<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?><GetPassage xmlns="http://relaxng.org/ns/structure/1.0" xmlns:tei="http://www.tei-c.org/ns/1.0" xmlns:ti="http://chs.harvard.edu/xmlns/cts"><request><requestName>GetPassage</requestName><requestUrn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:9</requestUrn></request><reply><urn>urn:cts:pbc:bible.parallel.cym.morgan1804:9</urn><passage>Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-Soffim , o fynydd Effraim , a’i enw Elcana , mab Jeroham , mab Elihu , mab Tohu , mab Suff , Effratëwr : A dwy wraig oedd iddo ; enw y naill oedd Hanna , ac enw y llall Peninna : ac i Peninna yr ydoedd plant , ond i Hanna nid oedd plant . A’r gŵr hwn a âi i fyny o’i ddinas bob blwyddyn i addoli , ac i aberthu i Arglwydd y lluoedd , yn Seilo ; a dau fab Eli , Hoffni a Phinees , oedd offeiriaid i’r Arglwydd yno . Bu hefyd , y diwrnod yr aberthodd Elcana , roddi ohono ef i Peninna ei wraig , ac i’w meibion a’i merched oll , rannau . Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd : canys efe a garai Hanna , ond yr Arglwydd a gaeasai ei chroth hi ; A’i gwrthwynebwraig a’i cyffrôdd hi i’w chythruddo , am i’r Arglwydd gau ei bru hi . Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn , pan esgynnai hi i dŷ yr Arglwydd , hi a’i cythruddai hi felly ; fel yr wylai , ac na fwytâi . Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi , Hanna , paham yr wyli ? a phaham na fwytei ? a phaham y mae yn flin ar dy galon ? onid wyf fi well i ti na deg o feibion ? Felly Hanna a gyfododd , wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo . ( Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr Arglwydd . ) Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid , ac a weddïodd ar yr Arglwydd , a chan wylo hi a wylodd . Hefyd hi a addunodd adduned , ac a ddywedodd , O Arglwydd y lluoedd , os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn , ac a’m cofi i , ac nid anghofi dy lawforwyn , ond rhoddi i’th lawforwyn fab : yna y rhoddaf ef i’r Arglwydd holl ddyddiau ei einioes , ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef . A bu , fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr Arglwydd , i Eli ddal sylw ar ei genau hi . A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon , yn unig ei gwefusau a symudent ; a’i llais ni chlywid : am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw . Ac Eli a ddywedodd wrthi hi , Pa hyd y byddi feddw ? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt . A Hanna a atebodd , ac a ddywedodd , Nid felly , fy arglwydd ; gwraig galed arni ydwyf fi : gwin hefyd na diod gadarn nid yfais ; eithr tywelltais fy enaid gerbron yr Arglwydd . Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial : canys o amldra fy myfyrdod , a’m blinder , y lleferais hyd yn hyn . Yna yr atebodd Eli , ac a ddywedodd , Dos mewn heddwch : a Duw Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef . A hi a ddywedodd , Caffed dy lawforwyn ffafr yn dy olwg . Felly yr aeth y wraig i’w thaith , ac a fwytaodd ; ac ni bu athrist mwy . A hwy a gyfodasant yn fore , ac a addolasant gerbron yr Arglwydd ; ac a ddychwelasant , ac a ddaethant i’w tŷ i Rama . Ac Elcana a adnabu Hanna ei wraig ; a’r Arglwydd a’i cofiodd hi . A bu , pan ddaeth yr amser o amgylch , wedi beichiogi o Hanna , esgor ohoni ar fab ; a hi a alwodd ei enw ef Samuel : Canys gan yr Arglwydd y dymunais ef , eb hi . A’r gŵr Elcana a aeth i fyny , a’i holl dylwyth , i offrymu i’r Arglwydd yr aberth blynyddol , a’i adduned . Ond Hanna nid aeth i fyny : canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr , Ni ddeuaf fi , hyd oni ddiddyfner y bachgen : yna y dygaf ef , fel yr ymddangoso efe o flaen yr Arglwydd , ac y trigo byth . Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi , Gwna yr hyn a welych yn dda : aros hyd oni ddiddyfnych ef ; yn unig yr Arglwydd a gyflawno ei air . Felly yr arhodd y wraig , ac a fagodd ei mab , nes iddi ei ddiddyfnu ef . A phan ddiddyfnodd hi ef , hi a’i dug ef i fyny gyda hi , â thri o fustych , ac un effa o beilliaid , a chostrelaid o win ; a hi a’i dug ef i dŷ yr Arglwydd yn Seilo : a’r bachgen yn ieuanc . A hwy a laddasant fustach , ac a ddygasant y bachgen at Eli . A hi a ddywedodd , O fy arglwydd , fel y mae dy enaid yn fyw , fy arglwydd , myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di , yn gweddïo ar yr Arglwydd . Am y bachgen hwn y gweddïais ; a’r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo : Minnau hefyd a’i rhoddais ef i’r Arglwydd ; yr holl ddyddiau y byddo efe byw , y rhoddwyd ef i’r Arglwydd . Ac efe a addolodd yr Arglwydd yno . A Hanna a weddïodd , ac a ddywedodd , Llawenychodd fy nghalon yn yr Arglwydd ; fy nghorn a ddyrchafwyd yn yr Arglwydd : fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion : canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di . Nid sanctaidd neb fel yr Arglwydd ; canys nid dim hebot ti : ac nid oes graig megis ein Duw ni . Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel ; na ddeued allan ddim balch o’ch genau : canys Duw gwybodaeth yw yr Arglwydd , a’i amcanion ef a gyflawnir . Bwâu y cedyrn a dorrwyd , a’r gweiniaid a ymwregysasant â nerth . Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara ; a’r rhai newynog a beidiasant ; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith , a llesgáu yr aml ei meibion . Yr Arglwydd sydd yn marwhau , ac yn bywhau : efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd , ac yn dwyn i fyny . Yr Arglwydd sydd yn tlodi , ac yn cyfoethogi ; yn darostwng , ac yn dyrchafu . Efe sydd yn cyfodi’r tlawd o’r llwch , ac yn dyrchafu’r anghenus o’r tomennau , i’w gosod gyda thywysogion , ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant : canys eiddo yr Arglwydd colofnau y ddaear , ac efe a osododd y byd arnynt . Traed ei saint a geidw efe , a’r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch : canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr . Y rhai a ymrysonant â’r Arglwydd , a ddryllir : efe a darana yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd : yr Arglwydd a farn derfynau y ddaear ; ac a ddyry nerth i’w frenin , ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog . Ac Elcana a aeth i Rama i’w dŷ ; a’r bachgen a fu weinidog i’r Arglwydd gerbron Eli yr offeiriad . A meibion Eli oedd feibion Belial : nid adwaenent yr Arglwydd . A defod yr offeiriad gyda’r bobl oedd , pan offrymai neb aberth , gwas yr offeiriad a ddeuai pan fyddai y cig yn berwi , â chigwain dridant yn ei law ; Ac a’i trawai hi yn y badell , neu yn yr efyddyn , neu yn y crochan , neu yn y pair : yr hyn oll a gyfodai y gigwain , a gymerai yr offeiriad iddo . Felly y gwnaent yn Seilo i holl Israel y rhai oedd yn dyfod yno . Hefyd cyn arogl-losgi ohonynt y braster , y deuai gwas yr offeiriad hefyd , ac a ddywedai wrth y gŵr a fyddai yn aberthu , Dyro gig i’w rostio i’r offeiriad : canys ni fyn efe gennyt gig berw , ond amrwd . Ac os gŵr a ddywedai wrtho , Gan losgi llosgant yn awr y braster , ac yna cymer fel yr ewyllysio dy galon : yntau a ddywedai wrtho , Nage ; yn awr y rhoddi ef : ac onid e , mi a’i cymeraf trwy gryfder . Am hynny pechod y llanciau oedd fawr iawn gerbron yr Arglwydd : canys ffieiddiodd dynion offrwm yr Arglwydd . A Samuel oedd yn gweini o flaen yr Arglwydd , yn fachgen , wedi ymwregysu ag effod liain . A’i fam a wnâi iddo fantell fechan , ac a’i dygai iddo o flwyddyn i flwyddyn , pan ddelai hi i fyny gyda’i gŵr i aberthu yr aberth blynyddol . Ac Eli a fendithiodd Elcana a’i wraig , ac a ddywedodd , Rhodded yr Arglwydd i ti had o’r wraig hon , am y dymuniad a ddymunodd gan yr Arglwydd . A hwy a aethant i’w mangre eu hun . A’r Arglwydd a ymwelodd â Hanna ; a hi a feichiogodd , ac a esgorodd ar dri o feibion , a dwy o ferched : a’r bachgen Samuel a gynyddodd gerbron yr Arglwydd . Ac Eli oedd hen iawn ; ac efe a glybu yr hyn oll a wnaethai ei feibion ef i holl Israel , a’r modd y gorweddent gyda’r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod . Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy , Paham y gwnaethoch y pethau hyn ? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddrygair i chwi . Nage , fy meibion : canys nid da y gair yr ydwyf fi yn ei glywed ; eich bod chwi yn peri i bobl yr Arglwydd droseddu . Os gŵr a becha yn erbyn gŵr , y swyddogion a’i barnant ef : ond os yn erbyn yr Arglwydd y pecha gŵr , pwy a eiriol drosto ef ? Ond ni wrandawsant ar lais eu tad , am y mynnai yr Arglwydd eu lladd hwynt . A’r bachgen Samuel a gynyddodd , ac a aeth yn dda gan Dduw , a dynion hefyd . A daeth gŵr i Dduw at Eli , ac a ddywedodd wrtho , Fel hyn y dywed yr Arglwydd ; Onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dad , pan oeddynt yn yr Aifft yn nhŷ Pharo ? Gan ei ddewis ef hefyd o holl lwythau Israel yn offeiriad i mi , i offrymu ar fy allor , i losgi arogl-darth , i wisgo effod ger fy mron ? oni roddais hefyd i dŷ dy dad di holl ebyrth tanllyd meibion Israel ? Paham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd-offrwm , y rhai a orchmynnais yn fy nhrigfa , ac yr anrhydeddi dy feibion yn fwy na myfi , gan eich pesgi eich hunain â’r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel ? Am hynny medd Arglwydd Dduw Israel , Gan ddywedyd y dywedais , Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth : eithr yn awr medd yr Arglwydd , Pell fydd hynny oddi wrthyf fi ; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi , a’m dirmygwyr a ddirmygir . Wele y dyddiau yn dyfod , pan dorrwyf dy fraich di , a braich tŷ dy dad , fel na byddo hen ŵr yn dy dŷ di . A thi a gei weled gelyn yn fy nhrigfa , yn yr hyn oll a wna Duw o ddaioni i Israel : ac ni bydd hen ŵr yn dy dŷ di byth . A’r gŵr o’r eiddot , yr hwn ni thorraf ymaith oddi wrth fy allor , fydd i beri i’th lygaid ballu , ac i beri i’th galon ofidio : a holl gynnyrch dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr . A hyn fydd i ti yn arwydd , yr hwn a ddaw ar dy ddau fab , ar Hoffni a Phinees : Yn yr un dydd y byddant feirw ill dau . A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wna yn ôl fy nghalon a’m meddwl ; a mi a adeiladaf iddo ef dŷ sicr , ac efe a rodia gerbron fy eneiniog yn dragywydd . A bydd i bob un a adewir yn dy dŷ di ddyfod ac ymgrymu iddo ef am ddernyn o arian a thamaid o fara , a dywedyd , Gosod fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth , i gael bwyta tamaid o fara . A’r bachgen Samuel a wasanaethodd yr Arglwydd gerbron Eli . A gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau hynny ; nid oedd weledigaeth eglur . A’r pryd hwnnw , pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre , wedi i’w lygaid ef ddechrau tywyllu , fel na allai weled ; A chyn i lamp Duw ddiffoddi yn nheml yr Arglwydd , lle yr oedd arch Duw , a Samuel oedd wedi gorwedd i gysgu : Yna y galwodd yr Arglwydd ar Samuel . Dywedodd yntau , Wele fi . Ac efe a redodd at Eli , ac a ddywedodd , Wele fi ; canys gelwaist arnaf . Yntau a ddywedodd , Ni elwais i ; dychwel a gorwedd . Ac efe a aeth ac a orweddodd . A’r Arglwydd a alwodd eilwaith , Samuel . A Samuel a gyfododd , ac a aeth at Eli , ac a ddywedodd , Wele fi ; canys gelwaist arnaf . Yntau a ddywedodd , Na elwais , fy mab ; dychwel a gorwedd . Ac nid adwaenai Samuel eto yr Arglwydd , ac nid eglurasid iddo ef air yr Arglwydd eto . A’r Arglwydd a alwodd Samuel drachefn y drydedd waith . Ac efe a gyfododd , ac a aeth at Eli , ac a ddywedodd , Wele fi ; canys gelwaist arnaf . A deallodd Eli mai yr Arglwydd a alwasai ar y bachgen . Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel , Dos , gorwedd : ac os geilw efe arnat , dywed , Llefara , Arglwydd ; canys y mae dy was yn clywed . Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le . A daeth yr Arglwydd , ac a safodd , ac a alwodd megis o’r blaen , Samuel , Samuel . A dywedodd Samuel , Llefara ; canys y mae dy was yn clywed . A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel , Wele fi yn gwneuthur peth yn Israel , yr hwn pwy bynnag a’i clywo , fe a ferwina ei ddwy glust ef . Yn y dydd hwnnw y dygaf i ben yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef , gan ddechrau a diweddu ar unwaith . Mynegais hefyd iddo ef , y barnwn ei dŷ ef yn dragywydd , am yr anwiredd a ŵyr efe ; oherwydd i’w feibion haeddu iddynt felltith , ac nas gwaharddodd efe iddynt . Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli , na wneir iawn am anwiredd tŷ Eli ag aberth , nac â bwyd-offrwm byth . A Samuel a gysgodd hyd y bore , ac a agorodd ddrysau tŷ yr Arglwydd : a Samuel oedd yn ofni mynegi y weledigaeth i Eli . Ac Eli a alwodd ar Samuel , ac a ddywedodd , Samuel fy mab . Yntau a ddywedodd , Wele fi . Ac efe a ddywedodd , Beth yw y gair a lefarodd yr Arglwydd wrthyt ? na chela , atolwg , oddi wrthyf : fel hyn y gwnelo Duw i ti , ac fel hyn y chwanego , os celi oddi wrthyf ddim o’r holl bethau a lefarodd efe wrthyt . A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau , ac nis celodd ddim rhagddo . Dywedodd yntau , Yr Arglwydd yw efe : gwnaed a fyddo da yn ei olwg . A chynyddodd Samuel ; a’r Arglwydd oedd gydag ef , ac ni adawodd i un o’i eiriau ef syrthio i’r ddaear . A gwybu holl Israel , o Dan hyd Beerseba , mai proffwyd ffyddlon yr Arglwydd oedd Samuel . A’r Arglwydd a ymddangosodd drachefn yn Seilo : canys yr Arglwydd a ymeglurhaodd i Samuel yn Seilo trwy air yr Arglwydd . A Daeth gair Samuel i holl Israel . Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel : a gwersyllasant gerllaw Ebeneser : a’r Philistiaid a wersyllasant yn Affec . A’r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel : a’r gad a ymgyfarfu ; a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid : a hwy a laddasant o’r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr . A phan ddaeth y bobl i’r gwersyll , henuriaid Israel a ddywedasant , Paham y trawodd yr Arglwydd ni heddiw o flaen y Philistiaid ? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr Arglwydd , a deled i’n mysg ni ; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion . Felly y bobl a anfonodd i Seilo , ac a ddygasant oddi yno arch cyfamod Arglwydd y lluoedd , yr hwn sydd yn aros rhwng y ceriwbiaid : ac yno yr oedd dau fab Eli , Hoffni a Phinees , gydag arch cyfamod Duw . A phan ddaeth arch cyfamod yr Arglwydd i’r gwersyll , holl Israel a floeddiasant â bloedd fawr , fel y datseiniodd y ddaear . A phan glybu’r Philistiaid lais y floedd , hwy a ddywedasant , Pa beth yw llais y floedd fawr hon yng ngwersyll yr Hebreaid ? A gwybuant mai arch yr Arglwydd a ddaethai i’r gwersyll . A’r Philistiaid a ofnasant : oherwydd hwy a ddywedasant , Daeth Duw i’r gwersyll . Dywedasant hefyd , Gwae ni ! canys ni bu’r fath beth o flaen hyn . Gwae ni ! pwy a’n gwared ni o law y duwiau nerthol hyn ? Dyma y duwiau a drawsant yr Eifftiaid â’r holl blâu yn yr anialwch . Ymgryfhewch , a byddwch wŷr , O Philistiaid ; rhag i chwi wasanaethu’r Hebreaid , fel y gwasanaethasant hwy chwi : byddwch wŷr , ac ymleddwch . A’r Philistiaid a ymladdasant ; a lladdwyd Israel , a ffodd pawb i’w babell : a bu lladdfa fawr iawn ; canys syrthiodd o Israel ddeng mil ar hugain o wŷr traed . Ac arch Duw a ddaliwyd ; a dau fab Eli , Hoffni a Phinees , a fuant feirw . A gŵr o Benjamin a redodd o’r fyddin , ac a ddaeth i Seilo y diwrnod hwnnw , â’i ddillad wedi eu rhwygo , a phridd ar ei ben . A phan ddaeth efe , wele Eli yn eistedd ar eisteddfa gerllaw y ffordd , yn disgwyl : canys yr oedd ei galon ef yn ofni am arch Duw . A phan ddaeth y gŵr i’r ddinas , a mynegi hyn , yr holl ddinas a waeddodd . A phan glywodd Eli lais y waedd , efe a ddywedodd , Beth yw llais y cynnwrf yma ? A’r gŵr a ddaeth i mewn ar frys , ac a fynegodd i Eli . Ac Eli oedd fab tair blwydd ar bymtheg a phedwar ugain ; a phallasai ei lygaid ef , fel na allai efe weled . A’r gŵr a ddywedodd wrth Eli , Myfi sydd yn dyfod o’r fyddin , myfi hefyd a ffoais heddiw o’r fyddin . A dywedodd yntau , Pa beth a ddigwyddodd , fy mab ? A’r gennad a atebodd , ac a ddywedodd , Israel a ffodd o flaen y Philistiaid ; a bu hefyd laddfa fawr ymysg y bobl ; a’th ddau fab hefyd , Hoffni a Phinees , a fuant feirw , ac arch Duw a ddaliwyd . A phan grybwyllodd efe am arch Duw , yntau a syrthiodd oddi ar yr eisteddle yn wysg ei gefn gerllaw y porth ; a’i wddf a dorrodd , ac efe a fu farw : canys y gŵr oedd hen a thrwm . Ac efe a farnasai Israel ddeugain mlynedd . A’i waudd ef , gwraig Phinees , oedd feichiog , yn agos i esgor : a phan glybu sôn ddarfod dal arch Duw , a marw o’i chwegrwn a’i gŵr , hi a ymgrymodd , ac a glafychodd : canys ei gwewyr a ddaeth arni . Ac ynghylch y pryd y bu hi farw , y dywedodd y gwragedd oedd yn sefyll gyda hi , Nac ofna ; canys esgoraist ar fab Ond nid atebodd hi , ac nid ystyriodd . A hi a alwodd y bachgen Ichabod ; gan ddywedyd , Y gogoniant a ymadawodd o Israel ; ( am ddal arch Duw , ac am ei chwegrwn a’i gŵr . ) A hi a ddywedodd , Y gogoniant a ymadawodd o Israel ; canys arch Duw a ddaliwyd . Ar Philistiaid a gymerasant arch Duw , ac a’i dygasant hi o Ebeneser i Asdod . A’r Philistiaid a gymerasant arch Duw , ac a’i dygasant i mewn i dŷ Dagon , ac a’i gosodasant yn ymyl Dagon . A’r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth ; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb , gerbron arch yr Arglwydd . A hwy a gymerasant Dagon , ac a’i gosodasant eilwaith yn ei le . Codasant hefyd yn fore drannoeth ; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb , gerbron arch yr Arglwydd : a phen Dagon , a dwy gledr ei ddwylo , oedd wedi torri ar y trothwy ; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef . Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon , na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon , ar drothwy Dagon yn Asdod , hyd y dydd hwn . A thrwm fu llaw yr Arglwydd ar yr Asdodiaid ; ac efe a’u distrywiodd hwynt , ac a’u trawodd hwynt , sef Asdod a’i therfynau , â chlwyf y marchogion . A phan welodd gwŷr Asdod mai felly yr oedd , dywedasant , Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni : canys caled yw ei law ef arnom , ac ar Dagon ein duw . Am hynny yr anfonasant , ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid atynt ; ac a ddywedasant , Beth a wnawn ni i arch Duw Israel ? A hwy a atebasant , Dyger arch Duw Israel o amgylch i Gath . A hwy a ddygasant arch Duw Israel oddi amgylch yno . Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch , bu llaw yr Arglwydd yn erbyn y ddinas â dinistr mawr iawn : ac efe a drawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr , a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel leoedd . Am hynny yr anfonasant hwy arch Duw i Ecron . A phan ddaeth arch Duw i Ecron , yr Ecroniaid a waeddasant , gan ddywedyd , Dygasant atom ni o amgylch arch Duw Israel , i’n lladd ni a’n pobl . Am hynny yr anfonasant , ac y casglasant holl arglwyddi’r Philistiaid : ac a ddywedasant , Danfonwch ymaith arch Duw Israel , a dychweler hi adref ; fel na laddo hi ni a’n pobl : canys dinistr angheuol oedd trwy’r holl ddinas ; trom iawn oedd llaw Duw yno . A’r gwŷr , y rhai ni buant feirw , a drawyd â chlwyf y marchogion : a gwaedd y ddinas a ddyrchafodd i’r nefoedd . Abu arch yr Arglwydd yng ngwlad y Philistiaid saith o fisoedd . A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid , gan ddywedyd , Beth a wnawn ni i arch yr Arglwydd ? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref . Dywedasant hwythau , Os ydych ar ddanfon ymaith arch Duw Israel , nac anfonwch hi yn wag ; ond gan roddi rhoddwch iddo offrwm dros gamwedd : yna y’ch iacheir , ac y bydd hysbys i chwi paham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi . Yna y dywedasant hwythau , Beth fydd yr offrwm dros gamwedd a roddwn iddo ? A hwy a ddywedasant , Pump o ffolennau aur , a phump o lygod aur , yn ôl rhif arglwyddi’r Philistiaid : canys yr un pla oedd arnoch chwi oll , ac ar eich arglwyddi . Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau , a lluniau eich llygod sydd yn difwyno’r tir ; a rhoddwch ogoniant i Dduw Israel : ysgatfydd efe a ysgafnha ei law oddi arnoch , ac oddi ar eich duwiau , ac oddi ar eich tir . A phaham y caledwch chwi eich calonnau , megis y caledodd yr Eifftiaid a Pharo eu calon ? pan wnaeth efe yn rhyfeddol yn eu plith hwy , oni ollyngasant hwy hwynt i fyned ymaith ? Yn awr gan hynny gwnewch fen newydd , a chymerwch ddwy fuwch flith , y rhai nid aeth iau arnynt ; a deliwch y buchod dan y fen , a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl i dŷ : A chymerwch arch yr Arglwydd , a rhoddwch hi ar y fen ; a’r tlysau aur , y rhai a roddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd , a osodwch mewn cist wrth ei hystlys hi , a gollyngwch hi i fyned ymaith . Ac edrychwch , os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes ; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn : ac onid e , yna y cawn wybod nad ei law ef a’n trawodd ni ; ond mai damwain oedd hyn i ni . A’r gwŷr a wnaethant felly : ac a gymerasant ddwy fuwch flithion , ac a’u daliasant hwy dan y fen , ac a gaeasant eu lloi mewn tŷ : Ac a osodasant arch yr Arglwydd ar y fen , a’r gist â’r llygod aur , a lluniau eu ffolennau hwynt . A’r buchod a aethant ar hyd y ffordd union i ffordd Bethsemes ; ar hyd y briffordd yr aethant , dan gerdded a brefu , ac ni throesant tua’r llaw ddeau na thua’r aswy ; ac arglwyddi’r Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes . A thrigolion Bethsemes oedd yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn : ac a ddyrchafasant eu llygaid , ac a ganfuant yr arch ; ac a lawenychasant wrth ei gweled . A’r fen a ddaeth i faes Josua y Bethsemesiad , ac a safodd yno ; ac yno yr oedd maen mawr : a hwy a holltasant goed y fen , ac a offrymasant y buchod yn boethoffrwm i’r Arglwydd . A’r Lefiaid a ddisgynasant arch yr Arglwydd , a’r gist yr hon oedd gyda hi , yr hon yr oedd y tlysau aur ynddi , ac a’u gosodasant ar y maen mawr : a gwŷr Bethsemes a offrymasant boethoffrymau , ac a aberthasant ebyrth i’r Arglwydd y dydd hwnnw . A phum arglwydd y Philistiaid , pan welsant hynny , a ddychwelasant i Ecron y dydd hwnnw . A dyma’r ffolennau aur , y rhai a roddodd y Philistiaid yn offrwm dros gamwedd i’r Arglwydd ; dros Asdod un , dros Gasa un , dros Ascalon un , dros Gath un , dros Ecron un : A’r llygod aur , yn ôl rhifedi holl ddinasoedd y Philistiaid , yn perthynu i’r pum arglwydd , yn gystal y dinasoedd caerog , a’r trefi heb gaerau , hyd y maen mawr Abel , yr hwn y gosodasant arno arch yr Arglwydd ; yr hwn sydd hyd y dydd hwn ym maes Josua y Bethsemesiad . Ac efe a drawodd wŷr Bethsemes , am iddynt edrych yn arch yr Arglwydd , ie , trawodd o’r bobl ddengwr a thrigain a deng mil a deugain o wŷr . A’r bobl a alarasant , am i’r Arglwydd daro’r bobl â lladdfa fawr . A gwŷr Bethsemes a ddywedasant , Pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr Arglwydd Dduw sanctaidd hwn ? ac at bwy yr âi efe oddi wrthym ni ? A hwy a anfonasant genhadau at drigolion Ciriath-jearim , gan ddywedyd , Y Philistiaid a ddygasant adref arch yr Arglwydd ; deuwch i waered , a chyrchwch hi i fyny atoch chwi . A gwŷr Ciriath-jearim a ddaethant , ac a gyrchasant i fyny arch yr Arglwydd , ac a’i dygasant hi i dŷ Abinadab , yn y bryn , ac a sancteiddiasant Eleasar ei fab ef i gadw arch yr Arglwydd . Ac o’r dydd y trigodd yr arch yn Ciriath-jearim , y bu ddyddiau lawer ; nid amgen nag ugain mlynedd : a holl dŷ Israel a alarasant ar ôl yr Arglwydd . A Samuel a lefarodd wrth holl dŷ Israel , gan ddywedyd , Os dychwelwch chwi at yr Arglwydd â’ch holl galon , bwriwch ymaith y duwiau dieithr o’ch mysg , ac Astaroth , a pharatowch eich calon at yr Arglwydd , a gwasanaethwch ef yn unig ; ac efe a’ch gwared chwi o law y Philistiaid . Yna meibion Israel a fwriasant ymaith Baalim ac Astaroth , a’r Arglwydd yn unig a wasanaethasant . A dywedodd Samuel , Cesglwch holl Israel i Mispa , a mi a weddïaf drosoch chwi at yr Arglwydd . A hwy a ymgasglasant i Mispa , ac a dynasant ddwfr , ac a’i tywalltasant gerbron yr Arglwydd , ac a ymprydiasant y diwrnod hwnnw , ac a ddywedasant yno , Pechasom yn erbyn yr Arglwydd . A Samuel a farnodd feibion Israel ym Mispa . A phan glybu y Philistiaid fod meibion Israel wedi ymgasglu i Mispa , arglwyddi’r Philistiaid a aethant i fyny yn erbyn Israel : a meibion Israel a glywsant , ac a ofnasant rhag y Philistiaid . A meibion Israel a ddywedasant wrth Samuel , Na thaw di â gweiddi drosom at yr Arglwydd ein Duw , ar iddo ef ein gwared ni o law y Philistiaid . A Samuel a gymerth laethoen , ac a’i hoffrymodd ef i gyd yn boethoffrwm i’r Arglwydd : a Samuel a waeddodd ar yr Arglwydd dros Israel ; a’r Arglwydd a’i gwrandawodd ef . A phan oedd Samuel yn offrymu’r poethoffrwm , y Philistiaid a nesasant i ryfel yn erbyn Israel : a’r Arglwydd a daranodd â tharanau mawr yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnnw , ac a’u drylliodd hwynt , a lladdwyd hwynt o flaen Israel . A gwŷr Israel a aethant o Mispa , ac a erlidiasant y Philistiaid , ac a’u trawsant hyd oni ddaethant dan Bethcar . A chymerodd Samuel faen , ac a’i gosododd rhwng Mispa a Sen , ac a alwodd ei enw ef Ebeneser ; ac a ddywedodd , Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd nyni . Felly y darostyngwyd y Philistiaid , ac ni chwanegasant mwyach ddyfod i derfyn Israel : a llaw yr Arglwydd a fu yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Samuel . A’r dinasoedd , y rhai a ddygasai y Philistiaid oddi ar Israel , a roddwyd adref i Israel , o Ecron hyd Gath ; ac Israel a ryddhaodd eu terfynau o law y Philistiaid : ac yr oedd heddwch rhwng Israel a’r Amoriaid . A Samuel a farnodd Israel holl ddyddiau ei fywyd . Aeth hefyd o flwyddyn i flwyddyn oddi amgylch i Bethel , a Gilgal , a Mispa , ac a farnodd Israel yn yr holl leoedd hynny . A’i ddychwelfa ydoedd i Rama ; canys yno yr oedd ei dŷ ef : yno hefyd y barnai efe Israel ; ac yno yr adeiladodd efe allor i’r Arglwydd . Ac wedi heneiddio Samuel , efe a osododd ei feibion yn farnwyr ar Israel . Ac enw ei fab cyntaf-anedig ef oedd Joel ; ac enw yr ail , Abeia : y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba . A’i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef , eithr troesant ar ôl cybydd-dra , a chymerasant obrwy , a gwyrasant farn . Yna holl henuriaid Israel a ymgasglasant , ac a ddaethant at Samuel i Rama , Ac a ddywedasant wrtho ef , Wele , ti a heneiddiaist , a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di : yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu , megis yr holl genhedloedd . A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel , pan ddywedasant , Dyro i ni frenin i’n barnu : a Samuel a weddïodd ar yr Arglwydd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel , Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt : canys nid ti y maent yn ei wrthod , ond myfi a wrthodasant , rhag i mi deyrnasu arnynt . Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethant , o’r dydd y dygais hwynt o’r Aifft hyd y dydd hwn , ac fel y gwrthodasant fi , ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr ; felly y gwnânt hwy hefyd i ti . Yn awr gan hynny gwrando ar eu llais hwynt : eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt , a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt . A Samuel a fynegodd holl eiriau yr Arglwydd wrth y bobl , y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo . Ac efe a ddywedodd , Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi : Efe a gymer eich meibion , ac a’u gesyd iddo yn ei gerbydau , ac yn wŷr meirch iddo , ac i redeg o flaen ei gerbydau ef : Ac a’u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd , ac yn dywysogion deg a deugain , ac i aredig ei âr , ac i fedi ei gynhaeaf , ac i wneuthur arfau ei ryfel , a pheiriannau ei gerbydau . A’ch merched a gymer efe yn apothecaresau , yn gogesau hefyd , ac yn bobyddesau . Ac efe a gymer eich meysydd , a’ch gwinllannoedd , a’ch olewlannoedd gorau , ac a’u dyry i’w weision . Eich hadau hefyd a’ch gwinllannoedd a ddegyma efe , ac a’u dyry i’w ystafellyddion ac i’w weision . Eich gweision hefyd , a’ch morynion , eich gwŷr ieuainc gorau hefyd , a’ch asynnod , a gymer efe , ac a’u gesyd i’w waith . Eich defaid hefyd a ddegyma efe : chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef . A’r dydd hwnnw y gwaeddwch , rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi : ac ni wrendy yr Arglwydd arnoch yn y dydd hwnnw . Er hynny y bobl a wrthodasant wrando ar lais Samuel ; ac a ddywedasant , Nage , eithr brenin fydd arnom ni : Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd ; a’n brenin a’n barna ni , efe a â allan hefyd o’n blaen ni , ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni . A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl , ac a’u hadroddodd hwynt lle y clybu yr Arglwydd . A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel , Gwrando ar eu llais hwynt , a gosod frenin arnynt . A dywedodd Samuel wrth wŷr Israel , Ewch bob un i’w ddinas ei hun . Ac yr oedd gŵr o Benjamin , a’i enw Cis , mab Abiel , mab Seror , mab Bechorath , mab Affeia , mab i ŵr o Jemini , yn gadarn o nerth . Ac iddo ef yr oedd mab , a’i enw Saul , yn ŵr ieuanc , dewisol a glân : ac nid oedd neb o feibion Israel lanach nag ef : o’i ysgwydd i fyny yr oedd yn uwch na’r holl bobl . Ac asynnod Cis , tad Saul , a gyfrgollasant : a dywedodd Cis wrth Saul ei fab , Cymer yn awr un o’r llanciau gyda thi , a chyfod , dos , cais yr asynnod . Ac efe a aeth trwy fynydd Effraim , ac a dramwyodd trwy wlad Salisa , ac nis cawsant hwynt : yna y tramwyasant trwy wlad Salim , ac nis cawsant hwynt : ac efe a aeth trwy wlad Jemini , ond nis cawsant hwynt . Pan ddaethant i wlad Suff , y dywedodd Saul wrth ei lanc oedd gydag ef , Tyred , a dychwelwn ; rhag i’m tad beidio â’r asynnod , a gofalu amdanom ni . Dywedodd yntau wrtho ef , Wele , yn awr y mae yn y ddinas hon ŵr i Dduw , a’r gŵr sydd anrhydeddus ; yr hyn oll a ddywedo efe , gan ddyfod a ddaw : awn yno yn awr ; nid hwyrach y mynega efe i ni y ffordd y mae i ni fyned iddi . Yna y dywedodd Saul wrth ei lanc , Wele , od awn ni , pa beth a ddygwn ni i’r gŵr ? canys y bara a ddarfu yn ein llestri ni , a gwobr arall nid oes i’w ddwyn i ŵr Duw : beth sydd gennym ? A’r llanc a atebodd eilwaith i Saul , ac a ddywedodd , Wele , cafwyd gyda mi bedwaredd ran sicl o arian : mi a roddaf hynny i ŵr Duw , er mynegi i ni ein ffordd . ( Gynt yn Israel , fel hyn y dywedai gŵr wrth fyned i ymgynghori â Duw ; Deuwch , ac awn hyd at y gweledydd : canys y Proffwyd heddiw , a elwid gynt yn Weledydd . ) Yna y dywedodd Saul wrth ei lanc , Da y dywedi ; tyred , awn . Felly yr aethant i’r ddinas yr oedd gŵr Duw ynddi . Ac fel yr oeddynt yn myned i riw y ddinas , hwy a gawsant lancesau yn dyfod allan i dynnu dwfr ; ac a ddywedasant wrthynt , A yw y gweledydd yma ? Hwythau a’u hatebasant hwynt , ac a ddywedasant , Ydyw ; wele efe o’th flaen ; brysia yr awr hon ; canys heddiw y daeth efe i’r ddinas ; oherwydd aberth sydd heddiw gan y bobl yn yr uchelfa . Pan ddeloch gyntaf i’r ddinas , chwi a’i cewch ef , cyn ei fyned i fyny i’r uchelfa i fwyta ; canys ni fwyty y bobl hyd oni ddelo efe , oherwydd efe a fendiga yr aberth ; ar ôl hynny y bwyty y rhai a wahoddwyd : am hynny ewch i fyny ; canys ynghylch y pryd hwn y cewch ef . A hwy a aethant i fyny i’r ddinas ; a phan ddaethant i ganol y ddinas , wele Samuel yn dyfod i’w cyfarfod , i fyned i fyny i’r uchelfa . A’r Arglwydd a fynegasai yng nghlust Samuel , ddiwrnod cyn dyfod Saul , gan ddywedyd . Ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf atat ti ŵr o wlad Benjamin ; a thi a’i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel , ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid : canys edrychais ar fy mhobl ; oherwydd daeth eu gwaedd ataf . A phan ganfu Samuel Saul , yr Arglwydd a ddywedodd wrtho ef , Wele y gŵr am yr hwn y dywedais wrthyt : hwn a lywodraetha ar fy mhobl . Yna Saul a nesaodd at Samuel yng nghanol y porth , ac a ddywedodd , Mynega i mi , atolwg , pa le yma y mae tŷ y gweledydd . A Samuel a atebodd Saul , ac a ddywedodd , Myfi yw y gweledydd : dos i fyny o’m blaen i’r uchelfa ; canys bwytewch gyda myfi heddiw : a mi a’th ollyngaf y bore , ac a fynegaf i ti yr hyn oll y sydd yn dy galon . Ac am yr asynnod a gyfrgollasant er ys tridiau , na ofala amdanynt ; canys cafwyd hwynt . Ac i bwy y mae holl bethau dymunol Israel ? onid i ti , ac i holl dŷ dy dad ? A Saul a atebodd ac a ddywedodd , Onid mab Jemini ydwyf fi , o’r lleiaf o lwythau Israel ? a’m teulu sydd leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin ? a phaham y dywedi wrthyf y modd hyn ? A Samuel a gymerth Saul a’i lanc , ac a’u dug hwynt i’r ystafell , ac a roddodd iddynt le o flaen y gwahoddedigion ; a hwy oeddynt ynghylch dengwr ar hugain . A Samuel a ddywedodd wrth y cog , Moes y rhan a roddais atat ti , am yr hon y dywedais wrthyt , Cadw hon gyda thi . A’r cog a gyfododd yr ysgwyddog , a’r hyn oedd arni , ac a’i gosododd gerbron Saul . A Samuel a ddywedodd , Wele yr hyn a adawyd ; gosod ger dy fron , a bwyta : canys hyd y pryd hwn y cadwyd ef i ti , er pan ddywedais , Y bobl a wahoddais i . A bwytaodd Saul gyda Samuel y dydd hwnnw . A phan ddisgynasant o’r uchelfa i’r ddinas , Samuel a ymddiddanodd â Saul ar ben y tŷ . A hwy a gyfodasant yn fore : ac ynghylch codiad y wawr , galwodd Samuel ar Saul i ben y tŷ , gan ddywedyd , Cyfod , fel y’th hebryngwyf ymaith . A Saul a gyfododd , ac efe a Samuel a aethant ill dau allan . Ac fel yr oeddynt yn myned i waered i gwr eithaf y ddinas , Samuel a ddywedodd wrth Saul , Dywed wrth y llanc am fyned o’n blaen ni ; ( felly yr aeth efe ; ) ond saf di yr awr hon , a mynegaf i ti air Duw . Yna Samuel a gymerodd ffiolaid o olew , ac a’i tywalltodd ar ei ben ef , ac a’i cusanodd ef ; ac a ddywedodd , Onid yr Arglwydd a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth ? Pan elych di heddiw oddi wrthyf , yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel , yn nherfyn Benjamin , yn Selsa : a hwy a ddywedant wrthyt , Cafwyd yr asynnod yr aethost i’w ceisio : ac wele , dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod , a gofalu y mae amdanoch chwi , gan ddywedyd , Beth a wnaf am fy mab ? Yna yr ei di ymhellach oddi yno , ac y deui hyd wastadedd Tabor : ac yno y’th gyferfydd triwyr yn myned i fyny at Dduw i Bethel ; un yn dwyn tri o fynnod , ac un yn dwyn tair torth o fara , ac un yn dwyn costrelaid o win . A hwy a gyfarchant well i ti , ac a roddant i ti ddwy dorth o fara ; y rhai a gymeri o’u llaw hwynt . Ar ôl hynny y deui i fryn Duw , yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid : a phan ddelych yno i’r ddinas , ti a gyfarfyddi â thyrfa o broffwydi yn disgyn o’r uchelfa , ac o’u blaen hwynt nabl , a thympan , a phibell , a thelyn ; a hwythau yn proffwydo . Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaw arnat ti ; a thi a broffwydi gyda hwynt , ac a droir yn ŵr arall . A phan ddelo yr argoelion hyn i ti , gwna fel y byddo yr achos : canys Duw sydd gyda thi . A dos i waered o’m blaen i Gilgal : ac wele , mi a ddeuaf i waered atat ti , i offrymu offrymau poeth , ac i aberthu ebyrth hedd : aros amdanaf saith niwrnod , hyd oni ddelwyf atat , a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych . A phan drodd efe ei gefn i fyned oddi wrth Samuel , Duw a roddodd iddo galon arall : a’r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw i ben . A phan ddaethant yno i’r bryn , wele fintai o broffwydi yn ei gyfarfod ef : ac ysbryd Duw a ddaeth arno yntau , ac efe a broffwydodd yn eu mysg hwynt . A phawb a’r a’i hadwaenai ef o’r blaen a edrychasant ; ac wele efe gyda’r proffwydi yn proffwydo . Yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd , Beth yw hyn a ddaeth i fab Cis ? A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi ? Ac un oddi yno a atebodd , ac a ddywedodd , Eto pwy yw eu tad hwy ? Am hynny yr aeth yn ddihareb , A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi ? Ac wedi darfod iddo broffwydo , efe a ddaeth i’r uchelfa . Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef , ac wrth ei lanc ef , I ba le yr aethoch ? Ac efe a ddywedodd , I geisio’r asynnod : a phan welsom nas ceid , ni a ddaethom at Samuel . Ac ewythr Saul a ddywedodd , Mynega , atolwg , i mi , beth a ddywedodd Samuel wrthych chwi . A Saul a ddywedodd wrth ei ewythr , Gan fynegi mynegodd i ni fod yr asynnod wedi eu cael . Ond am chwedl y frenhiniaeth , yr hwn a ddywedasai Samuel , nid ynganodd efe wrtho . A Samuel a alwodd y bobl ynghyd at yr Arglwydd i Mispa ; Ac a ddywedodd wrth feibion Israel , Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel ; Myfi a ddygais i fyny Israel o’r Aifft , ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid , ac o law yr holl deyrnasoedd , a’r rhai a’ch gorthryment chwi . A chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw , yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd , a’ch helbul ; ac a ddywedasoch wrtho ef , Nid felly ; eithr gosod arnom ni frenin . Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr Arglwydd wrth eich llwythau , ac wrth eich miloedd . A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nesáu : a daliwyd llwyth Benjamin . Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin nesáu yn ôl eu teuluoedd , daliwyd teulu Matri ; a Saul mab Cis a ddaliwyd : a phan geisiasant ef , nis ceid ef . Am hynny y gofynasant eto i’r Arglwydd , a ddeuai y gŵr yno eto . A’r Arglwydd a ddywedodd , Wele efe yn ymguddio ymhlith y dodrefn . A hwy a redasant , ac a’i cyrchasant ef oddi yno . A phan safodd yng nghanol y bobl , yr oedd efe o’i ysgwydd i fyny yn uwch na’r holl bobl . A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl . A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr Arglwydd , nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl ? A’r holl bobl a floeddiasant , ac a ddywedasant , Byw fyddo’r brenin . Yna Samuel a draethodd gyfraith y deyrnas wrth y bobl , ac a’i hysgrifennodd mewn llyfr , ac a’i gosododd gerbron yr Arglwydd . A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl , bob un i’w dŷ . A Saul hefyd a aeth i’w dŷ ei hun i Gibea ; a byddin o’r rhai y cyffyrddasai Duw â’u calon , a aeth gydag ef . Ond meibion Belial a ddywedasant , Pa fodd y gwared hwn ni ? A hwy a’i dirmygasant ef , ac ni ddygasant anrheg iddo ef . Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn . Yna Nahas yr Ammoniad a ddaeth i fyny , ac a wersyllodd yn erbyn Jabes Gilead : a holl wŷr Jabes a ddywedasant wrth Nahas , Gwna gyfamod â ni , ac ni a’th wasanaethwn di . A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt , Dan yr amod hyn y cyfamodaf â chwi ; i mi gael tynnu pob llygad deau i chwi , fel y gosodwyf y gwaradwydd hwn ar holl Israel . A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho , Caniatâ i ni saith niwrnod , fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel : ac oni bydd a’n gwaredo , ni a ddeuwn allan atat ti . A’r cenhadau a ddaethant i Gibea Saul , ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl . A’r holl bobl a ddyrchafasant eu llef , ac a wylasant . Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o’r maes . A dywedodd Saul , Beth sydd yn peri i’r bobl wylo ? Yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Jabes . Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Saul , pan glybu efe y geiriau hynny ; a’i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr . Ac efe a gymerth bâr o ychen , ac a’u drylliodd , ac a’u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau ; gan ddywedyd , Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel , fel hyn y gwneir i’w wartheg ef . Ac ofn yr Arglwydd a syrthiodd ar y bobl , a hwy a ddaethant allan yn unfryd . A phan gyfrifodd efe hwynt yn Besec , meibion Israel oedd dri chan mil , a gwŷr Jwda yn ddeng mil ar hugain . A hwy a ddywedasant wrth y cenhadau a ddaethai , Fel hyn y dywedwch wrth wŷr Jabes Gilead ; Yfory , erbyn gwresogi yr haul , bydd i chwi ymwared . A’r cenhadau a ddaethant ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes ; a hwythau a lawenychasant . Am hynny gwŷr Jabes a ddywedasant , Yfory y deuwn allan atoch chwi ; ac y gwnewch i ni yr hyn oll a weloch yn dda . A bu drannoeth i Saul osod y bobl yn dair byddin ; a hwy a ddaethant i ganol y gwersyll yn yr wyliadwriaeth fore , ac a laddasant yr Ammoniaid nes gwresogi o’r dydd : a’r gweddillion a wasgarwyd , fel na thrigodd ohonynt ddau ynghyd . A dywedodd y bobl wrth Samuel , Pwy yw yr hwn a ddywedodd , A deyrnasa Saul arnom ni ? moeswch y gwŷr hynny , fel y rhoddom hwynt i farwolaeth . A Saul a ddywedodd , Ni roddir neb i farwolaeth heddiw : canys heddiw , y gwnaeth yr Arglwydd ymwared yn Israel . Yna Samuel a ddywedodd wrth y bobl , Deuwch , fel yr elom i Gilgal , ac yr adnewyddom y frenhiniaeth yno . A’r holl bobl a aethant i Gilgal , ac yno y gwnaethant Saul yn frenin , gerbron yr Arglwydd yn Gilgal : a hwy a aberthasant yno ebyrth hedd gerbron yr Arglwydd . A Saul a lawenychodd yno , a holl wŷr Israel , yn ddirfawr . A Samuel a ddywedodd wrth holl Israel , Wele , gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthyf , a gosodais frenin arnoch . Ac yr awr hon , wele y brenin yn rhodio o’ch blaen chwi : a minnau a heneiddiais , ac a benwynnais ; ac wele fy meibion hwythau gyda chwi ; a minnau a rodiais o’ch blaen chwi o’m mebyd hyd y dydd hwn . Wele fi ; tystiolaethwch i’m herbyn gerbron yr Arglwydd , a cherbron ei eneiniog : ych pwy a gymerais ? neu asyn pwy a gymerais ? neu pwy a dwyllais ? neu pwy a orthrymais i ? neu o law pwy y cymerais wobr , i ddallu fy llygaid ag ef ? a mi a’i talaf i chwi . A hwy a ddywedasant , Ni thwyllaist ni , ni orthrymaist ni chwaith , ac ni chymeraist ddim o law neb . Dywedodd yntau wrthynt , Yr Arglwydd sydd dyst yn eich erbyn chwi , ei eneiniog ef hefyd sydd dyst y dydd hwn , na chawsoch ddim yn fy llaw i . A’r bobl a ddywedasant , Tyst ydyw . A Samuel a ddywedodd wrth y bobl , Yr Arglwydd yw yr hwn a fawrhaodd Moses ac Aaron , a’r hwn a ddug i fyny eich tadau chwi o dir yr Aifft . Yn awr gan hynny sefwch , fel yr ymresymwyf â chwi gerbron yr Arglwydd , am holl gyfiawnderau yr Arglwydd , y rhai a wnaeth efe i chwi ac i’ch tadau . Wedi i Jacob ddyfod i’r Aifft , a gweiddi o’ch tadau chwi ar yr Arglwydd , yna yr Arglwydd a anfonodd Moses ac Aaron : a hwy a ddygasant eich tadau chwi o’r Aifft , ac a’u cyfleasant hwy yn y lle hwn . A phan angofiasant yr Arglwydd eu Duw , efe a’u gwerthodd hwynt i law Sisera , tywysog milwriaeth Hasor , ac i law y Philistiaid , ac i law brenin Moab ; a hwy a ymladdasant i’w herbyn hwynt . A hwy a waeddasant ar yr Arglwydd , ac a ddywedasant , Pechasom , am i ni wrthod yr Arglwydd , a gwasanaethu Baalim ac Astaroth : er hynny gwared ni yr awr hon o law ein gelynion , a nyni a’th wasanaethwn di . A’r Arglwydd a anfonodd Jerwbbaal , a Bedan , a Jefftha , a Samuel , ac a’ch gwaredodd chwi o law eich gelynion o amgylch , a chwi a breswyliasoch yn ddiogel . A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn , dywedasoch wrthyf , Nage ; ond brenin a deyrnasa arnom ni ; a’r Arglwydd eich Duw yn frenin i chwi . Ac yn awr , wele y brenin a ddewisasoch chwi , a’r hwn a ddymunasoch : ac wele , yr Arglwydd a roddes frenin arnoch chwi . Os ofnwch chwi yr Arglwydd , a’i wasanaethu ef , a gwrando ar ei lais , heb anufuddhau gair yr Arglwydd ; yna y byddwch chwi , a’r brenin hefyd a deyrnasa arnoch , ar ôl yr Arglwydd eich Duw . Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr Arglwydd , eithr anufuddhau gair yr Arglwydd ; yna y bydd llaw yr Arglwydd yn eich erbyn chwi , fel yn erbyn eich tadau . Sefwch gan hynny yn awr , a gwelwch y peth mawr hyn a wna yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi . Onid cynhaeaf gwenith yw heddiw ? Galwaf ar yr Arglwydd ; ac efe a ddyry daranau , a glaw : fel y gwybyddoch ac y gweloch , mai mawr yw eich drygioni chwi yr hwn a wnaethoch yng ngolwg yr Arglwydd , yn gofyn i chwi frenin . Felly Samuel a alwodd ar yr Arglwydd ; a’r Arglwydd a roddodd daranau a glaw y dydd hwnnw ; a’r holl bobl a ofnodd yr Arglwydd a Samuel yn ddirfawr . A’r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel , Gweddïa dros dy weision ar yr Arglwydd dy Dduw , fel na byddom feirw ; canys chwanegasom ddrygioni ar ein holl bechodau , wrth geisio i ni frenin . A dywedodd Samuel wrth y bobl , Nac ofnwch ; chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn : eto na chiliwch oddi ar ôl yr Arglwydd , ond gwasanaethwch yr Arglwydd â’ch holl galon ; Ac na chiliwch : canys felly yr aech ar ôl oferedd , y rhai ni lesânt , ac ni’ch gwaredant ; canys ofer ydynt hwy . Canys ni wrthyd yr Arglwydd ei bobl , er mwyn ei enw mawr : oherwydd rhyngodd bodd i’r Arglwydd eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun . A minnau , na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr Arglwydd , trwy beidio â gweddïo drosoch : eithr dysgaf i chwi y ffordd dda ac uniawn . Yn unig ofnwch yr Arglwydd , a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd â’ch holl galon : canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch . Ond os dilynwch ddrygioni , chwi a’ch brenin a ddifethir . Saul a deyrnasodd un flwyddyn ; ac wedi iddo deyrnasu ddwy flynedd ar Israel , Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel ; dwy fil oedd gyda Saul ym Michmas ac ym mynydd Bethel , a mil oedd gyda Jonathan yn Gibea Benjamin : a’r bobl eraill a anfonodd efe bawb i’w babell ei hun . A Jonathan a drawodd sefyllfa y Philistiaid , yr hon oedd yn Geba : a chlybu y Philistiaid hynny . A Saul a ganodd mewn utgorn trwy’r holl dir , gan ddywedyd , Clywed yr Hebreaid . A holl Israel a glywsant ddywedyd daro o Saul sefyllfa y Philistiaid , a bod Israel yn ffiaidd gan y Philistiaid : a’r bobl a ymgasglodd ar ôl Saul i Gilgal . A’r Philistiaid a ymgynullasant i ymladd ag Israel , deng mil ar hugain o gerbydau , a chwe mil o wŷr meirch , a phobl eraill cyn amled â’r tywod sydd ar fin y môr . A hwy a ddaethant i fyny , ac a wersyllasant ym Michmas , o du y dwyrain i Beth-afen . Pan welodd gwŷr Israel fod yn gyfyng arnynt , ( canys gwasgasid ar y bobl , ) yna y bobl a ymguddiasant mewn ogofeydd , ac mewn drysni , ac mewn creigiau , ac mewn tyrau , ac mewn pydewau . A rhai o’r Hebreaid a aethant dros yr Iorddonen , i dir Gad a Gilead : a Saul oedd eto yn Gilgal , a’r holl bobl a aethant ar ei ôl ef dan grynu . Ac efe a arhosodd saith niwrnod , hyd yr amser gosodedig a nodasai Samuel . Ond ni ddaeth Samuel i Gilgal ; a’r bobl a ymwasgarodd oddi wrtho ef . A Saul a ddywedodd , Dygwch ataf fi boethoffrwm , ac offrymau hedd . Ac efe a offrymodd y poethoffrwm . Ac wedi darfod iddo offrymu’r poethoffrwm , wele , Samuel a ddaeth : a Saul a aeth allan i’w gyfarfod ef , ac i gyfarch gwell iddo . A dywedodd Samuel , Beth a wnaethost ti ? A Saul a ddywedodd , Oherwydd gweled ohonof i’r bobl ymwasgaru oddi wrthyf , ac na ddaethost tithau o fewn y dyddiau gosodedig , ac i’r Philistiaid ymgasglu i Michmas ; Am hynny y dywedais , Y Philistiaid yn awr a ddeuant i waered ataf fi i Gilgal , ac ni weddïais gerbron yr Arglwydd : am hynny yr anturiais i , ac yr offrymais boethoffrwm . A Samuel a ddywedodd wrth Saul , Ynfyd y gwnaethost : ni chedwaist orchymyn yr Arglwydd dy Dduw , yr hwn a orchmynnodd efe i ti : canys yr Arglwydd yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd . Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di : yr Arglwydd a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun : yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl ; oherwydd na chedwaist ti yr hyn a orchmynnodd yr Arglwydd i ti . A Samuel a gyfododd ac a aeth i fyny o Gilgal i Gibea Benjamin : a chyfrifodd Saul y bobl a gafwyd gydag ef , ynghylch chwe chant o wŷr . A Saul a Jonathan ei fab , a’r bobl a gafwyd gyda hwynt , oedd yn aros yn Gibea Benjamin : a’r Philistiaid a wersyllasant ym Michmas . A daeth allan o wersyll y Philistiaid anrheithwyr , yn dair byddin : un fyddin a drodd tua ffordd Offra , tua gwlad Sual ; A’r fyddin arall a drodd tua ffordd Beth-horon : a’r drydedd fyddin a drodd tua ffordd y terfyn sydd yn edrych tua dyffryn Seboim , tua’r anialwch . Ac ni cheid gof trwy holl wlad Israel : canys dywedasai y Philistiaid , Rhag gwneuthur o’r Hebreaid gleddyfau neu waywffyn . Ond holl Israel a aent i waered at y Philistiaid , i flaenllymu bob un ei swch , a’i gwlltwr , a’i fwyell , a’i gaib . Ond yr oedd llifddur i wneuthur min ar y ceibiau , ac ar y cylltyrau , ac ar y picffyrch , ac ar y bwyeill , ac i flaenllymu’r symbylau . Felly yn nydd y rhyfel ni chaed na chleddyf na gwaywffon yn llaw yr un o’r bobl oedd gyda Saul a Jonathan , ond a gaed gyda Saul a Jonathan ei fab . A sefyllfa’r Philistiaid a aeth allan i fwlch Michmas . A bu ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef , Tyred , ac awn drosodd i amddiffynfa’r Philistiaid , yr hon sydd o’r tu hwnt : ond ni fynegodd efe i’w dad . A Saul a arhosodd yng nghwr Gibea , dan bren pomgranad , yr hwn oedd ym Migron : a’r bobl oedd gydag ef oedd ynghylch chwe channwr ; Ac Ahia mab Ahitub , brawd Ichabod , mab Phinees , mab Eli , offeiriad yr Arglwydd yn Seilo , oedd yn gwisgo effod . Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith . A rhwng y bylchau , lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa’r Philistiaid , yr oedd craig serth o’r naill du i’r bwlch , a chraig serth o’r tu arall i’r bwlch ; ac enw y naill oedd Boses , ac enw y llall Sene . A safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas , a’r llall oddi wrth y deau ar gyfer Gibea . A dywedodd Jonathan wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef , Tyred , ac awn drosodd i amddiffynfa’r rhai dienwaededig hyn ; nid hwyrach y gweithia yr Arglwydd gyda ni : canys nid oes rwystr i’r Arglwydd waredu trwy lawer neu trwy ychydig . A’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef a ddywedodd wrtho , Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon : cerdda rhagot ; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon . Yna y dywedodd Jonathan , Wele , ni a awn trosodd at y gwŷr hyn , ac a ymddangoswn iddynt . Os dywedant fel hyn wrthym , Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi ; yna y safwn yn ein lle , ac nid awn i fyny atynt hwy . Ond os fel hyn y dywedant , Deuwch i fyny atom ni ; yna yr awn i fyny : canys yr Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni ; a hyn fydd yn argoel i ni . A hwy a ymddangosasant ill dau i amddiffynfa’r Philistiaid . A’r Philistiaid a ddywedasant , Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o’r tyllau y llechasant ynddynt . A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan , a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau , ac a ddywedasant , Deuwch i fyny atom ni , ac ni a ddangoswn beth i chwi . A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau , Tyred i fyny ar fy ôl : canys yr Arglwydd a’u rhoddes hwynt yn llaw Israel . A Jonathan a ddringodd i fyny ar ei ddwylo , ac ar ei draed ; a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl . A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan : ei yswain hefyd oedd yn lladd ar ei ôl ef . A’r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau , oedd ynghylch ugeinwr , megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ych o dir . A bu fraw yn y gwersyll , yn y maes , ac ymysg yr holl bobl : yr amddiffynfa a’r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant : y ddaear hefyd a grynodd ; a bu dychryn Duw . A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant ; ac wele y lliaws yn ymwasgaru , ac yn myned dan ymguro . Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef , Cyfrifwch yn awr , ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni . A phan gyfrifasant , wele , Jonathan a chludydd ei arfau nid oeddynt yno . A Saul a ddywedodd wrth Ahia , Dwg yma arch Duw . ( Canys yr oedd arch Duw y pryd hynny gyda meibion Israel . ) A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan â’r offeiriad , y terfysg , yr hwn oedd yng ngwersyll y Philistiaid , gan fyned a aeth , ac a anghwanegodd . A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad , Tyn atat dy law . A Saul a’r holl bobl oedd gydag ef a ymgynullasant , ac a ddaethant i’r rhyfel : ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf ; a dinistr mawr iawn oedd yno . Yr Hebreaid hefyd , y rhai oedd gyda’r Philistiaid o’r blaen , y rhai a aethant i fyny gyda hwynt i’r gwersyll o’r wlad oddi amgylch , hwythau hefyd a droesant i fod gyda’r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan . A holl wŷr Israel , y rhai oedd yn llechu ym mynydd Effraim , a glywsant ffoi o’r Philistiaid ; hwythau hefyd a’u herlidiasant hwy o’u hôl yn y rhyfel . Felly yr achubodd yr Arglwydd Israel y dydd hwnnw ; a’r ymladd a aeth drosodd i Beth-afen . A gwŷr Israel oedd gyfyng arnynt y dydd hwnnw : oherwydd tyngedasai Saul y bobl , gan ddywedyd , Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd hyd yr hwyr , fel y dialwyf ar fy ngelynion : Felly nid archwaethodd yr un o’r bobl ddim bwyd . A’r rhai o’r holl wlad a ddaethant i goed , lle yr oedd mêl ar hyd wyneb y tir . A phan ddaeth y bobl i’r coed , wele y mêl yn diferu ; eto ni chododd un ei law at ei enau : canys ofnodd y bobl y llw . Ond Jonathan ni chlywsai pan dyngedasai ei dad ef y bobl : am hynny efe a estynnodd flaen y wialen oedd yn ei law , ac a’i gwlychodd yn nil y mêl , ac a drodd ei law at ei enau ; a’i lygaid a oleuasant . Yna un o’r bobl a atebodd , ac a ddywedodd , Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl , gan ddywedyd , Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd heddiw . A’r bobl oedd luddedig . Yna y dywedodd Jonathan , Fy nhad a flinodd y wlad . Gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid i , oherwydd i mi archwaethu ychydig o’r mêl hwn : Pa faint mwy , pe bwytasai y bobl yn ddiwarafun heddiw o anrhaith eu gelynion , yr hon a gawsant hwy ? oni buasai yn awr fwy y lladdfa ymysg y Philistiaid ? A hwy a drawsant y Philistiaid y dydd hwnnw o Michmas hyd Ajalon : a’r bobl oedd ddiffygiol iawn . A’r bobl a ruthrodd at yr anrhaith , ac a gymerasant ddefaid , a gwartheg , a lloi , ac a’u lladdasant ar y ddaear : a’r bobl a’u bwytaodd gyda’r gwaed . Yna y mynegasant hwy i Saul , gan ddywedyd , Wele , y bobl sydd yn pechu yn erbyn yr Arglwydd , gan fwyta ynghyd â’r gwaed . Ac efe a ddywedodd , Troseddasoch : treiglwch ataf fi heddiw faen mawr . Dywedodd Saul hefyd , Ymwasgerwch ymysg y bobl , a dywedwch wrthynt , Dygwch ataf fi bob un ei ych , a phob un ei lwdn dafad , a lleddwch hwynt yma , a bwytewch ; ac na phechwch yn erbyn yr Arglwydd , gan fwyta ynghyd â’r gwaed . A’r bobl oll a ddygasant bob un ei ych yn ei law y noswaith honno , ac a’u lladdasant yno . A Saul a adeiladodd allor i’r Arglwydd . Hon oedd yr allor gyntaf a adeiladodd efe i’r Arglwydd . A dywedodd Saul , Awn i waered ar ôl y Philistiaid liw nos , ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore , ac na adawn un ohonynt . Hwythau a ddywedasant , Gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg . Yna y dywedodd yr offeiriad , Nesawn yma at Dduw . Ac ymofynnodd Saul â Duw , A af fi i waered ar ôl y Philistiaid ? a roddi di hwynt yn llaw Israel ? Ond nid atebodd efe ef y dydd hwnnw . A dywedodd Saul , Dyneswch yma holl benaethiaid y bobl : mynnwch wybod hefyd , ac edrychwch ym mhwy y bu y pechod hwn heddiw . Canys , megis mai byw yr Arglwydd , yr hwn sydd yn gwaredu Israel , pe byddai hyn yn Jonathan fy mab , diau y llwyr roddir ef i farwolaeth . Ac nid atebodd neb o’r holl bobl ef . Yna y dywedodd efe wrth holl Israel , Chwi a fyddwch ar y naill du ; minnau hefyd a Jonathan fy mab fyddwn ar y tu arall . A dywedodd y bobl wrth Saul , Gwna a fyddo da yn dy olwg . Am hynny y dywedodd Saul wrth Arglwydd Dduw Israel , Dod oleufynag . A daliwyd Jonathan a Saul : ond y bobl a ddihangodd . Dywedodd Saul hefyd , Bwriwch goelbren rhyngof fi a Jonathan fy mab . A daliwyd Jonathan . Yna y dywedodd Saul wrth Jonathan , Mynega i mi beth a wnaethost . A Jonathan a fynegodd iddo , ac a ddywedodd , Gan archwaethu yr archwaethais ychydig o fêl ar flaen y wialen oedd yn fy llaw ; ac wele , a fyddaf fi farw ? Dywedodd Saul hefyd , Felly gwneled Duw i mi , ac felly chwaneged , onid gan farw y byddi di farw , Jonathan . A dywedodd y bobl wrth Saul , A leddir Jonathan , yr hwn a wnaeth yr ymwared mawr hyn yn Israel ? Na ato Duw : fel mai byw yr Arglwydd , ni syrth un o wallt ei ben ef i’r ddaear ; canys gyda Duw y gweithiodd efe heddiw . A’r bobl a waredasant Jonathan , fel na laddwyd ef . Yna Saul a aeth i fyny oddi ar ôl y Philistiaid : a’r Philistiaid a aethant i’w lle eu hun . Felly y cymerodd Saul y frenhiniaeth ar Israel ; ac a ymladdodd yn erbyn ei holl elynion oddi amgylch , yn erbyn Moab , ac yn erbyn meibion Ammon , ac yn erbyn Edom , ac yn erbyn brenhinoedd Soba , ac yn erbyn y Philistiaid : ac yn erbyn pwy bynnag yr wynebodd , efe a orchfygodd . Cynullodd lu hefyd , a thrawodd Amalec ; ac a waredodd Israel o law ei anrheithwyr . A meibion Saul oedd Jonathan , ac Issui , a Malci-sua . Dyma enwau ei ddwy ferch ef : enw yr hynaf oedd Merab , ac enw yr ieuangaf Michal . Ac enw gwraig Saul oedd Ahinoam merch Ahimaas : ac enw tywysog ei filwriaeth ef oedd Abner mab Ner , ewythr frawd ei dad i Saul . Cis hefyd oedd dad Saul ; a Ner tad Abner oedd fab Abiel . A bu ryfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul : a phan welai Saul ŵr glew a nerthol , efe a’i cymerai ato ei hun . A Samuel a ddywedodd wrth Saul , Yr Arglwydd a’m hanfonodd i i’th eneinio di yn frenin ar ei bobl , sef ar Israel : ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr Arglwydd . Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd ; Cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel , y modd y gosododd efe i’w erbyn ar y ffordd , pan ddaeth efe i fyny o’r Aifft . Dos yn awr , a tharo Amalec , a dinistria yr hyn oll sydd ganddo , ac nac eiriach ef ; ond lladd hwynt , yn ŵr ac yn wraig , yn ddyn bach ac yn blentyn sugno , yn ych ac yn oen , yn gamel ac yn asyn . A Saul a gynullodd y bobl , ac a’u cyfrifodd hwynt yn Telaim , dau can mil o wŷr traed , a deng mil o wŷr Jwda . A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec , ac a gynllwynodd yn y dyffryn . Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid , Cerddwch , ciliwch , ewch i waered o fysg yr Amaleciaid ; rhag i mi eich distrywio chwi gyda hwynt : herwydd ti a wnaethost drugaredd â holl feibion Israel , pan ddaethant i fyny o’r Aifft . A’r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid . A Saul a drawodd yr Amaleciaid o Hafila , ffordd y delych di i Sur , yr hon sydd ar gyfer yr Aifft . Ac a ddaliodd Agag brenin yr Amaleciaid yn fyw , ac a laddodd yr holl bobl â min y cleddyf . Ond Saul a’r bobl a arbedasant Agag , a’r gorau o’r defaid , a’r ychen , a’r brasaf o’r ŵyn , a’r hyn oll ydoedd dda , ac ni ddistrywient hwynt : a phob peth gwael a salw , hwnnw a ddifrodasant hwy . Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Samuel , gan ddywedyd , Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin : canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i , ac ni chyflawnodd fy ngeiriau . A bu ddrwg gan Samuel ; ac efe a lefodd ar yr Arglwydd ar hyd y nos . A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul , mynegwyd i Samuel , gan ddywedyd , Daeth Saul i Carmel ; ac wele , efe a osododd iddo le , efe a amgylchodd hefyd , ac a dramwyodd , ac a aeth i waered i Gilgal . A Samuel a ddaeth at Saul . A Saul a ddywedodd wrtho ef , Bendigedig fyddych di gan yr Arglwydd : mi a gyflewnais air yr Arglwydd . A dywedodd Samuel , Beth ynteu yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau , a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed ? A Saul a ddywedodd , Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy : canys y bobl a arbedodd y defaid gorau , a’r ychen , i aberthu i’r Arglwydd dy Dduw ; a’r rhan arall a ddifrodasom ni . Yna y dywedodd Samuel wrth Saul , Aros , a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr Arglwydd wrthyf fi neithiwr . Yntau a ddywedodd wrtho , Llefara . A Samuel a ddywedodd , Onid pan oeddit fychan yn dy olwg dy hun , y gwnaed di yn ben ar lwythau Israel , ac yr eneiniodd yr Arglwydd di yn frenin ar Israel ? A’r Arglwydd a’th anfonodd di i daith , ac a ddywedodd , Dos , a difroda y pechaduriaid , yr Amaleciaid , ac ymladd i’w herbyn , nes eu difa hwynt . Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr Arglwydd , eithr troaist at yr anrhaith , a gwnaethost ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ? A Saul a ddywedodd wrth Samuel , Yn wir mi a wrandewais ar lais yr Arglwydd , ac a rodiais yn y ffordd y’m hanfonodd yr Arglwydd iddi , a dygais Agag brenin Amalec , ac a ddifrodais yr Amaleciaid . Ond y bobl a gymerth o’r ysbail , ddefaid a gwartheg , blaenion y ddifrodaeth , i aberthu i’r Arglwydd dy Dduw yn Gilgal . A Samuel a ddywedodd , A yw ewyllys yr Arglwydd ar boethoffrymau , neu ebyrth , megis ar wrando ar lais yr Arglwydd ? Wele , gwrando sydd well nag aberth , ac ufuddhau na braster hyrddod . Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth ; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth . Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr Arglwydd , yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin . A Saul a ddywedodd wrth Samuel , Pechais : canys troseddais air yr Arglwydd , a’th eiriau dithau ; oherwydd i mi ofni y bobl , a gwrando ar eu llais hwynt . Ond yn awr maddau , atolwg , fy mhechod , a dychwel gyda mi , fel yr addolwyf yr Arglwydd . A Samuel a ddywedodd wrth Saul , Ni ddychwelaf gyda thi ; canys bwriaist ymaith air yr Arglwydd , a’r Arglwydd a’th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenin ar Israel . A phan drodd Samuel i fyned ymaith , efe a ymaflodd yng nghwr ei fantell ef ; a hi a rwygodd . A Samuel a ddywedodd wrtho , Yr Arglwydd a rwygodd frenhiniaeth Israel oddi wrthyt ti heddiw , ac a’i rhoddes i gymydog i ti , gwell na thydi . A hefyd , Cadernid Israel ni ddywed gelwydd , ac nid edifarha : canys nid dyn yw efe , i edifarhau . Yna y dywedodd Saul , Pechais : anrhydedda fi , atolwg , yn awr gerbron henuriaid fy mhobl , a cherbron Israel , a dychwel gyda mi , fel yr addolwyf yr Arglwydd dy Dduw . Felly Samuel a ddychwelodd ar ôl Saul : a Saul a addolodd yr Arglwydd . Yna y dywedodd Samuel , Cyrchwch ataf fi Agag brenin yr Amaleciaid . Ac Agag a ddaeth ato ef yn hoyw . Ac Agag a ddywedodd , Chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ymaith . A Samuel a ddywedodd , Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd , felly y diblentir dy fam dithau ymysg gwragedd . A Samuel a ddarniodd Agag gerbron yr Arglwydd yn Gilgal . Yna Samuel a aeth i Rama ; a Saul a aeth i fyny i’w dŷ yn Gibea Saul . Ac nid ymwelodd Samuel mwyach â Saul hyd ddydd ei farwolaeth ; ond Samuel a alarodd am Saul : ac edifar fu gan yr Arglwydd osod Saul yn frenin ar Israel . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel , Pa hyd y galeri di am Saul , gan i mi ei fwrw ef ymaith o deyrnasu ar Israel ? Llanw dy gorn ag olew , a dos ; mi a’th anfonaf di at Jesse y Bethlehemiad : canys ymysg ei feibion ef y darperais i mi frenin . A Samuel a ddywedodd , Pa fodd yr af fi ? os Saul a glyw , efe a’m lladd i . A dywedodd yr Arglwydd , Cymer anner-fuwch gyda thi , a dywed , Deuthum i aberthu i’r Arglwydd . A galw Jesse i’r aberth , a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych : a thi a eneini i mi yr hwn a ddywedwyf wrthyt . A gwnaeth Samuel yr hyn a archasai yr Arglwydd , ac a ddaeth i Bethlehem . A henuriaid y ddinas a ddychrynasant wrth gyfarfod ag ef ; ac a ddywedasant , Ai heddychlon dy ddyfodiad ? Ac efe a ddywedodd , Heddychlon : deuthum i aberthu i’r Arglwydd : ymsancteiddiwch , a deuwch gyda mi i’r aberth . Ac efe a sancteiddiodd Jesse a’i feibion , ac a’u galwodd hwynt i’r aberth . A phan ddaethant , efe a edrychodd ar Eliab ; ac a ddywedodd , Diau fod eneiniog yr Arglwydd ger ei fron ef . A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel , Nac edrych ar ei wynepryd ef , nac ar uchder ei gorffolaeth ef : canys gwrthodais ef . Oherwydd nid edrych Duw fel yr edrych dyn : canys dyn a edrych ar y golygiad ; ond yr Arglwydd a edrych ar y galon . Yna Jesse a alwodd Abinadab , ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel . A dywedodd yntau , Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith . Yna y gwnaeth Jesse i Samma ddyfod . A dywedodd yntau , Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith . Yna y parodd Jesse i’w saith mab ddyfod gerbron Samuel . A Samuel a ddywedodd wrth Jesse , Ni ddewisodd yr Arglwydd y rhai hyn . Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse , Ai dyma dy holl blant ? Yntau a ddywedodd , Yr ieuangaf eto sydd yn ôl ; ac wele , mae efe yn bugeilio’r defaid . A dywedodd Samuel wrth Jesse , Danfon , a chyrch ef : canys nid eisteddwn ni i lawr nes ei ddyfod ef yma . Ac efe a anfonodd , ac a’i cyrchodd ef . Ac efe oedd writgoch , a theg yr olwg , a hardd o wedd . A dywedodd yr Arglwydd , Cyfod , eneinia ef : canys dyma efe . Yna y cymerth Samuel gorn yr olew , ac a’i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr . A daeth ysbryd yr Arglwydd ar Dafydd , o’r dydd hwnnw allan . Yna Samuel a gyfododd , ac a aeth i Rama . Ond ysbryd yr Arglwydd a giliodd oddi wrth Saul ; ac ysbryd drwg oddi wrth yr Arglwydd a’i blinodd ef . A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef , Wele yn awr , drwg ysbryd oddi wrth Dduw sydd yn dy flino di . Dyweded , atolwg , ein meistr ni wrth dy weision sydd ger dy fron , am iddynt geisio gŵr yn medru canu telyn : a bydd , pan ddelo drwg ysbryd oddi wrth Dduw arnat ti , yna iddo ef ganu â’i law ; a da fydd i ti . A dywedodd Saul wrth ei weision , Edrychwch yn awr i mi am ŵr yn medru canu yn dda , a dygwch ef ataf fi . Ac un o’r llanciau a atebodd , ac a ddywedodd , Wele , gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad , yn medru canu , ac yn rymus o nerth , ac yn rhyfelwr , yn ddoeth o ymadrodd hefyd , ac yn ŵr lluniaidd ; a’r Arglwydd sydd gydag ef . Yna yr anfonodd Saul genhadau at Jesse , ac a ddywedodd , Anfon ataf fi Dafydd dy fab , yr hwn sydd gyda’r praidd . A Jesse a gymerth asyn llwythog o fara , a chostrelaid o win , a myn gafr , ac a’u hanfonodd gyda Dafydd ei fab at Saul . A Dafydd a ddaeth at Saul , ac a safodd ger ei fron ef : yntau a’i hoffodd ef yn fawr ; ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef . A Saul a anfonodd at Jesse , gan ddywedyd , Arhosed Dafydd , atolwg , ger fy mron i : canys efe a gafodd ffafr yn fy ngolwg . A phan fyddai y drwg ysbryd oddi wrth Dduw ar Saul , y cymerai Dafydd delyn , ac y canai â’i ddwylo ; a byddai esmwythdra i Saul ; a da oedd hynny iddo , a’r ysbryd drwg a giliai oddi wrtho . Yna y Philistiaid a gasglasant eu byddinoedd i ryfel , ac a ymgynullasant yn Socho , yr hon sydd yn Jwda , ac a wersyllasant rhwng Socho ac Aseca , yng nghwr Dammim . Saul hefyd a gwŷr Israel a ymgasglasant , ac a wersyllasant yn nyffryn Ela , ac a drefnasant y fyddin i ryfel yn erbyn y Philistiaid . A’r Philistiaid oedd yn sefyll ar fynydd o’r naill du , ac Israel yn sefyll ar fynydd o’r tu arall : a dyffryn oedd rhyngddynt . A daeth gŵr rhyngddynt hwy allan o wersylloedd y Philistiaid , a’i enw Goleiath , o Gath : ei uchder oedd chwe chufydd a rhychwant . A helm o bres ar ei ben , a llurig emog a wisgai : a phwys y llurig oedd bum mil o siclau pres . A botasau pres oedd am ei draed ef , a tharian bres rhwng ei ysgwyddau . A phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd ; a blaen ei waywffon ef oedd chwe chan sicl o haearn : ac un yn dwyn tarian oedd yn myned o’i flaen ef . Ac efe a safodd , ac a waeddodd ar fyddinoedd Israel , ac a ddywedodd wrthynt , I ba beth y deuwch i drefnu eich byddinoedd ? Onid ydwyf fi Philistiad , a chwithau yn weision i Saul ? dewiswch i chwi ŵr , i ddyfod i waered ataf fi . Os gall efe ymladd â mi , a’m lladd i ; yna y byddwn ni yn weision i chwi : ond os myfi a’i gorchfygaf ef , ac a’i lladdaf ef ; yna y byddwch chwi yn weision i ni , ac y gwasanaethwch ni . A’r Philistiad a ddywedodd , Myfi a waradwyddais fyddinoedd Israel y dydd hwn : moeswch ataf fi ŵr , fel yr ymladdom ynghyd . Pan glybu Saul a holl Israel y geiriau hynny gan y Philistiad , yna y digalonasant , ac yr ofnasant yn ddirfawr . A’r Dafydd hwn oedd fab i Effratëwr o Bethlehem Jwda , a’i enw Jesse ; ac iddo ef yr oedd wyth o feibion : a’r gŵr yn nyddiau Saul a âi yn hynafgwr ymysg gwŷr . A thri mab hynaf Jesse a aethant ac a ddilynasant ar ôl Saul i’r rhyfel : ac enw ei dri mab ef , y rhai a aethant i’r rhyfel , oedd Eliab y cyntaf-anedig , ac Abinadab yr ail , a Samma y trydydd . A Dafydd oedd ieuangaf : a’r tri hynaf a aeth ar ôl Saul . Dafydd hefyd a aeth ac a ddychwelodd oddi wrth Saul , i fugeilio defaid ei dad yn Bethlehem . A’r Philistiad a nesaodd fore a hwyr , ac a ymddangosodd ddeugain niwrnod . A dywedodd Jesse wrth Dafydd ei fab , Cymer yn awr i’th frodyr effa o’r cras ŷd hwn , a’r deg torth hyn , ac ar redeg dwg hwynt i’r gwersyll at dy frodyr . Dwg hefyd y deg cosyn ir hyn i dywysog y mil , ac ymwêl â’th frodyr a ydynt hwy yn iach , a gollwng yn rhydd eu gwystl hwynt . Yna Saul , a hwythau , a holl wŷr Israel , oeddynt yn nyffryn Ela , yn ymladd â’r Philistiaid . A Dafydd a gyfododd yn fore , ac a adawodd y defaid gyda cheidwad , ac a gymerth , ac a aeth , megis y gorchmynasai Jesse iddo ef ; ac efe a ddaeth i’r gwersyll , a’r llu yn myned allan i’r gad , ac yn bloeddio i’r frwydr . Canys Israel a’r Philistiaid a ymfyddinasant , fyddin yn erbyn byddin . A Dafydd a adawodd y mud oddi wrtho dan law ceidwad y dodrefn , ac a redodd i’r llu , ac a ddaeth , ac a gyfarchodd well i’w frodyr . A thra yr oedd efe yn ymddiddan â hwynt , wele y gŵr oedd yn sefyll rhwng y ddeulu , yn dyfod i fyny o fyddinoedd y Philistiaid , Goleiath y Philistiad o Gath wrth ei enw , ac efe a ddywedodd yr un fath eiriau , fel y clybu Dafydd . A holl wŷr Israel , pan welsant y gŵr hwnnw , a ffoesant rhagddo ef , ac a ofnasant yn ddirfawr . A dywedodd gwŷr Israel , Oni welsoch chwi y gŵr hwn a ddaeth i fyny ? diau i waradwyddo Israel y mae yn dyfod i fyny : a’r gŵr a’i lladdo ef , y brenin a gyfoethoga hwnnw â chyfoeth mawr ; ei ferch hefyd a rydd efe iddo ef ; a thŷ ei dad ef a wna efe yn rhydd yn Israel . A Dafydd a lefarodd wrth y gwŷr oedd yn sefyll yn ei ymyl , gan ddywedyd , Beth a wneir i’r gŵr a laddo y Philistiad hwn , ac a dynno ymaith y gwaradwydd oddi ar Israel ? canys pwy yw’r Philistiad dienwaededig hwn , pan waradwyddai efe fyddinoedd y Duw byw ? A’r bobl a ddywedodd wrtho ef fel hyn , gan ddywedyd . Felly y gwneir i’r gŵr a’i lladdo ef . Ac Eliab , ei frawd hynaf , a’i clybu pan oedd efe yn ymddiddan â’r gwŷr : a dicter Eliab a enynnodd yn erbyn Dafydd ; ac efe a ddywedodd , Paham y daethost i waered yma ? a chyda phwy y gadewaist yr ychydig ddefaid hynny yn yr anialwch ? Myfi a adwaen dy falchder di , a drygioni dy galon : canys i weled y rhyfel y daethost ti i waered . A dywedodd Dafydd , Beth a wneuthum i yn awr ? Onid oes achos ? Ac efe a droes oddi wrtho ef at un arall , ac a ddywedodd yr un modd : a’r bobl a’i hatebasant ef air yng ngair fel o’r blaen . A phan glybuwyd y geiriau a lefarodd Dafydd , yna y mynegwyd hwynt gerbron Saul : ac efe a anfonodd amdano ef . A Dafydd a ddywedodd wrth Saul , Na lwfrhaed calon neb o’i herwydd ef : dy was di a â ac a ymladd â’r Philistiad hwn . A dywedodd Saul wrth Dafydd , Ni elli di fyned yn erbyn y Philistiad hwn , i ymladd ag ef : canys llanc ydwyt ti , ac yntau sydd yn rhyfelwr o’i febyd . A Dafydd a ddywedodd wrth Saul , Bugail oedd dy was di ar ddefaid ei dad ; a daeth llew ac arth , ac a gymerasant oen o’r praidd . A mi a euthum ar ei ôl ef , ac a’i trewais ef , ac a’i hachubais o’i safn ef : a phan gyfododd efe i’m herbyn i , mi a ymeflais yn ei farf ef , ac a’i trewais , ac a’i lleddais ef . Felly dy was di a laddodd y llew , a’r arth : a’r Philistiad dienwaededig hwn fydd megis un ohonynt , gan iddo amherchi byddinoedd y Duw byw . Dywedodd Dafydd hefyd , Yr Arglwydd , yr hwn a’m hachubodd i o grafanc y llew , ac o balf yr arth , efe a’m hachub i o law y Philistiad hwn . A dywedodd Saul wrth Dafydd , Dos , a’r Arglwydd fyddo gyda thi . A Saul a wisgodd Dafydd â’i arfau ei hun , ac a roddodd helm o bres ar ei ben ef , ac a’i gwisgodd ef mewn llurig . A Dafydd a wregysodd ei gleddyf ar ei arfau , ac a geisiodd gerdded ; am na phrofasai efe . A dywedodd Dafydd wrth Saul , Ni allaf gerdded yn y rhai hyn : canys ni phrofais i . A Dafydd a’u diosgodd oddi amdano . Ac efe a gymerth ei ffon yn ei law , ac a ddewisodd iddo bump o gerrig llyfnion o’r afon , ac a’u gosododd hwynt yng nghod y bugeiliaid yr hon oedd ganddo , sef yn yr ysgrepan : a’i ffon dafl oedd yn ei law : ac efe a nesaodd at y Philistiad . A’r Philistiad a gerddodd , gan fyned a nesáu at Dafydd ; a’r gŵr oedd yn dwyn y darian o’i flaen ef . A phan edrychodd y Philistiad o amgylch , a chanfod Dafydd , efe a’i diystyrodd ef ; canys llanc oedd efe , a gwritgoch , a theg yr olwg . A’r Philistiad a ddywedodd wrth Dafydd , Ai ci ydwyf fi , gan dy fod yn dyfod ataf fi â ffyn ? A’r Philistiad a regodd Dafydd trwy ei dduwiau ef . Y Philistiad hefyd a ddywedodd wrth Dafydd , Tyred ataf fi , a rhoddaf dy gnawd i ehediaid y nefoedd , ac i anifeiliaid y maes . Yna y dywedodd Dafydd wrth y Philistiad , Ti ydwyt yn dyfod ataf fi â chleddyf , ac â gwaywffon , ac â tharian ; a minnau ydwyf yn dyfod atat ti yn enw Arglwydd y lluoedd , Duw byddinoedd Israel , yr hwn a geblaist ti . Y dydd hwn y dyry yr Arglwydd dydi yn fy llaw i , a mi a’th drawaf di , ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat ; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd , ac i fwystfilod y ddaear ; fel y gwypo yr holl ddaear fod Duw yn Israel . A’r holl gynulleidfa hon a gânt wybod , nad â chleddyf , nac â gwaywffon y gwared yr Arglwydd : canys eiddo yr Arglwydd yw y rhyfel , ac efe a’ch rhydd chwi yn ein llaw ni . A phan gyfododd y Philistiad , a dyfod a nesáu i gyfarfod Dafydd ; yna y brysiodd Dafydd , ac a redodd tua’r fyddin i gyfarfod â’r Philistiad . A Dafydd a estynnodd ei law i’r god , ac a gymerth oddi yno garreg , ac a daflodd , ac a drawodd y Philistiad yn ei dalcen ; a’r garreg a soddodd yn ei dalcen ef : ac efe a syrthiodd i lawr ar ei wyneb . Felly y gorthrechodd Dafydd y Philistiad â ffon dafl ac â charreg , ac a drawodd y Philistiad , ac a’i lladdodd ef ; er nad oedd cleddyf yn llaw Dafydd . Yna y rhedodd Dafydd , ac a safodd ar y Philistiad , ac a gymerth ei gleddyf ef , ac a’i tynnodd o’r wain , ac a’i lladdodd ef , ac a dorrodd ei ben ef ag ef . A phan welodd y Philistiaid farw o’u cawr hwynt hwy a ffoesant . A gwŷr Israel a Jwda a gyfodasant , ac a floeddiasant ; ac a erlidiasant y Philistiaid , hyd y ffordd y delych i’r dyffryn , a hyd byrth Ecron . A’r Philistiaid a syrthiasant yn archolledig ar hyd ffordd Saaraim , sef hyd Gath , a hyd Ecron . A meibion Israel a ddychwelasant o ymlid ar ôl y Philistiaid , ac a anrheithiasant eu gwersylloedd hwynt . A Dafydd a gymerodd ben y Philistiad , ac a’i dug i Jerwsalem ; a’i arfau ef a osododd efe yn ei babell . A phan welodd Saul Dafydd yn myned i gyfarfod â’r Philistiad , efe a ddywedodd wrth Abner , tywysog y filwriaeth , Mab i bwy yw y llanc hwn , Abner ? Ac Abner a ddywedodd , Fel y mae yn fyw dy enaid , O frenin , nis gwn i . A dywedodd y brenin , Ymofyn mab i bwy yw y gŵr ieuanc hwn . A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad , Abner a’i cymerodd ef ac a’i dug o flaen Saul , a phen y Philistiad yn ei law . A Saul a ddywedodd wrtho ef , Mab i bwy wyt ti , y gŵr ieuanc ? A dywedodd Dafydd , Mab i’th was Jesse y Bethlehemiad . Ac wedi darfod iddo ymddiddan â Saul , enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd ; a Jonathan a’i carodd ef megis ei enaid ei hun . A Saul a’i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw , ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad . Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod ; oherwydd efe a’i carai megis ei enaid ei hun . A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun , ac a’i rhoddes i Dafydd , a’i wisgoedd , ie , hyd yn oed ei gleddyf , a’i fwa , a’i wregys . A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef , ac a ymddug yn ddoeth . A Saul a’i gosododd ef ar y rhyfelwyr : ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl , ac yng ngolwg gweision Saul hefyd . A bu , wrth ddyfod ohonynt , pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad , ddyfod o’r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel , dan ganu a dawnsio , i gyfarfod â’r brenin Saul â thympanau , â gorfoledd , ac ag offer cerdd dannau . A’r gwragedd wrth ganu a ymatebent , ac a ddywedent , Lladdodd Saul ei filoedd , a Dafydd ei fyrddiwn . A digiodd Saul yn ddirfawr , a’r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef ; ac efe a ddywedodd , Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn , ac i mi y rhoddasant filoedd : beth mwy a roddent iddo ef , ond y frenhiniaeth ? A bu Saul â’i lygad ar Dafydd o’r dydd hwnnw allan . Bu hefyd drannoeth , i’r drwg ysbryd oddi wrth Dduw ddyfod ar Saul ; ac efe a broffwydodd yng nghanol y tŷ : a Dafydd a ganodd â’i law , fel o’r blaen : a gwaywffon oedd yn llaw Saul . A Saul a daflodd y waywffon ; ac a ddywedodd , Trawaf trwy Dafydd yn y pared . A Dafydd a giliodd ddwywaith o’i ŵydd ef . A Saul oedd yn ofni Dafydd ; oherwydd bod yr Arglwydd gydag ef , a chilio ohono oddi wrth Saul . Am hynny Saul a’i gyrrodd ef ymaith oddi wrtho , ac a’i gosododd ef yn dywysog ar fil : ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl . A Dafydd a ymddug yn ddoeth yn ei holl ffyrdd ; a’r Arglwydd oedd gydag ef . A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn , efe a’i hofnodd ef . Eithr holl Israel a Jwda a garodd Dafydd , am ei fod ef yn myned i mewn ac allan o’u blaen hwynt . A dywedodd Saul wrth Dafydd , Wele Merab fy merch hynaf , hi a roddaf fi i ti yn wraig : yn unig bydd i mi yn fab nerthol , ac ymladd ryfeloedd yr Arglwydd . ( Canys dywedasai Saul , Ni bydd fy llaw i arno ef , ond llaw y Philistiaid fydd arno ef . ) A Dafydd a ddywedodd wrth Saul , Pwy ydwyf fi ? a pheth yw fy mywyd , neu dylwyth fy nhad i yn Israel , fel y byddwn yn ddaw i’r brenin ? Eithr yn yr amser y dylesid rhoddi Merab merch Saul i Dafydd , hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig . A Michal merch Saul a garodd Dafydd : a mynegasant hynny i Saul ; a’r peth fu fodlon ganddo . A dywedodd Saul , Rhoddaf hi iddo ef , fel y byddo hi iddo yn fagl , ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef . Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd , Trwy un o’r ddwy y byddi fab yng nghyfraith i mi heddiw . A Saul a orchmynnodd i’w weision fel hyn ; Ymddiddenwch â Dafydd yn ddirgel , gan ddywedyd , Wele , y brenin sydd hoff ganddo dydi , a’i holl weision ef a’th garant di : yn awr gan hynny ymgyfathracha â’r brenin . A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn . A Dafydd a ddywedodd , Ai ysgafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu â brenin , a minnau yn ŵr tlawd a gwael ? A gweision Saul a fynegasant iddo , gan ddywedyd , Fel hyn y llefarodd Dafydd . A dywedodd Saul , Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd ; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth , ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid , i ddial ar elynion y brenin . Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid . A’i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn ; a’r ymadrodd fu fodlon gan Dafydd am ymgyfathrachu â’r brenin ; ac ni ddaethai yr amser eto . Am hynny y cyfododd Dafydd , ac efe a aeth , a’i wŷr , ac a drawodd ddau cannwr o’r Philistiaid : a Dafydd a ddygodd eu blaengrwyn hwynt , a hwy a’u cwbl dalasant i’r brenin , i ymgyfathrachu ohono ef â’r brenin . A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef . A Saul a welodd ac a wybu fod yr Arglwydd gyda Dafydd , a bod Michal merch Saul yn ei garu ef . A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy eto : a bu Saul yn elyn i Dafydd byth . Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan : a phan elent hwy , Dafydd a fyddai ddoethach na holl weision Saul ; a’i enw ef a aeth yn anrhydeddus iawn . A Saul a ddywedodd wrth Jonathan ei fab , ac wrth ei holl weision , am ladd Dafydd . Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd . A mynegodd Jonathan i Dafydd , gan ddywedyd , Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di : ac yn awr ymgadw , atolwg , hyd y bore , ac aros mewn lle dirgel , ac ymguddia : A mi a af allan , ac a safaf gerllaw fy nhad yn y maes y byddych di ynddo , a mi a ymddiddanaf â’m tad o’th blegid di ; a’r hyn a welwyf , mi a’i mynegaf i ti . A Jonathan a ddywedodd yn dda am Dafydd wrth Saul ei dad , ac a ddywedodd wrtho , Na pheched y brenin yn erbyn ei was , yn erbyn Dafydd : oherwydd ni phechodd efe i’th erbyn di , ac oherwydd bod ei weithredoedd ef yn dda iawn i ti . Canys efe a osododd ei einioes yn ei law , ac a drawodd y Philistiad ; a’r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr i holl Israel : ti a’i gwelaist , ac a lawenychaist : paham , gan hynny , y pechi yn erbyn gwaed gwirion , gan ladd Dafydd yn ddiachos ? A Saul a wrandawodd ar lais Jonathan ; a Saul a dyngodd , Fel mai byw yr Arglwydd , ni leddir ef . A Jonathan a alwodd ar Dafydd ; a Jonathan a fynegodd iddo ef yr holl eiriau hyn . A Jonathan a ddug Dafydd at Saul : ac efe a fu ger ei fron ef megis cynt . A bu chwaneg o ryfel : a Dafydd a aeth allan ac a ymladdodd yn erbyn y Philistiaid , ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr ; a hwy a ffoesant rhagddo ef . A’r drwg ysbryd oddi wrth yr Arglwydd oedd ar Saul , pan oedd efe yn eistedd yn ei dŷ â’i waywffon yn ei law : a Dafydd oedd yn canu â’i law . A cheisiodd Saul daro â’i waywffon trwy Dafydd , yn y pared : ond efe a giliodd o ŵydd Saul ; ac yntau a drawodd y waywffon yn y pared . A Dafydd a ffodd , ac a ddihangodd y nos honno . Saul hefyd a anfonodd genhadau i dŷ Dafydd , i’w wylied ef , ac i’w ladd ef y bore : a Michal ei wraig a fynegodd i Dafydd , gan ddywedyd , Onid achubi dy einioes heno , yfory y’th leddir . Felly Michal a ollyngodd Dafydd i lawr trwy ffenestr : ac efe a aeth , ac a ffodd , ac a ddihangodd . A Michal a gymerodd ddelw , ac a’i gosododd yn y gwely ; a chlustog o flew geifr a osododd hi yn obennydd iddi , ac a’i gorchuddiodd â dillad . A phan anfonodd Saul genhadau i ddala Dafydd , hi a ddywedodd , Y mae efe yn glaf . A Saul a anfonodd eilwaith genhadau i edrych Dafydd , gan ddywedyd , Dygwch ef i fyny ataf fi yn ei wely , fel y lladdwyf ef . A phan ddaeth y cenhadau , wele y ddelw ar y gwely , a chlustog o flew geifr yn obennydd iddi . A dywedodd Saul wrth Michal , Paham y twyllaist fi fel hyn , ac y gollyngaist fy ngelyn i ddianc ? A Michal a ddywedodd wrth Saul , Efe a ddywedodd wrthyf , Gollwng fi ; onid e , mi a’th laddaf di . Felly Dafydd a ffodd , ac a ddihangodd , ac a ddaeth at Samuel i Rama ; ac a fynegodd iddo yr hyn oll a wnaethai Saul iddo ef . Ac efe a aeth at Samuel , a hwy a drigasant yn Naioth . A mynegwyd i Saul , gan ddywedyd , Wele , y mae Dafydd yn Naioth o fewn Rama . A Saul a anfonodd genhadau i ddala Dafydd . A phan welsant gynulleidfa y proffwydi yn proffwydo , a Samuel yn sefyll wedi ei osod arnynt hwy , yr oedd ar genhadau Saul ysbryd Duw , fel y proffwydasant hwythau hefyd . A phan fynegwyd hyn i Saul , efe a anfonodd genhadau eraill ; a hwythau hefyd a broffwydasant . A thrachefn danfonodd Saul genhadau y drydedd waith ; a phroffwydasant hwythau hefyd . Yna yntau hefyd a aeth i Rama ; ac a ddaeth hyd y ffynnon fawr sydd yn Sechu : ac efe a ofynnodd , ac a ddywedodd , Pa le y mae Samuel a Dafydd ? Ac un a ddywedodd , Wele , y maent yn Naioth o fewn Rama . Ac efe a aeth yno i Naioth yn Rama . Ac arno yntau hefyd