . A llais telynorion , a cherddorion , a phibyddion , ac utganwyr , ni chlywir ynot mwyach : ac un crefftwr , o ba grefft bynnag y bo , ni cheir ynot mwyach ; a thrwst maen melin ni chlywir ynot mwyach ; A llewyrch cannwyll ni welir ynot mwyach ; a llais priodasfab a phriodasferch ni chlywir ynot mwyach : oblegid dy farchnatawyr di oedd wŷr mawr y ddaear : oblegid trwy dy swyn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl genhedloedd . Ac ynddi y caed gwaed proffwydi a saint , a phawb a’r a laddwyd ar y ddaear . Ac ar ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef uchel gan dyrfa fawr yn y nef , yn dywedyd , Aleliwia ; Iachawdwriaeth , a gogoniant , ac anrhydedd , a gallu , i’r Arglwydd ein Duw ni : Oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef : oblegid efe a farnodd y butain fawr , yr hon a lygrodd y ddaear â’i phuteindra , ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi . Ac eilwaith y dywedasant , Aleliwia . A’i mwg hi a gododd yn oes oesoedd . A syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a’r pedwar anifail i lawr , ac a addolasant Dduw , yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc ; gan ddywedyd , Amen ; Aleliwia . A llef a ddaeth allan o’r orseddfainc , yn dywedyd , Moliennwch ein Duw ni , ei holl weision ef , a’r rhai ydych yn ei ofni ef , bychain a mawrion hefyd . Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr , ac megis llef dyfroedd lawer , ac megis llef taranau cryfion , yn dywedyd , Aleliwia : oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog . Llawenychwn , a gorfoleddwn , a rhoddwn ogoniant iddo ef : oblegid daeth priodas yr Oen , a’i wraig ef a’i paratôdd ei hun . A chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair : canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ysgrifenna , Bendigedig yw’r rhai a elwir i swper neithior yr Oen . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Gwir eiriau Duw yw’r rhai hyn . Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef , i’w addoli ef . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Gwêl na wnelych hyn : cyd-was ydwyf i ti , ac i’th frodyr y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu . Addola Dduw : canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth . Ac mi a welais y nef yn agored , ac wele farch gwyn ; a’r hwn oedd yn eistedd arno a elwid Ffyddlon a Chywir , ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela . A’i lygaid oedd fel fflam dân , ac ar ei ben yr oedd coronau lawer : ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig , yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun : Ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed : a gelwir ei enw ef , Gair Duw . A’r lluoedd oedd yn y nef a’i canlynasant ef ar feirch gwynion , wedi eu gwisgo â lliain main , gwyn , a glân . Ac allan o’i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym , i daro’r cenhedloedd ag ef : ac efe a’u bugeilia hwynt â gwialen haearn : ac efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog . Ac y mae ganddo ar ei wisg , ac ar ei forddwyd , enw wedi ei ysgrifennu , BRENIN BRENHINOEDD , AC ARGLWYDD ARGLWYDDI . Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul ; ac efe a lefodd â llef uchel , gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nef , Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i swper y Duw mawr ; Fel y bwytaoch gig brenhinoedd , a chig pen-capteiniaid , a chig y cedyrn , a chig meirch , a’r rhai sydd yn eistedd arnynt , a chig holl ryddion a chaethion , a bychain a mawrion . Ac mi a welais y bwystfil , a brenhinoedd y ddaear , a’u lluoedd , wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march , ac yn erbyn ei lu ef . A daliwyd y bwystfil , a chydag ef y gau broffwyd , yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef , trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nod y bwystfil , a’r rhai a addolasent ei ddelw ef . Yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i’r llyn tân yn llosgi â brwmstan . A’r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march , yr hwn oedd yn dyfod allan o’i enau ef : a’r holl adar a gawsant eu gwala o’u cig hwynt . Ac mi a welais angel yn disgyn o’r nef , a chanddo agoriad y pydew diwaelod , a chadwyn fawr yn ei law . Ac efe a ddaliodd y ddraig , yr hen sarff , yr hon yw Diafol a Satan , ac a’i rhwymodd ef dros fil o flynyddoedd , Ac a’i bwriodd ef i’r pydew diwaelod , ac a gaeodd arno , ac a seliodd arno ef , fel na thwyllai efe’r cenhedloedd mwyach , nes cyflawni’r mil o flynyddoedd : ac ar ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser . Ac mi a welais orseddfeinciau , a hwy