<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:7</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:7</urn><passage>Ac wedi marw Josua , meibion Israel a ymofynasant â’r Arglwydd , gan ddywedyd , Pwy a â i fyny drosom ni yn erbyn y Canaaneaid yn flaenaf , i ymladd â hwynt ? A dywedodd yr Arglwydd , Jwda a â i fyny : wele , rhoddais y wlad yn ei law ef . A Jwda a ddywedodd wrth Simeon ei frawd , Tyred i fyny gyda mi i’m rhandir , fel yr ymladdom yn erbyn y Canaaneaid ; a minnau a af gyda thi i’th randir dithau . Felly Simeon a aeth gydag ef . A Jwda a aeth i fyny ; a’r Arglwydd a roddodd y Canaaneaid a’r Pheresiaid yn eu llaw hwynt : a lladdasant ohonynt , yn Besec , ddengmil o wŷr . A hwy a gawsant Adoni‐besec yn Besec : ac a ymladdasant yn ei erbyn ; ac a laddasant y Canaaneaid a’r Pheresiaid . Ond Adoni‐besec a ffodd ; a hwy a erlidiasant ar ei ôl ef , ac a’i daliasant ef , ac a dorasant fodiau ei ddwylo ef a’i draed . Ac Adoni‐besec a ddywedodd , Deg a thrigain o frenhinoedd , wedi torri bodiau eu dwylo a’u traed , a fu yn casglu eu bwyd dan fy mwrdd i : fel y gwneuthum , felly y talodd Duw i mi . A hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem ; ac efe a fu farw yno . A meibion Jwda a ymladdasant yn erbyn Jerwsalem ; ac a’i henillasant hi , ac a’i trawsant â min y cleddyf ; a llosgasant y ddinas â thân . Wedi hynny meibion Jwda a aethant i waered i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn y mynydd , ac yn y deau , ac yn y gwastadedd . A Jwda a aeth yn erbyn y Canaaneaid oedd yn trigo yn Hebron : ( ac enw Hebron o’r blaen oedd Caer‐Arba : ) a hwy a laddasant Sesai , ac Ahiman , a Thalmai . Ac efe a aeth oddi yno at drigolion Debir : ( ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath‐seffer : ) A dywedodd Caleb , Yr hwn a drawo Ciriath‐seffer , ac a’i henillo hi , mi a roddaf Achsa fy merch yn wraig iddo . Ac Othniel mab Cenas , brawd Caleb , ieuangach nag ef , a’i henillodd hi . Yntau a roddes Achsa ei ferch yn wraig iddo . A phan ddaeth hi i mewn ato ef , hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad ryw faes : a hi a ddisgynnodd oddi ar yr asyn . A dywedodd Caleb wrthi , Beth a fynni di ? A hi a ddywedodd wrtho , Dyro i mi fendith : canys gwlad y deau a roddaist i mi ; dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd . A Caleb a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf , a’r ffynhonnau isaf . A meibion Ceni , chwegrwn Moses , a aethant i fyny o ddinas y palmwydd gyda meibion Jwda , i anialwch Jwda , yr hwn sydd yn neau Arad : a hwy a aethant ac a drigasant gyda’r bobl . A Jwda a aeth gyda Simeon ei frawd : a hwy a drawsant y Canaaneaid oedd yn preswylio yn Seffath , ac a’i difrodasant hi . Ac efe a alwodd enw y ddinas Horma . Jwda hefyd a enillodd Gasa a’i therfynau , ac Ascalon a’i therfynau , ac Ecron a’i therfynau . A’r Arglwydd oedd gyda Jwda ; ac efe a oresgynnodd y mynydd : ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn ; canys cerbydau heyrn oedd ganddynt . Ac i Caleb y rhoesant Hebron ; fel y llefarasai Moses : ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac . Ond meibion Benjamin ni yrasant allan y Jebusiaid y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem : ond y mae y Jebusiaid yn trigo yn Jerwsalem gyda meibion Benjamin hyd y dydd hwn . A thŷ Joseff , hwythau hefyd a aethant i fyny yn erbyn Bethel : a’r Arglwydd oedd gyda hwynt . A thylwyth Joseff a barasant chwilio Bethel : ( ac enw y ddinas o’r blaen oedd Lus . ) A’r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o’r ddinas ; ac a ddywedasant wrtho , Dangos i ni , atolwg , y ffordd yr eir i’r ddinas , a ni a wnawn drugaredd â thi . A phan ddangosodd efe iddynt hwy y ffordd i fyned i’r ddinas , hwy a drawsant y ddinas â min y cleddyf ; ac a ollyngasant ymaith y gŵr a’i holl deulu . A’r gŵr a aeth i wlad yr Hethiaid ; ac a adeiladodd ddinas , ac a alwodd ei henw Lus : dyma ei henw hi hyd y dydd hwn . Ond ni oresgynnodd Manasse Beth‐sean na’i threfydd , na Thaanach na’i threfydd , na thrigolion Dor na’i threfydd , na thrigolion Ibleam na’i threfydd , na thrigolion Megido na’i threfydd : eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno . Ond pan gryfhaodd Israel , yna efe a osododd y Canaaneaid dan dreth ; ond nis gyrrodd hwynt ymaith yn llwyr . Effraim hefyd ni yrrodd allan y Canaaneaid oedd yn gwladychu yn Geser ; eithr y Canaaneaid a breswyliasant yn eu mysg hwynt yn Geser . A Sabulon ni yrrodd ymaith drigolion Citron , na phreswylwyr Nahalol ; eithr y Canaaneaid a wladychasant yn eu mysg hwynt , ac a aethant dan dreth . Ac Aser ni yrrodd ymaith drigolion Acco , na thrigolion Sidon , nac Alab , nac Achsib , na Helba , nac Affic , na Rehob : Ond Aser a drigodd ymysg y Canaaneaid , trigolion y wlad ; canys ni yrasant hwynt allan . A Nafftali ni yrrodd allan breswylwyr Beth‐semes , na thrigolion Beth‐anath ; eithr efe a wladychodd ymysg y Canaaneaid , trigolion y wlad : er hynny preswylwyr Beth‐semes a Beth‐anath oedd dan dreth iddynt . A’r Amoriaid a yrasant feibion Dan i’r mynydd : canys ni adawsant iddynt ddyfod i waered i’r dyffryn . A’r Amoriaid a fynnai breswylio ym mynydd Heres yn Ajalon , ac yn Saalbim : eto llaw tŷ Joseff a orthrechodd , a’r Amoriaid fuant dan dreth iddynt . A therfyn yr Amoriaid oedd o riw Acrabbim , o’r graig , ac uchod . Ac angel yr Arglwydd a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim , ac a ddywedodd , Dygais chwi i fyny o’r Aifft , ac arweiniais chwi i’r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau ; ac a ddywedais , Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth . Na wnewch chwithau gyfamod â thrigolion y wlad hon ; ond bwriwch i lawr eu hallorau : eto ni wrandawsoch ar fy llef : paham y gwnaethoch hyn ? Am hynny y dywedais , Ni yrraf hwynt allan o’ch blaen chwi : eithr byddant i chwi yn ddrain yn eich ystlysau , a’u duwiau fydd yn fagl i chwi . A phan lefarodd angel yr Arglwydd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel , yna y bobl a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant . Ac a alwasant enw y lle hwnnw Bochim : ac yna yr aberthasant i’r Arglwydd . A Josua a ollyngodd y bobl ymaith ; a meibion Israel a aethant bob un i’w etifeddiaeth , i feddiannu y wlad . A’r bobl a wasanaethasant yr Arglwydd holl ddyddiau Josua , a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua , y rhai a welsent holl fawrwaith yr Arglwydd , yr hwn a wnaethai efe er Israel . A bu farw Josua mab Nun , gwas yr Arglwydd , yn fab dengmlwydd a chant . A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth , o fewn Timnath‐heres , ym mynydd Effraim , o du y gogledd i fynydd Gaas . A’r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau : a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt , y rhai nid adwaenent yr Arglwydd , na’i weithredoedd a wnaethai efe er Israel . A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd , ac a wasanaethasant Baalim : Ac a wrthodasant Arglwydd Dduw eu tadau , yr hwn a’u dygasai hwynt o wlad yr Aifft , ac a aethant ar ôl duwiau dieithr , sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o’u hamgylch , ac a ymgrymasant iddynt , ac a ddigiasant yr Arglwydd . A hwy a wrthodasant yr Arglwydd , ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth . A llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel ; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr , y rhai a’u hanrheithiasant hwy ; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch , fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion . I ba le bynnag yr aethant , llaw yr Arglwydd oedd er drwg yn eu herbyn hwynt ; fel y llefarasai yr Arglwydd , ac fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt hwy : a bu gyfyng iawn arnynt . Eto yr Arglwydd a gododd farnwyr , y rhai a’u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr . Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr ; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr , ac ymgrymasant iddynt : ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi , gan wrando ar orchmynion yr Arglwydd ; ond ni wnaethant hwy felly . A phan godai yr Arglwydd farnwyr arnynt hwy , yna yr Arglwydd fyddai gyda’r barnwr , ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr : canys yr Arglwydd a dosturiai wrth eu griddfan hwynt , rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr . A phan fyddai farw y barnwr , hwy a ddychwelent , ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau , gan fyned ar ôl duwiau dieithr , i’w gwasanaethu hwynt , ac i ymgrymu iddynt : ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain , nac â’u ffordd wrthnysig . A dicllonedd yr Arglwydd a lidiai yn erbyn Israel : ac efe a ddywedai , Oblegid i’r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i’w tadau hwynt , ac na wrandawsant ar fy llais ; Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o’u blaen hwynt neb o’r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw : I brofi Israel trwyddynt hwy , a gadwent hwy ffordd yr Arglwydd , gan rodio ynddi , fel y cadwodd eu tadau hwynt , neu beidio . Am hynny yr Arglwydd a adawodd y cenhedloedd hynny , heb eu gyrru ymaith yn ebrwydd ; ac ni roddodd hwynt yn llaw Josua . Dyma y cenhedloedd a adawodd yr Arglwydd i brofi Israel trwyddynt , ( sef y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan ; Yn unig i beri i genedlaethau meibion Israel wybod , i’w dysgu hwynt i ryfel ; y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o’r blaen ; ) Pum tywysog y Philistiaid , a’r holl Ganaaneaid , a’r Sidoniaid , a’r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus , o fynydd Baal‐hermon , hyd y ffordd y deuir i Hamath . A hwy a fuant i brofi Israel trwyddynt , i wybod a wrandawent hwy ar orchmynion yr Arglwydd , y rhai a orchmynasai efe i’w tadau hwynt trwy law Moses . A meibion Israel a drigasant ymysg y Canaaneaid , yr Hethiaid , a’r Amoriaid , a’r Pheresiaid , yr Hefiaid hefyd , a’r Jebusiaid : Ac a gymerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd , ac a roddasant eu merched i’w meibion hwythau , ac a wasanaethasant eu duwiau hwynt . Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd , ac a anghofiasant yr Arglwydd eu Duw , ac a wasanaethasant Baalim , a’r llwyni . Am hynny dicllonedd yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel ; ac efe a’u gwerthodd hwynt i law Cusan‐risathaim , brenin Mesopotamia : a meibion Israel a wasanaethasant Cusan‐risathaim wyth mlynedd . A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd : a’r Arglwydd a gododd achubwr i feibion Israel , yr hwn a’u hachubodd hwynt ; sef Othniel mab Cenas , brawd Caleb , ieuangach nag ef . Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef , ac efe a farnodd Israel , ac a aeth allan i ryfel : a’r Arglwydd a roddodd yn ei law ef Cusan‐risathaim , brenin Mesopotamia ; a’i law ef oedd drech na Cusan‐risathaim . A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd . A bu farw Othniel mab Cenas . A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : a’r Arglwydd a nerthodd Eglon brenin Moab yn erbyn Israel , am iddynt wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd . Ac efe a gasglodd ato feibion Ammon , ac Amalec , ac a aeth ac a drawodd Israel ; a hwy a feddianasant ddinas y palmwydd . Felly meibion Israel a wasanaethasant Eglon brenin Moab ddeunaw mlynedd . Yna meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd : a’r Arglwydd a gododd achubwr iddynt ; sef Ehwd mab Gera , fab Jemini , gŵr llawchwith : a meibion Israel a anfonasant anrheg gydag ef i Eglon brenin Moab . Ac Ehwd a wnaeth iddo ddager ddaufiniog o gufydd ei hyd , ac a’i gwregysodd dan ei ddillad , ar ei glun ddeau . Ac efe a ddug yr anrheg i Eglon brenin Moab . Ac Eglon oedd ŵr tew iawn . A phan ddarfu iddo ef gyflwyno yr anrheg , efe a ollyngodd ymaith y bobl a ddygasai yr anrheg . Ond efe ei hun a drodd oddi wrth y chwarelau oedd yn Gilgal , ac a ddywedodd , Y mae i mi air o gyfrinach â thi , O frenin . Dywedodd yntau , Gosteg . A’r holl rai oedd yn sefyll yn ei ymyl ef a aethant allan oddi wrtho ef . Ac Ehwd a ddaeth i mewn ato ef : ac yntau oedd yn eistedd mewn ystafell haf , yr hon oedd iddo ef ei hunan . A dywedodd Ehwd , Gair oddi wrth Dduw sydd gennyf atat ti . Ac efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa . Ac Ehwd a estynnodd ei law aswy , ac a gymerth y ddager oddi ar ei glun ddeau , ac a’i brathodd hi yn ei boten ef : A’r carn a aeth i mewn ar ôl y llafn , a’r braster a ymgaeodd am y llafn , fel na allai dynnu y ddager allan o’i boten ; a’r dom a ddaeth allan . Yna Ehwd a aeth allan trwy’r cyntedd , ac a gaeodd ddrysau yr ystafell arno , ac a’u clodd . Pan aeth efe ymaith , ei weision a ddaethant : a phan welsant , wele , fod drysau yr ystafell yn gloëdig , hwy a ddywedasant , Diau esmwytháu ei gorff y mae efe yn yr ystafell haf . A hwy a ddisgwyliasant , nes cywilyddio ohonynt : ac wele , nid oedd efe yn agori drysau yr ystafell . Yna hwy a gymerasant agoriad , ac a agorasant : ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw . Ac Ehwd a ddihangodd , tra fuant hwy yn aros ; ac efe a aeth y tu hwnt i’r chwarelau , ac a ddihangodd i Seirath . A phan ddaeth , efe a utganodd mewn utgorn ym mynydd Effraim : a meibion Israel a ddisgynasant gydag ef o’r mynydd , ac yntau o’u blaen hwynt . