<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:8</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:8</urn><passage>Abu , yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu , fod newyn yn y wlad : a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab , efe a’i wraig , a’i ddau fab . Ac enw y gŵr oedd Elimelech , ac enw ei wraig Naomi , ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion , Effrateaid o Bethlehem Jwda . A hwy a ddaethant i wlad Moab , ac a fuant yno . Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw ; a hithau a’i dau fab a adawyd . A hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r Moabesau ; enw y naill oedd Orpa , ac enw y llall , Ruth . A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd . A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau ; a’r wraig a adawyd yn amddifad o’i dau fab , ac o’i gŵr . A hi a gyfododd , a’i merched yng nghyfraith , i ddychwelyd o wlad Moab : canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i’r Arglwydd ymweled â’i bobl gan roddi iddynt fara . A hi a aeth o’r lle yr oedd hi ynddo , a’i dwy waudd gyda hi : a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda . A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd , Ewch , dychwelwch bob un i dŷ ei mam : gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi , fel y gwnaethoch chwi â’r meirw , ac â minnau . Yr Arglwydd a ganiatao i chwi gael gorffwystra bob un yn nhŷ ei gŵr . Yna y cusanodd hi hwynt : a hwy a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant . A hwy a ddywedasant wrthi , Diau y dychwelwn ni gyda thi at dy bobl di . A dywedodd Naomi , Dychwelwch , fy merched : i ba beth y deuwch gyda mi ? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth , i fod yn wŷr i chwi ? Dychwelwch , fy merched , ewch ymaith : canys yr ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr . Pe dywedwn , Y mae gennyf obaith , a bod heno gyda gŵr , ac ymddŵyn meibion hefyd ; A arhosech chwi amdanynt hwy , hyd oni chynyddent hwy ? a ymarhosech chwi amdanynt hwy , heb wra ? Nage , fy merched : canys y mae mawr dristwch i mi o’ch plegid chwi , am i law yr Arglwydd fyned i’m herbyn . A hwy a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant eilwaith : ac Orpa a gusanodd ei chwegr ; ond Ruth a lynodd wrthi hi . A dywedodd Naomi , Wele , dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl , ac at ei duwiau : dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith . A Ruth a ddywedodd , Nac erfyn arnaf fi ymado â thi , i gilio oddi ar dy ôl di : canys pa le bynnag yr elych di , yr af finnau ; ac ym mha le bynnag y lletyech di , y lletyaf finnau : dy bobl di fydd fy mhobl i , a’th Dduw di fy Nuw innau : Lle y byddych di marw , y byddaf finnau farw , ac yno y’m cleddir ; fel hyn y gwnelo yr Arglwydd i mi , ac fel hyn y chwanego , os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau . Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi , yna hi a beidiodd â dywedyd wrthi hi . Felly hwynt ill dwy a aethant , nes iddynt ddyfod i Bethlehem . A phan ddaethant i Bethlehem , yr holl ddinas a gyffrôdd o’u herwydd hwynt ; a dywedasant , Ai hon yw Naomi ? A hi a ddywedodd wrthynt hwy , Na elwch fi Naomi ; gelwch fi Mara : canys yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn â mi . Myfi a euthum allan yn gyflawn , a’r Arglwydd a’m dug i eilwaith yn wag : paham y gelwch chwi fi Naomi , gan i’r Arglwydd fy narostwng , ac i’r Hollalluog fy nrygu ? Felly y dychwelodd Naomi , a Ruth y Foabes ei gwaudd gyda hi , yr hon a ddychwelodd o wlad Moab : a hwy a ddaethant i Bethlehem yn nechrau cynhaeaf yr heiddiau . Ac i ŵr Naomi yr ydoedd câr , o ŵr cadarn nerthol , o dylwyth Elimelech , a’i enw Boas . A Ruth y Foabes a ddywedodd wrth Naomi , Gad i mi fyned yn awr i’r maes , a lloffa tywysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg . Hithau a ddywedodd wrthi , Dos , fy merch . A hi a aeth , ac a ddaeth , ac a loffodd yn y maes ar ôl y medelwyr : a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o’r maes yn eiddo Boas , yr hwn oedd o dylwyth Elimelech . Ac wele , Boas a ddaeth o Bethlehem , ac a ddywedodd wrth y medelwyr , Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi . Hwythau a ddywedasant wrtho ef , Yr Arglwydd a’th fendithio . Yna y dywedodd Boas wrth ei was yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medelwyr , Pwy biau y llances hon ? A’r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth y medelwyr a atebodd , ac a ddywedodd , Y llances o Moab ydyw hi , yr hon a ddychwelodd gyda Naomi o wlad Moab : A hi a ddywedodd , Atolwg yr ydwyf gael lloffa , a chasglu ymysg yr ysgubau ar ôl y medelwyr : a hi a ddaeth , ac a arhosodd er y bore hyd yr awr hon , oddieithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ . Yna y dywedodd Boas wrth Ruth , Oni chlywi di , fy merch ? Na ddos i loffa i faes arall , ac na cherdda oddi yma ; eithr aros yma gyda’m llancesau i . Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi ; a dos ar eu hôl hwynt : oni orchmynnais i’r llanciau , na chyffyrddent â thi ? A phan sychedych , dos at y llestri , ac yf o’r hwn a ollyngodd y llanciau . Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb , ac a ymgrymodd i lawr , ac a ddywedodd wrtho ef , Paham y cefais ffafr yn dy olwg di , fel y cymerit gydnabod arnaf , a minnau yn alltudes ? A Boas a atebodd , ac a ddywedodd wrthi , Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr ; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam , a gwlad dy enedigaeth , ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen . Yr Arglwydd a dalo am dy waith ; a bydded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel , yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd . Yna hi a ddywedodd , Caffwyf ffafr yn dy olwg di , fy arglwydd ; gan i ti fy nghysuro i , a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch , er nad ydwyf fel un o’th lawforynion di . A dywedodd Boas wrthi hi , Yn amser bwyd tyred yma , a bwyta o’r bara , a gwlych dy damaid yn y finegr . A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr : ac efe a estynnodd iddi gras ŷd ; a hi a fwytaodd , ac a ddigonwyd , ac a adawodd weddill . A hi a gyfododd i loffa : a gorchmynnodd Boas i’w weision , gan ddywedyd , Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau , ac na feiwch arni : A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o’r ysgubau ; a gadewch hwynt , fel y lloffo hi hwynt ; ac na cheryddwch hi . Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr : a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai , ac yr oedd ynghylch effa o haidd . A hi a’i cymerth , ac a aeth i’r ddinas : a’i chwegr a ganfu yr hyn a gasglasai hi : hefyd hi a dynnodd allan , ac a roddodd iddi yr hyn a weddillasai hi , wedi cael digon . A dywedodd ei chwegr wrthi hi , Pa le y lloffaist heddiw , a pha le y gweithiaist ? bydded yr hwn a’th adnabu yn fendigedig . A hi a fynegodd i’w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef ; ac a ddywedodd , Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw , yw Boas . A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd , Bendigedig fyddo efe gan yr Arglwydd , yr hwn ni pheidiodd â’i garedigrwydd tua’r rhai byw a’r rhai meirw . Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi , Agos i ni yw y gŵr hwnnw , o’n cyfathrach ni y mae efe . A Ruth y Foabes a ddywedodd , Efe a ddywedodd hefyd wrthyf , Gyda’m llanciau i yr arhosi , nes gorffen ohonynt fy holl gynhaeaf i . A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd , Da yw , fy merch , i ti fyned gyda’i lancesi ef , fel na ruthront i’th erbyn mewn maes arall . Felly hi a ddilynodd lancesau Boas i loffa , nes darfod cynhaeaf yr haidd a chynhaeaf y gwenith : ac a drigodd gyda’i chwegr . Yna Naomi ei chwegr a ddywedodd wrthi , Fy merch , oni cheisiaf fi orffwystra i ti , fel y byddo da i ti ? Ac yn awr onid yw Boas o’n cyfathrach ni , yr hwn y buost ti gyda’i lancesi ? Wele efe yn nithio haidd y nos hon yn y llawr dyrnu . Ymolch gan hynny , ac ymira , a gosod dy ddillad amdanat , a dos i waered i’r llawr dyrnu : na fydd gydnabyddus i’r gŵr , nes darfod iddo fwyta ac yfed . A phan orweddo efe , yna dal ar y fan y gorweddo efe ynddi ; a dos , a dinoetha ei draed ef , a gorwedd ; ac efe a fynega i ti yr hyn a wnelych . A hi a ddywedodd wrthi , Gwnaf yr hyn oll a erchaist i mi . A hi a aeth i waered i’r llawr dyrnu , ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai ei chwegr iddi . Ac wedi i Boas fwyta ac yfed , fel y llawenhaodd ei galon , efe a aeth i gysgu i gwr yr ysgafn . Hithau a ddaeth yn ddistaw , ac a ddinoethodd ei draed , ac a orweddodd . Ac yng nghanol y nos y gŵr a ofnodd , ac a ymdrôdd : ac wele wraig yn gorwedd wrth ei draed ef . Ac efe a ddywedodd , Pwy ydwyt ti ? A hi a ddywedodd , Myfi yw Ruth dy lawforwyn : lleda gan hynny dy adain dros dy lawforwyn , canys fy nghyfathrachwr i ydwyt ti . Ac efe a ddywedodd , Bendigedig fyddych , fy merch , gan yr Arglwydd : dangosaist fwy o garedigrwydd yn y diwedd , nag yn y dechrau ; gan nad aethost ar ôl gwŷr ieuainc , na thlawd na chyfoethog . Ac yn awr , fy merch , nac ofna ; yr hyn oll a ddywedaist , a wnaf i ti : canys holl ddinas fy mhobl a ŵyr mai gwraig rinweddol ydwyt ti . Ac yn awr gwir yw fy mod i yn gyfathrachwr agos : er hynny y mae cyfathrachwr nes na myfi . Aros heno ; a’r bore , os efe a wna ran cyfathrachwr â thi , da ; gwnaed ran cyfathrachwr : ond os efe ni wna ran cyfathrachwr â thi ; yna myfi a wnaf ran cyfathrachwr â thi , fel mai byw yr Arglwydd : cwsg hyd y bore . A hi a orweddodd wrth ei draed ef hyd y bore : a hi a gyfododd cyn yr adwaenai neb ei gilydd . Ac efe a ddywedodd , Na chaffer gwybod dyfod gwraig i’r llawr dyrnu . Ac efe a ddywedodd , Moes dy fantell sydd amdanat , ac ymafael ynddi . A hi a ymaflodd ynddi ; ac efe a fesurodd chwe mesur o haidd , ac a’i gosododd arni : a hi a aeth i’r ddinas . A phan ddaeth hi at ei chwegr , hi a ddywedodd , Pwy ydwyt ti , fy merch ? A hi a fynegodd iddi yr hyn oll a wnaethai y gŵr iddi hi . A hi a ddywedodd , Y chwe mesur hyn o haidd a roddodd efe i mi : canys dywedodd wrthyf , Nid ei yn waglaw at dy