y daeth ysbryd Duw ; a chan fyned yr aeth ac y proffwydodd , nes ei ddyfod i Naioth yn Rama . Ac efe a ddiosgodd ei ddillad , ac a broffwydodd hefyd gerbron Samuel , ac a syrthiodd i lawr yn noeth yr holl ddiwrnod hwnnw , a’r holl nos . Am hynny y dywedent , A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi ? A Dafydd a ffodd o Naioth yn Rama : ac a ddaeth , ac a ddywedodd gerbron Jonathan , Beth a wneuthum i ? beth yw fy anwiredd ? a pheth yw fy mhechod o flaen dy dad di , gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i ? Ac efe a ddywedodd wrtho , Na ato Duw ; ni byddi farw : wele , ni wna fy nhad ddim , na mawr na bychan , heb ei fynegi i mi : paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi ? Nid felly y mae . A Dafydd a dyngodd eilwaith , ac a ddywedodd , Dy dad a ŵyr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di ; am hynny y dywed , Na chaed Jonathan wybod hyn , rhag ei dristáu ef : cyn wired â bod yr Arglwydd yn fyw , a’th enaid dithau yn fyw , nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau . Yna y dywedodd Jonathan wrth Dafydd , Dywed beth yw dy ewyllys , a mi a’i cwblhaf i ti . A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan , Wele , y dydd cyntaf o’r mis yw yfory , a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda’r brenin i fwyta : ond gollwng fi , fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y trydydd dydd . Os dy dad a ymofyn yn fanwl amdanaf ; yna dywed , Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennad gennyf fi , i redeg i Bethlehem , ei ddinas ei hun : canys aberth blynyddol sydd yno i’r holl genedl . Os fel hyn y dywed efe , Da ; heddwch fydd i’th was : ond os gan ddigio y digia efe , gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg . Gwna gan hynny drugaredd â’th was ; canys i gyfamod yr Arglwydd y dygaist dy was gyda thi : ac od oes anwiredd ynof fi , lladd di fi ; canys i ba beth y dygi fi at dy dad ? A dywedodd Jonathan , Na ato Duw hynny i ti : canys , os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei baratoi gan fy nhad i ddyfod i’th erbyn , onis mynegwn i ti ? A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan , Pwy a fynega i mi ? neu beth os dy dad a’th etyb yn arw ? A dywedodd Jonathan wrth Dafydd , Tyred , ac awn i’r maes . A hwy a aethant ill dau i’r maes . A Jonathan a ddywedodd wrth Dafydd , O Arglwydd Dduw Israel , wedi i mi chwilio meddwl fy nhad , ynghylch y pryd hwn yfory , neu drennydd ; ac wele , os daioni fydd tuag at Dafydd , ac oni anfonaf yna atat ti , a’i fynegi i ti ; Fel hyn y gwnêl yr Arglwydd i Jonathan , ac ychwaneg : os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti ; yna y mynegaf i ti , ac a’th ollyngaf ymaith , fel yr elych mewn heddwch : a bydded yr Arglwydd gyda thi , megis y bu gyda’m tad i . Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw , y gwnei drugaredd yr Arglwydd â mi , fel na byddwyf fi marw : Ond hefyd na thor ymaith dy drugaredd oddi wrth fy nhŷ i byth : na chwaith pan ddistrywio yr Arglwydd elynion Dafydd , bob un oddi ar wyneb y ddaear . Felly y cyfamododd Jonathan â thŷ Dafydd ; ac efe a ddywedodd , Gofynned yr Arglwydd hyn ar law gelynion Dafydd . A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu , oherwydd efe a’i carai ef : canys fel y carai ei enaid ei hun , y carai efe ef . A Jonathan a ddywedodd wrtho ef , Yfory yw y dydd cyntaf o’r mis : ac ymofynnir amdanat ; oherwydd fe fydd dy eisteddle yn wag . Ac wedi i ti aros dridiau , yna tyred i waered yn fuan ; a thyred i’r lle yr ymguddiaist ynddo pan oedd y peth ar waith , ac aros wrth faen Esel . A mi a saethaf dair o saethau tua’i ystlys ef , fel pes gollyngwn hwynt at nod . Wele hefyd , mi a anfonaf lanc , gan ddywedyd , Dos , cais y saethau . Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc , Wele y saethau o’r tu yma i ti , dwg hwynt ; yna tyred di : canys heddwch sydd i ti , ac nid oes dim niwed , fel mai byw yw yr Arglwydd . Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llanc , Wele y saethau o’r tu hwnt i ti ; dos ymaith ; canys yr Arglwydd a’th anfonodd ymaith . Ac am y peth a leferais i , mi a thi , wele yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi yn dragywydd . Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes . A phan ddaeth y dydd cyntaf o’r mis , y brenin a eisteddodd i fwyta bwyd . A’r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa , megis ar amseroedd eraill ; sef ar yr eisteddfa wrth y pared ; a Jonathan a gyfododd , ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul ; a lle Dafydd oedd wag . Ac nid ynganodd Saul ddim y diwrnod hwnnw : canys meddyliodd mai damwain oedd hyn ; nad oedd efe lân , a’i fod yn aflan . A bu drannoeth , yr ail ddydd o’r mis , fod lle Dafydd yn wag . A dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab , Paham na ddaeth mab Jesse at y bwyd , na doe na heddiw ? A Jonathan a atebodd Saul , Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi am gael myned hyd Bethlehem : Ac efe a ddywedodd , Gollwng fi , atolwg ; oherwydd i’n tylwyth ni y mae aberth yn y ddinas , a’m brawd yntau a archodd i mi fod yno : ac yn awr , o chefais ffafr yn dy olwg , gad i mi fyned , atolwg , fel y gwelwyf fy mrodyr . Oherwydd hyn , ni ddaeth efe i fwrdd y brenin . Yna y llidiodd dicter Saul yn erbyn Jonathan ; ac efe a ddywedodd wrtho , Ti fab y gyndyn wrthnysig , oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti , ac yn gywilydd i noethder dy fam ? Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear , ni’th sicrheir di na’th deyrnas : yn awr gan hynny anfon , a chyrch ef ataf ; canys marw a gaiff efe . A Jonathan a atebodd Saul ei dad , ac a ddywedodd wrtho , Paham y bydd efe marw ? beth a wnaeth efe ? A Saul a ergydiodd waywffon ato ef , i’w daro ef . Wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd . Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid dicllon , ac ni fwytaodd fwyd yr ail ddydd o’r mis : canys drwg oedd ganddo dros Dafydd , oherwydd i’w dad ei waradwyddo ef . A’r bore yr aeth Jonathan i’r maes erbyn yr amser a osodasai efe i Dafydd , a bachgen bychan gydag ef . Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen , Rhed , cais yn awr y saethau yr ydwyf fi yn eu saethu . A’r bachgen a redodd : yntau a saethodd saeth y tu hwnt iddo ef . A phan ddaeth y bachgen hyd y fan yr oedd y saeth a saethasai Jonathan , y llefodd Jonathan ar ôl y bachgen , ac a ddywedodd , Onid yw y saeth o’r tu hwnt i ti ? A llefodd Jonathan ar ôl y bachgen , Cyflyma , brysia , na saf . A bachgen Jonathan a gasglodd y saethau , ac a ddaeth at ei feistr . A’r bachgen ni wyddai ddim : yn unig Jonathan a Dafydd a wyddent y peth . A Jonathan a roddodd ei offer at ei fachgen , ac a ddywedodd wrtho , Dos , dwg y rhai hyn i’r ddinas . A’r bachgen a aeth ymaith ; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y deau , ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb , ac a ymgrymodd dair gwaith . A hwy a gusanasant bob un ei gilydd , ac a wylasant y naill wrth y llall ; a Dafydd a ragorodd . A dywedodd Jonathan wrth Dafydd , Dos mewn heddwch : yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw yr Arglwydd , gan ddywedyd , Yr Arglwydd fyddo rhyngof fi a thi , a rhwng fy had i a’th had dithau , safed hynny yn dragywydd . Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith : a Jonathan a aeth i’r ddinas . Yna y daeth Dafydd i Nob at Ahimelech yr offeiriad . Ac Ahimelech a ddychrynodd wrth gyfarfod â Dafydd ; ac a ddywedodd wrtho , Paham yr ydwyt ti yn unig , ac heb neb gyda thi ? A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr offeiriad , Y brenin a orchmynnodd i mi beth , ac a ddywedodd wrthyf , Na chaed neb wybod dim o’r peth am yr hwn y’th anfonais , ac y gorchmynnais i ti : a’r gweision a gyfarwyddais i i’r lle a’r lle . Ac yn awr beth sydd dan dy law ? dod i mi bum torth yn fy llaw , neu y peth sydd i’w gael . A’r offeiriad a atebodd Dafydd , ac a ddywedodd , Nid oes fara cyffredin dan fy llaw i ; eithr y mae bara cysegredig : os y llanciau a ymgadwasant o’r lleiaf oddi wrth wragedd . A Dafydd a atebodd yr offeiriad , ac a ddywedodd wrtho , Diau atal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri , er pan gychwynnais i ; llestri y llanciau hefyd ydynt sanctaidd , a’r bara sydd megis cyffredin , ie , petai wedi ei gysegru heddiw yn y llestr . Felly yr offeiriad a roddodd iddo ef y bara sanctaidd : canys nid oedd yno fara , ond y bara gosod , yr hwn a dynasid ymaith oddi gerbron yr Arglwydd , i osod bara brwd yn y dydd y tynnid ef ymaith . Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw un o weision Saul yn aros gerbron yr Arglwydd , a’i enw Doeg , Edomiad , y pennaf o’r bugeiliaid oedd gan Saul . A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech , Onid oes yma dan dy law di waywffon , neu gleddyf ? canys ni ddygais fy nghleddyf na’m harfau chwaith i’m llaw , oherwydd bod gorchymyn y brenin ar ffrwst . A dywedodd yr offeiriad , Cleddyf Goleiath y Philistiad , yr hwn a leddaist ti yn nyffryn Ela ; wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o’r tu ôl i’r effod : o chymeri hwnnw i ti , cymer ; canys nid oes yma yr un arall ond hwnnw . A Dafydd a ddywedodd , Nid oes o fath hwnnw ; dyro ef i mi . Dafydd hefyd a gyfododd , ac a ffodd y dydd hwnnw rhag ofn Saul , ac a aeth at Achis brenin Gath . A gweision Achis a ddywedasant wrtho ef , Onid hwn yw Dafydd brenin y wlad ? onid i hwn y canasant yn y dawnsiau , gan ddywedyd , Saul a laddodd ei filoedd , a Dafydd ei fyrddiwn ? A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon , ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenin Gath . Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt ; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt , ac a gripiodd ddrysau y porth , ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf . Yna y dywedodd Achis wrth ei weision , Wele , gwelwch y gŵr yn gwallgofi ; paham y dygasoch ef ataf fi ? Ai eisiau ynfydion sydd arnaf fi , pan ddygasoch hwn i ynfydu o’m blaen i ? a gaiff hwn ddyfod i’m tŷ i ? A Dafydd a aeth ymaith oddi yno , ac a ddihangodd i ogof Adulam : a phan glybu ei frodyr a holl dŷ ei dad ef hynny , hwy a aethant i waered ato ef yno . Ymgynullodd hefyd ato ef bob gŵr helbulus , a phob gŵr a oedd mewn dyled , a phob gŵr cystuddiedig o feddwl ; ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy : ac yr oedd gydag ef ynghylch pedwar cant o wŷr . A Dafydd a aeth oddi yno i Mispa Moab ; ac a ddywedodd wrth frenin Moab , Deled , atolwg , fy nhad a’m mam i aros gyda chwi , hyd oni wypwyf beth a wnêl Duw i mi . Ac efe a’u dug hwynt gerbron brenin Moab : ac arosasant gydag ef yr holl ddyddiau y bu Dafydd yn yr amddiffynfa . A Gad y proffwyd a ddywedodd wrth Dafydd , Nac aros yn yr amddiffynfa ; dos ymaith , a cherdda rhagot i wlad Jwda . Felly Dafydd a ymadawodd , ac a ddaeth i goed Hareth . A phan glybu Saul gael gwybodaeth am Dafydd , a’r gwŷr oedd gydag ef , ( a Saul oedd yn aros yn Gibea dan bren yn Rama , a’i waywffon yn ei law , a’i holl weision yn sefyll o’i amgylch ; ) Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o’i amgylch , Clywch , atolwg , feibion Jemini : A ddyry mab Jesse i chwi oll feysydd , a gwinllannoedd ? a esyd efe chwi oll yn dywysogion ar filoedd , ac yn dywysogion ar gannoedd ; Gan i chwi oll gydfwriadu i’m herbyn i , ac nad oes a fynego i mi wneuthur o’m mab i gynghrair â mab Jesse , ac nid oes neb ohonoch yn ddrwg ganddo o’m plegid i , nac yn datguddio i mi ddarfod i’m mab annog fy ngwas i gynllwyn i’m herbyn , megis y dydd hwn ? Yna yr atebodd Doeg yr Edomiad , yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul , ac a ddywedodd , Gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech mab Ahitub . Ac efe a ymgynghorodd drosto ef â’r Arglwydd ; ac a roddes fwyd iddo ef ; cleddyf Goleiath y Philistiad a roddes efe hefyd iddo . Yna yr anfonodd y brenin i alw Ahimelech yr offeiriad , mab Ahitub , a holl dŷ ei dad ef , sef yr offeiriaid oedd yn Nob . A hwy a ddaethant oll at y brenin . A Saul a ddywedodd , Gwrando yn awr , mab Ahitub . Dywedodd yntau , Wele fi , fy arglwydd . A dywedodd Saul wrtho ef , Paham y cydfwriadasoch i’m herbyn i , ti a mab Jesse , gan i ti roddi iddo fara , a chleddyf , ac ymgynghori â Duw drosto ef , fel y cyfodai yn fy erbyn i gynllwyn , megis heddiw ? Ac Ahimelech a atebodd y brenin , ac a ddywedodd , Pwy ymysg dy holl weision di sydd mor ffyddlon â Dafydd , ac yn ddaw i’r brenin , ac yn myned wrth dy orchymyn , ac yn anrhydeddus yn dy dŷ di ? Ai y dydd hwnnw y dechreuais i ymgynghori â Duw drosto ef ? na ato Duw i mi . Na osoded y brenin ddim yn erbyn ei was , nac yn erbyn neb o dŷ fy nhad : canys ni wybu dy was di ddim o hyn oll , nac ychydig na llawer . A dywedodd y brenin , Gan farw y byddi farw , Ahimelech , tydi a holl dŷ dy dad . A’r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o’i amgylch ef , Trowch , a lleddwch offeiriaid yr Arglwydd ; oherwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyda Dafydd , ac oherwydd iddynt wybod ffoi ohono ef , ac na fynegasant i mi . Ond gweision y brenin nid estynnent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr Arglwydd . A dywedodd y brenin wrth Doeg , Tro di , a rhuthra ar yr offeiriaid . A Doeg yr Edomiad a drodd , ac a ruthrodd ar yr offeiriaid , ac a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phedwar ugain o wŷr , yn dwyn effod liain . Efe a drawodd hefyd Nob , dinas yr offeiriaid , â min y cleddyf , yn ŵr ac yn wraig , yn ddyn bach ac yn blentyn sugno , ac yn ych , ac yn asyn , ac yn oen , â min y cleddyf . Ond un mab i Ahimelech mab Ahitub , a’i enw Abiathar , a ddihangodd , ac a ffodd ar ôl Dafydd . Ac Abiathar a fynegodd i Dafydd , ddarfod i Saul ladd offeiriaid yr Arglwydd . A dywedodd Dafydd wrth Abiathar , Gwybûm y dydd hwnnw , pan oedd Doeg yr Edomiad yno , gan fynegi y mynegai efe i Saul : myfi a fûm achlysur marwolaeth i holl dylwyth tŷ dy dad di . Aros gyda mi ; nac ofna : canys yr hwn sydd yn ceisio fy einioes i , sydd yn ceisio dy einioes dithau : ond gyda mi y byddi di gadwedig . Yna y mynegasant i Dafydd , gan ddywedyd , Wele y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceila ; ac y maent hwy yn anrheithio yr ysguboriau . Am hynny y gofynnodd Dafydd i’r Arglwydd , gan ddywedyd , A af fi a tharo’r Philistiaid hyn ? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd , Dos , a tharo’r Philistiaid , ac achub Ceila . A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef , Wele ni yn ofnus yma yn Jwda : pa faint mwy os awn i Ceila , yn erbyn byddinoedd y Philistiaid ? Yna Dafydd eilwaith a ymgynghorodd â’r Arglwydd . A’r Arglwydd a’i hatebodd ef , ac a ddywedodd , Cyfod , dos i waered i Ceila ; canys myfi a roddaf y Philistiaid yn dy law di . A Dafydd a’i wŷr a aethant i Ceila , ac a ymladdodd â’r Philistiaid : ac a ddug eu gwartheg hwynt , ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr . Felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceila . A bu , pan ffodd Abiathar mab Ahimelech at Dafydd i Ceila , ddwyn ohono ef effod yn ei law . A mynegwyd i Saul ddyfod Dafydd i Ceila . A dywedodd Saul , Duw a’i rhoddodd ef yn fy llaw i : canys caewyd arno ef pan ddaeth i ddinas â phyrth ac â barrau iddi . A Saul a alwodd yr holl bobl ynghyd i ryfel , i fyned i waered i Ceila , i warchae ar Dafydd ac ar ei wŷr . A gwybu Dafydd fod Saul yn bwriadu drwg i’w erbyn ef : ac efe a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad , Dwg yr effod . Yna y dywedodd Dafydd , O Arglwydd Dduw Israel , gan glywed y clybu dy was , fod Saul yn ceisio dyfod i Ceila , i ddistrywio y ddinas er fy mwyn i . A ddyry arglwyddi Ceila fi yn ei law ef ? a ddaw Saul i waered , megis y clybu dy was ? O Arglwydd Dduw Israel , mynega , atolwg , i’th was . A’r Arglwydd a ddywedodd , Efe a ddaw i waered . Yna y dywedodd Dafydd , A ddyry arglwyddi Ceila fyfi a’m gwŷr yn llaw Saul ? A’r Arglwydd a ddywedodd , Rhoddant . Yna y cyfododd Dafydd a’i wŷr , y rhai oedd ynghylch chwe chant , ac a aethant o Ceila , ac a rodiasant lle y gallent . A mynegwyd i Saul , fod Dafydd wedi dianc o Ceila ; ac efe a beidiodd â myned allan . A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddiffynfeydd , ac a arhodd mewn mynydd , yn anialwch Siff : a Saul a’i ceisiodd ef bob dydd : ond ni roddodd Duw ef yn ei law ef . A gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei einioes ef : a Dafydd oedd yn anialwch Siff , mewn coed . A Jonathan mab Saul a gyfododd , ac a aeth at Dafydd i’r coed ; ac a gryfhaodd ei law ef yn Nuw . Dywedodd hefyd wrtho ef , Nac ofna : canys llaw Saul fy nhad ni’th gaiff di ; a thi a deyrnesi ar Israel , a minnau a fyddaf yn nesaf atat ti : a Saul fy nhad sydd yn gwybod hyn hefyd . A hwy ill dau a wnaethant gyfamod gerbron yr Arglwydd . A Dafydd a arhosodd yn y coed ; a Jonathan a aeth i’w dŷ ei hun . Yna y daeth y Siffiaid i fyny at Saul i Gibea , gan ddywedyd , Onid yw Dafydd yn ymguddio gyda ni mewn amddiffynfeydd yn y coed , ym mryn Hachila , yr hwn sydd o’r tu deau i’r diffeithwch ? Ac yn awr , O frenin , tyred i waered yn ôl holl ddymuniad dy galon ; a bydded arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenin . A dywedodd Saul , Bendigedig fyddoch chwi gan yr Arglwydd : canys tosturiasoch wrthyf . Ewch , atolwg , paratowch ; eto mynnwch wybod hefyd , ac edrychwch am ei gyniweirfa ef , lle y mae efe yn tramwy , a phwy a’i gwelodd ef yno ; canys dywedwyd i mi ei fod ef yn gyfrwys iawn . Edrychwch gan hynny , a mynnwch wybod yr holl lochesau y mae efe yn ymguddio ynddynt , a dychwelwch ataf fi â sicrwydd , fel yr elwyf gyda chwi ; ac os bydd efe yn y wlad , mi a chwiliaf amdano ef trwy holl filoedd Jwda . A hwy a gyfodasant , ac a aethant i Siff o flaen Saul : ond Dafydd a’i wŷr oedd yn anialwch Maon , yn y rhos o’r tu deau i’r diffeithwch . Saul hefyd a’i wŷr a aeth i’w geisio ef . A mynegwyd i Dafydd : am hynny efe a ddaeth i waered i graig , ac a arhosodd yn anialwch Maon . A phan glybu Saul hynny , efe a erlidiodd ar ôl Dafydd yn anialwch Maon . A Saul a aeth o’r naill du i’r mynydd , a Dafydd a’i wŷr o’r tu arall i’r mynydd ; ac yr oedd Dafydd yn brysio i fyned ymaith rhag ofn Saul ; canys Saul a’i wŷr a amgylchynasant Dafydd a’i wŷr , i’w dala hwynt . Ond cennad a ddaeth at Saul , gan ddywedyd , Brysia , a thyred : canys y Philistiaid a ymdaenasant ar hyd y wlad . Am hynny y dychwelodd Saul o erlid ar ôl Dafydd ; ac efe a aeth yn erbyn y Philistiaid : oherwydd hynny y galwasant y fan honno Sela Hamma-lecoth . A Dafydd a aeth i fyny oddi yno , ac a arhosodd yn amddiffynfeydd En-gedi . A phan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid , mynegwyd iddo , gan ddywedyd , Wele Dafydd yn anialwch En-gedi . Yna y cymerth Saul dair mil o wŷr etholedig o holl Israel ; ac efe a aeth i geisio Dafydd a’i wŷr , ar hyd copa creigiau y geifr gwylltion . Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid , ar y ffordd ; ac yno yr oedd ogof : a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff . A Dafydd a’i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof . A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef , Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt , Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di , fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg . Yna Dafydd a gyfododd , ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel . Ac wedi hyn calon Dafydd a’i trawodd ef , oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul . Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr , Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr , eneiniog yr Arglwydd , i estyn fy llaw yn ei erbyn ef ; oblegid eneiniog yr Arglwydd yw efe . Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â’r geiriau hyn , ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul . A Saul a gododd i fyny o’r ogof , ac a aeth i ffordd . Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd , ac a aeth allan o’r ogof ; ac a lefodd ar ôl Saul , gan ddywedyd , Fy arglwydd frenin . A phan edrychodd Saul o’i ôl , Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaear , ac a ymgrymodd . A Dafydd a ddywedodd wrth Saul , Paham y gwrandewi eiriau dynion , gan ddywedyd , Wele , y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti ? Wele , dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i’r Arglwydd dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof : a dywedwyd wrthyf am dy ladd di ; ond fy enaid a’th arbedodd di : a dywedais , Nid estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr ; canys eneiniog yr Arglwydd yw efe . Fy nhad hefyd , gwêl , ie gwêl gwr dy fantell yn fy llaw i : canys pan dorrais ymaith gwr dy fantell di , heb dy ladd ; gwybydd a gwêl nad oes yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd , ac na phechais i’th erbyn : eto yr wyt ti yn hela fy einioes i , i’w dala hi . Barned yr Arglwydd rhyngof fi a thithau , a dialed yr Arglwydd fi arnat ti : ond ni bydd fy llaw i arnat ti . Megis y dywed yr hen ddihareb , Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd : ond ni bydd fy llaw i arnat ti . Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan ? ar ôl pwy yr ydwyt ti yn erlid ? ar ôl ci marw , ar ôl chwannen . Am hynny bydded yr Arglwydd yn farnwr , a barned rhyngof fi a thi : edryched hefyd , a dadleued fy nadl , ac achubed fi o’th law di . A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul , yna y dywedodd Saul , Ai dy lef di yw hon , fy mab Dafydd ? A Saul a ddyrchafodd ei lef , ac a wylodd . Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd , Cyfiawnach wyt ti na myfi : canys ti a delaist i mi dda , a minnau a delais i ti ddrwg . A thi a ddangosaist heddiw wneuthur ohonot â mi ddaioni : oherwydd rhoddodd yr Arglwydd fi yn dy law di , ac ni’m lleddaist . Oblegid os caffai ŵr ei elyn , a ollyngai efe ef mewn ffordd dda ? am hynny yr Arglwydd a dalo i ti ddaioni , am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn . Ac wele yn awr , mi a wn gan deyrnasu y teyrnesi di , ac y sicrheir brenhiniaeth Israel yn dy law di . Twng dithau wrthyf fi yn awr i’r Arglwydd , na thorri ymaith fy had i ar fy ôl , ac na ddifethi fy enw i o dŷ fy nhad . A Dafydd a dyngodd wrth Saul . A Saul a aeth i’w dŷ : Dafydd hefyd a’i wŷr a aethant i fyny i’r amddiffynfa . A bu farw Samuel ; a holl Israel a ymgynullasant , ac a alarasant amdano ef , ac a’i claddasant ef yn ei dŷ yn Rama . A Dafydd a gyfododd , ac a aeth i waered i anialwch Paran . Ac yr oedd gŵr ym Maon , a’i gyfoeth yn Carmel ; a’r gŵr oedd fawr iawn , ac iddo ef yr oedd tair mil o ddefaid , a mil o eifr : ac yr oedd efe yn cneifio ei ddefaid yn Carmel . Ac enw y gŵr oedd Nabal ; ac enw ei wraig Abigail : a’r wraig oedd yn dda ei deall , ac yn deg ei gwedd : a’r gŵr oedd galed , a drwg ei weithredoedd ; a Chalebiad oedd efe . A chlybu Dafydd yn yr anialwch , fod Nabal yn cneifio ei ddefaid . A Dafydd a anfonodd ddeg o lanciau ; a Dafydd a ddywedodd wrth y llanciau , Cerddwch i fyny i Carmel , ac ewch at Nabal , a chyferchwch well iddo yn fy enw i . Dywedwch fel hyn hefyd wrtho ef sydd yn byw mewn llwyddiant , Caffech di heddwch , a’th dŷ heddwch , a’r hyn oll sydd eiddot ti heddwch . Ac yn awr clywais fod rhai yn cneifio i ti : yn awr y bugeiliaid sydd gennyt a fuant gyda ni , ni wnaethom sarhad arnynt hwy , ac ni bu ddim yn eisiau iddynt , yr holl ddyddiau y buant hwy yn Carmel . Gofyn i’th lanciau , a hwy a fynegant i ti : gan hynny caed y llanciau hyn ffafr yn dy olwg di ; canys ar ddiwrnod da y daethom ni ; dyro , atolwg , yr hyn a ddelo i’th law , i’th weision , ac i’th fab Dafydd . Ac wedi dyfod llanciau Dafydd , hwy a ddywedasant wrth Nabal yn ôl yr holl eiriau hynny yn enw Dafydd , ac a dawsant . A Nabal a atebodd weision Dafydd , ac a ddywedodd , Pwy yw Dafydd ? a phwy yw mab Jesse ? llawer sydd o weision heddiw yn torri ymaith bob un oddi wrth ei feistr . A gymeraf fi fy mara a’m dwfr , a’m cig a leddais i’m cneifwyr , a’u rhoddi i wŷr nis gwn o ba le y maent ? Felly llanciau Dafydd a droesant i’w ffordd , ac a ddychwelasant , ac a ddaethant , ac a fynegasant iddo ef yr holl eiriau hynny . A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr , Gwregyswch bob un ei gleddyf . Ac ymwregysodd pob un ei gleddyf : ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf : ac ynghylch pedwar cant o wŷr a aeth i fyny ar ôl Dafydd , a dau gant a drigasant gyda’r dodrefn . Ac un o’r llanciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal , gan ddywedyd , Wele , Dafydd a anfonodd genhadau o’r anialwch i gyfarch gwell i’n meistr ni ; ond efe a’u difenwodd hwynt . A’r gwŷr fu dda iawn wrthym ni ; ac ni wnaed sarhad arnom ni , ac ni bu i ni ddim yn eisiau yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt , pan oeddem yn y maes . Mur oeddynt hwy i ni nos a dydd , yr holl ddyddiau y buom gyda hwynt yn cadw y defaid . Yn awr gan hynny gwybydd , ac ystyria beth a wnelych : canys paratowyd drwg yn erbyn ein meistr ni , ac yn erbyn ei holl dŷ ef : canys efe sydd fab i Belial , fel na ellir ymddiddan ag ef . Yna Abigail a frysiodd , ac a gymerth ddau cant o fara , a dwy gostrelaid o win , a phump o ddefaid wedi eu gwneuthur yn barod , a phum hobaid o gras ŷd , a chan swp o resin , a dau can teisen o ffigys , ac a’u gosododd ar asynnod . A hi a ddywedodd wrth ei gweision , Cerddwch o’m blaen i ; wele fi yn dyfod ar eich ôl : ond wrth Nabal ei gŵr nid ynganodd hi . Ac a hi yn marchogaeth ar asyn , ac yn dyfod i waered ar hyd ystlys y mynydd ; yna , wele Dafydd a’i wŷr yn dyfod i waered i’w herbyn ; a hi a gyfarfu â hwynt . A dywedasai Dafydd , Diau gadw ohonof fi yn ofer yr hyn oll oedd gan hwn yn yr anialwch , fel na bu dim yn eisiau o’r hyn oll oedd ganddo ef : canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda . Felly y gwnelo Duw i elynion Dafydd , ac ychwaneg , os gadawaf o’r hyn oll sydd ganddo ef , erbyn goleuni y bore , un gwryw . A phan welodd Abigail Dafydd , hi a frysiodd ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn , ac a syrthiodd gerbron Dafydd ar ei hwyneb , ac a ymgrymodd hyd lawr , Ac a syrthiodd wrth ei draed ef , ac a ddywedodd , Arnaf fi , fy arglwydd , arnaf fi bydded yr anwiredd ; a llefared dy wasanaethferch , atolwg , wrthyt , a gwrando eiriau dy lawforwyn . Atolwg , na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr Belial hwn , sef Nabal : canys fel y mae ei enw ef , felly y mae yntau ; Nabal yw ei enw ef , ac ynfydrwydd sydd gydag ef : a minnau dy wasanaethferch , ni welais weision fy arglwydd , y rhai a anfonaist . Ac yn awr , fy arglwydd , fel y mae yr Arglwydd yn fyw , ac mai byw dy enaid di , gan i’r Arglwydd dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed , ac i ymddial â’th law dy hun ; yn awr bydded dy elynion di , a’r sawl a geisiant niwed i’m harglwydd , megis Nabal . Ac yn awr yr anrheg yma , yr hon a ddug dy wasanaethferch i’m harglwydd , rhodder hi i’r llanciau sydd yn canlyn fy arglwydd . A maddau , atolwg , gamwedd dy wasanaethferch : canys yr Arglwydd gan wneuthur a wna i’m harglwydd dŷ sicr ; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd , a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau . Er cyfodi o ddyn i’th erlid di , ac i geisio dy enaid ; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda’r Arglwydd dy Dduw ; ac enaid dy elynion a chwyrn deifi efe , fel o ganol ceudeb y ffon dafl . A phan wnelo yr Arglwydd i’m harglwydd yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddaioni amdanat , a phan y’th osodo di yn flaenor ar Israel ; Yna ni bydd hyn yn ochenaid i ti , nac yn dramgwydd calon i’m harglwydd , ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos , neu ddial o’m harglwydd ef ei hun : ond pan wnelo Duw ddaioni i’m harglwydd , yna cofia di dy lawforwyn . A dywedodd Dafydd wrth Abigail , Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel , yr hwn a’th anfonodd di y dydd hwn i’m cyfarfod i : Bendigedig hefyd fo dy gyngor , a bendigedig fyddych dithau yr hon a’m lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed , ac i ymddial â’m llaw fy hun . Canys yn wir , fel y mae Arglwydd Dduw Israel yn fyw , yr hwn a’m hataliodd i rhag dy ddrygu di , oni buasai i ti frysio a dyfod i’m cyfarfod , diau na adawsid i Nabal , erbyn goleuni y bore , un gwryw . Yna y cymerodd Dafydd o’i llaw hi yr hyn a ddygasai hi iddo ef ; ac a ddywedodd wrthi hi , Dos i fyny mewn heddwch i’th dŷ : gwêl , mi a wrandewais ar dy lais , ac a dderbyniais dy wyneb . Ac Abigail a ddaeth at Nabal ; ac wele , yr oedd gwledd ganddo ef yn ei dŷ , fel gwledd brenin : a chalon Nabal oedd lawen ynddo ef ; canys meddw iawn oedd efe : am hynny nid ynganodd hi wrtho ef air , na bychan na mawr , nes goleuo y bore . A’r bore pan aeth ei feddwdod allan o Nabal , mynegodd ei wraig iddo ef y geiriau hynny ; a’i galon ef a fu farw o’i fewn , ac efe a aeth fel carreg . Ac ynghylch pen y deng niwrnod y trawodd yr Arglwydd Nabal , fel y bu efe farw . A phan glybu Dafydd farw Nabal , efe a ddywedodd , Bendigedig fyddo yr Arglwydd , yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhad i oddi ar law Nabal , ac a ataliodd ei was rhag drwg : canys yr Arglwydd a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun . Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail , am ei chymryd hi yn wraig iddo . A phan ddaeth gweision Dafydd at Abigail i Carmel , hwy a lefarasant wrthi , gan ddywedyd , Dafydd a’n hanfonodd ni atat ti , i’th gymryd di yn wraig iddo . A hi a gyfododd , ac a ymgrymodd ar ei hwyneb hyd lawr ; ac a ddywedodd , Wele dy forwyn yn wasanaethferch i olchi traed gweision fy arglwydd . Abigail hefyd a frysiodd , ac a gyfododd , ac a farchogodd ar asyn , a phump o’i llancesau yn ei chanlyn : a hi a aeth ar ôl cenhadau Dafydd , ac a aeth yn wraig iddo ef . A Dafydd a gymerth Ahinoam o Jesreel ; a hwy a fuant ill dwyoedd yn wragedd iddo ef . A Saul a roddasai Michal ei ferch , gwraig Dafydd , i Phalti mab Lais , o Alim . A’r Siffiaid a ddaethant at Saul i Gibea , gan ddywedyd , Onid ydyw Dafydd yn llechu ym mryn Hachila , ar gyfer y diffeithwch ? Yna y cyfododd Saul , ac a aeth i waered i anialwch Siff , a thair mil o etholedigion gwŷr Israel gydag ef , i geisio Dafydd yn anialwch Siff . A Saul a wersyllodd ym mryn Hachila , yr hwn sydd ar gyfer y diffeithwch , wrth y ffordd : a Dafydd oedd yn aros yn yr anialwch ; ac efe a welodd fod Saul yn dyfod ar ei ôl ef i’r anialwch . Am hynny Dafydd a anfonodd ysbïwyr , ac a wybu ddyfod o Saul yn sicr . A Dafydd a gyfododd , ac a ddaeth i’r lle y gwersyllasai Saul ynddo : a chanfu Dafydd y lle yr oedd Saul yn gorwedd ynddo , ac Abner mab Ner , tywysog ei lu . A Saul oedd yn gorwedd yn y wersyllfa , a’r bobl yn gwersyllu o’i amgylch ef . Yna y llefarodd Dafydd , ac y dywedodd wrth Ahimelech yr Hethiad , ac wrth Abisai mab Serfia , brawd Joab , gan ddywedyd , Pwy a â i waered gyda mi at Saul i’r gwersyll ? A dywedodd Abisai , Myfi a af i waered gyda thi . Felly y daeth Dafydd ac Abisai at y bobl liw nos . Ac wele Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y wersyllfa , a’i waywffon wedi ei gwthio i’r ddaear wrth ei obennydd ef : ac Abner a’r bobl oedd yn gorwedd o’i amgylch ef . Yna y dywedodd Abisai wrth Dafydd , Duw a roddes heddiw dy elyn yn dy law di : yn awr gan hynny gad i mi ei daro ef , atolwg , â gwaywffon , hyd y ddaear un waith , ac nis aildrawaf ef . A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai , Na ddifetha ef : canys pwy a estynnai ei law yn erbyn eneiniog yr Arglwydd , ac a fyddai ddieuog ? Dywedodd Dafydd hefyd , Fel y mae yr Arglwydd yn fyw , naill ai yr Arglwydd a’i tery ef ; ai ei ddydd ef a ddaw i farw ; ai efe a ddisgyn i’r rhyfel , ac a ddifethir . Yr Arglwydd a’m cadwo i rhag estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd : ond yn awr , cymer , atolwg , y waywffon sydd wrth ei obennydd ef , a’r llestr dwfr , ac awn ymaith . A Dafydd a gymerth y waywffon , a’r llestr dwfr oddi wrth obennydd Saul ; a hwy a aethant ymaith ; ac nid oedd neb yn gweled , nac yn gwybod , nac yn neffro : canys yr oeddynt oll yn cysgu ; oherwydd trymgwsg oddi wrth yr Arglwydd a syrthiasai arnynt hwy . Yna Dafydd a aeth i’r tu hwnt , ac a safodd ar ben y mynydd o hirbell ; ac encyd fawr rhyngddynt ; A Dafydd a lefodd ar y bobl , ac ar Abner mab Ner , gan ddywedyd , Onid atebi di , Abner ? Yna Abner a atebodd , ac a ddywedodd , Pwy ydwyt ti sydd yn llefain ar y brenin ? A Dafydd a ddywedodd wrth Abner , Onid gŵr ydwyt ti ? a phwy sydd fel ti yn Israel ? a phaham na chedwaist dy arglwydd frenin ? canys daeth un o’r bobl i ddifetha’r brenin dy arglwydd di . Nid da y peth hyn a wnaethost ti . Fel y mae yr Arglwydd yn fyw , meibion euog o farwolaeth ydych chwi , am na chadwasoch eich meistr , eneiniog yr Arglwydd . Ac yn awr edrychwch pa le y mae gwaywffon y brenin , a’r llestr dwfr oedd wrth ei obennydd ef . A Saul a adnabu lais Dafydd , ac a ddywedodd , Ai dy lais di yw hwn , fy mab Dafydd ? A dywedodd Dafydd , Fy llais i ydyw , fy arglwydd frenin . Dywedodd hefyd , Paham y mae fy arglwydd fel hyn yn erlid ar ôl ei was ? canys beth a wneuthum ? neu pa ddrygioni sydd yn fy llaw ? Yn awr gan hynny , atolwg , gwrandawed fy arglwydd frenin eiriau ei wasanaethwr . Os yr Arglwydd a’th anogodd di i’m herbyn , arogled offrwm : ond os meibion dynion , melltigedig fyddant hwy gerbron yr Arglwydd ; oherwydd hwy a’m gyrasant i allan heddiw , fel nad ydwyf yn cael glynu yn etifeddiaeth yr Arglwydd , gan ddywedyd , Dos , gwasanaetha dduwiau dieithr . Yn awr , gan hynny , na syrthied fy ngwaed i i’r ddaear o flaen wyneb yr Arglwydd : canys brenin Israel