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Canlynwch fi : canys yr Arglwydd a roddodd eich gelynion chwi , sef Moab , yn eich llaw chwi . A hwy a aethant i waered ar ei ôl ef , ac a enillasant rydau yr Iorddonen tua Moab , ac ni adawsant i neb fyned drwodd . A hwy a drawsant o’r Moabiaid y pryd hwnnw ynghylch deng mil o wŷr , pawb yn rymus , a phawb yn wŷr nerthol ; ac ni ddihangodd neb . Felly y darostyngwyd Moab y dwthwn hwnnw dan law Israel . A’r wlad a gafodd lonydd bedwar ugain mlynedd . Ac ar ei ôl ef y bu Samgar mab Anath ; ac efe a drawodd o’r Philistiaid chwe channwr ag irai ychen : yntau hefyd a waredodd Israel . A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd , wedi marw Ehwd . A’r Arglwydd a’u gwerthodd hwynt i law Jabin brenin Canaan , yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hasor : a thywysog ei lu ef oedd Sisera ; ac efe oedd yn trigo yn Haroseth y cenhedloedd . A meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd : canys naw can cerbyd haearn oedd ganddo ef ; ac efe a orthrymodd feibion Israel yn dost ugain mlynedd . A Debora y broffwydes , gwraig Lapidoth , hyhi oedd yn barnu Israel yr amser hwnnw . Ac yr oedd hi yn trigo dan balmwydden Debora , rhwng Rama a Bethel , ym mynydd Effraim : a meibion Israel a ddeuent i fyny ati hi am farn . A hi a anfonodd , ac a alwodd am Barac mab Abinoam , o Cedes‐Nafftali ; ac a ddywedodd wrtho , Oni orchmynnodd Arglwydd Dduw Israel , gan ddywedyd , Dos , a thyn tua mynydd Tabor , a chymer gyda thi ddeng mil o wŷr , o feibion Nafftali , ac o feibion Sabulon ? A mi a dynnaf atat , i afon Cison , Sisera tywysog llu Jabin , a’i gerbydau , a’i liaws ; ac a’i rhoddaf ef yn dy law di . A Barac a ddywedodd wrthi , Od ei di gyda mi , minnau a af ; ac onid ei gyda mi , nid af . A hi a ddywedodd , Gan fyned yr af gyda thi : eto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi ; canys yn llaw gwraig y gwerth yr Arglwydd Sisera . A Debora a gyfododd , ac a aeth gyda Barac i Cedes . A Barac a gynullodd Sabulon a Nafftali i Cedes ; ac a aeth i fyny â deng mil o wŷr wrth ei draed : a Debora a aeth i fyny gydag ef . A Heber y Cenead , o feibion Hobab , chwegrwn Moses , a ymneilltuasai oddi wrth y Ceneaid , ac a ledasai ei babell hyd wastadedd Saanaim , yr hwn sydd yn ymyl Cedes . A mynegasant i Sisera , fyned o Barac mab Abinoam i fyny i fynydd Tabor . A Sisera a gynullodd ei holl gerbydau , sef naw can cerbyd haearn , a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef , o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison . A Debora a ddywedodd wrth Barac , Cyfod ; canys hwn yw y dydd y rhoddodd yr Arglwydd Sisera yn dy law di : onid aeth yr Arglwydd allan o’th flaen di ? Felly Barac a ddisgynnodd o fynydd Tabor , a deng mil o wŷr ar ei ôl . A’r Arglwydd a ddrylliodd Sisera , a’i holl gerbydau , a’i holl fyddin , â min y cleddyf , o flaen Barac : a Sisera a ddisgynnodd oddi ar ei gerbyd , ac a ffodd ar ei draed . Ond Barac a erlidiodd ar ôl y cerbydau , ac ar ôl y fyddin , hyd Haroseth y cenhedloedd : a holl lu Sisera a syrthiodd ar fin y cleddyf : ni adawyd un ohonynt . Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael , gwraig Heber y Cenead : canys yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead . A Jael a aeth i gyfarfod â Sisera ; ac a ddywedodd wrtho , Tro i mewn , fy arglwydd , tro i mewn ataf fi ; nac ofna . Yna efe a drodd ati i’r babell , a hi a’i gorchuddiodd ef â gwrthban . Ac efe a ddywedodd wrthi , Dioda fi , atolwg , ag ychydig ddwfr ; canys sychedig wyf . Yna hi a agorodd gunnog o laeth , ac a’i diododd ef , ac a’i gorchuddiodd . Dywedodd hefyd wrthi , Saf wrth ddrws y babell ; ac os daw neb i mewn , a gofyn i ti , a dywedyd , A oes yma neb ? yna dywed dithau , Nac oes . Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o’r babell , ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw , ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw , ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef , ac a’i gwthiodd i’r ddaear ; canys yr oedd efe yn cysgu , ac yn lluddedig ; ac felly y bu efe farw . Ac wele , a Barac yn erlid Sisera , Jael a aeth i’w gyfarfod ef ; ac a ddywedodd wrtho , Tyred , a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio . Ac efe a ddaeth i mewn ati ; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw , a’r hoel yn ei arlais . Felly y darostyngodd Duw y dwthwn hwnnw Jabin brenin Canaan o flaen meibion Israel . A llaw meibion Israel a lwyddodd , ac a orchfygodd Jabin brenin Canaan , nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan . Yna y canodd Debora a Barac mab Abinoam , y diwrnod hwnnw , gan ddywedyd , Am ddial dialeddau Israel , ac ymgymell o’r bobl , bendithiwch yr Arglwydd . Clywch , O frenhinoedd ; gwrandewch , O dywysogion : myfi , myfi a ganaf i’r Arglwydd ; canaf fawl i Arglwydd Dduw Israel . O Arglwydd , pan aethost allan o Seir , pan gerddaist o faes Edom , y ddaear a grynodd , a’r nefoedd a ddiferasant , a’r cymylau a ddefnynasant ddwfr . Y mynyddoedd a doddasant o flaen yr Arglwydd , sef y Sinai hwnnw , o flaen Arglwydd Dduw Israel . Yn nyddiau Samgar mab Anath , yn nyddiau Jael , y llwybrau a aeth yn anhygyrch , a’r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion . Y maestrefi a ddarfuant yn Israel : darfuant , nes i mi , Debora , gyfodi ; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel . Dewisasant dduwiau newyddion ; yna rhyfel oedd yn y pyrth : a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel ? Fy nghalon sydd tuag at ddeddfwyr Israel , y rhai fu ewyllysgar ymhlith y bobl . Bendithiwch yr Arglwydd . Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynnod gwynion , y rhai sydd yn eistedd mewn barn , ac yn rhodio ar hyd y ffordd , lleferwch . Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr ; yno yr adroddant gyfiawnderau yr Arglwydd , cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel : yna pobl yr Arglwydd a ânt i waered i’r pyrth . Deffro , deffro , Debora ; deffro , deffro ; traetha gân : cyfod , Barac , a chaethgluda dy gaethglud , O fab Abinoam . Yna y gwnaeth i’r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl : yr Arglwydd a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn . O Effraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec ; ar dy ôl di , Benjamin , ymysg dy bobl : y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir , yr ysgrifenyddion o Sabulon . A thywysogion Issachar oedd gyda Debora ; ie , Issachar , a Barac : efe a anfonwyd ar ei draed i’r dyffryn . Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon . Paham yr arhosaist rhwng y corlannau , i wrando brefiadau y defaid ? Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon . Gilead a drigodd o’r tu hwnt i’r Iorddonen : a phaham yr erys Dan mewn llongau ? Aser a drigodd wrth borthladd y môr , ac a arhosodd ar ei adwyau . Pobl Sabulon a roddes eu heinioes i farw ; felly Nafftali ar uchelfannau y maes . A brenhinoedd a ddaethant , ac a ymladdasant ; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach , wrth ddyfroedd Megido ; ni chymerasant elw o arian . O’r nefoedd yr ymladdasant ; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera . Afon Cison a’u hysgubodd hwynt ; yr hen afon , yr afon Cison . Fy enaid , ti a sethraist gadernid . Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlamau , carlamau ei gryfion ef . Melltigwch Meros , eb angel yr Arglwydd , gan felltigo melltigwch ei thrigolion : am na ddaethant yn gynhorthwy i’r Arglwydd , yn gynhorthwy i’r Arglwydd yn erbyn y cedyrn . Bendithier Jael , gwraig Heber y Cenead , goruwch gwragedd ; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell . Dwfr a geisiodd efe , llaeth a roddes hithau : mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn . Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel , a’i llaw ddeau at forthwyl y gweithwyr : a hi a bwyodd Sisera , ac a dorrodd ei ben ef ; gwanodd hefyd , a thrywanodd ei arlais ef . Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe ; syrthiodd , gorweddodd : wrth ei thraed yr ymgrymodd efe , y syrthiodd : lle yr ymgrymodd , yno y syrthiodd yn farw . Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr , ac a waeddodd trwy’r dellt , Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod ? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau ? Ei harglwyddesau doethion a’i hatebasant ; hithau hefyd a atebodd iddi ei hun , Oni chawsant hwy ? oni ranasant yr anrhaith , llances neu ddwy i bob gŵr ? anrhaith o wisgoedd symudliw i Sisera , anrhaith o wniadwaith symudliw , symudliw o wniadwaith o’r ddeutu , cymwys i yddfau yr anrheithwyr ? Felly y darfyddo am dy holl elynion , O Arglwydd : a bydded y rhai a’i hoffant ef fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym . A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd . A Meibion Israel a wnaethant ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Midian saith mlynedd . A llaw Midian a orthrechodd Israel : a rhag y Midianiaid meibion Israel a wnaethant iddynt y llochesau sydd yn y mynyddoedd , a’r ogofeydd , a’r amddiffynfaoedd . A phan heuasai Israel , yna Midian a ddaeth i fyny , ac Amalec , a meibion y dwyrain ; hwy a ddaethant i fyny yn eu herbyn hwy : Ac a wersyllasant yn eu herbyn hwynt , ac a ddinistriasant gnwd y ddaear , hyd oni ddelych i Gasa ; ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel , na dafad , nac eidion , nac asyn . Canys hwy a ddaethant i fyny â’u hanifeiliaid , ac â’u pebyll , a daethant fel locustiaid o amldra ; ac nid oedd rifedi arnynt hwy , nac ar eu camelod : a hwy a ddaethant i’r wlad i’w distrywio hi . Ac Israel a aeth yn dlawd iawn o achos y Midianiaid : a meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd . A phan lefodd meibion Israel ar yr Arglwydd oblegid y Midianiaid , Yr Arglwydd a anfonodd broffwydwr at feibion Israel , yr hwn a ddywedodd wrthynt , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel ; Myfi a’ch dygais chwi i fyny o’r Aifft , ac a’ch arweiniais chwi o dŷ y caethiwed ; Ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid , ac o law eich holl orthrymwyr ; gyrrais hwynt allan o’ch blaen chwi , a rhoddais eu tir hwynt i chwi : A dywedais wrthych , Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi ; nac ofnwch dduwiau yr Amoriaid , y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad : ond ni wrandawsoch ar fy llais i . Ac angel yr Arglwydd a ddaeth , ac a eisteddodd dan dderwen oedd yn Offra , yr hon oedd eiddo Joas yr Abiesriad : a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwinwryf , i’w guddio rhag y Midianiaid . Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo ef , ac a ddywedodd wrtho , Yr Arglwydd sydd gyda thi , ŵr cadarn nerthol . A Gedeon a ddywedodd wrtho , O fy arglwydd , od yw yr Arglwydd gyda ni , paham y digwyddodd hyn oll i ni ? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef , y rhai a fynegodd ein tadau i ni , gan ddywedyd , Oni ddug yr Arglwydd ni i fyny o’r Aifft ? Ond yn awr yr Arglwydd a’n gwrthododd ni , ac a’n rhoddodd i law y Midianiaid . A’r Arglwydd a edrychodd arno ef , ac a ddywedodd , Dos yn dy rymustra yma ; a thi a waredi Israel o law y Midianiaid : oni anfonais i dydi ? Dywedodd yntau wrtho ef , O fy arglwydd , pa fodd y gwaredaf fi Israel ? Wele fy nheulu yn dlawd ym Manasse , a minnau yn lleiaf yn nhŷ fy nhad . A dywedodd yr Arglwydd wrtho ef , Diau y byddaf fi gyda thi ; a thi a drewi y Midianiaid fel un gŵr . Ac efe a ddywedodd wrtho , O chefais yn awr ffafr yn dy olwg , gwna erof fi arwydd mai ti sydd yn llefaru wrthyf . Na chilia , atolwg , oddi yma , hyd oni ddelwyf atat , ac oni ddygwyf fy anrheg , a’i gosod ger dy fron . Dywedodd yntau , Myfi a arhosaf nes i ti ddychwelyd . A Gedeon a aeth i mewn , ac a baratôdd fyn gafr , ac effa o beilliaid yn fara croyw : y cig a osododd efe mewn basged , a’r isgell a osododd efe mewn crochan ; ac a’i dug ato ef dan y dderwen , ac a’i cyflwynodd . Ac angel Duw a ddywedodd wrtho , Cymer y cig , a’r bara croyw , a gosod ar y graig hon , a thywallt yr isgell . Ac efe a wnaeth felly . Yna angel yr Arglwydd a estynnodd flaen y ffon oedd yn ei law , ac a gyffyrddodd â’r cig , ac â’r bara croyw : a’r tân a ddyrchafodd o’r graig , ac a ysodd y cig , a’r bara croyw . Ac angel yr Arglwydd a aeth ymaith o’i olwg ef . A phan welodd Gedeon mai angel yr Arglwydd oedd efe , y dywedodd Gedeon , Och , O Arglwydd Dduw ! oherwydd i mi weled angel yr Arglwydd wyneb yn wyneb . A dywedodd yr Arglwydd wrtho , Tangnefedd i ti : nac ofna ; ni byddi farw . Yna Gedeon a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd , ac a’i galwodd Jehofah-shalom : hyd y dydd hwn y mae hi eto yn Offra eiddo yr Abiesriaid . A’r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef , Cymer y bustach sydd eiddo dy dad , sef yr ail fustach saith mlwydd oed ; a bwrw i lawr allor Baal yr hon sydd eiddo dy dad , a thor i lawr y llwyn sydd yn ei hymyl hi : Ac adeilada allor i’r Arglwydd dy Dduw ar ben y graig hon , yn y lle trefnus ; a chymer yr ail fustach , ac offryma boethoffrwm â choed y llwyn , yr hwn a dorri di . Yna Gedeon a gymerodd ddengwr o’i weision , ac a wnaeth fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho : ac oherwydd ei fod yn ofni teulu ei dad , a gwŷr y ddinas , fel nas gallai wneuthur hyn liw dydd , efe a’i gwnaeth liw nos . A phan gyfododd gwŷr y ddinas y bore , yna wele allor Baal wedi ei bwrw i lawr , a’r llwyn yr hwn oedd yn ei hymyl wedi ei dorri , a’r ail fustach wedi ei offrymu ar yr allor a adeiladasid . A dywedodd pawb wrth ei gilydd , Pwy a wnaeth y peth hyn ? Ac wedi iddynt ymofyn a chwilio , y dywedasant , Gedeon mab Joas a wnaeth y peth hyn . Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Joas , Dwg allan dy fab , fel y byddo marw : am iddo fwrw i lawr allor Baal , ac am iddo dorri’r llwyn oedd yn ei hymyl hi . A Joas a ddywedodd wrth y rhai oll a oeddynt yn sefyll yn ei erbyn ef , A ddadleuwch chwi dros Baal ? ai chwi a’i ceidw ef ? yr hwn a ddadleuo drosto ef , bydded farw y bore hwn : os Duw yw efe , dadleued drosto ei hun , am fwrw ei allor ef i lawr . Ac efe a’i galwodd ef y dwthwn hwnnw Jerwbbaal ; gan ddywedyd , Dadleued Baal drosto ei hun , am fwrw ei allor i lawr . Yna y Midianiaid oll , a’r Amaleciaid , a meibion y dwyrain , a gasglwyd ynghyd , ac a aethant drosodd , ac a wersyllasant yn nyffryn Jesreel . Ond ysbryd yr Arglwydd a ddaeth ar Gedeon ; ac efe a utganodd mewn utgorn , ac Abieser a aeth ar ei ôl ef . Ac efe a anfonodd genhadau trwy holl Manasse , yr hwn hefyd a’i canlynodd ef : anfonodd hefyd genhadau i Aser , ac i Sabulon , ac i Nafftali ; a hwy a ddaethant i fyny i’w cyfarfod hwynt . A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw , O gwaredi di Israel trwy fy llaw i , megis y lleferaist ; Wele fi yn gosod cnu o wlân yn y llawr dyrnu : os gwlith a fydd ar y cnu yn unig , a sychder ar yr holl ddaear ; yna y caf wybod y gwaredi di Israel trwy fy llaw i , fel y lleferaist . Ac felly y bu : canys cyfododd yn fore drannoeth , ac a sypiodd y cnu ynghyd , ac a wasgodd wlith o’r cnu , lonaid ffiol o ddwfr . A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw , Na lidied dy ddicllonedd i’m herbyn , a mi a lefaraf unwaith eto . Profaf yn awr , y waith hon yn unig , trwy’r cnu : bydded , atolwg , sychder ar y cnu yn unig , ac ar yr holl ddaear bydded gwlith . A Duw a wnaeth felly y noson honno : canys yr oedd sychder ar y cnu yn unig , ac ar yr holl ddaear yr oedd gwlith . Yna Jerwbbaal , hwnnw yw Gedeon , a gyfododd yn fore , a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef , ac a wersyllasant wrth ffynnon Harod : a gwersyll y Midianiaid oedd o du y gogledd iddynt , wrth fryn More , yn y dyffryn . A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon , Rhy luosog yw y bobl sydd gyda thi , i mi i roddi y Midianiaid yn eu dwylo ; rhag i Israel ymogoneddu i’m herbyn , gan ddywedyd , Fy llaw fy hun a’m gwaredodd . Am hynny , yn awr , cyhoedda lle y clywo y bobl , gan ddywedyd , Yr hwn sydd ofnus ac arswydus , dychweled ac ymadawed y bore o fynydd Gilead . A dychwelodd o’r bobl ddwy fil ar hugain , a deng mil a arosasant . A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon , Eto y mae gormod o bobl . Dwg hwynt i waered at y dyfroedd , a mi a’u profaf hwynt yno i ti : ac am yr hwn y dywedwyf wrthyt , Hwn a â gyda thi , eled hwnnw gyda thi ; ac am bwy bynnag y dywedwyf wrthyt , Hwn nid â gyda thi , nac eled hwnnw gyda thi . Felly efe a ddygodd y bobl i waered at y dyfroedd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon , Pob un a lepio â’i dafod o’r dwfr fel y llepio ci , gosod ef o’r neilltu ; a phob un a ymgrymo ar ei liniau i yfed . A rhifedi y rhai a godasant y dwfr â’u llaw at eu genau , oedd dri channwr : a’r holl bobl eraill a ymgrymasant ar eu gliniau i yfed dwfr . A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon , Trwy’r tri channwr a lepiasant y dwfr , y gwaredaf chwi , ac y rhoddaf y Midianiaid yn dy law di : ac eled yr holl bobl eraill bob un i’w fangre ei hun . Felly y bobl a gymerasant fwyd yn eu dwylo , a’u hutgyrn ; a Gedeon a ollyngodd ymaith holl wŷr Israel , pob un i’w babell , a’r tri channwr a ataliodd efe : a gwersyll y Midianiaid oedd oddi tanodd iddo yn y dyffryn . A’r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef , Cyfod , dos i waered i’r gwersyll ; canys mi a’i rhoddais yn dy law di . Ac od wyt yn ofni myned i waered , dos di a Phura dy lanc i waered i’r gwersyll : A chei glywed beth a ddywedant ; fel yr ymnertho wedi hynny dy ddwylo , ac yr elych i waered i’r gwersyll . Yna efe a aeth i waered , a Phura ei lanc , i gwr y rhai arfogion oedd yn y gwersyll . A’r Midianiaid , a’r Amaleciaid , a holl feibion y dwyrain , oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra ; a’u camelod oedd heb rif , fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra . A phan ddaeth Gedeon , wele ŵr yn mynegi i’w gyfaill freuddwyd , ac yn dywedyd , Wele , breuddwyd a freuddwydiais ; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid , a hi a ddaeth hyd at babell , ac a’i trawodd fel y syrthiodd , a hi a’i hymchwelodd , fel y syrthiodd y babell . A’i gyfaill a atebodd ac a ddywedodd , Nid yw hyn ddim ond cleddyf Gedeon mab Joas , gŵr o Israel : Duw a roddodd Midian a’i holl fyddin yn ei law ef . A phan glybu Gedeon adroddiad y breuddwyd , a’i ddirnad , efe a addolodd , ac a ddychwelodd i wersyll Israel ; ac a ddywedodd , Cyfodwch : canys rhoddodd yr Arglwydd fyddin y Midianiaid yn eich llaw chwi . Ac efe a rannodd y tri channwr yn dair byddin , ac a roddodd utgyrn yn llaw pawb ohonynt , a phiserau gwag , a lampau yng nghanol y piserau . Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Edrychwch arnaf fi , a gwnewch yr un ffunud : ac wele , pan ddelwyf i gwr y gwersyll , yna fel y gwnelwyf fi , gwnewch chwithau . Pan utganwyf fi mewn utgorn , myfi a’r holl rai sydd gyda mi , utgenwch chwithau mewn utgyrn o amgylch yr holl wersyll , a dywedwch , Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon . Felly Gedeon a ddaeth i mewn , a’r cannwr oedd gydag ef , i gwr y gwersyll , yn nechrau’r wyliadwriaeth ganol , a’r gwylwyr wedi eu newydd osod , ac a utganasant mewn utgyrn , ac a ddrylliasant y piserau oedd yn eu dwylo . A’r tair byddin a utganasant mewn utgyrn , ac a ddrylliasant y piserau , ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy , a’r utgyrn yn eu llaw ddeau i utganu : a hwy a lefasant , Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon . A safasant bob un yn ei le , o amgylch y gwersyll : a’r holl wersyll a redodd , ac a waeddodd , ac a ffodd . A’r tri chant a utganasant ag utgyrn ; a’r Arglwydd a osododd gleddyf pob un yn erbyn ei gilydd , trwy’r holl wersyll : felly y gwersyll a ffodd hyd Beth‐sitta , yn Sererath , hyd fin Abel‐mehola , hyd Tabbath . A gwŷr Israel a ymgasglasant , o Nafftali , ac o Aser , ac o holl Manasse , ac a erlidiasant ar ôl y Midianiaid . A Gedeon a anfonodd genhadau trwy holl fynydd Effraim , gan ddywedyd , Deuwch i waered yn erbyn y Midianiaid , ac achubwch o’u blaen hwynt y dyfroedd hyd Beth‐bara a’r Iorddonen : a holl wŷr Effraim a ymgasglasant , ac a enillasant y dyfroedd hyd Beth‐bara a’r Iorddonen . A daliasant ddau o dywysogion Midian , Oreb a Seeb ; a lladdasant Oreb ar graig Oreb , a lladdasant Seeb wrth winwryf Seeb , ac a erlidiasant Midian , ac a ddygasant bennau Oreb a Seeb at Gedeon , i’r tu arall i’r Iorddonen . A gwŷr Effraim a ddywedasant wrtho ef , Paham y gwnaethost y peth hyn â ni , heb alw arnom ni pan aethost i ymladd yn erbyn y Midianiaid ? A hwy a’i dwrdiasant ef yn dost . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Beth a wneuthum i yn awr wrth a wnaethoch chwi ? Onid gwell yw lloffiad grawnwin Effraim , na chasgliad grawnwin Abieser ? Duw a roddodd yn eich llaw chwi dywysogion Midian , Oreb a Seeb : a pheth a allwn i ei wneuthur wrth a wnaethoch chwi ? Yna yr arafodd eu dig hwynt tuag ato ef , pan lefarodd efe y gair hwn . A daeth Gedeon i’r Iorddonen ; ac a aeth drosti hi , efe a’r tri channwr oedd gydag ef , yn ddiffygiol , ac eto yn eu herlid hwy . Ac efe a ddywedodd wrth wŷr Succoth , Rhoddwch , atolwg , dorthau o fara i’r bobl sydd i’m canlyn i : canys lluddedig ydynt hwy ; a minnau yn erlid ar ôl Seba a Salmunna , brenhinoedd Midian . A dywedodd tywysogion Succoth , A yw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di , fel y rhoddem ni fara i’th lu di ? A dywedodd Gedeon , Oherwydd hynny , pan roddo yr Arglwydd Seba a Salmunna yn fy llaw i , yna y drylliaf eich cnawd chwi â drain yr anialwch , ac â mieri . Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Penuel , ac a lefarodd wrthynt hwythau yn yr un modd . A gwŷr Penuel a’i hatebasant ef fel yr atebasai gwŷr Succoth . Ac efe a lefarodd hefyd wrth wŷr Penuel , gan ddywedyd , Pan ddychwelwyf mewn heddwch , mi a ddistrywiaf y tŵr yma . A Seba a Salmunna oedd yn Carcor , a’u lluoedd gyda hwynt , ynghylch pymtheng mil , yr hyn oll a adawsid o holl fyddin meibion y dwyrain : canys lladdwyd cant ac ugain mil o wŷr yn tynnu cleddyf . A Gedeon a aeth i fyny ar hyd ffordd y rhai oedd yn trigo mewn pebyll , o’r tu dwyrain i Noba a Jogbeha : ac efe a drawodd y fyddin : canys y fyddin oedd ysgafala . A Seba a Salmunna a ffoesant : ac efe a erlidiodd ar eu hôl hwynt ; ac a ddaliodd ddau frenin Midian , Seba a Salmunna , ac a darfodd yr holl lu . A Gedeon mab Joas a ddychwelodd o’r rhyfel cyn codi yr haul . Ac efe a ddaliodd lanc o wŷr Succoth , ac a ymofynnodd ag ef . Ac yntau a ysgrifennodd iddo dywysogion Succoth , a’r henuriaid ; sef dau ŵr ar bymtheg a thrigain . Ac efe a ddaeth at wŷr Succoth , ac a ddywedodd , Wele Seba a Salmunna , trwy y rhai y danodasoch i mi , gan ddywedyd , A ydyw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di , fel y rhoddem fara i’th wŷr lluddedig ? Ac efe a gymerth henuriaid y ddinas , a drain yr anialwch , a mieri , ac a ddysgodd wŷr Succoth â hwynt . Tŵr Penuel hefyd a ddinistriodd efe , ac a laddodd wŷr y ddinas . Yna efe a ddywedodd wrth Seba a Salmunna , Pa fath wŷr oedd y rhai a laddasoch chwi yn Tabor ? A hwy a ddywedasant , Tebyg i ti , pob un o ddull meibion brenin . Ac efe a ddywedodd , Fy mrodyr , meibion fy mam , oeddynt hwy : fel mai byw yr Arglwydd , pe gadawsech hwynt yn fyw , ni laddwn chwi . Ac efe a ddywedodd wrth Jether ei gyntaf‐anedig , Cyfod , lladd hwynt . Ond ni thynnai y llanc ei gleddyf : oherwydd efe a ofnodd , canys bachgen oedd efe eto . Yna y dywedodd Seba a Salmunna , Cyfod di , a rhuthra i ni : canys fel y byddo y gŵr , felly y bydd ei rym . A Gedeon a gyfododd , ac a laddodd Seba a Salmunna , ac a gymerth y colerau oedd am yddfau eu camelod hwynt . A gwŷr Israel a ddywedasant wrth Gedeon , Arglwyddiaetha arnom ni , tydi , a’th fab , a mab dy fab hefyd : canys gwaredaist ni o law Midian . A Gedeon a ddywedodd wrthynt , Ni arglwyddiaethaf fi arnoch , ac ni arglwyddiaetha fy mab arnoch , eithr yr Arglwydd a arglwyddiaetha arnoch . Dywedodd Gedeon hefyd wrthynt , Gofynnaf ddymuniad gennych , ar roddi o bob un ohonoch i mi glustlysau ei ysglyfaeth : canys clustlysau aur oedd ganddynt hwy , oherwydd mai Ismaeliaid oeddynt hwy . A dywedasant , Gan roddi y rhoddwn hwynt . A lledasant ryw wisg , a thaflasant yno bob un glustlws ei ysglyfaeth . A phwys y clustlysau aur a ofynasai efe , oedd fil a saith gant o siclau aur ; heblaw y colerau , a’r arogl‐bellennau , a’r gwisgoedd porffor , y rhai oedd am frenhinoedd Midian ; ac heblaw y tyrch oedd am yddfau eu camelod hwynt . A Gedeon a wnaeth ohonynt effod , ac a’i gosododd yn ei ddinas ei hun , Offra : a holl Israel a buteiniasant ar ei hôl hi yno : a bu hynny yn dramgwydd i Gedeon , ac i’w dŷ . Felly y darostyngwyd Midian o flaen meibion Israel , fel na chwanegasant godi eu pennau . A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd yn nyddiau Gedeon . A Jerwbbaal mab Joas a aeth , ac a drigodd yn ei dŷ ei hun . Ac i Gedeon yr oedd deng mab a thrigain , a ddaethai o’i gorff ef : canys gwragedd lawer oedd iddo ef . A’i ordderchwraig ef , yr hon oedd yn Sichem , a ymddûg hefyd iddo fab : ac efe a osododd ei enw ef yn Abimelech . Felly Gedeon mab Joas a fu farw mewn oedran teg , ac a gladdwyd ym meddrod Joas ei dad , yn Offra yr Abiesriaid . A phan fu farw Gedeon , yna meibion Israel a ddychwelasant , ac a buteiniasant ar ôl Baalim ; ac a wnaethant Baal‐berith yn dduw iddynt . Felly meibion Israel ni chofiasant yr Arglwydd eu Duw , yr hwn a’u gwaredasai hwynt o law eu holl elynion o amgylch ; Ac ni wnaethant garedigrwydd â thŷ Jerwbbaal , sef Gedeon , yn ôl yr holl ddaioni a wnaethai efe i Israel . Ac Abimelech mab Jerwbbaal a aeth i Sichem , at frodyr ei fam , ac a ymddiddanodd â hwynt , ac â holl dylwyth tŷ tad ei fam , gan ddywedyd , Dywedwch , atolwg , lle y clywo holl wŷr Sichem , Pa un orau i chwi , ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thrigain , sef holl feibion Jerwbbaal , ai arglwyddiaethu o un gŵr arnoch ? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a’ch cnawd chwi ydwyf fi . A brodyr ei fam a ddywedasant amdano ef , lle y clybu holl wŷr Sichem , yr holl eiriau hyn : a’u calonnau hwynt a drodd ar ôl Abimelech ; canys dywedasant , Ein brawd ni yw efe . A rhoddasant iddo ddeg a thrigain o arian o dŷ Baal‐berith : ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwamal , y rhai a aethant ar ei ôl ef . Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i Offra , ac a laddodd ei frodyr , meibion Jerwbbaal , y rhai oedd ddengwr a thrigain , ar un garreg : ond Jotham , mab ieuangaf Jerwbbaal , a adawyd ; canys efe a ymguddiasai . A holl wŷr Sichem a holl dŷ Milo a ymgasglasant , ac a aethant , ac a urddasant Abimelech yn frenin , wrth ddyffryn y golofn yr hwn sydd yn Sichem . A phan fynegasant hynny i Jotham , efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim , ac a ddyrchafodd ei lef , ac a waeddodd , dywedodd hefyd wrthynt , Gwrandewch arnaf fi , O wŷr Sichem , fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau . Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt ; a dywedasant wrth yr olewydden , Teyrnasa arnom ni . Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt , A ymadawaf fi â’m braster , â’r hwn trwof fi yr anrhydeddant Dduw a dyn , a myned i lywodraethu ar y prennau eraill ? A’r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren , Tyred di , teyrnasa arnom ni . Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt , A ymadawaf fi â’m melystra , ac â’m ffrwyth da , ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill ? Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden , Tyred di , teyrnasa arnom ni . A’r winwydden a ddywedodd wrthynt hwy , A ymadawaf fi â’m melyswin , yr hwn sydd yn llawenhau Duw a dyn , a myned i lywodraethu ar y prennau eraill ? Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren , Tyred di , teyrnasa arnom ni . A’r fiaren a ddywedodd wrth y prennau , Os mewn gwirionedd yr eneiniwch fi yn frenin arnoch , deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i : ac onid e , eled tân allan o’r fiaren , ac ysed gedrwydd Libanus . Yn awr gan hynny , os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch , yn gosod Abimelech yn frenin , ac os gwnaethoch yn dda â Jerwbbaal , ac â’i dŷ , ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylo y gwnaethoch iddo : ( Canys fy nhad a ymladdodd drosoch chwi , ac a anturiodd ei einioes ymhell , ac a’ch gwaredodd chwi o law Midian : A chwithau a gyfodasoch yn erbyn tŷ fy nhad i heddiw , ac a laddasoch ei feibion ef , sef dengwr a thrigain , ar un garreg , ac a osodasoch Abimelech , mab ei lawforwyn ef , yn frenin ar wŷr Sichem , oherwydd ei fod ef yn frawd i chwi : ) Gan hynny , os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch â Jerwbbaal , ac â’i dŷ ef , y dydd hwn ; llawenychwch yn Abimelech , a llawenyched yntau ynoch chwithau : Ac onid e , eled tân allan o Abimelech , ac ysed wŷr Sichem , a thŷ Milo ; hefyd eled tân allan o wŷr Sichem , ac o dŷ Milo , ac ysed Abimelech . A Jotham a giliodd , ac a ffodd , ac a aeth ymaith i Beer , ac a drigodd yno , rhag ofn Abimelech ei frawd . Ac Abimelech a deyrnasodd ar Israel dair blynedd . A Duw a ddanfonodd ysbryd drwg rhwng Abimelech a gwŷr Sichem ; a gwŷr Sichem a aethant yn anghywir i Abimelech : Fel y delai y traha a wnaethid â deng mab a thrigain Jerwbbaal , ac y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd , yr hwn a’u lladdodd hwynt ac ar wŷr Sichem , y rhai a’i cynorthwyasant ef i ladd ei frodyr . A gwŷr Sichem a osodasant iddo ef gynllwynwyr ar ben y mynyddoedd ; a hwy a ysbeiliasant bawb a’r a oedd yn tramwy heibio iddynt ar hyd y ffordd . A mynegwyd hynny i Abimelech . A Gaal mab Ebed a ddaeth , efe a’i frodyr , ac a aethant drosodd i Sichem : a gwŷr Sichem a roesant eu hyder arno . A hwy a aethant i’r meysydd , ac a gasglasant eu gwinllannoedd , ac a sangasant eu grawnwin , ac a wnaethant yn llawen , ac a aethant i mewn i dŷ eu duw , ac a fwytasant ac a yfasant , ac a felltithiasant Abimelech . A Gaal mab Ebed a ddywedodd , Pwy yw Abimelech , a phwy yw Sichem , fel y gwasanaethem ef ? onid mab Jerwbbaal yw efe ? onid Sebul yw ei swyddog ? gwasanaethwch wŷr Hemor tad Sichem : canys paham y gwasanaethem ni ef ? O na byddai y bobl hyn dan fy llaw i , fel y bwriwn ymaith Abimelech ! Ac efe a ddywedodd wrth Abimelech , Amlha dy lu , a thyred allan . A phan glybu Sebul , llywodraethwr y ddinas , eiriau Gaal mab Ebed , y llidiodd ei ddicllonedd ef . Ac efe a anfonodd genhadau at Abimelech yn ddirgel , gan ddywedyd , Wele Gaal mab Ebed a’i frodyr wedi dyfod i Sichem ; ac wele hwynt yn cadarnhau y ddinas i’th erbyn . Gan hynny cyfod yn awr liw nos , ti a’r bobl sydd gyda thi , a chynllwyn yn y maes : A chyfod yn fore ar godiad yr haul , a rhuthra yn erbyn y ddinas : ac wele , pan ddelo efe a’r bobl sydd gydag ef allan i’th erbyn , yna gwna iddo yr hyn a ellych . Ac Abimelech a gyfododd , a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef , liw nos , ac a gynllwynasant yn erbyn Sichem yn bedair byddin . A Gaal mab Ebed a aeth allan , ac a safodd wrth ddrws porth y ddinas : ac Abimelech a gyfododd , a’r bobl y rhai oedd gydag ef , o’r cynllwyn . A phan welodd Gaal y bobl , efe a ddywedodd wrth Sebul , Wele bobl yn dyfod i waered o ben y mynyddoedd . A dywedodd Sebul wrtho , Cysgod y mynyddoedd yr ydwyt ti yn ei weled fel dynion . A Gaal a chwanegodd eto lefaru , ac a ddywedodd , Wele bobl yn dyfod i waered o ganol y tir , a byddin arall yn dyfod o ffordd gwastadedd Meonenim . Yna y dywedodd Sebul wrtho ef , Pa le yn awr y mae dy enau di , â’r hwn y dywedaist , Pwy yw Abimelech , pan wasanaethem ef ? onid dyma’r bobl a ddirmygaist ti ? dos allan , atolwg , yn awr , ac ymladd i’w herbyn . A Gaal a aeth allan o flaen gwŷr Sichem , ac a ymladdodd ag Abimelech . Ac Abimelech a’i herlidiodd ef , ac efe a ffodd o’i flaen ef ; a llawer a gwympasant yn archolledig hyd ddrws y porth . Ac Abimelech a drigodd yn Aruma : a Sebul a yrrodd ymaith Gaal a’i frodyr o breswylio yn Sichem . A thrannoeth y daeth y bobl allan i’r maes : a mynegwyd hynny i Abimelech . Ac efe a gymerth y bobl , ac a’u rhannodd yn dair byddin , ac a gynllwynodd yn y maes , ac a edrychodd , ac wele y bobl wedi dyfod allan o’r ddinas ; ac efe a gyfododd yn eu herbyn , ac a’u trawodd hwynt . Ac Abimelech , a’r fyddin oedd gydag ef , a ruthrasant , ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas : a’r ddwy fyddin eraill a ruthrasant ar yr holl rai oedd yn y maes , ac a’u trawsant hwy . Ac Abimelech a ymladdodd yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw : ac efe a enillodd y ddinas , ac a laddodd y bobl oedd ynddi , ac a ddistrywiodd y ddinas , ac a’i heuodd â halen . A phan glybu holl wŷr tŵr Sichem hynny , hwy a aethant i amddiffynfa tŷ duw Berith . A mynegwyd i Abimelech , ymgasglu o holl wŷr tŵr Sichem . Ac Abimelech a aeth i fyny i fynydd Salmon , efe a’r holl bobl oedd gydag ef : ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law , ac a dorrodd gangen o’r coed , ac a’i cymerth hi , ac a’i gosododd ar ei ysgwydd ; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef , Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur , brysiwch , gwnewch fel finnau . A’r holl bobl a dorasant bob un ei gangen , ac a aethant ar ôl Abimelech ; ac a’u gosodasant wrth yr amddiffynfa , ac a losgasant â hwynt yr amddiffynfa â thân : felly holl wŷr tŵr Sichem a fuant feirw , ynghylch mil o wŷr a gwragedd . Yna Abimelech a aeth i Thebes ; ac a wersyllodd yn erbyn Thebes , ac a’i henillodd hi . Ac yr oedd tŵr cadarn yng nghanol y ddinas ; a’r holl wŷr a’r gwragedd , a’r holl rai o’r ddinas , a ffoesant yno , ac a gaea ant arnynt , ac a ddringasant ar nen y tŵr . Ac Abimelech a ddaeth at y tŵr , ac a ymladdodd yn ei erbyn ; ac a nesaodd at ddrws y tŵr , i’w losgi ef â thân . A rhyw wraig a daflodd ddarn o faen melin ar ben Abimelech , ac a ddrylliodd ei benglog ef . Yna efe a alwodd yn fuan ar y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef , ac a ddywedodd wrtho , Tyn dy gleddyf , a lladd fi ; fel na ddywedant amdanaf , Gwraig a’i lladdodd ef . A’i lanc a’i trywanodd ef , ac efe a fu farw . A phan welodd gwŷr Israel farw o Abimelech , hwy a aethant bob un i’w fangre . Felly y talodd Duw ddrygioni Abimelech , yr hwn a wnaethai efe i’w dad , gan ladd ei ddeg brawd a thrigain . A holl ddrygioni gwŷr Sichem a dalodd Duw ar eu pen hwynt : a melltith Jotham mab Jerwbaal a ddaeth arnynt hwy . Ac ar ôl Abimelech , y cyfododd i waredu Israel , Tola , mab Pua , mab Dodo , gŵr o Issachar ; ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Effraim . Ac efe a farnodd Israel dair blynedd ar hugain , ac a fu farw , ac a gladdwyd yn Samir . Ac ar ei ôl ef y cyfododd Jair , Gileadiad ; ac efe a farnodd Israel ddwy flynedd ar hugain . Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain yn marchogaeth ar ddeg ar hugain o ebolion asynnod ; a deg dinas ar hugain oedd ganddynt , y rhai a elwid Hafoth‐Jair hyd y dydd hwn , y rhai ydynt yng ngwlad Gilead . A Jair a fu farw , ac a gladdwyd yn Camon . A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd , ac a wasanaethasant Baalim , ac Astaroth , a duwiau Syria , a duwiau Sidon , a duwiau Moab , a duwiau meibion Ammon , a duwiau y Philistiaid ; a gwrthodasant yr Arglwydd , ac ni wasanaethasant ef . A llidiodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel ; ac efe a’u gwerthodd hwynt yn llaw y Philistiaid , ac yn llaw meibion Ammon . A hwy a flinasant ac a ysigasant feibion Israel y flwyddyn honno : tair blynedd ar bymtheg , holl feibion Israel y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen , yng ngwlad yr Amoriaid , yr hon sydd yn Gilead . A meibion Ammon a aethant trwy’r Iorddonen , i ymladd hefyd yn erbyn Jwda , ac yn erbyn Benjamin , ac yn erbyn tŷ Effraim ; fel y bu gyfyng iawn ar Israel . A meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd , gan ddywedyd , Pechasom yn dy erbyn ; oherwydd gwrthod ohonom ein Duw , a gwasanaethu Baalim hefyd . A dywedodd yr Arglwydd wrth feibion Israel , Oni waredais chwi rhag yr Eifftiaid , a rhag yr Amoriaid , a rhag meibion Ammon , a rhag y Philistiaid ? Y Sidoniaid hefyd , a’r Amaleciaid , a’r Maoniaid , a’ch gorthrymasant chwi ; a llefasoch arnaf , a minnau a’ch gwaredais chwi o’u llaw hwynt . Eto chwi a’m gwrthodasoch i , ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr : am hynny ni waredaf chwi mwyach . Ewch , a llefwch at y duwiau a ddewisasoch : gwaredant hwy chwi yn amser eich cyfyngdra . A meibion Israel a ddywedasant wrth yr Arglwydd , Pechasom ; gwna di i ni fel y gwelych yn dda : eto gwared ni , atolwg , y dydd hwn . A hwy a fwriasant ymaith y duwiau