a eisteddasant arnynt , a barn a roed iddynt hwy : ac mi a welais eneidiau’r rhai a dorrwyd eu pennau am dystiolaeth Iesu , ac am air Duw , a’r rhai nid addolasent y bwystfil na’i ddelw ef , ac ni dderbyniasent ei nod ef ar eu talcennau , neu ar eu dwylo ; a hwy a fuant fyw ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd . Eithr y lleill o’r meirw ni fuant fyw drachefn , nes cyflawni’r mil blynyddoedd . Dyma’r atgyfodiad cyntaf . Gwynfydedig a sanctaidd yw’r hwn sydd â rhan iddo yn yr atgyfodiad cyntaf : y rhai hyn nid oes i’r ail farwolaeth awdurdod arnynt , eithr hwy a fyddant offeiriaid i Dduw ac i Grist , ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd . A phan gyflawner y mil blynyddoedd , gollyngir Satan allan o’i garchar ; Ac efe a â allan i dwyllo’r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear , Gog a Magog , i’w casglu hwy ynghyd i ryfel ; rhif y rhai sydd fel tywod y môr . A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear , ac a amgylchasant wersyll y saint , a’r ddinas annwyl : a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o’r nef , ac a’u hysodd hwynt . A diafol , yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt , a fwriwyd i’r llyn o dân a brwmstan , lle y mae’r bwystfil a’r gau broffwyd ; a hwy a boenir ddydd a nos , yn oes oesoedd . Ac mi a welais orseddfainc wen fawr , a’r hwn oedd yn eistedd arni , oddi wrth wyneb yr hwn y ffodd y ddaear a’r nef ; a lle ni chafwyd iddynt . Ac mi a welais y meirw , fychain a mawrion , yn sefyll gerbron Duw ; a’r llyfrau a agorwyd : a llyfr arall a agorwyd , yr hwn yw llyfr y bywyd : a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau , yn ôl eu gweithredoedd . A rhoddodd y môr i fyny y meirw oedd ynddo ; a marwolaeth ac uffern a roddasant i fyny y meirw oedd ynddynt hwythau : a hwy a farnwyd bob un yn ôl eu gweithredoedd . A marwolaeth ac uffern a fwriwyd i’r llyn o dân . Hon yw’r ail farwolaeth . A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei ysgrifennu yn llyfr y bywyd , bwriwyd ef i’r llyn o dân . Ac mi a welais nef newydd , a daear newydd : canys y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf a aeth heibio ; a’r môr nid oedd mwyach . A myfi Ioan a welais y ddinas sanctaidd , Jerwsalem newydd , yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o’r nef , wedi ei pharatoi fel priodasferch wedi ei thrwsio i’w gŵr . Ac mi a glywais lef uchel allan o’r nef , yn dywedyd , Wele , y mae pabell Duw gyda dynion , ac efe a drig gyda hwynt , a hwy a fyddant bobl iddo ef , a Duw ei hun a fydd gyda hwynt , ac a fydd yn Dduw iddynt . Ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt ; a marwolaeth ni bydd mwyach , na thristwch , na llefain , na phoen ni bydd mwyach : oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio . A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc , Wele , yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Ysgrifenna : canys y mae’r geiriau hyn yn gywir ac yn ffyddlon . Ac efe a ddywedodd wrthyf , Darfu . Myfi yw Alffa ac Omega , y dechrau a’r diwedd . I’r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad . Yr hwn sydd yn gorchfygu , a etifedda bob peth : ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw , ac yntau a fydd i minnau yn fab . Ond i’r rhai ofnog , a’r di-gred , a’r ffiaidd , a’r llofruddion , a’r puteinwyr , a’r swyn-gyfareddwyr , a’r eilun-addolwyr , a’r holl gelwyddwyr , y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan : yr hwn yw’r ail farwolaeth . A daeth ataf un o’r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt yn llawn o’r saith bla diwethaf , ac a ymddiddanodd â mi , gan ddywedyd , Tyred , mi a ddangosaf i ti’r briodasferch , gwraig yr Oen . Ac efe a’m dug i ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel , ac a ddangosodd i mi’r ddinas fawr , Jerwsalem sanctaidd , yn disgyn allan o’r nef oddi wrth Dduw , A gogoniant Duw ganddi : a’i golau hi oedd debyg i faen o’r gwerthfawrocaf , megis maen iasbis , yn loyw fel grisial ; Ac iddi fur mawr ac uchel , ac iddi ddeuddeg porth , ac wrth y pyrth ddeuddeg angel , ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt , y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel . O du’r dwyrain , tri phorth ; o du’r gogledd , tri phorth ; o du’r deau , tri phorth ; o du’r gorllewin , tri phorth . Ac yr oedd mur y ddinas â deuddeg sylfaen iddo , ac ynddynt enwau deuddeg apostol yr Oen . A’r hwn oedd yn ymddiddan â mi , oedd â chorsen aur ganddo , i fesuro’r ddinas , a’i phyrth hi , a’i mur . A’r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeirongl , a’i hyd sydd gymaint â’i lled . Ac efe a fesurodd y ddinas â’r gorsen , yn ddeuddeng mil o ystadau . A’i hyd , a’i lled , a’i huchder , sydd yn ogymaint . Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain , wrth fesur dyn , hynny yw , eiddo’r angel . Ac adeilad ei mur hi oedd o faen iasbis : a’r ddinas oedd aur pur , yn debyg i wydr gloyw . A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu harddu â phob rhyw faen gwerthfawr . Y sail cyntaf oedd faen iasbis ; yr ail , saffir ; y trydydd , chalcedon ; y pedwerydd , smaragdus ; Y pumed , sardonycs ; y chweched , sardius ; y seithfed , chrysolithus ; yr wythfed , beryl ; y nawfed , topasion ; y degfed , chrysoprasus ; yr unfed ar ddeg , hyacinthus ; y deuddegfed , amethystus . A’r deuddeg porth , deuddeg perl oeddynt ; a phob un o’r pyrth oedd o un perl : a heol y ddinas oedd aur pur , fel gwydr gloyw . A theml ni welais ynddi : canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog , a’r Oen , yw ei theml hi . A’r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul , na’r lleuad , i oleuo ynddi : canys gogoniant Duw a’i goleuodd hi , a’i goleuni hi ydyw’r Oen . A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi : ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a’u hanrhydedd iddi hi . A’i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd : canys ni bydd nos yno . A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi . Ac nid â i mewn iddi ddim aflan , nac yn gwneuthur ffieidd-dra , na chelwydd : ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr bywyd yr Oen . Ac efe a ddangosodd imi afon bur o ddwfr y bywyd , disglair fel grisial , yn dyfod allan o orseddfainc Duw a’r Oen . Yng nghanol ei heol hi , ac o ddau tu’r afon , yr oedd pren y bywyd , yn dwyn deuddeg rhyw ffrwyth , bob mis yn rhoddi ei ffrwyth : a dail y pren oedd i iacháu’r cenhedloedd : A phob melltith ni bydd mwyach : ond gorseddfainc Duw a’r Oen a fydd ynddi hi ; a’i weision ef a’i gwasanaethant ef , A hwy a gânt weled ei wyneb ef ; a’i enw ef a fydd yn eu talcennau hwynt . Ac ni bydd nos yno : ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll , na goleuni haul ; oblegid y mae’r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt : a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd . Ac efe a ddywedodd wrthyf fi , Y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir : ac Arglwydd Dduw’r proffwydi sanctaidd a ddanfonodd ei angel i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid iddynt fod ar frys . Wele , yr wyf yn dyfod ar frys : gwyn ei fyd yr hwn sydd yn cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn . A myfi Ioan a welais y pethau hyn , ac a’u clywais . A phan ddarfu i mi glywed a gweled , mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi’r pethau hyn . Ac efe a ddywedodd wrthyf fi , Gwêl na wnelych : canys cyd-was ydwyf i ti , ac i’th frodyr y proffwydi , ac i’r rhai sydd yn cadw geiriau’r llyfr hwn . Addola Dduw . Ac efe a ddywedodd wrthyf fi , Na selia eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn : oblegid y mae’r amser yn agos . Yr hwn sydd anghyfiawn , bydded anghyfiawn eto : a’r hwn sydd frwnt , bydded frwnt eto ; a’r hwn sydd gyfiawn , bydded gyfiawn eto ; a’r hwn sydd sanctaidd , bydded sanctaidd eto . Ac wele , yr wyf yn dyfod ar frys ; a’m gwobr sydd gyda mi , i roddi i bob un fel y byddo ei waith ef . Myfi yw Alffa ac Omega , y dechrau a’r diwedd , y cyntaf a’r diwethaf . Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef , fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd , ac y gallont fyned i mewn trwy’r pyrth i’r ddinas . Oddi allan y mae’r cŵn , a’r swyn-gyfareddwyr , a’r puteinwyr , a’r llofruddion , a’r eilun-addolwyr , a phob un a’r sydd yn caru ac yn gwneuthur celwydd . Myfi Iesu a ddanfonais fy angel i dystiolaethu i chwi’r pethau hyn yn yr eglwysi . Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd , a’r Seren fore eglur . Ac y mae’r Ysbryd a’r briodasferch yn dywedyd , Tyred . A’r hwn sydd yn clywed , dyweded , Tyred . A’r hwn sydd â syched arno , deued . A’r hwn sydd yn ewyllysio , cymered ddwfr y bywyd yn rhad . Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn , Os rhydd neb ddim at y pethau hyn , Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn : Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon , Duw a dynn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd , ac allan o’r ddinas sanctaidd , ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn . Yr hwn sydd yn tystiolaethu’r pethau hyn , sydd yn dywedyd , Yn wir , yr wyf yn dyfod ar frys . Amen . Yn wir , tyred , Arglwydd Iesu . Gras ein Harglwydd ni Iesu Grist fyddo gyda chwi oll . Amen . </passage></reply></GetPassage>