a ddaeth allan i geisio chwannen , megis un yn hela petris yn y mynyddoedd . Yna Saul a ddywedodd , Pechais : dychwel , Dafydd fy mab : canys ni’th ddrygaf mwy ; oherwydd gwerthfawr fu fy einioes i yn dy olwg di y dydd hwn : wele , ynfyd y gwneuthum , a mi a gyfeiliornais yn ddirfawr . A Dafydd a atebodd , ac a ddywedodd , Wele waywffon y brenin ; deled un o’r llanciau drosodd , a chyrched hi . Yr Arglwydd a dalo i bob un ei gyfiawnder a’i ffyddlondeb : canys yr Arglwydd a’th roddodd di heddiw yn fy llaw i ; ond nid estynnwn i fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd . Ac wele , megis y bu werthfawr dy einioes di heddiw yn fy ngolwg i , felly gwerthfawr fyddo fy einioes innau yng ngolwg yr Arglwydd , a gwareded fi o bob cyfyngdra . Yna y dywedodd Saul wrth Dafydd , Bendigedig fych di , fy mab Dafydd : hefyd ti a wnei fawredd , ac a orchfygi rhag llaw . A Dafydd a aeth i ffordd ; a Saul a ddychwelodd i’w fangre ei hun . A Dafydd a ddywedodd yn ei galon , Yn awr difethir fi ryw ddydd trwy law Saul : nid oes dim well i mi na dianc i dir y Philistiaid ; fel yr anobeithio Saul ddyfod o hyd i mi , ac na’m ceisio mwy yn holl derfynau Israel . Felly y dihangaf o’i law ef . A Dafydd a gyfododd , ac a dramwyodd , efe a’r chwe channwr oedd gydag ef , at Achis mab Maoch , brenin Gath . A Dafydd a arhosodd gydag Achis yn Gath , efe a’i wŷr , pob un gyda’i deulu ; Dafydd a’i ddwy wraig , Ahinoam y Jesreeles , ac Abigail gwraig Nabal , y Garmeles . A mynegwyd i Saul , ffoi o Dafydd i Gath : ac ni chwanegodd efe ei geisio ef mwy . A Dafydd a ddywedodd wrth Achis , O chefais yn awr ffafr yn dy olwg di , rhodder i mi le yn un o’r maestrefi , fel y trigwyf yno : canys paham yr erys dy was di yn ninas y brenin gyda thi ? Yna Achis a roddodd iddo ef y dydd hwnnw Siclag ; am hynny y mae Siclag yn eiddo brenhinoedd Jwda hyd y dydd hwn . A rhifedi y dyddiau yr arhosodd Dafydd yng ngwlad y Philistiaid , oedd flwyddyn a phedwar mis . A Dafydd a’i wŷr a aethant i fyny , ac a ruthrasant ar y Gesuriaid , a’r Gesriaid , a’r Amaleciaid : canys hwynt-hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad , ffordd yr elych i Sur , ie , hyd wlad yr Aifft . A Dafydd a drawodd y wlad ; ac ni adawodd yn fyw ŵr na gwraig ; ac a ddug y defaid , a’r gwartheg , a’r asynnod , a’r camelod , a’r gwisgoedd , ac a ddychwelodd ac a ddaeth at Achis . Ac Achis a ddywedodd , I ba le y rhuthrasoch chwi heddiw ? A dywedodd Dafydd , Yn erbyn tu deau Jwda , ac yn erbyn tu deau y Jerahmeeliaid , ac yn erbyn tu deau y Ceneaid . Ac ni adawsai Dafydd yn fyw ŵr na gwraig , i ddwyn chwedlau i Gath ; gan ddywedyd , Rhag mynegi ohonynt i’n herbyn , gan ddywedyd , Fel hyn y gwnaeth Dafydd , ac felly y bydd ei arfer ef yr holl ddyddiau yr arhoso efe yng ngwlad y Philistiaid . Ac Achis a gredodd Dafydd , gan ddywedyd , Efe a’i gwnaeth ei hun yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel ; am hynny y bydd efe yn was i mi yn dragywydd . A’r Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynullasant eu byddinoedd yn llu , i ymladd yn erbyn Israel . A dywedodd Achis wrth Dafydd , Gwybydd di yn hysbys , yr ei di gyda mi allan i’r gwersylloedd , ti a’th wŷr . A dywedodd Dafydd wrth Achis , Yn ddiau ti a gei wybod beth a all dy was ei wneuthur . A dywedodd Achis wrth Dafydd , Yn wir minnau a’th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth . A Samuel a fuasai farw ; a holl Israel a alarasent amdano ef , ac a’i claddasent yn Rama , sef yn ei ddinas ei hun . A Saul a yrasai ymaith y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad . A’r Philistiaid a ymgynullasant ac a ddaethant ac a wersyllasant yn Sunem : a Saul a gasglodd holl Israel ynghyd ; a hwy a wersyllasant yn Gilboa . A phan welodd Saul wersyll y Philistiaid , efe a ofnodd , a’i galon a ddychrynodd yn ddirfawr . A phan ymgynghorodd Saul â’r Arglwydd , nid atebodd yr Arglwydd iddo , na thrwy freuddwydion , na thrwy Urim , na thrwy broffwydi . Yna y dywedodd Saul wrth ei weision , Ceisiwch i mi wraig o berchen ysbryd dewiniaeth , fel yr elwyf ati , ac yr ymofynnwyf â hi . A’i weision a ddywedasant wrtho , Wele , y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor . A Saul a newidiodd ei ddull , ac a wisgodd ddillad eraill ; ac efe a aeth , a dau ŵr gydag ef , a hwy a ddaethant at y wraig liw nos . Ac efe a ddywedodd , Dewinia , atolwg , i mi trwy ysbryd dewiniaeth , a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt . A’r wraig a ddywedodd wrtho ef , Wele , ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul , yr hwn a ddifethodd y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad : paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy einioes i , i beri i mi farw ? A Saul a dyngodd wrthi hi i’r Arglwydd , gan ddywedyd , Fel mai byw yr Arglwydd , ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn . Yna y dywedodd y wraig , Pwy a ddygaf fi i fyny atat ti ? Ac efe a ddywedodd , Dwg i mi Samuel i fyny . A’r wraig a ganfu Samuel , ac a lefodd â llef uchel : a’r wraig a lefarodd wrth Saul , gan ddywedyd , Paham y twyllaist fi ? canys ti yw Saul . A’r brenin a ddywedodd wrthi hi , Nac ofna : canys beth a welaist ti ? A’r wraig a ddywedodd wrth Saul , Duwiau a welais yn dyrchafu o’r ddaear . Yntau a ddywedodd wrthi , Pa ddull sydd arno ef ? A hi a ddywedodd , Gŵr hen sydd yn dyfod i fyny , a hwnnw yn gwisgo mantell . A gwybu Saul mai Samuel oedd efe ; ac efe a ostyngodd ei wyneb i lawr , ac a ymgrymodd . A Samuel a ddywedodd wrth Saul , Paham yr aflonyddaist arnaf , gan beri i mi ddyfod i fyny ? A dywedodd Saul , Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi : canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i , a Duw a giliodd oddi wrthyf fi , ac nid yw yn fy ateb mwyach , na thrwy law proffwydi , na thrwy freuddwydion : am hynny y gelwais arnat ti , i hysbysu i mi beth a wnawn . Yna y dywedodd Samuel , Paham gan hynny yr ydwyt ti yn ymofyn â mi , gan i’r Arglwydd gilio oddi wrthyt , a bod yn elyn i ti ? Yr Arglwydd yn ddiau a wnaeth iddo , megis y llefarodd trwy fy llaw i : canys yr Arglwydd a rwygodd y frenhiniaeth o’th law di , ac a’i rhoddes hi i’th gymydog , i Dafydd : Oherwydd na wrandewaist ti ar lais yr Arglwydd , ac na chyflewnaist lidiowgrwydd ei ddicter ef yn erbyn Amalec ; am hynny y gwnaeth yr Arglwydd y peth hyn i ti y dydd hwn . Yr Arglwydd hefyd a ddyry Israel gyda thi yn llaw y Philistiaid : ac yfory y byddi di a’th feibion gyda mi : a’r Arglwydd a ddyry wersylloedd Israel yn llaw y Philistiaid . Yna Saul a frysiodd ac a syrthiodd o’i hyd gyhyd ar y ddaear , ac a ofnodd yn ddirfawr , oherwydd geiriau Samuel : a nerth nid oedd ynddo ; canys ni fwytasai fwyd yr holl ddiwrnod na’r holl noson honno . A’r wraig a ddaeth at Saul , ac a ganfu ei fod ef yn ddychrynedig iawn ; a hi a ddywedodd wrtho ef , Wele , gwrandawodd dy lawforwyn ar dy lais di , a gosodais fy einioes mewn enbydrwydd , ac ufuddheais dy eiriau a leferaist wrthyf : Yn awr gan hynny gwrando dithau , atolwg , ar lais dy wasanaethferch , a gad i mi osod ger dy fron di damaid o fara ; a bwyta , fel y byddo nerth ynot , pan elych i’th ffordd . Ond efe a wrthododd , ac a ddywedodd , Ni fwytâf . Eto ei weision a’r wraig hefyd a’i cymellasant ef ; ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt . Ac efe a gyfododd oddi ar y ddaear , ac a eisteddodd ar y gwely . Ac yr oedd gan y wraig lo bras yn tŷ ; a hi a frysiodd , ac a’i lladdodd ef , ac a gymerth beilliaid , ac a’i tylinodd , ac a’i pobodd yn gri : A hi a’i dug gerbron Saul , a cherbron ei weision : a hwy a fwytasant . Yna hwy a gyfodasant , ac a aethant ymaith y noson honno . Yna y Philistiaid a gynullasant eu holl fyddinoedd i Affec : a’r Israeliaid oedd yn gwersyllu wrth ffynnon sydd yn Jesreel . A thywysogion y Philistiaid oedd yn tramwy yn gannoedd , ac yn filoedd : ond Dafydd a’i wŷr oedd yn cerdded yn olaf gydag Achis . Yna tywysogion y Philistiaid a ddywedasant , Beth a wna yr Hebreaid hyn yma ? Ac Achis a ddywedodd wrth dywysogion y Philistiaid , Onid dyma Dafydd , gwas Saul brenin Israel , yr hwn a fu gyda mi y dyddiau hyn , neu y blynyddoedd hyn , ac ni chefais ddim bai ynddo ef , er y dydd y syrthiodd efe ataf hyd y dydd hwn ? A thywysogion y Philistiaid a lidiasant wrtho ; a thywysogion y Philistiaid a ddywedasant wrtho , Gwna i’r gŵr hwn ddychwelyd i’w le a osodaist iddo , ac na ddeled i waered gyda ni i’r rhyfel ; rhag ei fod yn wrthwynebwr i ni yn y rhyfel : canys â pha beth y rhyngai hwn fodd i’w feistr ? onid â phennau y gwŷr hyn ? Onid hwn yw Dafydd , am yr hwn y canasant wrth ei gilydd yn y dawnsiau , gan ddywedyd , Saul a laddodd ei filoedd , a Dafydd ei fyrddiwn ? Yna Achis a alwodd Dafydd , ac a ddywedodd wrtho , Fel mai byw yr Arglwydd , diau dy fod di yn uniawn , ac yn dda yn fy ngolwg i , pan elit allan a phan ddelit i mewn gyda mi yn y gwersyll : canys ni chefais ynot ddrygioni , o’r dydd y daethost ataf fi hyd y dydd hwn : eithr nid wyt ti wrth fodd y tywysogion . Dychwel yn awr , gan hynny , a dos mewn heddwch , ac na anfodlona dywysogion y Philistiaid . A dywedodd Dafydd wrth Achis , Ond beth a wneuthum i ? a pheth a gefaist ti yn dy was , o’r dydd y deuthum o’th flaen di hyd y dydd hwn , fel na ddelwn i ymladd yn erbyn gelynion fy arglwydd frenin ? Ac Achis a atebodd ac a ddywedodd wrth Dafydd , Gwn mai da wyt ti yn fy ngolwg i , megis angel Duw : ond tywysogion y Philistiaid a ddywedasant , Ni ddaw efe i fyny gyda ni i’r rhyfel . Am hynny yn awr cyfod yn fore , a gweision dy feistr y rhai a ddaethant gyda thi : a phan gyfodoch yn fore , a phan oleuo i chwi ewch ymaith . Felly Dafydd a gyfododd , efe a’i wŷr , i fyned ymaith y bore , i ddychwelyd i dir y Philistiaid . A’r Philistiaid a aethant i fyny i Jesreel . A phan ddaeth Dafydd a’i wŷr i Siclag y trydydd dydd , yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y deau , ac ar Siclag , ac a drawsent Siclag , ac a’i llosgasent hi â thân . Caethgludasent hefyd y gwragedd oedd ynddi : o fychan hyd fawr ni laddasent hwy neb , eithr dygasent hwy ymaith , ac aethent i’w ffordd . Felly y daeth Dafydd a’i wŷr i’r ddinas ; ac wele hi wedi ei llosgi â thân : eu gwragedd hwynt hefyd , a’u meibion , a’u merched , a gaethgludasid . Yna dyrchafodd Dafydd a’r bobl oedd gydag ef eu llef , ac a wylasant , hyd nad oedd nerth ynddynt i wylo . Dwy wraig Dafydd hefyd a gaethgludasid , Ahinoam y Jesreeles , ac Abigail , gwraig Nabal y Carmeliad . A bu gyfyng iawn ar Dafydd ; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef ; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl , bob un am ei feibion , ac am ei ferched : ond Dafydd a ymgysurodd yn yr Arglwydd ei Dduw . A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad , mab Ahimelech , Dwg i mi , atolwg , yr effod , Ac Abiathar a ddug yr effod at Dafydd . A Dafydd a ymofynnodd â’r Arglwydd , gan ddywedyd , A erlidiaf fi ar ôl y dorf hon ? a oddiweddaf fi hi ? Ac efe a ddywedodd wrtho , Erlid : canys gan oddiweddyd y goddiweddi , a chan waredu y gwaredi . Felly Dafydd a aeth , efe a’r chwe channwr oedd gydag ef , a hwy a ddaethant hyd afon Besor , lle yr arhosodd y rhai a adawyd yn ôl . A Dafydd a erlidiodd , efe a phedwar cant o wŷr ; canys dau cannwr a arosasant yn ôl , y rhai a flinasent fel na allent fyned dros afon Besor . A hwy a gawsant Eifftddyn yn y maes , ac a’i dygasant ef at Dafydd ; ac a roddasant iddo fara , ac efe a fwytaodd ; a hwy a’i diodasant ef â dwfr . A hwy a roddasant iddo ddarn o ffigys , a dau swp o resin : ac efe a fwytaodd , a’i ysbryd a ddychwelodd ato : canys ni fwytasai fara , ac nid yfasai ddwfr dridiau a thair nos . A Dafydd a ddywedodd wrtho , Gwas i bwy wyt ti ? ac o ba le y daethost ti ? Ac efe a ddywedodd , Llanc o’r Aifft ydwyf fi , gwas i ŵr o Amalec ; a’m meistr a’m gadawodd , oblegid i mi glefychu er ys tridiau bellach . Nyni a ruthrasom ar du deau y Cerethiaid , a’r hyn sydd eiddo Jwda , a thu deau Caleb : Siclag hefyd a losgasom ni â thân . A Dafydd a ddywedodd wrtho , A fedri di fyned â mi i waered at y dorf hon ? Yntau a ddywedodd , Twng wrthyf fi i Dduw , na leddi fi , ac na roddi fi yn llaw fy meistr , a mi a af â thi i waered at y dorf hon . Ac efe a’i dug ef i waered : ac wele hwynt wedi ymwasgaru ar hyd wyneb yr holl dir , yn bwyta , ac yn yfed , ac yn dawnsio ; oherwydd yr holl ysbail fawr a ddygasent hwy o wlad y Philistiaid , ac o wlad Jwda . A Dafydd a’u trawodd hwynt o’r cyfnos hyd brynhawn drannoeth : ac ni ddihangodd un ohonynt , oddieithr pedwar cant o wŷr ieuanc , y rhai a farchogasant ar gamelod , ac a ffoesant . A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddygasai yr Amaleciaid : Dafydd hefyd a waredodd ei ddwy wraig . Ac nid oedd yn eisiau iddynt , na bychan na mawr , na mab na merch , na’r anrhaith , na dim ag a ddygasent hwy ganddynt : hyn oll a ddug Dafydd adref . Dug Dafydd hefyd yr holl ddefaid , a’r gwartheg ; y rhai a yrasant o flaen yr anifeiliaid eraill , ac a ddywedasant , Dyma anrhaith Dafydd . A Dafydd a ddaeth at y ddau cannwr a flinasent , fel na allent ganlyn Dafydd , ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor : a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd , ac i gyfarfod â’r bobl oedd gydag ef . A phan nesaodd Dafydd at y bobl , efe a gyfarchodd well iddynt . Yna yr atebodd pob gŵr drygionus , ac eiddo y fall , o’r gwŷr a aethai gyda Dafydd , ac a ddywedasant , Oherwydd nad aethant hwy gyda ni , ni roddwn ni iddynt hwy ddim o’r anrhaith a achubasom ni ; eithr i bob un ei wraig , a’i feibion : dygant hwynt ymaith , ac ymadawant . Yna y dywedodd Dafydd , Ni wnewch chwi felly , fy mrodyr , am yr hyn a roddodd yr Arglwydd i ni , yr hwn a’n cadwodd ni , ac a roddodd y dorf a ddaethai i’n herbyn , yn ein llaw ni . Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn ? canys un fath fydd rhan yr hwn a elo i waered i ryfel , a rhan yr hwn a arhoso gyda’r dodrefn : hwy a gydrannant . Ac o’r dydd hwnnw allan , efe a osododd hyn yn gyfraith ac yn farnedigaeth yn Israel , hyd y dydd hwn . A phan ddaeth Dafydd i Siclag , efe a anfonodd o’r anrhaith i henuriaid Jwda , sef i’w gyfeillion , gan ddywedyd , Wele i chwi anrheg , o anrhaith gelynion yr Arglwydd ; Sef i’r rhai oedd yn Bethel , ac i’r rhai oedd yn Ramoth tua’r deau , ac i’r rhai oedd yn Jattir , Ac i’r rhai oedd yn Aroer , ac i’r rhai oedd yn Siffmoth , ac i’r rhai oedd yn Estemoa , Ac i’r rhai oedd yn Rachal , ac i’r rhai oedd yn ninasoedd y Jerahmeeliaid , ac i’r rhai oedd yn ninasoedd y Ceneaid , Ac i’r rhai oedd yn Horma , ac i’r rhai oedd yn Chorasan , ac i’r rhai oedd yn Athac , Ac i’r rhai oedd yn Hebron , ac i’r holl leoedd y buasai Dafydd a’i wŷr yn cyniwair ynddynt . A’r Philistiad oedd yn ymladd yn erbyn Israel : a gwŷr Israel a ffoesant rhag y Philistiaid , ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa . A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a’i feibion ; a’r Philistiaid a laddasant Jonathan , ac Abinadab , a Malci-sua , meibion Saul . A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul , a’r gwŷr bwâu a’i cawsant ef ; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion . Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a oedd yn dwyn ei arfau ef , Tyn dy gleddyf , a thrywana fi ag ef ; rhag i’r rhai dienwaededig yma ddyfod a’m trywanu i , a’m gwaradwyddo . Ond ni fynnai ei yswain ef ; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr : am hynny Saul a gymerodd gleddyf , ac a syrthiodd arno . A phan welodd ei yswain farw o Saul , yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf , ac a fu farw gydag ef . Felly y bu farw Saul , a’i dri mab , a’i yswain , a’i holl wŷr , y dydd hwnnw ynghyd . A phan welodd gwŷr Israel , y rhai oedd o’r tu hwnt i’r dyffryn , a’r rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen , ffoi o wŷr Israel , a marw Saul a’i feibion , hwy a adawsant y dinasoedd , ac a ffoesant ; a’r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt . A’r bore , pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion , hwy a gawsant Saul a’i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa . A hwy a dorasant ei ben ef , ac a ddiosgasant ei arfau ef , ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth , i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt , ac ymysg y bobl . A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth ; a’i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan . A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul ; Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant , a gerddasant ar hyd y nos , ac a ddygasant ymaith gorff Saul , a chyrff ei feibion ef , oddi ar fur Bethsan , ac a ddaethant i Jabes , ac a’u llosgasant hwynt yno . A hwy a gymerasant eu hesgyrn hwynt , ac a’u claddasant dan bren yn Jabes , ac ymprydiasant saith niwrnod . </passage></reply></GetPassage>