dieithr o’u mysg , ac a wasanaethasant yr Arglwydd : a’i enaid ef a dosturiodd , oherwydd adfyd Israel . Yna meibion Ammon a ymgynullasant , ac a wersyllasant yn Gilead : a meibion Israel a ymgasglasant , ac a wersyllasant ym Mispa . Y bobl hefyd a thywysogion Gilead a ddywedasant wrth ei gilydd , Pa ŵr a ddechrau ymladd yn erbyn meibion Ammon ? efe a fydd yn bennaeth ar drigolion Gilead . A Jefftha y Gileadiad oedd ŵr cadarn nerthol , ac efe oedd fab i wraig o buteinwraig : a Gilead a genedlasai y Jefftha hwnnw . A gwraig Gilead a ymddûg iddo feibion : a meibion y wraig a gynyddasant , ac a fwriasant ymaith Jefftha , ac a ddywedasant wrtho , Nid etifeddi di yn nhŷ ein tad ni ; canys mab gwraig ddieithr ydwyt ti . Yna Jefftha a ffodd rhag ei frodyr , ac a drigodd yng ngwlad Tob ; a dynion ofer a ymgasglasant at Jefftha , ac a aethant allan gydag ef . Ac wedi talm o ddyddiau , meibion Ammon a ryfelasant yn erbyn Israel . A phan oedd meibion Ammon yn rhyfela yn erbyn Israel , yna henuriaid Gilead a aethant i gyrchu Jefftha o wlad Tob : Ac a ddywedasant wrth Jefftha , Tyred a bydd yn dywysog i ni , fel yr ymladdom yn erbyn meibion Ammon . A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead , Oni chasasoch chwi fi , ac a’m gyrasoch o dŷ fy nhad ? a phaham y deuwch ataf fi yn awr , pan yw gyfyng arnoch ? A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha , Am hynny y dychwelasom yn awr atat ti , fel y delit gyda ni , ac yr ymladdit yn erbyn meibion Ammon , ac y byddit i ni yn ben ar holl drigolion Gilead . A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead , O dygwch fi yn fy ôl i ymladd yn erbyn meibion Ammon , a rhoddi o’r Arglwydd hwynt o’m blaen i ; a gaf fi fod yn ben arnoch chwi ? A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha , Yr Arglwydd a fyddo yn dyst rhyngom ni , oni wnawn ni felly yn ôl dy air di . Yna Jefftha a aeth gyda henuriaid Gilead ; a’r bobl a’i gosodasant ef yn ben ac yn dywysog arnynt : a Jefftha a adroddodd ei holl eiriau gerbron yr Arglwydd ym Mispa . A Jefftha a anfonodd genhadau at frenin meibion Ammon , gan ddywedyd , Beth sydd i ti a wnelych â mi , fel y delit yn fy erbyn i ymladd yn fy ngwlad i ? A brenin meibion Ammon a ddywedodd wrth genhadau Jefftha , Oherwydd i Israel ddwyn fy ngwlad i pan ddaeth i fyny o’r Aifft , o Arnon hyd Jabboc , a hyd yr Iorddonen : yn awr gan hynny dod hwynt adref mewn heddwch . A Jefftha a anfonodd drachefn genhadau at frenin meibion Ammon ; Ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed Jefftha ; Ni ddug Israel dir Moab , na thir meibion Ammon : Ond pan ddaeth Israel i fyny o’r Aifft , a rhodio trwy’r anialwch , hyd y môr coch , a dyfod i Cades ; Yna Israel a anfonodd genhadau at frenin Edom , gan ddywedyd , Gad i mi dramwy , atolwg , trwy dy wlad di . Ond ni wrandawodd brenin Edom . A hwy a anfonasant hefyd at frenin Moab : ond ni fynnai yntau . Felly Israel a arhosodd yn Cades . Yna hwy a gerddasant yn yr anialwch , ac a amgylchynasant wlad Edom , a gwlad Moab ; ac a ddaethant o du codiad haul i wlad Moab , ac a wersyllasant tu hwnt i Arnon ; ac ni ddaethant o fewn terfyn Moab : canys Arnon oedd derfyn Moab . Ac Israel a anfonodd genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid , brenin Hesbon ; ac Israel a ddywedodd wrtho , Gad i ni dramwy , atolwg , trwy dy wlad di , hyd fy mangre . Ond nid ymddiriedodd Sehon i Israel fyned trwy ei derfyn ef : eithr Sehon a gasglodd ei holl bobl , a hwy a wersyllasant yn Jahas , ac efe a ymladdodd yn erbyn Israel . Ac Arglwydd Dduw Israel a roddodd Sehon a’i holl bobl yn llaw Israel ; a hwy a’u trawsant hwynt . Felly Israel a feddiannodd holl wlad yr Amoriaid , trigolion y wlad honno . Meddianasant hefyd holl derfynau yr Amoriaid , o Arnon hyd Jabboc , ac o’r anialwch hyd yr Iorddonen . Felly yn awr , Arglwydd Dduw Israel a fwriodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel : gan hynny ai tydi a’i meddiannit hi ? Oni feddienni di yr hyn a roddo Cemos dy dduw i ti i’w feddiannu ? Felly yr hyn oll a oresgynno yr Arglwydd ein Duw o’n blaen ni a feddiannwn ninnau . Ac yn awr , a wyt ti yn well na Balac mab Sippor , brenin Moab ? a ymrysonodd efe erioed ag Israel , neu gan ymladd a ymladdodd efe i’w herbyn hwy ? Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon a’i threfydd , ac yn Aroer a’i threfydd , ac yn yr holl ddinasoedd y rhai sydd wrth derfynau Arnon , dri chan mlynedd ; paham nad achubasoch hwynt y pryd hwnnw ? Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di ; ond yr ydwyt ti yn gwneuthur cam â mi , gan ymladd yn fy erbyn i ; yr Arglwydd Farnwr a farno heddiw rhwng meibion Israel a meibion Ammon . Er hynny ni wrandawodd brenin meibion Ammon ar eiriau Jefftha , y rhai a anfonodd efe ato . Yna y daeth ysbryd yr Arglwydd ar Jefftha ; ac efe a aeth dros Gilead a Manasse ; ac a aeth dros Mispa Gilead , ac o Mispa Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon . A Jefftha a addunedodd adduned i’r Arglwydd , ac a ddywedodd , Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i ; Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i’m cyfarfod , pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon , a fydd eiddo yr Arglwydd , a mi a’i hoffrymaf ef yn boethoffrwm . Felly Jefftha a aeth drosodd at feibion Ammon i ymladd yn eu herbyn ; a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn ei law ef . Ac efe a’u trawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith , sef ugain dinas , a hyd wastadedd y gwinllannoedd , â lladdfa fawr iawn . Felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel . A Jefftha a ddaeth i Mispa i’w dŷ ei hun : ac wele ei ferch yn dyfod allan i’w gyfarfod â thympanau , ac â dawnsiau ; a hi oedd ei unig etifedd ef ; nid oedd ganddo na mab na merch ond hyhi . A phan welodd efe hi , efe a rwygodd ei ddillad , ac ddywedodd , Ah ! ah ! fy merch , gan ddarostwng y darostyngaist fi ; ti hefyd wyt un o’r rhai sydd yn fy molestu : canys myfi a agorais fy ngenau wrth yr Arglwydd , ac ni allaf gilio . A hi a ddywedodd wrtho , Fy nhad , od agoraist dy enau wrth yr Arglwydd , gwna i mi yn ôl yr hyn a aeth allan o’th enau ; gan i’r Arglwydd wneuthur drosot ti ddialedd ar dy elynion , meibion Ammon . Hi a ddywedodd hefyd wrth ei thad , Gwneler i mi y peth hyn ; paid â mi ddau fis , fel yr elwyf i fyny ac i waered ar y mynyddoedd , ac yr wylwyf oherwydd fy morwyndod , mi a’m cyfeillesau . Ac efe a ddywedodd , Dos . Ac efe a’i gollyngodd hi dros ddau fis . A hi a aeth â’i chyfeillesau , ac a wylodd oherwydd ei morwyndod ar y mynyddoedd . Ac ymhen y ddau fis hi a ddychwelodd at ei thad : ac efe a wnaeth â hi yr adduned a addunasai efe : a hi ni adnabuasai ŵr . A bu hyn yn ddefod yn Israel , Fyned o ferched Israel bob blwyddyn i alaru am ferch Jefftha y Gileadiad , bedwar diwrnod yn y flwyddyn . A Gwŷr Effraim a ymgasglasant , ac a sethant tua’r gogledd , ac a ddywedasant wrth Jefftha , Paham yr aethost ti drosodd i ymladd yn erbyn meibion Ammon , ac na elwaist arnom ni i fyned gyda thi ? dy dŷ di a losgwn ni am dy ben â thân . A Jefftha a ddywedodd wrthynt hwy , Myfi a’m pobl oeddem yn ymryson yn dost yn erbyn meibion Ammon ; a mi a’ch gelwais chwi , ond ni waredasoch fi o’u llaw hwynt . A phan welais i nad oeddech yn fy achub , mi a osodais fy einioes yn fy llaw , ac a euthum yn erbyn meibion Ammon ; a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn fy llaw i : paham gan hynny y daethoch i fyny ataf fi y dydd hwn , i ymladd i’m herbyn ? Yna Jefftha a gasglodd ynghyd holl wŷr Gilead , ac a ymladdodd ag Effraim : a gwŷr Gilead a drawsant Effraim , am ddywedyd ohonynt hwy , Ffoaduriaid Effraim ymysg yr Effraimiaid , ac ymysg Manasse , ydych chwi y Gileadiaid . A’r Gileadiaid a enillasant rydau yr Iorddonen o flaen yr Effraimiaid : a phan ddywedai yr Effraimiaid a ddianghasent , Gedwch i mi fyned drwodd : yna gwŷr Gilead a ddywedent wrtho , Ai Effraimiaid ydwyt ti ? Os dywedai yntau , Nage ; Yna y dywedent wrtho , Dywed yn awr , Shibboleth . Dywedai yntau , Sibboleth ; canys ni fedrai efe lefaru felly . Yna y dalient ef , ac y lladdent ef wrth rydau yr Iorddonen . A chwympodd y pryd hwnnw o Effraim ddwy fil a deugain . A Jefftha a farnodd Israel chwe blynedd . Yna y bu farw Jefftha y Gileadiad , ac a gladdwyd yn un o ddinasoedd Gilead . Ac ar ei ôl ef , Ibsan o Bethlehem a farnodd Israel . Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain , a deng merch ar hugain , y rhai a anfonodd efe allan , a deng merch ar hugain a ddug efe i’w feibion oddi allan . Ac efe a farnodd Israel saith mlynedd . Yna y bu farw Ibsan , ac a gladdwyd yn Bethlehem . Ac ar ei ôl ef , Elon y Sabuloniad a farnodd Israel : ac efe a farnodd Israel ddeng mlynedd . Ac Elon y Sabuloniad a fu farw , ac a gladdwyd yn Ajalon , yng ngwlad Sabulon . Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a farnodd Israel ar ei ôl ef . Ac iddo ef yr oedd deugain o feibion , a deg ar hugain o wyrion , yn marchogaeth ar ddeg a thrigain o ebolion asynnod : ac efe a farnodd Israel wyth mlynedd . Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a fu farw : ac a gladdwyd yn Pirathon , yng ngwlad Effraim , ym mynydd yr Amaleciaid . A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd : a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw y Philistiaid ddeugain mlynedd . Ac yr oedd rhyw ŵr yn Sora , o dylwyth y Daniaid , a’i enw ef oedd Manoa ; a’i wraig ef oedd amhlantadwy , heb esgor . Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd i’r wraig , ac a ddywedodd wrthi , Wele , yn awr amhlantadwy ydwyt ti , ac heb esgor : ond ti a feichiogi , ac a esgori ar fab . Ac yn awr , atolwg , ymochel , ac nac yf win na diod gadarn , ac na fwyta ddim aflan . Canys wele , ti a feichiogi , ac a esgori ar fab ; ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef : canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen o’r groth : ac efe a ddechrau waredu Israel o law y Philistiaid . Yna y daeth y wraig ac a fynegodd i’w gŵr , gan ddywedyd , Gŵr Duw a ddaeth ataf fi ; a’i bryd ef oedd fel pryd angel Duw , yn ofnadwy iawn : ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd , ac ni fynegodd yntau i mi ei enw . Ond efe a ddywedodd wrthyf , Wele , ti a feichiogi , ac a esgori ar fab . Ac yn awr nac yf win na diod gadarn , ac na fwyta ddim aflan : canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen , o’r groth hyd ddydd ei farwolaeth . Yna Manoa a weddïodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Atolwg , fy Arglwydd , gad i ŵr Duw yr hwn a anfonaist , ddyfod eilwaith atom ni , a dysgu i ni beth a wnelom i’r bachgen a enir . A Duw a wrandawodd ar lef Manoa : ac angel Duw a ddaeth eilwaith at y wraig , a hi yn eistedd yn y maes ; ond Manoa ei gŵr nid oedd gyda hi . A’r wraig a frysiodd , ac a redodd , ac a fynegodd i’w gŵr , ac a ddywedodd wrtho , Wele , ymddangosodd y gŵr i mi , yr hwn a ddaeth ataf fi y dydd arall . A Manoa a gyfododd , ac a aeth ar ôl ei wraig , ac a ddaeth at y gŵr , ac a ddywedodd wrtho , Ai ti yw y gŵr a leferaist wrth y wraig ? Dywedodd yntau , Ie , myfi . A dywedodd Manoa , Deled yn awr dy eiriau i ben . Pa fodd y trinwn y bachgen , ac y gwnawn iddo ef ? Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa , Rhag yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig , ymocheled hi . Na fwytaed o ddim a ddêl allan o’r winwydden , nac yfed win na diod gadarn , ac na fwytaed ddim aflan : cadwed yr hyn oll a orchmynnais iddi . A dywedodd Manoa wrth angel yr Arglwydd , Gad , atolwg , i ni dy atal , tra y paratôm fyn gafr ger dy fron di . Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa , Ped atelit fi , ni fwytawn o’th fara di : os gwnei boethoffrwm , gwna ef i’r Arglwydd . Canys ni wyddai Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe . A Manoa a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd , Beth yw dy enw , fel y’th anrhydeddom di pan ddelo dy eiriau i ben ? Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrtho , Paham yr ymofynni am fy enw , gan ei fod yn rhyfeddol ? Felly Manoa a gymerth fyn gafr , a bwyd‐offrwm , ac a’i hoffrymodd ar y graig i’r Arglwydd . A’r angel a wnaeth yn rhyfedd : a Manoa a’i wraig oedd yn edrych . Canys , pan ddyrchafodd y fflam oddi ar yr allor tua’r nefoedd , yna angel yr Arglwydd a ddyrchafodd yn fflam yr allor : a Manoa a’i wraig oedd yn edrych ar hynny , ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau . ( Ond ni chwanegodd angel yr Arglwydd ymddangos mwyach i Manoa , nac i’w wraig . ) Yna y gwybu Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe . A Manoa a ddywedodd wrth ei wraig , Gan farw y byddwn feirw ; canys gwelsom Dduw . Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef , Pe mynasai yr Arglwydd ein lladd ni , ni dderbyniasai efe boethoffrwm a bwyd‐offrwm o’n llaw ni , ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn , ac ni pharasai efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau . A’r wraig a ymddûg fab , ac a alwodd ei enw ef Samson . A’r bachgen a gynyddodd ; a’r Arglwydd a’i bendithiodd ef . Ac ysbryd yr Arglwydd a ddechreuodd ar amseroedd ei gynhyrfu ef yng ngwersyll Dan , rhwng Sora ac Estaol . A Samson a aeth i waered i Timnath ; ac a ganfu wraig yn Timnath , o ferched y Philistiaid . Ac efe a ddaeth i fyny , ac a fynegodd i’w dad ac i’w fam , ac a ddywedodd , Mi a welais wraig yn Timnath o ferched y Philistiaid : cymerwch yn awr honno yn wraig i mi . Yna y dywedodd ei dad a’i fam wrtho , Onid oes ymysg merched dy frodyr , nac ymysg fy holl bobl , wraig , pan ydwyt ti yn myned i geisio gwraig o’r Philistiaid dienwaededig ? A dywedodd Samson wrth ei dad , Cymer hi i mi ; canys y mae hi wrth fy modd i . Ond ni wyddai ei dad ef na’i fam mai oddi wrth yr Arglwydd yr oedd hyn , mai ceisio achos yr oedd efe yn erbyn y Philistiaid : canys y Philistiaid oedd y pryd hwnnw yn arglwyddiaethu ar Israel . Yna Samson a aeth i waered a’i dad a’i fam , i Timnath ; ac a ddaethant hyd winllannoedd Timnath : ac wele genau llew yn rhuo yn ei gyfarfod ef . Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth yn rymus arno ef ; ac efe a holltodd y llew fel yr holltid myn , ac nid oedd dim yn ei law ef : ond ni fynegodd efe i’w dad nac i’w fam yr hyn a wnaethai . Ac efe a aeth i waered , ac a ymddiddanodd â’r wraig ; ac yr oedd hi wrth fodd Samson . Ac ar ôl ychydig ddyddiau efe a ddychwelodd i’w chymryd hi ; ac a drodd i edrych ysgerbwd y llew : ac wele haid o wenyn a mêl yng nghorff y llew . Ac efe a’i cymerth yn ei law , ac a gerddodd dan fwyta ; ac a ddaeth at ei dad a’i fam , ac a roddodd iddynt ; a hwy a fwytasant : ond ni fynegodd iddynt hwy mai o gorff y llew y cymerasai efe y mêl . Felly ei dad ef a aeth i waered at y wraig ; a Samson a wnaeth yno wledd : canys felly y gwnâi y gwŷr ieuainc . A phan welsant hwy ef , yna y cymerasant ddeg ar hugain o gyfeillion i fod gydag ef . A Samson a ddywedodd wrthynt , Rhoddaf i chwi ddychymyg yn awr : os gan fynegi y mynegwch ef i mi o fewn saith niwrnod y wledd , ac a’i cewch ; yna y rhoddaf i chwi ddeg ar hugain o lenllieiniau , a deg pâr ar hugain o ddillad : Ond os chwi ni fedrwch ei fynegi i mi ; yna chwi a roddwch i mi ddeg ar hugain o lenllieiniau , a deg pâr ar hugain o wisgoedd . Hwythau a ddywedasant wrtho , Traetha dy ddychymyg , fel y clywom ef . Ac efe a ddywedodd wrthynt , Allan o’r bwytawr y daeth bwyd , ac o’r cryf y daeth allan felystra . Ac ni fedrent ddirnad y dychymyg mewn tri diwrnod . Ac yn y seithfed dydd y dywedasant wrth wraig Samson , Huda dy ŵr , fel y mynego efe i ni y dychymyg ; rhag i ni dy losgi di a thŷ dy dad â thân : ai i’n tlodi ni y’n gwahoddasoch ? onid felly y mae ? A gwraig Samson a wylodd wrtho ef , ac a ddywedodd , Yn ddiau y mae yn gas gennyt fi , ac nid wyt yn fy ngharu : dychymyg a roddaist i feibion fy mhobl , ac nis mynegaist i mi . A dywedodd yntau wrthi , Wele , nis mynegais i’m tad nac i’m mam : ac a’i mynegwn i ti ? A hi a wylodd wrtho ef y saith niwrnod hynny , tra yr oeddid yn cynnal y wledd : ac ar y seithfed dydd y mynegodd efe iddi hi , canys yr oedd hi yn ei flino ef : a hi a fynegodd y dychymyg i feibion ei phobl . A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho ef y seithfed dydd , cyn machludo’r haul , Beth sydd felysach na mêl ? a pheth gryfach na llew ? Dywedodd yntau wrthynt , Oni buasai i chwi aredig â’m hanner i , ni chawsech allan fy nychymyg . Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef ; ac efe a aeth i waered i Ascalon , ac a drawodd ohonynt ddeg ar hugain , ac a gymerth eu hysbail , ac a roddodd y parau dillad i’r rhai a fynegasant y dychymyg : a’i ddicllonedd ef a lidiodd , ac efe a aeth i fyny i dŷ ei dad . A rhoddwyd gwraig Samson i’w gyfaill ef ei hun , yr hwn a gymerasai efe yn gyfaill . Ac wedi talm o ddyddiau , yn amser cynhaeaf y gwenith , Samson a aeth i ymweled â’i wraig â myn gafr ; ac a ddywedodd , Mi a af i mewn at fy ngwraig i’r ystafell . Ond ni chaniatâi ei thad hi iddo ef fyned i mewn . A’i thad a lefarodd , gan ddywedyd , Tybiaswn i ti ei chasáu hi ; am hynny y rhoddais hi i’th gyfaill di : onid yw ei chwaer ieuangaf yn lanach na hi ? bydded honno i ti , atolwg , yn ei lle hi . A Samson a ddywedodd wrthynt , Difeiach ydwyf y waith hon na’r Philistiaid , er i mi wneuthur niwed iddynt . A Samson a aeth ac a ddaliodd dri chant o lwynogod ; ac a gymerth ffaglau , ac a drodd gynffon at gynffon , ac a osododd un ffagl rhwng dwy gynffon yn y canol . Ac efe a gyneuodd dân yn y ffaglau , ac a’u gollyngodd hwynt i ydau y Philistiaid ; ac a losgodd hyd yn oed y dasau , a’r ŷd ar ei droed , y gwinllannoedd hefyd , a’r olewydd . Yna y Philistiaid a ddywedasant , Pwy a wnaeth hyn ? Hwythau a ddywedasant , Samson daw y Timniad ; am iddo ddwyn ei wraig ef , a’i rhoddi i’w gyfaill ef . A’r Philistiaid a aethant i fyny , ac a’i llosgasant hi a’i thad â thân . A dywedodd Samson wrthynt , Er i chwi wneuthur fel hyn , eto mi a ymddialaf arnoch chwi ; ac wedi hynny y peidiaf . Ac efe a’u trawodd hwynt glun a morddwyd â lladdfa fawr : ac efe a aeth i waered , ac a arhosodd yng nghopa craig Etam . Yna y Philistiaid a aethant i fyny , ac a wersyllasant yn Jwda , ac a ymdaenasant yn Lehi . A gwŷr Jwda a ddywedasant , Paham y daethoch i fyny i’n herbyn ni ? Dywedasant hwythau , I rwymo Samson y daethom i fyny , i wneuthur iddo ef fel y gwnaeth yntau i ninnau . Yna tair mil o wŷr o Jwda a aethant i gopa craig Etam , ac a ddywedasant wrth Samson , Oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni ? paham gan hynny y gwnaethost hyn â ni ? Dywedodd yntau wrthynt , Fel y gwnaethant hwy i mi , felly y gwneuthum innau iddynt hwythau . Dywedasant hwythau wrtho , I’th rwymo di y daethom i waered , ac i’th roddi yn llaw y Philistiaid . A Samson a ddywedodd wrthynt , Tyngwch wrthyf , na ruthrwch arnaf fi eich hunain . Hwythau a’i hatebasant ef , gan ddywedyd , Na ruthrwn : eithr gan rwymo y’th rwymwn di , ac y’th roddwn yn eu llaw hwynt ; ond ni’th laddwn di . A rhwymasant ef â dwy raff newydd , ac a’i dygasant ef i fyny o’r graig . A phan ddaeth efe i Lehi , y Philistiaid a floeddiasant wrth gyfarfod ag ef . Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef ; a’r rhaffau oedd am ei freichiau a aethant fel llin a losgasid yn tân , a’r rhwymau a ddatodasant oddi am ei ddwylo ef . Ac efe a gafodd ên asyn ir ; ac a estynnodd ei law , ac a’i cymerodd , ac a laddodd â hi fil o wŷr . A Samson a ddywedodd , A gên asyn , pentwr ar bentwr ; â gên asyn y lleddais fil o wŷr . A phan orffennodd efe lefaru , yna efe a daflodd yr ên o’i law , ac a alwodd y lle hwnnw Ramath‐lehi . Ac efe a sychedodd yn dost ; ac a lefodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , Tydi a roddaist yn llaw dy was yr ymwared mawr yma : ac yn awr a fyddaf fi farw gan syched , a syrthio yn llaw y rhai dienwaededig ? Ond Duw a holltodd y cilddant oedd yn yr ên , fel y daeth allan ddwfr ohono ; ac efe a yfodd , a’i ysbryd a ddychwelodd , ac efe a adfywiodd : am hynny y galwodd efe ei henw En‐haccore , yr hon sydd yn Lehi hyd y dydd hwn . Ac efe a farnodd Israel yn nyddiau y Philistiaid ugain mlynedd . Yna Samson a aeth i Gasa ; ac a ganfu yno buteinwraig , ac a aeth i mewn ati hi . A mynegwyd i’r Gasiaid , gan ddywedyd , Daeth Samson yma . A hwy a gylchynasant , ac a gynllwynasant iddo , ar hyd y nos , ym mhorth y ddinas ; ac a fuant ddistaw ar hyd y nos , gan ddywedyd , Y bore pan oleuo hi , ni a’i lladdwn ef . A Samson a orweddodd hyd hanner nos ; ac a gyfododd ar hanner nos , ac a ymaflodd yn nrysau porth y ddinas , ac yn y ddau bost , ac a aeth ymaith â hwynt ynghyd â’r bar , ac a’u gosododd ar ei ysgwyddau , ac a’u dug hwynt i fyny i ben bryn sydd gyferbyn â Hebron . Ac wedi hyn efe a garodd wraig yn nyffryn Sorec , a’i henw Dalila . Ac arglwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny ati hi , ac a ddywedasant wrthi , Huda ef , ac edrych ym mha le y mae ei fawr nerth ef , a pha fodd y gorthrechwn ef , fel y rhwymom ef i’w gystuddio : ac ni a roddwn i ti bob un fil a chant o arian . A Dalila a ddywedodd wrth Samson , Mynega i mi , atolwg , ym mha fan y mae dy fawr nerth di , ac â pha beth y’th rwymid i’th gystuddio . A Samson a ddywedodd wrthi , Pe rhwyment fi â saith o wdyn irion , y rhai ni sychasai ; yna y gwanychwn , ac y byddwn fel gŵr arall . Yna arglwyddi’r Philistiaid a ddygasant i fyny ati hi saith o wdyn irion , y rhai ni sychasent ; a hi a’i rhwymodd ef â hwynt . ( A chynllwynwyr oedd yn aros ganddi mewn ystafell . ) A hi a ddywedodd wrtho ef , Y mae y Philistiaid arnat ti , Samson . Ac efe a dorrodd y gwdyn , fel y torrir edau garth wedi cyffwrdd â’r tân : felly ni wybuwyd ei gryfder ef . A dywedodd Dalila wrth Samson , Ti a’m twyllaist , ac a ddywedaist gelwydd wrthyf : yn awr mynega i mi , atolwg , â pha beth y gellid dy rwymo . Ac efe a ddywedodd wrthi , Pe gan rwymo y rhwyment fi â rhaffau newyddion , y rhai ni wnaethpwyd gwaith â hwynt ; yna y gwanychwn , ac y byddwn fel gŵr arall . Am hynny Dalila a gymerth raffau newyddion , ac a’i rhwymodd ef â hwynt ; ac a ddywedodd wrtho , Y mae y Philistiaid arnat ti , Samson . ( Ac yr oedd cynllwynwyr yn aros mewn ystafell . ) Ac efe a’u torrodd hwynt oddi am ei freichiau fel edau . A Dalila a ddywedodd wrth Samson , Hyd yn hyn y twyllaist fi , ac y dywedaist gelwydd wrthyf : mynega i mi , â pha beth y’th rwymid . Dywedodd yntau wrthi hi , Pe plethit ti saith gudyn fy mhen ynghyd â’r we . A hi a’i gwnaeth yn sicr â’r hoel ; ac a ddywedodd wrtho ef , Y mae y Philistiaid arnat ti , Samson . Ac efe a ddeffrôdd o’i gwsg , ac a aeth ymaith â hoel y garfan , ac â’r we . A hi a ddywedodd wrtho ef , Pa fodd y dywedi , Cu gennyf dydi , a’th galon heb fod gyda mi ? Teirgwaith bellach y’m twyllaist , ac ni fynegaist i mi ym mha fan y mae dy fawr nerth . Ac oherwydd ei bod hi yn ei flino ef â’i geiriau beunydd , ac yn ei boeni ef , ei enaid a ymofidiodd i farw : Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon ; ac a ddywedodd wrthi , Ni ddaeth ellyn ar fy mhen i : canys Nasaread i Dduw ydwyf fi o groth fy mam . Ped eillid fi , yna y ciliai fy nerth oddi wrthyf , ac y gwanychwn , ac y byddwn fel gŵr arall . A phan welodd Dalila fynegi ohono ef iddi hi ei holl galon , hi a anfonodd ac a alwodd am bendefigion y Philistiaid , gan ddywedyd , Deuwch i fyny unwaith ; canys efe a fynegodd i mi ei holl galon . Yna arglwyddi’r Philistiaid a ddaethant i fyny ati hi , ac a ddygasant arian yn eu dwylo . A hi a wnaeth iddo gysgu ar ei gliniau ; ac a alwodd ar ŵr , ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef : a hi a ddechreuodd ei gystuddio ef ; a’i nerth a ymadawodd oddi wrtho . A hi a ddywedodd , Y mae y Philistiaid arnat ti , Samson . Ac efe a ddeffrôdd o’i gwsg , ac a ddywedodd , Af allan y waith hon fel cynt , ac ymysgydwaf . Ond ni wyddai efe fod yr Arglwydd wedi cilio oddi wrtho . Ond y Philistiaid a’i daliasant ef , ac a dynasant ei lygaid ef , ac a’i dygasant ef i waered i Gasa , ac a’i rhwymasant ef â gefynnau pres ; ac yr oedd efe yn malu yn y carchardy . Eithr gwallt ei ben ef a ddechreuodd dyfu drachefn , ar ôl ei eillio . Yna arglwyddi’r Philistiaid a ymgasglasant i aberthu aberth mawr i Dagon eu duw , ac i orfoleddu : canys dywedasant , Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni . A phan welodd y bobl ef , hwy a ganmolasant eu duw : canys dywedasant , Ein duw ni a roddodd ein gelyn yn ein dwylo ni , yr hwn oedd yn anrheithio ein gwlad ni , yr hwn a laddodd lawer ohonom ni . A phan oedd eu calon hwynt yn llawen , yna y dywedasant , Gelwch am Samson , i beri i ni chwerthin . A hwy a alwasant am Samson o’r carchardy , fel y chwaraeai o’u blaen hwynt ; a hwy a’i gosodasant ef rhwng y colofnau . A Samson a ddywedodd wrth y llanc oedd yn ymaflyd yn ei law ef , Gollwng , a gad i mi gael gafael ar y colofnau y mae y tŷ yn sefyll arnynt , fel y pwyswyf arnynt . A’r tŷ oedd yn llawn o wŷr a gwragedd ; a holl arglwyddi’r Philistiaid oedd yno : ac ar y nen yr oedd ynghylch tair mil o wŷr a gwragedd yn edrych tra yr ydoedd Samson yn chwarae . A Samson a alwodd ar yr Arglwydd , ac a ddywedodd , O Arglwydd IOR , cofia fi , atolwg , a nertha fi , atolwg , yn unig y waith hon , O Dduw , fel y dialwyf ag un dialedd ar y Philistiaid am fy nau lygad . A Samson a ymaflodd yn y ddwy golofn ganol , y rhai yr oedd y tŷ yn sefyll arnynt , ac a ymgynhaliodd wrthynt , un yn ei ddeheulaw , a’r llall yn ei law aswy . A dywedodd Samson , Bydded farw fy einioes gyda’r Philistiaid . Ac efe a ymgrymodd â’i holl nerth ; a syrthiodd y tŷ ar y pendefigion , ac ar yr holl bobl oedd ynddo : a’r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw , oedd fwy nag a laddasai efe yn ei fywyd . A’i frodyr ef , a holl dŷ ei dad ef , a ddaethant i waered , ac a’i cymerasant ef , ac a’i dygasant i fyny , ac a’i claddasant ef rhwng Sora ac Estaol , ym meddrod Manoa ei dad . Ac efe a farnasai Israel ugain mlynedd . Ac yr oedd gŵr o fynydd Effraim , a’i enw Mica . Ac efe a ddywedodd wrth ei fam , Y mil a’r can sicl arian a dducpwyd oddi arnat , ac y rhegaist amdanynt , ac y dywedaist hefyd lle y clywais ; wele yr arian gyda mi , myfi a’i cymerais . A dywedodd ei fam , Bendigedig fyddych , fy mab , gan yr Arglwydd . A phan roddodd efe y mil a’r can sicl arian adref i’w fam , ei fam a ddywedodd , Gan gysegru y cysegraswn yr arian i’r Arglwydd o’m llaw , i’m mab , i wneuthur delw gerfiedig a thoddedig : am hynny yn awr mi a’i rhoddaf eilwaith i ti . Eto efe a dalodd yr arian i’w fam . A’i fam a gymerth ddau can sicl o arian , ac a’u rhoddodd i’r toddydd ; ac efe a’u gwnaeth yn ddelw gerfiedig , a thoddedig : a hwy a fuant yn nhŷ Mica . A chan y gŵr hwn Mica yr oedd tŷ duwiau ; ac efe a wnaeth effod , a theraffim , ac a gysegrodd un o’i feibion i fod yn offeiriad iddo . Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel ; ond pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun . Ac yr oedd gŵr ieuanc o Bethlehem Jwda , o dylwyth Jwda , a Lefiad oedd efe ; ac efe a ymdeithiai yno . A’r gŵr a aeth allan o’r ddinas o Bethlehem Jwda , i drigo pa le bynnag y caffai le : ac efe a ddaeth i fynydd Effraim i dŷ Mica , yn ei ymdaith . A Mica a ddywedodd wrtho , O ba le y daethost ti ? Dywedodd yntau wrtho , Lefiad ydwyf o Bethlehem Jwda ; a myned yr ydwyf i drigo lle caffwyf le . A Mica a ddywedodd wrtho . Trig gyda mi , a bydd i mi yn dad ac yn offeiriad ; a mi a roddaf i ti ddeg sicl o arian bob blwyddyn , a phâr o ddillad , a’th luniaeth . Felly y Lefiad a aeth i mewn . A’r Lefiad a fu fodlon i aros gyda’r gŵr ; a’r gŵr ieuanc oedd iddo fel un o’i feibion . A Mica a urddodd y Lefiad ; a’r gŵr ieuanc fu yn offeiriad iddo , ac a fu yn nhŷ Mica . Yna y dywedodd Mica , Yn awr y gwn y gwna yr Arglwydd ddaioni i mi ; gan fod Lefiad gennyf yn offeiriad . Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel : ac yn y dyddiau hynny llwyth y Daniaid oedd yn ceisio iddynt etifeddiaeth i drigo ; canys ni syrthiasai iddynt hyd y dydd hwnnw etifeddiaeth ymysg llwythau Israel . A meibion Dan a anfonasant o’u tylwyth bump o wŷr o’u bro , gwŷr grymus , o Sora , ac o Estaol , i ysbïo’r wlad , ac i’w chwilio ; ac a ddywedasant wrthynt , Ewch , chwiliwch y wlad . A phan ddaethant i fynydd Effraim i dŷ Mica , hwy a letyasant yno . Pan oeddynt hwy wrth dŷ Mica , hwy a adnabuant lais y gŵr ieuanc y Lefiad ; ac a droesant yno , ac a ddywedasant wrtho , Pwy a’th ddug di yma ? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur yma ? a pheth sydd i ti yma ? Ac efe a ddywedodd wrthynt , Fel hyn ac fel hyn y gwnaeth Mica i mi ; ac efe a’m cyflogodd i , a’i offeiriad ef ydwyf fi . A hwy a ddywedasant wrtho ef , Ymgynghora , atolwg , â Duw , fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni . A’r offeiriad a ddywedodd wrthynt , Ewch mewn heddwch : gerbron yr Arglwydd y mae eich ffordd chwi , yr hon a gerddwch . Yna y pumwr a aethant ymaith , ac a ddaethant i Lais ; ac a welsant y bobl oedd ynddi yn trigo mewn diogelwch , yn ôl arfer y Sidoniaid , yn llonydd ac yn ddiofal ; ac nid oedd swyddwr yn y wlad , yr hwn a allai eu gyrru hwynt i gywilydd mewn dim : a phell oeddynt oddi wrth y Sidoniaid , ac heb negesau rhyngddynt a neb . A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sora ac Estaol . A’u brodyr a ddywedasant wrthynt , Beth a ddywedwch chwi ? Hwythau a ddywedasant , Cyfodwch , ac awn i fyny arnynt : canys gwelsom y wlad ; ac wele , da iawn yw hi . Ai tewi yr ydych chwi ? na ddiogwch fyned , i ddyfod i mewn i feddiannu’r wlad . Pan eloch , chwi a ddeuwch at bobl ddiofal , a gwlad eang : canys Duw a’i rhoddodd hi yn eich llaw chwi : sef lle nid oes ynddo eisiau dim a’r y sydd ar y ddaear . Ac fe aeth oddi yno , o dylwyth y Daniaid , o Sora ac o Estaol , chwe channwr , wedi ymwregysu ag arfau rhyfel . A hwy a aethant i fyny , ac a wersyllasant yn Ciriath‐jearim , yn Jwda : am hynny y galwasant y fan honno Mahane-Dan , hyd y dydd hwn : wele , y mae o’r tu ôl i Ciriath‐jearim . A hwy a aethant oddi yno i fynydd Effraim , ac a ddaethant hyd dŷ Mica . A’r pumwr , y rhai a aethent i chwilio gwlad Lais , a lefarasant , ac a ddywedasant wrth eu brodyr , Oni wyddoch chwi fod yn y tai hyn effod a theraffim , a delw gerfiedig , a thoddedig ? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch . A hwy a droesant tuag yno ; ac a ddaethant hyd dŷ y gŵr ieuanc y Lefiad , i dŷ Mica ; ac a gyfarchasant well iddo . A’r chwe channwr , y rhai oedd wedi eu gwregysu ag arfau rhyfel , oedd yn sefyll wrth ddrws y porth , sef y rhai oedd o feibion Dan . A’r pumwr , y rhai a aethent i chwilio’r wlad , a esgynasant , ac a aethant i mewn yno ; ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig , a’r effod , a’r teraffim , a’r ddelw doddedig : a’r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth , gyda’r chwe channwr oedd wedi ymwregysu ag arfau rhyfel . A’r rhai hyn a aethant i dŷ Mica , ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig , yr effod , a’r teraffim , a’r ddelw doddedig . Yna yr offeiriad a ddywedodd wrthynt , Beth yr ydych chwi yn ei wneuthur ? Hwythau a ddywedasant wrtho , Taw â sôn ; gosod dy law ar dy safn , a thyred gyda ni , a bydd i ni yn dad ac yn offeiriad : ai gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ un gŵr , na’th fod yn offeiriad i lwyth ac i deulu yn Israel ? A da fu gan galon yr offeiriad ; ac efe a gymerth yr effod , a’r teraffim , a’r ddelw gerfiedig , ac a aeth ymysg y bobl . A hwy a droesant , ac a aethant ymaith ; ac a osodasant y plant , a’r anifeiliaid , a’r clud , o’u blaen . A phan oeddynt hwy ennyd oddi wrth dŷ Mica , y gwŷr oedd yn y tai wrth dŷ Mica a ymgasglasant , ac a erlidiasant feibion Dan . A hwy a waeddasant ar feibion Dan . Hwythau a droesant eu hwynebau , ac a ddywedasant wrth Mica , Beth a ddarfu i ti , pan wyt yn dyfod â’r fath fintai ? Yntau a ddywedodd , Fy nuwiau , y rhai a wneuthum i , a ddygasoch chwi ymaith , a’r offeiriad , ac a aethoch i ffordd : a pheth sydd gennyf fi mwyach ? a pha beth yw hyn a ddywedwch wrthyf , Beth a ddarfu i ti ? A meibion Dan a ddywedasant wrtho , Na ad glywed dy lef yn ein mysg ni ; rhag i wŷr dicllon ruthro arnat ti , a cholli ohonot dy einioes , ac einioes dy deulu . A meibion Dan a aethant i’w ffordd . A phan welodd Mica eu bod hwy yn gryfach nag ef , efe a drodd , ac a ddychwelodd i’w dŷ . A hwy a gymerasant y pethau a wnaethai Mica , a’r offeiriad oedd ganddo ef , ac a ddaethant i Lais , at bobl lonydd a diofal ; ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf , ac a losgasant y ddinas â thân . Ac nid oedd waredydd ; canys pell oedd hi oddi wrth Sidon , ac nid oedd negesau rhyngddynt a neb ; hefyd yr oedd hi yn y dyffryn oedd wrth Beth‐rehob : a hwy a adeiladasant ddinas , ac a drigasant ynddi . A hwy a alwasant enw y ddinas Dan , yn ôl enw Dan eu tad , yr hwn a anesid i Israel : er hynny Lais oedd enw y ddinas ar y cyntaf . A meibion Dan a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig : a Jonathan mab Gerson , mab Manasse , efe a’i feibion , fuant offeiriaid i lwyth Dan hyd ddydd caethgludiad y wlad . A hwy a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig a wnaethai Mica , yr holl ddyddiau y bu tŷ Dduw yn Seilo . Ac yn y dyddiau hynny , pan nad oedd frenin yn Israel , yr oedd rhyw Lefiad yn aros yn ystlysau mynydd Effraim , ac efe a gymerodd iddo ordderchwraig o Bethlehem Jwda . A’i ordderchwraig a buteiniodd yn ei erbyn ef , ac a aeth ymaith oddi wrtho ef i dŷ ei thad , i Bethlehem Jwda ; ac yno y bu hi bedwar mis o ddyddiau . A’i gŵr hi a gyfododd , ac a aeth ar ei hôl , i ddywedyd yn deg wrthi hi , ac i’w throi adref ; a’i lanc oedd gydag ef , a chwpl o asynnod . A hi a’i dug ef i mewn i dŷ ei thad : a phan welodd tad y llances ef , bu lawen ganddo gyfarfod ag ef . A’i chwegrwn ef , tad y llances , a’i daliodd ef yno ; ac efe a dariodd gydag ef dridiau . Felly bwytasant ac yfasant , a lletyasant yno . A’r pedwerydd dydd y cyfodasant yn fore ; yntau a gyfododd i fyned ymaith . A thad y llances a ddywedodd wrth ei ddaw , Nertha dy galon â thamaid o fara , ac wedi hynny ewch ymaith . A hwy a eisteddasant , ac a fwytasant ill dau ynghyd , ac a yfasant . A thad y llances a ddywedodd wrth y gŵr , Bydd fodlon , atolwg , ac aros dros nos , a llawenyched dy galon . A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith , ei chwegrwn a fu daer arno : am hynny efe a drodd ac a letyodd yno . Ac efe a gyfododd yn fore y pumed dydd i fyned ymaith . A thad y llances a ddywedodd , Cysura dy galon , atolwg . A hwy a drigasant hyd brynhawn , ac a fwytasant ill dau . A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith , efe a’i ordderch , a’i lanc ; ei chwegrwn , tad y llances , a ddywedodd wrtho , Wele , yn awr , y dydd a laesodd i hwyrhau ; arhoswch dros nos , atolwg : wele yr haul yn machludo ; trig yma , fel y llawenycho dy galon : a chodwch yn fore yfory i’ch taith , fel yr elych i’th babell . A’r gŵr ni fynnai aros dros nos ; eithr cyfododd , ac a aeth ymaith : a daeth hyd ar gyfer Jebus , hon yw Jerwsalem , a chydag ef gwpl o asynnod llwythog , a’i ordderchwraig gydag ef . A phan oeddynt hwy wrth Jebus , yr oedd y dydd ar ddarfod : a’r llanc a ddywedodd wrth ei feistr , Tyred , atolwg , trown i ddinas hon y Jebusiaid , a lletywn ynddi . A’i feistr a ddywedodd wrtho , Ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel ; eithr nyni a awn hyd Gibea . Ac efe a ddywedodd wrth ei lanc , Tyred , a nesawn i un o’r lleoedd hyn , i letya dros nos , yn Gibea , neu Rama . Felly y cerddasant , ac yr aethant : a’r haul a fachludodd arnynt wrth Gibea eiddo Benjamin . A hwy a droesant yno , i fyned i mewn i letya i Gibea . Ac efe a ddaeth i mewn , ac a eisteddodd yn heol y ddinas : canys nid oedd neb a’u cymerai hwynt i’w dŷ i letya . Ac wele ŵr hen yn dyfod o’i waith o’r maes yn yr hwyr ; a’r gŵr oedd o fynydd Effraim , ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibea ; a gwŷr y lle hwnnw oedd feibion Jemini . Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid , ac a ganfu ŵr yn ymdaith yn heol y ddinas : a’r hen ŵr a ddywedodd , I ba le yr ei di ? ac o ba le y daethost ? Yntau a ddywedodd wrtho , Tramwyo yr ydym ni o Bethlehem Jwda , i ystlys mynydd Effraim , o’r lle yr hanwyf : a mi a euthum hyd Bethlehem Jwda , a myned yr ydwyf i dŷ yr Arglwydd ; ac nid oes neb a’m derbyn i dŷ . Y mae gennym ni wellt ac ebran hefyd i’n hasynnod ; a bara hefyd a gwin i mi ac i’th lawforwyn , ac i’r llanc sydd gyda’th weision : nid oes eisiau dim . A’r hen ŵr a ddywedodd , Tangnefedd i ti : bydded dy holl eisiau arnaf fi ; yn unig na letya yn yr heol . Felly efe a’i dug ef i mewn i’w dŷ , ac a borthodd yr asynnod : a hwy a olchasant eu traed , ac a fwytasant ac a yfasant . A phan oeddynt hwy yn llawenhau eu calon , wele , gwŷr y ddinas , rhai o feibion Belial , a amgylchynasant y tŷ , a gurasant y drws , ac a ddywedasant wrth berchen y tŷ , sef yr hen ŵr , gan ddywedyd , Dwg allan y gŵr a ddaeth i mewn i’th dŷ , fel yr adnabyddom ef . A’r gŵr , perchen y tŷ , a aeth allan atynt , ac a ddywedodd wrthynt , Nage , fy mrodyr , nage , atolwg , na wnewch mor ddrygionus : gan i’r gŵr hwn ddyfod i’m tŷ i , na wnewch yr ysgelerder hyn . Wele fy merch , yr hon sydd forwyn , a’i ordderch yntau ; dygaf hwynt allan yn awr , a darostyngwch hwynt , a gwnewch iddynt yr hyn fyddo da yn eich golwg : ond i’r gŵr hwn na wnewch mor ysgeler . Ond ni wrandawai y gwŷr arno : am hynny y gŵr a ymaflodd yn ei ordderch , ac a’i dug hi allan atynt hwy . A hwy a’i hadnabuant hi , ac a wnaethant gam â hi yr holl nos hyd y bore : a phan gyfododd y wawr , hwy a’i gollyngasant hi ymaith . Yna y wraig a ddaeth , pan ymddangosodd y bore , ac a syrthiodd wrth ddrws tŷ y gŵr yr oedd ei harglwydd ynddo , hyd oleuni y dydd . A’i harglwydd a gyfododd y bore , ac a agorodd ddrysau y tŷ , ac a aeth allan i fyned i’w daith : ac wele ei ordderchwraig ef wedi cwympo wrth ddrws y tŷ , a’i dwy law ar y trothwy . Ac efe a ddywedodd wrthi , Cyfod , fel yr elom ymaith . Ond nid oedd yn ateb . Yna efe a’i cymerth hi ar yr asyn ; a’r gŵr a gyfododd , ac a aeth ymaith i’w fangre . A phan ddaeth i’w dŷ , efe a gymerth gyllell , ac a ymaflodd yn ei ordderch . ac a’i darniodd hi , ynghyd â’i hesgyrn , yn ddeuddeg darn , ac a’i hanfonodd hi i holl derfynau Israel . A phawb a’r a welodd hynny , a ddywedodd , Ni wnaethpwyd ac ni welwyd y fath beth , er y dydd y daeth meibion Israel o wlad yr Aifft , hyd y dydd hwn : ystyriwch ar hynny , ymgynghorwch , a thraethwch eich meddwl . Yna holl feibion Israel a aethant allan ; a’r gynulleidfa a ymgasglodd ynghyd fel un dyn , o Dan hyd Beerseba , a gwlad Gilead , at yr Arglwydd , i Mispa . A phenaethiaid yr holl bobl , o holl lwythau Israel , a safasant yng nghynulleidfa pobl Dduw ; sef pedwar can mil o wŷr traed yn tynnu cleddyf . ( A meibion Benjamin a glywsant fyned o feibion Israel i Mispa . ) Yna meibion Israel a ddywedasant , Dywedwch , pa fodd y bu y drygioni hyn ? A’r gŵr y Lefiad , gŵr y wraig a laddesid , a atebodd ac a ddywedodd , I Gibea eiddo Benjamin y deuthum i , mi a’m gordderch , i letya . A gwŷr Gibea a gyfodasant i’m herbyn , ac a amgylchynasant y tŷ yn fy erbyn liw nos , ac a amcanasant fy lladd i ; a threisiasant fy ngordderch , fel y bu hi farw . A mi a ymeflais yn fy ngordderch , ac a’i derniais hi , ac a’i hanfonais hi trwy holl wlad etifeddiaeth Israel : canys gwnaethant ffieidd‐dra ac ynfydrwydd yn Israel . Wele , meibion Israel ydych chwi oll ; moeswch rhyngoch air a chyngor yma . A’r holl bobl a gyfododd megis un gŵr , gan ddywedyd , Nac eled neb ohonom i’w babell , ac na throed neb ohonom i’w dŷ . Ond yn awr , hyn yw y peth a wnawn ni i Gibea : Nyni a awn i fyny i’w herbyn wrth goelbren ; A ni a gymerwn ddengwr o’r cant trwy holl lwythau Israel , a chant o’r mil , a mil o’r deng mil , i ddwyn lluniaeth i’r bobl ; i wneuthur , pan ddelont i Gibea Benjamin , yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnaethant hwy yn Israel . Felly yr ymgasglodd holl wŷr Israel yn erbyn y ddinas yn gytûn fel un gŵr . A llwythau Israel a anfonasant wŷr trwy holl lwythau Benjamin , gan ddywedyd , Beth yw y drygioni yma a wnaethpwyd yn eich mysg chwi ? Ac yn awr rhoddwch y gwŷr , meibion Belial , y rhai sydd yn Gibea , fel y lladdom hwynt , ac y dileom ddrygioni o Israel . Ond ni wrandawai meibion Benjamin ar lais eu brodyr meibion Israel : Eithr meibion Benjamin a ymgynullasant o’r dinasoedd i Gibea , i fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Israel . A chyfrifwyd meibion Benjamin y dydd hwnnw , o’r dinasoedd , yn chwe mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf , heblaw trigolion Gibea , y rhai a gyfrifwyd yn saith gant o wŷr etholedig . O’r holl bobl hyn yr oedd saith gant o wŷr etholedig yn chwithig ; pob un ohonynt a ergydiai â charreg at y blewyn , heb fethu . Gwŷr Israel hefyd a gyfrifwyd , heblaw Benjamin , yn bedwar can mil yn tynnu cleddyf ; pawb ohonynt yn rhyfelwyr . A meibion Israel a gyfodasant , ac a aethant i fyny i dŷ Dduw , ac a ymgyngorasant â Duw , ac a ddywedasant , Pwy ohonom ni a â i fyny yn gyntaf i’r gad yn erbyn meibion Benjamin ? A dywedodd yr Arglwydd , Jwda a â yn gyntaf . A meibion Israel a gyfodasant y bore , ac a wersyllasant yn erbyn Gibea . A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Benjamin ; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i’w herbyn hwy wrth Gibea . A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibea , ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr hyd lawr . A’r bobl gwŷr Israel a ymgryfhasant , ac a ymosodasant drachefn i ymladd , yn y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf . ( A meibion Israel a aethent i fyny , ac a wylasent gerbron yr Arglwydd hyd yr hwyr : ymgyngorasent hefyd â’r Arglwydd , gan ddywedyd , A af fi drachefn i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd ? A dywedasai yr Arglwydd , Dos i fyny yn ei erbyn ef . ) A meibion Israel a nesasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail ddydd . A Benjamin a aeth allan o Gibea i’w herbyn hwythau yr ail ddydd ; a hwy a ddifethasant o feibion Israel eilwaith dair mil ar bymtheg o wŷr hyd lawr : y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf . Yna holl feibion Israel a’r holl bobl a aethant i fyny ac a ddaethant i dŷ Dduw , ac a wylasant , ac a arosasant yno gerbron yr Arglwydd , ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr , ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd . A meibion Israel a ymgyngorasant â’r Arglwydd , ( canys yno yr oedd arch cyfamod Duw yn y dyddiau hynny ; A Phinees mab Eleasar , mab Aaron , oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny ; ) gan ddywedyd , A chwanegaf fi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd , neu a beidiaf fi ? A dywedodd yr Arglwydd , Ewch i fyny ; canys yfory y rhoddaf ef yn dy law di . Ac Israel a osododd gynllwynwyr o amgylch Gibea . A meibion Israel a aethant i fyny yn erbyn meibion Benjamin y trydydd dydd , ac a ymosodasant wrth Gibea , fel cynt . A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl ; a thynnwyd hwynt oddi wrth y ddinas : a hwy a ddechreuasant daro rhai o’r bobl yn archolledig , fel cynt , yn y priffyrdd , o’r rhai y mae y naill yn myned i fyny i dŷ Dduw , a’r llall i Gibea yn y maes , ynghylch dengwr ar hugain o Israel . A meibion Benjamin a ddywedasant , Cwympwyd hwynt o’n blaen ni , fel ar y cyntaf . Ond meibion Israel a ddywedasant , Ffown , fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i’r priffyrdd . A holl wŷr Israel a gyfodasant o’u lle , ac a fyddinasant yn Baal‐tamar : a’r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn , a ddaeth allan o’u mangre , sef o weirgloddiau Gibea . A daeth yn erbyn Gibea ddeng mil o wŷr etholedig o holl Israel ; a’r gad a fu dost : ond ni wyddent fod drwg yn agos atynt . A’r Arglwydd a drawodd Benjamin o flaen Israel : a difethodd meibion Israel o’r Benjaminiaid , y dwthwn hwnnw , bum mil ar hugain a channwr ; a’r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf . Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid : canys gwŷr Israel a roddasant le i’r Benjaminiaid ; oherwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr , y rhai a osodasent yn ymyl Gibea . A’r cynllwynwyr a frysiasant , ac a ruthrasant ar Gibea : a’r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes , ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf . Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a’r cynllwynwyr ; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o’r ddinas . A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel , Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain : canys dywedasant , Diau gan daro eu taro hwynt o’n blaen ni , fel yn y cyntaf . A phan ddechreuodd y fflam ddyrchafu o’r ddinas â cholofn o fwg , Benjamin a edrychodd yn ei ôl ; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i’r nefoedd . Yna gwŷr Israel a droesant drachefn ; a gwŷr Benjamin a frawychasant : oherwydd hwy a ganfuant fod drwg wedi dyfod arnynt . Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel , tua ffordd yr anialwch ; a’r gad a’u goddiweddodd hwynt : a’r rhai a ddaethai o’r dinasoedd , yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol . Felly yr amgylchynasant y Benjaminiaid ; erlidiasant hwynt , a sathrasant hwynt yn hawdd hyd yng nghyfer Gibea , tua chodiad haul . A lladdwyd o Benjamin dair mil ar bymtheg o wŷr : y rhai hyn oll oedd wŷr nerthol . A hwy a droesant , ac a ffoesant tua’r anialwch i graig Rimmon . A’r Israeliaid a loffasant ohonynt ar hyd y priffyrdd , bum mil o wŷr : erlidiasant hefyd ar eu hôl hwynt hyd Gidom , ac a laddasant ohonynt ddwy fil o wŷr . A’r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw , oedd bum mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf : hwynt oll oedd wŷr nerthol . Eto chwe channwr a droesant , ac a ffoesant i’r anialwch i graig Rimmon , ac a arosasant yng nghraig Rimmon bedwar mis . A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin , ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf , yn ddyn o bob dinas , ac yn anifail , a pheth bynnag a gafwyd : yr holl ddinasoedd hefyd a’r a gafwyd , a losgasant hwy â thân . A Gwŷr Israel a dyngasant ym Mispa , gan ddywedyd , Ni ddyry neb ohonom ei ferch i Benjaminiad yn wraig . A daeth y bobl i dŷ Dduw , ac a arosasant yno hyd yr hwyr gerbron Duw , ac a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant ag wylofain mawr : Ac a ddywedasant , O Arglwydd Dduw Israel , paham y bu y peth hyn yn Israel , fel y byddai heddiw un llwyth yn eisiau yn Israel ? A thrannoeth y bobl a foregodasant , ac a adeiladasant yno allor , ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd . A meibion Israel a ddywedasant , Pwy o holl lwythau Israel ni ddaeth i fyny gyda’r gynulleidfa at yr Arglwydd ? canys llw mawr oedd yn erbyn yr hwn ni ddelsai i fyny at yr Arglwydd i Mispa , gan ddywedyd , Rhoddir ef i farwolaeth yn ddiau . A meibion Israel a edifarhasant oherwydd Benjamin eu brawd : a dywedasant , Torrwyd ymaith heddiw un llwyth o Israel : Beth a wnawn ni am wragedd i’r rhai a adawyd , gan dyngu ohonom ni i’r Arglwydd , na roddem iddynt yr un o’n merched ni yn wragedd ? Dywedasant hefyd , Pa un o lwythau Israel ni ddaeth i fyny at yr Arglwydd i Mispa ? Ac wele , ni ddaethai neb o Jabes Gilead i’r gwersyll , at y gynulleidfa . Canys y bobl a gyfrifwyd ; ac wele , nid oedd yno neb o drigolion Jabes Gilead . A’r gynulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng mil o wŷr grymus ; ac a orchmynasant iddynt , gan ddywedyd , Ewch a threwch breswylwyr Jabes Gilead â min y cleddyf , y gwragedd hefyd a’r plant . Dyma hefyd y peth a wnewch chwi : Difethwch bob gwryw , a phob gwraig a orweddodd gyda gŵr . A hwy a gawsant ymhlith trigolion Jabes Gilead , bedwar cant o lancesau yn wyryfon , y rhai nid adnabuasent ŵr trwy gydorwedd â gŵr : a dygasant hwynt i’r gwersyll i Seilo , yr hon sydd yng ngwlad Canaan . A’r holl gynulleidfa a anfonasant i lefaru wrth feibion Benjamin , y rhai oedd yng nghraig Rimmon , ac i gyhoeddi heddwch iddynt . A’r Benjaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw ; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead : ond ni chawsant hwy ddigon felly . A’r bobl a edifarhaodd dros Benjamin , oherwydd i’r Arglwydd wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel . Yna henuriaid y gynulleidfa a ddywedasant , Beth a wnawn ni am wragedd i’r lleill , gan ddistrywio y gwragedd o Benjamin ? Dywedasant hefyd , Rhaid yw bod etifeddiaeth i’r rhai a ddihangodd o Benjamin , fel na ddileer llwyth allan o Israel . Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o’n merched ni : canys meibion Israel a dyngasant , gan ddywedyd , Melltigedig fyddo yr hwn a roddo wraig i Benjamin . Yna y dywedasant , Wele , y mae gŵyl i’r Arglwydd bob blwyddyn yn Seilo , o du y gogledd i Bethel , tua chyfodiad haul i’r briffordd y sydd yn myned i fyny o Bethel i Sichem , ac o du y deau i Libanus . Am hynny y gorchmynasant hwy i feibion Benjamin , gan ddywedyd , Ewch a chynllwynwch yn y gwinllannoedd : Edrychwch hefyd ; ac wele , os merched Seilo a ddaw allan i ddawnsio mewn dawnsiau ; yna deuwch chwithau allan o’r gwinllannoedd , a chipiwch i chwi bob un ei wraig o ferched Seilo , ac ewch i wlad Benjamin . A phan ddelo eu tadau neu eu brodyr hwynt i achwyn atom ni , yna y dywedwn wrthynt , Byddwch dda iddynt er ein mwyn ni ; oblegid na chadwasom i bob un ei wraig yn y rhyfel : o achos na roddasoch chwi hwynt iddynt y pryd hwn , ni byddwch chwi euog . A meibion Benjamin a wnaethant felly ; a chymerasant wragedd yn ôl eu rhifedi , o’r rhai a gipiasent , ac a oeddynt yn dawnsio : a hwy a aethant ymaith , a dychwelasant i’w hetifeddiaeth , ac a adgyweiriasant y dinasoedd , ac a drigasant ynddynt . A meibion Israel a ymadawsant oddi yno y pryd hwnnw , bob un at ei lwyth , ac at ei deulu ; ac a aethant oddi yno bob un i’w etifeddiaeth . Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel : pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun . </passage></reply></GetPassage>