chwegr . Yna y dywedodd hithau , Aros fy merch , oni wypech pa fodd y digwyddo y peth hyn : canys ni orffwys y gŵr , nes gorffen y peth hyn heddiw . Yna Boas a aeth i fyny i’r porth , ac a eisteddodd yno . Ac wele y cyfathrachwr yn myned heibio , am yr hwn y dywedasai Boas . Ac efe a ddywedodd wrtho , Ho , hwn a hwn ! tyred yn nes ; eistedd yma . Ac efe a nesaodd , ac a eisteddodd . Ac efe a gymerth ddengwr o henuriaid y ddinas , ac a ddywedodd , Eisteddwch yma . A hwy a eisteddasant . Ac efe a ddywedodd wrth y cyfathrachwr , Y rhan o’r maes yr hon oedd eiddo ein brawd Elimelech a werth Naomi , yr hon a ddychwelodd o wlad Moab . A dywedais y mynegwn i ti , gan ddywedyd , Prŷn ef gerbron y trigolion , a cherbron henuriaid fy mhobl . Os rhyddhei , rhyddha ef ; ac oni ryddhei , mynega i mi , fel y gwypwyf : canys nid oes ond ti i’w ryddhau , a minnau sydd ar dy ôl di . Ac efe a ddywedodd , Myfi a’i rhyddhaf . Yna y dywedodd Boas , Y diwrnod y prynych di y maes o law Naomi , ti a’i pryni hefyd gan Ruth y Foabes , gwraig y marw , i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef . A’r cyfathrachwr a ddywedodd , Ni allaf ei ryddhau i mi , rhag colli fy etifeddiaeth fy hun : rhyddha di i ti dy hun fy rhan i ; canys ni allaf fi ei ryddhau . A hyn oedd ddefod gynt yn Israel , am ryddhad , ac am gyfnewid , i sicrhau pob peth : Gŵr a ddiosgai ei esgid , ac a’i rhoddai i’w gymydog : a hyn oedd dystiolaeth yn Israel . Am hynny y dywedodd y cyfathrachwr wrth Boas , Prŷn i ti dy hun : ac efe a ddiosgodd ei esgid . A dywedodd Boas wrth yr henuriaid , ac wrth yr holl bobl , Tystion ydych chwi heddiw , i mi brynu yr hyn oll oedd eiddo Elimelech , a’r hyn oll oedd eiddo Chilion a Mahlon , o law Naomi . Ruth hefyd y Foabes , gwraig Mahlon , a brynais i mi yn wraig , i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef , fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr , nac oddi wrth borth ei fangre : tystion ydych chwi heddiw . A’r holl bobl y rhai oedd yn y porth , a’r henuriaid , a ddywedasant , Yr ydym yn dystion : Yr Arglwydd a wnelo y wraig sydd yn dyfod i’th dŷ di fel Rahel , ac fel Lea , y rhai a adeiladasant ill dwy dŷ Israel ; a gwna di rymustra yn Effrata , bydd enwog yn Bethlehem : Bydded hefyd dy dŷ di fel tŷ Phares , yr hwn a ymddûg Tamar i Jwda , o’r had yr hwn a ddyry yr Arglwydd i ti o’r llances hon . Felly Boas a gymerodd Ruth ; a hi a fu iddo yn wraig : ac efe a aeth i mewn ati hi ; a’r Arglwydd a roddodd iddi hi feichiogi , a hi a ymddûg fab . A’r gwragedd a ddywedasant wrth Naomi , Bendigedig fyddo yr Arglwydd , yr hwn ni’th adawodd di heb gyfathrachwr heddiw , fel y gelwid ei enw ef yn Israel . Ac efe fydd i ti yn adferwr einioes , ac yn ymgeleddwr i’th benwynni : canys dy waudd , yr hon a’th gâr di , a blantodd iddo ef , a hon sydd well i ti na saith o feibion . A Naomi a gymerth y plentyn , ac a’i gosododd ef yn ei mynwes , ac a fu famaeth iddo . A’i chymdogesau a roddasant iddo enw , gan ddywedyd , Ganwyd mab i Naomi ; ac a alwasant ei enw ef Obed : hwn oedd dad Jesse , tad Dafydd . Dyma genedlaethau Phares : Phares a genhedlodd Hesron , A Hesron a genhedlodd Ram , a Ram a genhedlodd Aminadab , Ac Aminadab a genhedlodd Nahson , a Nahson a genhedlodd Salmon , A Salmon a genhedlodd Boas , a Boas a genhedlodd Obed , Ac Obed a genhedlodd Jesse , a Jesse a genhedlodd Dafydd . </passage></reply></GetPassage>